{"id":14270,"date":"2022-07-08T12:01:26","date_gmt":"2022-07-08T12:01:26","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/beth-yw-rol-tystiolaeth-wrth-lunio-polisi-atal-hunanladdiad-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:31:59","modified_gmt":"2025-04-11T13:31:59","slug":"beth-yw-rol-tystiolaeth-wrth-lunio-polisi-atal-hunanladdiad-yng-nghymru","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/beth-yw-rol-tystiolaeth-wrth-lunio-polisi-atal-hunanladdiad-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Beth yw r\u00f4l tystiolaeth wrth lunio polisi atal hunanladdiad yng Nghymru?"},"content":{"rendered":"<p>Hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth ledled y byd.\u00b9 Ledled y byd, mae 800,000 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn, sy'n cyfateb i tua un farwolaeth trwy hunanladdiad bob 40 eiliad (WHO, 2021). Wrth ystyried nifer y teuluoedd, ffrindiau, a chymunedau mewn profedigaeth y tu \u00f4l i bob un o\u2019r marwolaethau hyn, mae effaith hunanladdiad ar ein byd yn aruthrol.<\/p>\n<p>Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu strategaethau atal hunanladdiad cenedlaethol clir a chydlynol wrth iddynt feithrin cyfrifoldeb ac atebolrwydd ymhlith rhanddeiliaid, nodi bylchau mewn deddfwriaeth a darpariaeth gwasanaethau, a nodi\u2019r adnoddau dynol ac ariannol sydd eu hangen ar gyfer ymyrraeth (WHO, 2021). Mae Sefydliad Iechyd y Byd hefyd yn datgan y dylai strategaeth atal hunanladdiad genedlaethol ddarparu '<strong>canllawiau awdurdodol ar weithgareddau atal hunanladdiad allweddol sy'n seiliedig ar dystiolaeth h.y. nodi[y] beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio<\/strong>' (WHO, 2012).<\/p>\n<p>Mae\u2019r canllawiau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisi atal hunanladdiad cenedlaethol. Fodd bynnag, mae hunanladdiad yn gyd-destun heriol unigryw ar gyfer casglu tystiolaeth, gan fod data ar lefel poblogaeth yn aml yn hwyr ac yn anfanwl. Ar ben hynny, mae'r gwir reswm pam mae pob bywyd unigol yn cael ei golli oherwydd hunanladdiad - yn \u00f4l ei union ddiffiniad - yn amhosibl. Felly, rhaid tynnu ar ystod eang o dystiolaeth, arweiniad, arbenigedd ac ymchwil i ateb yr hyn na ellir ei ateb.<\/p>\n<p>At hynny, nid yw\u2019r syniad o dystiolaeth wedi\u2019i ddiffinio\u2019n gyffredinol gan weithredwyr polisi, ac mae\u2019r ddealltwriaeth o sut mae\u2019r amrywiad hwn yn dangos ei hun yn y modd y caiff tystiolaeth ei defnyddio a\u2019i gwerthfawrogi yn fan dall empirig (MacKillop, Quarmby a Downe, 2020). Yn ogystal, mae polisi atal hunanladdiad wedi bod yn destun ymchwiliad academaidd cyfyngedig iawn, ac ychydig a wyddys am y broses o\u2019i gynhyrchu, llawer llai am r\u00f4l tystiolaeth yn y broses honno.<\/p>\n<p>Felly, drwy archwilio\u2019r sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi atal hunanladdiad Cymru, a chyfweld \u00e2 gweithredwyr polisi allweddol yn y maes, nod y prosiect hwn yw cael rhagor o wybodaeth am r\u00f4l tystiolaeth wrth lunio polis\u00efau atal hunanladdiad yng Nghymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>\u00b9 Sefydliad Iechyd y Byd, 2021.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em>DOI: https:\/\/doi.org\/10.54454\/20220708<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth ledled y byd.\u00b9 Ledled y byd, mae 800,000 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn, sy'n cyfateb i tua un farwolaeth trwy hunanladdiad bob 40 eiliad (WHO, 2021). Wrth ystyried nifer y teuluoedd, ffrindiau, a chymunedau mewn profedigaeth y tu \u00f4l i bob un o\u2019r marwolaethau hyn, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"template":"","categories":[150],"tags":[135,141],"research-and-impact":[131],"class_list":["post-14270","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-llywodraeth-leol","research-and-impact-interniaid-phd"],"meta_box":{"project":13007,"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1361913178-1-1.jpg","filesize":76000,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1361913178-1-1-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":29705,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1361913178-1-1-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1361913178-1-1-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56808,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1361913178-1-1-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1361913178-1-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":28552,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1361913178-1-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1361913178-1-1-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":30845,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1361913178-1-1-768x512.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14268","name":"iStock-1361913178-1-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1361913178-1-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1361913178-1-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1361913178-1-1.jpg","title":"iStock-1361913178-1-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[{"file":[14272],"publication_type":"Report","title_for_display":"Beth yw r\u00f4l tystiolaeth wrth lunio polisi atal hunanladdiad yng Nghymru?"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14270","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14270\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14270"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14270"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14270"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14270"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}