{"id":21460,"date":"2026-07-21T10:49:33","date_gmt":"2026-07-21T10:49:33","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=project&#038;p=21460"},"modified":"2026-07-23T12:22:27","modified_gmt":"2026-07-23T12:22:27","slug":"atal-digartrefedd-sbrint-tystiolaeth-beth-syn-gweithio","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/atal-digartrefedd-sbrint-tystiolaeth-beth-syn-gweithio\/","title":{"rendered":"Atal digartrefedd: Sbrint Tystiolaeth 'Beth sy'n Gweithio'"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn galwad agored, ac mewn partneriaeth \u00e2'n chwaer Ganolfan Beth Sy'n Gweithio, sef y Centre for Homelessness Impact (CHI), rydyn ni\u2019n cyflwyno 'Sbrint Tystiolaeth Beth Sy'n Gweithio' ar y cyd ag awdurdodau lleol Sir y Fflint ac Ynys M\u00f4n i ddod o hyd yn gyflym i feysydd yn system digartrefedd y Cynghorau lle gallai newid wneud y gwahaniaeth mwyaf mewn deilliannau i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy'n wynebu hyn ar hyn o bryd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn parhau i wynebu pwysau cynyddol ar draws y system digartrefedd, gan gynnwys galw cynyddol am wasanaethau atal, heriau darparu llety dros dro a rhwystrau i sicrhau tai pontio cynaliadwy.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn ymateb i'r heriau hyn, lansiodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) a CHI alwad agored a oedd yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno mynegiadau o ddiddordeb i ddangos cefnogaeth amlwg. Mae rhagor o fanylion am y broses hon yma: <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/defnyddio-tystiolaeth-i-fynd-ir-afael-ar-argyfwng-llety-dros-dro\/\">\u2018Canfod sut y gall tystiolaeth helpu i fynd i'r afael ag argyfwng digartrefedd a llety dros dro<\/a>'<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn adolygiad o'r cyflwyniadau a ddaeth i law, cytunodd CPCC i gefnogi CHI i gyflwyno Sbrint Tystiolaeth 'Beth Sy'n Gweithio' am dri mis ar y cyd \u00e2 dau awdurdod lleol a oedd yn cymryd rhan: Sir y Fflint ac Ynys M\u00f4n. Mae Sbrint Tystiolaeth Beth sy'n Gweithio yn rhaglen ddwys o waith ar y cyd wedi'i chyfyngu gan amser, a\u2019r diben yw helpu partneriaid i ddod o hyd i dystiolaeth, ei phrofi a\u2019i defnyddio\u2019n gyflym er mwyn gwella\u2019r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau gwasanaethau rheng flaen.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae'r Sbrint Tystiolaeth hwn yn cynnwys tair sesiwn strwythuredig dros gyfnod o dri mis. Mae'r sesiynau'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, gan ganolbwyntio ar atal i fyny'r afon (ymyrryd yn gynharach i fynd i'r afael \u00e2 ffactorau sy'n arwain at ddigartrefedd yn hytrach na digartrefedd ei hun) gyda'r nod o leihau nifer y bobl sy'n mynd i mewn i system digartrefedd neu'n ailymuno \u00e2 hi, gan leddfu'r pwysau ar wasanaethau argyfwng a lleihau\u2019r ddibyniaeth ar lety costus dros dro.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae'r ddau awdurdod lleol yn cael eu cefnogi i ddeall yn well sut mae eu systemau digartrefedd yn gweithio, canfod pwyntiau pwysau allweddol ac ystyried sut y gall tystiolaeth am 'beth sy'n gweithio' fod yn rhan o ddylunio a darparu gwasanaethau. Rhagwelir y bydd allbynnau'r Sprint yn helpu i lywio<a> <\/a><a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2025-07\/housing-support-grant-practice-guidance.pdf\">Asesiadau Anghenion Grantiau Cymorth Tai<\/a> fydd yn digwydd yn 2027, a bydd y rhain yn eu tro yn cefnogi penderfyniadau comisiynu yn y dyfodol ar wasanaethau atal lleol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Myfyriodd Amanda Hill-Dixon, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Gwasanaethau Cyhoeddus) CPCC, fod 'y cydweithredu \u00e2'r Centre for Homelessness Impact (CHI) wedi ein galluogi i gyfuno arbenigedd y CHI ar ddigartrefedd a sbrintiau tystiolaeth \u00e2 gwybodaeth CPCC am y cyd-destun Cymreig. Mae brwdfrydedd y sawl o Gynghorau Ynys M\u00f4n a Sir y Fflint a gymerodd ran wedi cefnogi'r broses sbrint tystiolaeth yn aruthrol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gweler 'Digartrefedd a llety dros dro yng Nghymru' am ragor o wybodaeth am ein gwaith ar digartrefedd a'n prosiect arall <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/atal-digartrefedd-yn-rhondda-cynon-taf\/\">'Atal digartrefedd yn Rhondda Cynon Taf'<\/a> gyda th\u00eem Cydweithredu Ymchwil ar Benderfynynnau Iechyd (HDRC) Rhondda Cynon Taf.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a id=\"_msocom_1\"><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn dilyn galwad agored, ac mewn partneriaeth \u00e2'n chwaer Ganolfan Beth Sy'n Gweithio, sef y Centre for Homelessness Impact (CHI), rydyn ni\u2019n cyflwyno 'Sbrint Tystiolaeth Beth Sy'n Gweithio' ar y cyd ag awdurdodau lleol Sir y Fflint ac Ynys M\u00f4n i ddod o hyd yn gyflym i feysydd yn system digartrefedd y Cynghorau lle gallai [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":21459,"template":"","categories":[18],"tags":[145,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21460","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tai-chartrefi","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[12170,12416,12482],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21460","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21460\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21462,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21460\/revisions\/21462"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21459"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21460"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21460"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21460"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21460"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}