{"id":13349,"date":"2018-06-11T13:47:50","date_gmt":"2018-06-11T13:47:50","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/report\/yr-hyn-syn-gweithio-wrth-drechu-tlodi-gwledig-adolygiad-o-dystiolaeth-o-ymyriadau-i-wella-mynediad-i-wasanaethau\/"},"modified":"2025-04-11T13:31:20","modified_gmt":"2025-04-11T13:31:20","slug":"yr-hyn-syn-gweithio-wrth-drechu-tlodi-gwledig-adolygiad-o-dystiolaeth-o-ymyriadau-i-wella-mynediad-i-wasanaethau","status":"publish","type":"report","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/yr-hyn-syn-gweithio-wrth-drechu-tlodi-gwledig-adolygiad-o-dystiolaeth-o-ymyriadau-i-wella-mynediad-i-wasanaethau\/","title":{"rendered":"Yr Hyn sy'n Gweithio wrth Drechu Tlodi Gwledig: Adolygiad o Dystiolaeth o Ymyriadau i Wella Mynediad i Wasanaethau"},"content":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ystod eang o raglenni i fynd i'r afael \u00e2 thlodi gwledig ac eto mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod bron i chwarter o'r boblogaeth wledig yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae'r hyn sy'n achosi tlodi gwledig yn gymhleth ac yn niferus, ond gwyddys bod mynediad i wasanaethau yn ffactor pwysig sy'n cyfrannu ato.<\/p>\n<p>Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar fynediad i wasanaethau iechyd a lles, a gofal plant fforddiadwy, gan ystyried y posibilrwydd o wella darpariaeth gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Ni thrafodir mynediad i wasanaethau ariannol yn yr adroddiad (heblaw am un enghraifft yn Awstralia). Cyfeirir at fynediad i wasanaethau a chyngor ariannol (yn enwedig i fusnesau bach) yn bennaf yn yr adroddiad ar 'Ymyriadau economi wledig'. Mae datblygiad bancio ar-lein a mynediad ar-lein i wasanaethau ariannol eraill wedi lleihau arwyddoc\u00e2d y broblem hon i ryw raddau.<\/p>\n<p>Mae'r adroddiad hwn yn ymchwilio i ymyriadau mewn nifer o wledydd datblygedig er mwyn gwella mynediad i amrywiaeth o wasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Mae'r dystiolaeth a ddarperir yn seiliedig ar adolygiad o lenyddiaeth a chwiliadau ar-lein rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Chwefror 2017.\u00a0 Mae'r adroddiad yn disgrifio nifer fach o ymyriadau lle cafwyd tystiolaeth o effaith, yn crynhoi'r hyn sydd wedi gweithio mewn mannau eraill, ac yn trafod goblygiadau polisi eu rhoi ar waith yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth o'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar fynediad i wasanaethau ond bydd hefyd yn bwydo i mewn i adroddiad cyffredinol sy'n archwilio goblygiadau'r dystiolaeth, mewn nifer o feysydd \u00e2 blaenoriaeth, o ran datblygu gwledig a thlodi gwledig.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ystod eang o raglenni i fynd i'r afael \u00e2 thlodi gwledig ac eto mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod bron i chwarter o'r boblogaeth wledig yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae'r hyn sy'n achosi tlodi gwledig yn gymhleth ac yn niferus, ond gwyddys bod mynediad i wasanaethau yn ffactor [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"template":"","categories":[18],"tags":[141,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-13349","report","type-report","status-publish","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-llywodraeth-leol","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[],"files":[{"file":[13350],"publication_type":"Report","title_for_display":"Adolygiad o Dystiolaeth o Ymyriadau i Wella Mynediad i Wasanaethau"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/13349","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/report"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/report\/13349\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13349"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13349"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13349"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=13349"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}