{"id":14249,"date":"2022-03-25T12:51:47","date_gmt":"2022-03-25T12:51:47","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/diwygio-cyfraith-ac-arferion-etholiadol\/"},"modified":"2025-04-11T13:31:59","modified_gmt":"2025-04-11T13:31:59","slug":"diwygio-cyfraith-ac-arferion-etholiadol","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/diwygio-cyfraith-ac-arferion-etholiadol\/","title":{"rendered":"Diwygio cyfraith ac arferion etholiadol"},"content":{"rendered":"<p>Cafodd p\u0175er dros etholiadau ei ddatganoli i Gymru trwy Ddeddf Cymru 2017. Ers hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi cychwyn ar raglen diwygio etholiadol sydd fwyaf nodedig am gynnig yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn etholiadau\u2019r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol. Roedd y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) hefyd wedi darparu\u2019r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith diwygio etholiadol yn y dyfodol, yn enwedig o ran cofrestru awtomatig a defnydd dewisol o bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol.<\/p>\n<p>Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymchwilio i\u2019r modd y mae newidiadau mewn gweinyddiaeth etholiadol wedi effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio yn rhyngwladol, er mwyn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ac awgrymu meysydd posibl i'w gwella. Roedd yna bedwar maes ffocws:<\/p>\n<ul>\n<li>Diogelwch ymgeiswyr ac asiantau<\/li>\n<li>Arferion etholiadol arloesol<\/li>\n<li>Ariannu ymgyrchoedd a\u2019r gwariant arnynt<\/li>\n<li>Pleidleisio cynnar<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dadansoddwyd r\u00f4l cyrff rheoli etholiadol hefyd.<\/p>\n<h4>Canfyddiadau ac argymhellion<\/h4>\n<h5><strong>Diogelwch ymgeiswyr ac asiantau<\/strong><\/h5>\n<p>Mae bron pob ymchwil i ddiogelwch ymgeiswyr ac asiantau yn canolbwyntio ar rywedd a gwleidyddiaeth. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod trais a brofir gan weithredwyr gwleidyddol yn seiliedig ar rywedd a hil. Dylid ystyried hyn wrth ymgymryd \u00e2 mesurau atal. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn dangos bod y posibilrwydd o drais yn cael ei ystyried ym mhenderfyniad menywod a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i fynd trwy\u2019r broses o ddod yn ymgeiswyr, ond nid yw pwysigrwydd y ffactor hwn yn glir.<\/p>\n<p>Argymhellir bod Llywodraeth Cymru yn dechrau mapio maint y broblem, gan ystyried cynnal arolwg diogelwch cyfnodol gyda gwleidyddion cenedlaethol a lleol. Awgrymir hefyd y dylid rhoi camau gweithredu ar waith gyda sefydliadau a gweithredwyr cymdeithasol i gynyddu dealltwriaeth, lliniaru gweithredoedd treisgar, a hyfforddi swyddogion gorfodi'r gyfraith.<\/p>\n<h5><strong>Arferion etholiadol arloesol<\/strong><\/h5>\n<p>Mae arferion arloesol, a elwir hefyd yn drefniadau pleidleisio arbennig (megis pleidleisio hyblyg, pleidleisio symudol, a gwelliannau mewn arferion cofrestru), wedi amlygu m\u00e2n effeithiau ar y nifer sy'n pleidleisio, er nad yw'r ymchwil yn y maes hwn yn glir. Pleidleisio drwy'r post yw'r math o arfer arloesol sydd wedi amlygu\u2019r effaith gryfaf ar gynyddu cyfranogiad.<\/p>\n<p>Mae'r adroddiad yn argymell ymchwil pellach i ba un o'r mesurau hyn a fyddai'n cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio ymhlith pleidleiswyr Cymru orau. Yn ogystal, awgrymir mesurau i leihau nifer y pleidleisiau drwy\u2019r post a wrthodir.<\/p>\n<h5><strong>Pleidleisio cynnar<\/strong><\/h5>\n<p>Mae gan bleidleisio cynnar botensial i gynyddu ychydig ar y nifer sy'n pleidleisio os caiff ei gyfuno \u00e2 mesurau eraill, megis cofrestru ar yr un diwrnod. Pobl mewn grwpiau oedran h\u0177n, a\u2019r rhai sydd \u00e2 lefelau uwch o ran diddordeb gwleidyddol, addysg ac incwm, sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio pleidleisio cynnar.<\/p>\n<p>Argymhellir bod cyfnodau pleidleisio cynnar yn cynnwys dyddiau'r wythnos a phenwythnosau, bod cofrestru ar yr un diwrnod yn cael ei ganiat\u00e1u, a bod safleoedd pleidleisio yn cael eu gosod mewn modd sy\u2019n ystyried anghenion pobl o ran pellter, mynediad at drafnidiaeth, a'r potensial i gyfuno gweithgareddau.<\/p>\n<h5><strong>Ariannu ymgyrchoedd a thryloywder hyn<\/strong><\/h5>\n<p>Mae yna ddigon o gyfle i Lywodraeth Cymru wella ei darpariaeth o ran data etholiadau a thryloywder. Byddai hyn yn gofyn am newidiadau yn y modd y mae pleidiau gwleidyddol yn casglu ac yn cyflwyno data ariannu ymgyrchoedd. Argymhellir y dylid adrodd yn swyddogol ar ganlyniadau etholiadau Cymru ac ariannu ymgyrchoedd, a hynny gydag offeryn ar-lein hawdd ei ddefnyddio a system ddata agored sy'n cynnwys yr holl ddata perthnasol.<\/p>\n<h5><strong>Cyrff rheoli etholiadol<\/strong><\/h5>\n<p>Canfuwyd y gall cyrff rheoli etholiadol helpu i sicrhau arfer effeithiol ym mhob un o'r meysydd a restrir uchod. Dylent fod yn rhagweithiol trwy gydol y flwyddyn o ran gweinyddu\u2019r broses o gasglu data, cynnal ymgyrchoedd addysg, a gweithio gyda phleidiau gwleidyddol i wella tryloywder data.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>https:\/\/doi.org\/10.54454\/20220325<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cafodd p\u0175er dros etholiadau ei ddatganoli i Gymru trwy Ddeddf Cymru 2017. Ers hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi cychwyn ar raglen diwygio etholiadol sydd fwyaf nodedig am gynnig yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn etholiadau\u2019r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol. Roedd y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10049,"template":"","categories":[3],"tags":[141],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14249","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-llywodraeth-leol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1319109717-2-2.jpg","filesize":1148636,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1319109717-2-2-744x558.jpg","width":744,"height":558,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":135103,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-744x558.jpg"},"large":{"file":"iStock-1319109717-2-2-1200x900.jpg","width":1200,"height":900,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":313752,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-1200x900.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1319109717-2-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":99576,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1319109717-2-2-768x576.jpg","width":768,"height":576,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":141686,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-768x576.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1319109717-2-2-1536x1153.jpg","width":1536,"height":1153,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":473053,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-1536x1153.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1319109717-2-2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":484164,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14245","name":"iStock-1319109717-2-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2.jpg","title":"iStock-1319109717-2-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1319109717-2-2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[{"file":[14251],"publication_type":"Report","title_for_display":"Diwygio cyfraith ac arferion etholiadol"},{"file":[14252],"title_for_display":"Diwygio cyfraith ac arferion etholiadol - Polisi Briffio"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14249","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14249\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10049"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14249"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14249"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14249"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14249"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}