{"id":22020,"date":"2026-11-17T14:36:21","date_gmt":"2026-11-17T14:36:21","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=project&#038;p=22020"},"modified":"2026-11-17T14:36:21","modified_gmt":"2026-11-17T14:36:21","slug":"mapio-llwybr-arwain-at-greu-effaith","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/mapio-llwybr-arwain-at-greu-effaith\/","title":{"rendered":"Mapio llwybr Arwain at greu effaith"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cafodd Arwain, ysgol lywodraethu genedlaethol newydd Cymru, ei chyhoeddi fel rhan o ymrwymiadau 100 Diwrnod Cyntaf Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Llywodraeth Cymru\u2019n datblygu Arwain i gryfhau arweinyddiaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan helpu pobl i weithio ar draws ffiniau a gwella canlyniadau i\u2019r cyhoedd. Bydd hyn yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio drwy Academi Wales a\u2019u harlwy arweinyddiaeth ehangach, gan greu dull gweithredu ymarferol a chydgysylltiedig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bwriad Arwain yw rhoi\u2019r sgiliau a\u2019r meddylfryd i arweinwyr gydweithio ar draws systemau, mynd i\u2019r afael \u00e2 phroblemau ar y cyd, a sicrhau canlyniadau gwell. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am gymorth i ddatblygu Damcaniaeth Newid sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Arwain.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I ymateb i\u2019r gofyniad hwn, mae\u2019r Ganolfan wedi nodi\u2019r cwestiynau ymchwil canlynol:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">1. Pa heriau arweinyddiaeth dylai Arwain fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">2. Pa dystiolaeth sy\u2019n cefnogi r\u00f4l ysgol lywodraethu genedlaethol yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau hyn?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">3. Pa ddulliau gallai Arwain eu defnyddio i gyfrannu at wella\u2019r gallu i arwain, gwella cydweithio a gwella canlyniadau gwasanaethau cyhoeddus?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">4. Pa ganlyniadau ac effeithiau dylai Arwain geisio eu sicrhau, a sut gellir mesur y rhain?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">5. Pa amodau sydd eu hangen er mwyn llwyddo?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd Damcaniaeth Newid gynhwysfawr yn helpu swyddogion i ddatblygu fframwaith gwerthuso er mwyn asesu cynnydd a deall effaith. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu Sealey Associates, darparwr arbenigol, i weithio ar y cyd \u00e2\u2019r Ganolfan ac amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddatblygu\u2019r Ddamcaniaeth Newid hon. Pan fydd y gwaith hwn wedi\u2019i gwblhau, rydyn ni\u2019n disgwyl cyhoeddi\u2019r Ddamcaniaeth Newid yng ngwanwyn 2027.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu Damcaniaeth Newid ar sail tystiolaeth ar gyfer Arwain, yr ysgol lywodraethu newydd.<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":22023,"template":"","categories":[3],"tags":[152],"research-and-impact":[],"class_list":["post-22020","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-llywodraethiad"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[12254,21011,21697],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/22020","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/22020\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22066,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/22020\/revisions\/22066"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22023"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22020"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22020"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22020"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=22020"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}