{"id":21604,"date":"2026-08-28T10:39:30","date_gmt":"2026-08-28T10:39:30","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=project&#038;p=21604"},"modified":"2026-08-28T10:39:30","modified_gmt":"2026-08-28T10:39:30","slug":"cipio-a-dangos-effaith-pontio-gwybodaeth-astudiaeth-o-ganolfannau-what-works-y-du","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/cipio-a-dangos-effaith-pontio-gwybodaeth-astudiaeth-o-ganolfannau-what-works-y-du\/","title":{"rendered":"Cipio a Dangos Effaith Pontio Gwybodaeth: Astudiaeth o Ganolfannau What Works y DU"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae'r gymrodoriaeth hon yn edrych ar sut mae Canolfannau What Works yn cofnodi ac yn dangos eu heffaith, a sut mae\u2019n bosibl rhannu dysgu ac ymarfer ledled Rhwydwaith What Works. Gan weithio mewn partneriaeth \u00e2 Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, bydd y prosiect yn dod ag ymchwil ac ymarfer at ei gilydd i ddeall yn well y dulliau y mae sefydliadau pontio gwybodaeth yn eu defnyddio i ganfod, cofnodi a dangos eu heffaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ffocws allweddol y gymrodoriaeth yw her deall yr hyn sy'n digwydd rhwng gweithgareddau pontio gwybodaeth ac effeithiau tymor hirach ar bolis\u00efau ac ymarfer. Bydd yn edrych ar y dulliau a'r adnoddau sy\u2019n cael eu defnyddio i gipio mathau gwahanol o effaith, gan gynnwys y deilliannau uniongyrchol sydd efallai\u2019n helpu i ddangos cynnydd tuag at newid yn y tymor hirach.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae'r prosiect yn cyfuno adolygiad o lenyddiaeth academaidd a llwyd gan gynnwys cyfweliadau ledled y Rhwydwaith What Works. Bydd hyn yn rhoi trosolwg o'r dulliau presennol yn ogystal ag edrych hefyd ar sut maen nhw\u2019n cael eu rhoi ar waith yn ymarferol mewn cyd-destunau sefydliadol gwahanol. Bydd gweithdy dysgu gan gymheiriaid eraill ar draws canolfannau a gweithgareddau dilynol yn creu cyfleoedd i Ganolfannau What Works fyfyrio ar y cyd ar yr ymarfer cyfredol, rhannu\u2019r hyn a ddysgir a chanfod ffyrdd ymarferol o gryfhau eu dulliau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn sgil y gwaith hwn, nod y gymrodoriaeth yw gwneud ymarfer sydd eisoes yn bodoli yn fwy gweladwy a chymeradwy; cefnogi dulliau mwy cadarn o gipio a dangos effaith; a chryfhau perthnasoedd a dysgu gan gymheiriaid eraill ledled Rhwydwaith What Works a'r gymuned bolisi yn ehangach. Mae hyn yn cynnwys cydweithio \u00e2 Rhwydwaith Ymgysylltu \u00e2 Pholisi\u2019r Prifysgolion (UPEN) \u00e2\u2019i Chymuned Ymarfer Defnyddio Gwybodaeth. Yn y tymor hirach, ei nod yw cyfrannu at systemau ac ymarferion cryfach er mwyn deall, mynegi a rhannu effaith pontio gwybodaeth.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hwn y prosiect yn dod ag ymchwil ac ymarfer at ei gilydd i ddeall yn well y dulliau y mae sefydliadau pontio gwybodaeth yn eu defnyddio i ganfod, cofnodi a dangos eu heffaith. Mae'r gymrodoriaeth hon yn edrych ar sut mae Canolfannau What Works yn cofnodi ac yn dangos eu heffaith, a sut mae\u2019n bosibl rhannu dysgu ac ymarfer ledled Rhwydwaith What Works.<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":21603,"template":"","categories":[],"tags":[],"research-and-impact":[132,130],"class_list":["post-21604","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","research-and-impact-effaith","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[20504,11929,12026],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21604","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21604\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21605,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21604\/revisions\/21605"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21603"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21604"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21604"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21604"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21604"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}