{"id":13432,"date":"2016-01-21T15:03:13","date_gmt":"2016-01-21T15:03:13","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/tlodi-gwledig-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:31:25","modified_gmt":"2025-04-11T13:31:25","slug":"tlodi-gwledig-yng-nghymru","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/tlodi-gwledig-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Tlodi Gwledig yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi tlodi gwledig fel maes \u00e2 blaenoriaeth o ran tystiolaeth, ac mae ein gwaith dadansoddi rhagarweiniol ein hunain o'r ymchwil bresennol wedi cadarnhau bod angen tystiolaeth well er mwyn mynd i'r afael \u00e2'r mater pwysig hwn. Mae'r adroddiad hwn yn ystyried y materion sy'n gysylltiedig \u00e2 thlodi gwledig.<\/p>\n<p>Mae canfyddiadau ein hadolygiad cychwynnol wedi dangos bod achosion a graddfa tlodi gwledig a thlodi trefol yn aml yn wahanol, er eu bod yn ymddangos yn debyg weithiau. Mae ffactorau perthnasol allweddol yn cynnwys bregusrwydd rhai econom\u00efau gwledig, anawsterau wrth geisio dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, cyflog isel, diffyg tai fforddiadwy ac ynysrwydd cymdeithasol.<\/p>\n<p>Mae'n hysbys bod sail sgiliau isel rhai econom\u00efau gwledig yn rhwystr i dwf economaidd a gall cyfleoedd cyflogaeth cyfyngedig arwain at sefyllfa lle mae gweithwyr medrus yn gadael. Gall diffyg cyfleoedd hyfforddiant hefyd olygu bod cyflogau'n aros yn isel. Mae cyffredinolrwydd cyflogaeth cyflog isel a bregus yn cyfrannu at y risg o ddioddef o dlodi mewn gwaith.<\/p>\n<p>Mae anawsterau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau yn ei gwneud yn anodd i rai unigolion ddod o hyd i waith neu leihau effaith tlodi. Mae trafnidiaeth gyhoeddus mewn llawer o ardaloedd gwledig yn brin, yn anaddas ac yn ddrutach na mannau eraill. Mae hyn yn golygu ei bod yn anodd i'r rhai heb drafnidiaeth breifat deithio ar gyfer gwaith. Mae'r ffaith bod diffyg gofal plant fforddiadwy ar gael mewn ardaloedd gwledig a bod mynediad i'r rhyngrwyd yn gyfyngedig yn cael ei ystyried yn rhwystr i gyfleoedd cyflogaeth hefyd.<\/p>\n<p>Mae 'premiwm gwledig' yn cael ei godi ar rai nwyddau a gwasanaethau allweddol oherwydd diffyg marchnadoedd cystadleuol ar gyfer bwyd, tanwydd, ynni a thrafnidiaeth, sy'n gwaethygu tlodi gwledig. Mae'n hysbys bod cartrefi gwledig yn benodol yn agored i dlodi tanwydd. Mae cyfran fawr o arian cartrefi incwm isel yn talu'r costau sefydlog, ac mae diffyg cartrefi fforddiadwy mewn llawer o ardaloedd gwledig.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru yn casglu llawer o ddata sy'n rhoi syniad o ddosbarthiad tlodi gwledig. Fodd bynnag, mae bylchau sylweddol yn y sail dystiolaeth. Mae'r rhain yn cynnwys dealltwriaeth o brofiad pobl o dlodi gwledig a gwerthuso'n gadarn effaith ymyriadau sy'n ceisio mynd i'r afael ag ef.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi tlodi gwledig fel maes \u00e2 blaenoriaeth o ran tystiolaeth, ac mae ein gwaith dadansoddi rhagarweiniol ein hunain o'r ymchwil bresennol wedi cadarnhau bod angen tystiolaeth well er mwyn mynd i'r afael \u00e2'r mater pwysig hwn. Mae'r adroddiad hwn yn ystyried y materion sy'n gysylltiedig \u00e2 thlodi gwledig. Mae canfyddiadau ein [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":9193,"template":"","categories":[150,18],"tags":[137,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-13432","report","type-report","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":338,"file":"rural-poverty-2.jpg","filesize":98458,"sizes":{"medium":{"file":"rural-poverty-2-744x223.jpg","width":744,"height":223,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":32098,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rural-poverty-2-744x223.jpg"},"thumbnail":{"file":"rural-poverty-2-744x338.jpg","width":744,"height":338,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":45842,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rural-poverty-2-744x338.jpg"},"medium_large":{"file":"rural-poverty-2-768x230.jpg","width":768,"height":230,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":33930,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rural-poverty-2-768x230.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"13311","name":"rural-poverty-2.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rural-poverty-2.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rural-poverty-2-744x338.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/rural-poverty-2.jpg","title":"rural-poverty-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[{"file":[13434],"publication_type":"Report","title_for_display":"An Introduction to Rural Poverty (Saesneg yn unig)"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/13432","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/13432\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9193"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13432"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13432"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13432"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=13432"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}