{"id":20219,"date":"2025-10-01T12:47:22","date_gmt":"2025-10-01T12:47:22","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?post_type=project&#038;p=20219"},"modified":"2026-01-22T12:58:03","modified_gmt":"2026-01-22T12:58:03","slug":"mesur-effaith-atal-ac-ymyrraeth-gynnar-integredig","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/mesur-effaith-atal-ac-ymyrraeth-gynnar-integredig\/","title":{"rendered":"Mesur effaith atal ac ymyrraeth gynnar integredig"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu heriau cymhleth, gan gynnwys pwysau ar y gweithlu, ysbytai\u2019n cyrraedd eu llawn gapasiti, a chynydd mewn problemau iechyd ac anghydraddoldebau hirdymor. O ystyried y sefyllfa gymhleth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi uchelgais i sefydlu System Gofal Cymunedol Integredig (ICCS), gan gynnig cynllun cynhwysfawr i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer trawsnewid y modd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cyflwyno ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r System Gofal Cymunedol Integredig yn newid sylfaenol tuag at ddulliau gofal integredig ac ataliol. Bwriad gofal integredig yw creu llwybr di-dor rhwng gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, gan ei wneud yn bosibl i gydlynu a chefnogi\u2019r gwaith o gynnig gofal sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn. Nod gofal ataliol yw adnabod a mynd i\u2019r afael \u00e2 materion iechyd yn eu camau cynharaf. Yn aml, fe\u2019i ddarperir yng nghartref neu gymuned yr unigolyn, cyn i\u2019r rhain ddatblygu\u2019n faterion cymhleth sy\u2019n gofyn am ofal ysbyty.<\/p>\n\n\n\n<p>Er gwaethaf fframwaith cyfreithiol a pholisi clir i gynnig iechyd a gofal cymdeithasol ataliol ac integredig yng Nghymru, a nodir yng nghynllun System Gofal Cymunedol Integredig, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015, mae mesur effaith dulliau ataliol ac integredig yn parhau i fod yn heriol oherwydd diffyg offer a fframweithiau mesur cadarn.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyflwyno tystiolaeth i nod i ba raddau y gall offer a fframweithiau mesur presennol werthuso effaith gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar integredig yn effeithiol, er mwyn cefnogi\u2019r gwaith presennol i roi System Gofal Cymunedol Integredig ar waith ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni wedi comisiynu\u2019r Ganolfan Ymchwil Hybu Iechyd ym Mhrifysgol Leeds Beckett i gynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth a chyfweliadau gr\u0175p gyda llunwyr polis\u00efau ac ymarferwyr sy\u2019n ymwneud ag ymdrechion i fesur effaith atal integredig ac ymyrraeth gynnar yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd yr ymchwil hon yn ymateb i\u2019r cwestiynau ymchwil canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Sut y datblygwyd i fesur ac asesu effaith strategaethau atal ac ymyrraeth gynnar integredig mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn mannau eraill?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut mae offer a fframweithiau mesur yn cael eu defnyddio yn y DU ac yn rhyngwladol i werthuso effaith atal ac ymyrraeth gynnar mewn gofal iechyd a chymdeithasol integredig? Pa un o\u2019r rhain sy\u2019n dangos potensial wrth gefnogi dull integredig o fesur effaith atal ac ymyrraeth gynnar mewn iechyd a gofal cymdeithasol?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut y gallai offer a dulliau gwerthuso presennol gefnogi\u2019r gwaith o ddatblygu fframweithiau mesur ar y cyd ar gyfer atal integredig ac ymyrraeth gynnar mewn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Bydd y gwaith hwn yn llywio\u2019r gwaith o ddatblygu fframwaith mesur ar y cyd ar gyfer y System Gofal Cymunedol Integredig, a fydd yn cefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i fesur a gwerthuso eu hymdrechion i gynnig gofal a chymorth cymunedol integredig ac ataliol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn wynebu heriau cymhleth, gan gynnwys pwysau ar y gweithlu, ysbytai\u2019n cyrraedd eu llawn gapasiti, a chynydd mewn problemau iechyd ac anghydraddoldebau hirdymor. O ystyried y sefyllfa gymhleth hon, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi uchelgais i sefydlu System Gofal Cymunedol Integredig (ICCS), gan gynnig cynllun cynhwysfawr i [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":0,"template":"","categories":[150],"tags":[135,137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-20219","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[12316,12416,12254],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Doctor-reading-patient-notes-1-scaled.jpg","filesize":273614,"sizes":{"medium":{"file":"Doctor-reading-patient-notes-1-744x419.jpg","width":744,"height":419,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":33010,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-744x419.jpg"},"large":{"file":"Doctor-reading-patient-notes-1-1200x675.jpg","width":1200,"height":675,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":71487,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-1200x675.jpg"},"thumbnail":{"file":"Doctor-reading-patient-notes-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":33038,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Doctor-reading-patient-notes-1-768x432.jpg","width":768,"height":432,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":34295,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-768x432.jpg"},"1536x1536":{"file":"Doctor-reading-patient-notes-1-1536x864.jpg","width":1536,"height":864,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":108637,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-1536x864.jpg"},"2048x2048":{"file":"Doctor-reading-patient-notes-1-2048x1153.jpg","width":2048,"height":1153,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":181381,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-2048x1153.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Doctor-reading-patient-notes-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":160895,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Doctor-reading-patient-notes-1.jpg","ID":"12826","name":"Doctor-reading-patient-notes-1-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-scaled.jpg","title":"Doctor-reading-patient-notes-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-1200x675.jpg 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-2048x1153.jpg 2048w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Doctor-reading-patient-notes-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/20219","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/20219\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20220,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/20219\/revisions\/20220"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20219"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20219"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20219"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=20219"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}