{"id":14209,"date":"2021-12-16T09:17:56","date_gmt":"2021-12-16T09:17:56","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/cefnogi-system-dysgu-gydol-oes-cymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:31:58","modified_gmt":"2025-04-11T13:31:58","slug":"cefnogi-system-dysgu-gydol-oes-cymru","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/cefnogi-system-dysgu-gydol-oes-cymru\/","title":{"rendered":"Cefnogi System Dysgu Gydol Oes Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i daro cydbwysedd rhwng amcanion cynhyrchiant ac amcanion cymdeithasol dysgu gydol oes, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiad o\u2019r dystiolaeth ar ddysgu gydol oes. Nod yr adolygiad hwn yw llywio trafodaethau polisi a chefnogi'r gwaith o weithredu'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a gyhoeddwyd ar 1 Tachwedd 2021 sy'n adnewyddu'r pwyslais ar ddysgu gydol oes yng Nghymru drwy sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.<\/p>\n<p>Mae'r adroddiad wedi'i strwythuro o amgylch meysydd allweddol dysgu gydol oes: y cyd-destun y mae'n digwydd ynddo; dysgu gydol oes mewn gweledigaethau a strategaethau; hawliau o ran dysgu gydol oes; yr angen i daro cydbwysedd rhwng targedu a darpariaeth gyffredinol; ffactorau sy\u2019n rhwystro dysgu; cydbwyso'r amcanion economaidd a chymdeithasol; rolau a chyfrifoldebau gwahanol randdeiliaid a strwythurau llywodraethu dysgu gydol oes; mathau effeithiol o gymorth i sefydliadau dysgu; a chymharu dysgu gydol oes yng Nghymru \u00e2 rhannau eraill o'r DU. Mae\u2019r adroddiad yn gorffen gyda chyfres o argymhellion cyfunol i Lywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae'r canfyddiadau'n amlygu\u2019r duedd gynyddol o ddiffyg cymwysterau a sgiliau hanfodol ymhlith oedolion oedran gweithio yng Nghymru. Mae bron i hanner yr oedolion o'r grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf heb gael unrhyw hyfforddiant ers iddynt adael addysg amser llawn. Dim ond 12% o\u2019r oedolion heb unrhyw gymwysterau a oedd yn credu y byddent yn debygol iawn o gael cyfle dysgu\/hyfforddiant sy'n gysylltiedig \u00e2 swydd yn y ddwy i dair blynedd nesaf (<em>Centenary Commission on Adult Education<\/em>, 2021). Yng Nghymru mae'r gyfran sydd \u00e2 chymhwyster lefel 4 ac uwch 4% yn is na chyfartaledd y DU, ac mae'r gyfran sydd \u00e2 chymhwyster lefel 3 1% yn uwch (Nomis, 2021). Mae anghydraddoldebau o ran anabledd (nid oes gan 15.2% o bobl anabl gymwysterau, o gymharu \u00e2 4.9% o bobl nad ydynt yn anabl) a dosbarthiad daearyddol y ddarpariaeth.<\/p>\n<p>Mae ffioedd ac arian i dalu am gostau byw yn destun pryder mawr i ddysgwyr. Yn aml, diffyg cyllid cynhaliaeth, a'r angen i barhau i weithio, yw\u2019r ffactorau sy\u2019n rhwystro pobl rhag cael addysg uwch. Ffactor sylfaenol arall yw llwyddiant addysgol blaenorol. Po uchaf yw lefel y cymwysterau sydd gan rywun, y mwyaf tebygol yw\u2019r person hwnnw i fynd ati\u2019n annibynnol i chwilio am hyfforddiant pellach. Gwelwyd hyn eto drwy'r pandemig, ac mae wedi\u2019i gofnodi mewn adroddiadau diweddar a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith (2019), a'r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol (2020).<\/p>\n<p>Mae'r adroddiad yn canfod y dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar y Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion, a gan weithio ar y rhagdybiaeth bod y diffiniad o ddysgu gydol oes yn cynnwys pob oedran, dylai ystyried:<\/p>\n<ul>\n<li>Cadarnhau ac ailddatgan yr hawl bresennol i addysg;<\/li>\n<li>Ehangu'r cynnig i gynnwys pobl ifanc 16-18 oed ac oedolion \u00e2 lefel sgiliau isel;<\/li>\n<li>Cydnabod dysgu anffurfiol a defnyddio dysgu i hyrwyddo dull ataliol o ymdrin ag iechyd;<\/li>\n<li>Cynnig set o hawliau fel elfen sylfaenol o\u2019r cynnig.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dylai fod cymysgedd o wahanol lwybrau ariannu, sy'n ystyried y cynnydd mewn hawliau, anghenion dinasyddion, a chapasiti'r llywodraeth a busnesau. Dylai\u2019r unigolion a ariennir yn llawn fod y rhai fyddai nid yn unig yn elwa o addysg bellach, ond sydd ei angen hefyd. Dylai cyd-ariannu fod ar gael i unigolion sy'n dymuno gwella eu sgiliau.<\/p>\n<p>Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fabwysiadu strategaeth dysgu gydol oes ar gyfer pob oedran. Mae gan Lywodraeth Cymru a'i sylfaen sefydliadol wydn lawer o'r polis\u00efau sylfaenol ar waith. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y problemau sy\u2019n wynebu Cymru, a sut y gall dysgu gydol oes a chaffael sgiliau helpu i gynnig atebion a fydd yn helpu'r economi a lles trigolion Cymru.<\/p>\n<p>Mae'r argymhellion a nodir drwy\u2019r adroddiad yn ymwneud \u00e2'r prif ganfyddiadau, sydd wedi eu crynhoi isod:<\/p>\n<ol>\n<li>Nid oes gweledigaeth gyffredinol a chytundeb ar y diffiniad o ddysgu gydol oes;<\/li>\n<li>Nid oes naratif cyson, trawsbynciol;<\/li>\n<li>Mae angen gwella hawliau;<\/li>\n<li>Mae angen cytuno ar ddull o benderfynu ar flaenoriaethau; ac<\/li>\n<li>Mae angen atebion ar gyfer materion sefydliadol, gan gynnwys:\n<ul>\n<li>yr angen i roi eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau unigolion allweddol yn y system;<\/li>\n<li>yr angen i ddatblygu dulliau gweithio sy'n helpu sefydliadau i barhau i gynnig darpariaeth o safon i ddysgwyr, gyda systemau sy'n ei gwneud yn hawdd iddynt gynnig rhaglen gydweithredol, hyblyg, ac ymatebol i fyfyrwyr a dysgwyr y dyfodol.<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ol>\n<p>Mae'r canfyddiadau hyn a'r argymhellion cysylltiedig yn dangos bod angen mynegi gweledigaeth gadarnhaol a chydlynol ar gyfer dysgu gydol oes, sy'n adeiladu ar y sylfeini cadarn presennol. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn meithrin partneriaethau agos a blaengar gyda gweledigaeth a phwrpas a rennir.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i daro cydbwysedd rhwng amcanion cynhyrchiant ac amcanion cymdeithasol dysgu gydol oes, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal adolygiad o\u2019r dystiolaeth ar ddysgu gydol oes. Nod yr adolygiad hwn yw llywio trafodaethau polisi a chefnogi'r gwaith o weithredu'r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) a gyhoeddwyd ar 1 Tachwedd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10012,"template":"","categories":[18],"tags":[136,138],"research-and-impact":[],"class_list":["post-14209","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-anghydraddoldebau-addysg","tag-cyflogaeth-gwaith-a-sgiliau"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"life-long-learning-4.jpg","filesize":202797,"sizes":{"medium":{"file":"life-long-learning-4-744x372.jpg","width":744,"height":372,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34803,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-744x372.jpg"},"large":{"file":"life-long-learning-4-1200x600.jpg","width":1200,"height":600,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":65342,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-1200x600.jpg"},"thumbnail":{"file":"life-long-learning-4-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":36849,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"life-long-learning-4-768x384.jpg","width":768,"height":384,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":36335,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-768x384.jpg"},"1536x1536":{"file":"life-long-learning-4-1536x768.jpg","width":1536,"height":768,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91320,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-1536x768.jpg"},"2048x2048":{"file":"life-long-learning-4-2048x1024.jpg","width":2048,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":132952,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-2048x1024.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"life-long-learning-4-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":127133,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"14205","name":"life-long-learning-4.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4.jpg","title":"life-long-learning-4.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/life-long-learning-4-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[{"file":[14211],"publication_type":"Report","title_for_display":"Cefnogi System Dysgu Gydol Oes Cymru"},{"file":[14212],"title_for_display":"Data Addysg Oedolion Cymru - Addysg Bellach ac Addysg Oedolion yn y Gymuned 2021"},{"file":[14213],"title_for_display":"Cefnogi System Dysgu Gydol Oes Cymru - Briff Polisi"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14209","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/14209\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10012"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14209"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=14209"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=14209"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=14209"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}