{"id":21401,"date":"2026-07-15T13:48:22","date_gmt":"2026-07-15T13:48:22","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=project&#038;p=21401"},"modified":"2026-07-21T10:44:31","modified_gmt":"2026-07-21T10:44:31","slug":"digartrefedd-a-llety-dros-dro-yng-nghymru","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/digartrefedd-a-llety-dros-dro-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Digartrefedd a llety dros dro yng Nghymru\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llunwyr polis\u00efau ledled Cymru dro ar \u00f4l tro wedi pwysleisio bod yr argyfwng tai cynyddol yn flaenoriaeth allweddol. Un o ganlyniadau mwyaf difrifol ac amlwg yr argyfwng tai yng Nghymru yw'r nifer cynyddol o bobl sy'n profi digartrefedd, ynghyd \u00e2 chynnydd sydyn yn y galw am lety dros dro.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn CPCC, rydym ni wedi bod yn cefnogi awdurdodau lleol Cymru i ddefnyddio tystiolaeth i helpu i fynd i'r afael \u00e2'r heriau hyn, fel rhan o'r maes blaenoriaeth Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae pasio Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 yn golygu newid sylweddol yn y dull o ymdrin \u00e2 digartrefedd yng Nghymru, gan roi mwy o bwyslais ar atal yn hytrach nag ar reoli argyfwng.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, rhaid i awdurdodau lleol newid eu dull o reoli digartrefedd, gan symud oddi wrth ymateb ar adeg argyfwng yn unig, a rhoi blaenoriaeth yn hytrach i nodi ac ymyrryd yn gynnar gyda\u2019r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Gan gydnabod hyn, ac mewn partneriaeth \u00e2 chanolfan 'Beth sy'n Gweithio' arall, y Ganolfan Effaith Digartrefedd&nbsp; (CHI), cynigiodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC) weithio gydag un neu ragor o awdurdodau lleol i'w cefnogi i gyrchu a defnyddio tystiolaeth a mewnwelediad, er mwyn llywio eu polisi a'u hymarfer o ran digartrefedd a llety dros dro. Y nod oedd eu cefnogi i fynd i'r afael ag achosion craidd digartrefedd, nodi a chefnogi'r rheini sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn well, lleihau'r galw am lety dros dro, a phan fydd ei angen, gwella'r modd y caiff ei ddefnyddio a'i ddarparu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mis Ionawr 2026, lansiodd CPCC alwad agored, yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb mewn cymorth yn seiliedig ar dystiolaeth gan CPCC a\/neu CHI.&nbsp; I gael rhagor o wybodaeth ar broses yr alwad agored, darllenwch ein blog: '<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/defnyddio-tystiolaeth-i-fynd-ir-afael-ar-argyfwng-llety-dros-dro\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Archwilio sut y gall tystiolaeth helpu i fynd i'r afael \u00e2'r argyfwng llety dros dro<\/a>'&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn adolygiad o'r cyflwyniadau a ddaeth i law, dewiswyd tri awdurdod lleol i gydweithio \u00e2 nhw yn y lle cyntaf: Sir y Fflint, Ynys M\u00f4n a Rhondda Cynon Taf (RhCT). Mewn partneriaeth \u00e2 CHI, byddwn yn cefnogi Cynghorau Sir y Fflint ac Ynys M\u00f4n drwy '<strong>Sbrint Tystiolaeth 'Beth sy'n Gweithio'<\/strong>, i nodi'n gyflym rannau o system ddigartrefedd&nbsp;y Cynghorau lle gallai newid wneud y gwahaniaeth mwyaf o ran canlyniadau i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sy'n profi digartrefedd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ogystal, rydym ni\u2019n cefnogi t\u00eem Cydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd (CYBI)&nbsp;RhCT&nbsp;fel rhan o'u prosiect '&nbsp;<strong>Digartrefedd a gwariant ataliol'<\/strong>&nbsp;.&nbsp;<br>&nbsp;<br>Dywedodd Amanda Hill-Dixon, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer (Gwasanaethau Cyhoeddus) CPCC: \u201cMae cyfle gwirioneddol i awdurdodau lleol yng Nghymru fanteisio ar bob math o dystiolaeth i gefnogi newid at atal digartrefedd, yn unol \u00e2 dyheadau'r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (2026).\u201d&nbsp;&nbsp;<br>\"Rydym ni'n falch iawn i fod yn gweithio gyda\u2019r Ganolfan Effaith Digartrefedd a chynghorau Rhondda Cynon Taf, Ynys M\u00f4n a Sir y Fflint fel rhan o\u2019r broses, ac yn edrych ymlaen at rannu\u2019r hyn a ddysgwyd yn ehangach gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru\u201d&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol yng Nghymru i fynd i'r afael \u00e2'r heriau allweddol sy'n ymwneud \u00e2 digartrefedd a llety dros dro, drwy eu helpu i gyrchu tystiolaeth a'i defnyddio. <\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":21400,"template":"","categories":[18],"tags":[145,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21401","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tai-chartrefi","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[12170,12416,12482],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21401","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21401\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21402,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/21401\/revisions\/21402"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21400"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21401"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21401"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21401"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21401"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}