{"id":19892,"date":"2025-07-30T11:16:42","date_gmt":"2025-07-30T11:16:42","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=project&#038;p=19892"},"modified":"2025-12-11T22:54:59","modified_gmt":"2025-12-11T22:54:59","slug":"adolygiad-gwariant-llywodraeth-cymru","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/adolygiad-gwariant-llywodraeth-cymru\/","title":{"rendered":"Adolygiad Gwariant Llywodraeth Cymru"},"content":{"rendered":"\n<p>Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau ledled y byd wedi bod yn ymgodymu \u00e2 chymysgedd cymhleth o heriau cyllidol, o ymateb i ddigwyddiadau eithriadol megis pandemig COVID-19, i bwysau cynyddol ar wariant cyhoeddus o ganlyniad ffactorau mwy hirdymor megis poblogaeth yn heneiddio a\u2019r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn wedi arwain at ffocws polisi rhyngwladol newydd ar gynaliadwyedd cyllidol, wrth i wledydd ddod allan o gyfnod a ysgogwyd gan yr angen i ymateb i ergydion economaidd, refeniw a gwariant sylweddol ac annisgwyl, a cheisio dychwelyd i lwybr cyllidol hirdymor, sefydlog a phwrpasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel llawer o gymheiriaid rhyngwladol, mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi ei bwriad i gryfhau ei dull o ymgorffori safbwynt tymor canolig a hirdymor wrth wneud penderfyniadau cyllidol a chyllidebol. Ym mis Mehefin 2024,&nbsp;<a href=\"https:\/\/record.senedd.wales\/Plenary\/13947#A88742\">cyhoeddwyd<\/a>&nbsp;y byddai Adolygiad Gwariant nesaf Cymru yn ymestyn \u2018y tu hwnt i flaenoriaethau tymor byr i ganolbwyntio ar yr heriau a\u2019r cyfleoedd allweddol yn y tymor canolig i\u2019r tymor hirach\u2019, gan helpu i sefydlu dull llywodraeth gyfan o nodi blaenoriaethau a chyflawni canlyniadau.<\/p>\n\n\n\n<p>I gefnogi\u2019r rhaglen waith hon, gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfosod tystiolaeth ar arferion gorau rhyngwladol ar gyfer datblygu safbwynt tymor canolig i hirdymor wrth lunio polis\u00efau cyllidol a chyllidebol. Yn benodol, bydd ein hymchwil yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cwestiynau ymchwil canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Sut mae llywodraethau rhyngwladol yn datblygu prosesau a fframweithiau rheoli arian cyhoeddus i alluogi dull tymor canolig i hirdymor o lunio polis\u00efau cyllidol a chyllidebol?<\/li>\n\n\n\n<li>Pa brosesau a fframweithiau rheoli arian cyhoeddus sydd wedi bod yn effeithiol wrth helpu llywodraethau i:\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>rhagweld a chynllunio ar gyfer pwysau gwariant cyhoeddus dros gyfnod o amser hirach; a<\/li>\n\n\n\n<li>llywio penderfyniadau cyllidol a chyllidebol tymor agosach yn well i gyflawni canlyniadau polisi tymor canolig a hirdymor?<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n\n\n\n<li>Pa wersi allweddol ac arferion gorau y gellir eu nodi o\u2019r dulliau hyn, gan ganolbwyntio\u2019n benodol ar:\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>astudiaethau achos o sut mae llywodraethau wedi mynd i\u2019r afael \u00e2 heriau gwariant cyhoeddus sylweddol drwy gynllunio tymor hirach; ac<\/li>\n\n\n\n<li>enghreifftiau rhyngwladol y gellir eu cymharu \u00e2 Chymru o ran ysgogiadau cyllidol sydd ar gael ar hyn o bryd neu o bosibl ar gael i Lywodraeth Cymru?<\/li>\n<\/ul>\n<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Er mwyn ymateb i\u2019r cwestiynau hyn, rydyn ni\u2019n datblygu synthesis o ymchwil sy\u2019n bodoli eisoes ar brosesau rheoli arian cyhoeddus sy\u2019n cefnogi dulliau tymor canolig i hirdymor o lunio polis\u00efau cyllidol a chyllidebol, gan gynnwys Adolygiadau Gwariant, fframweithiau cyllidebol a chyllidol tymor canolig, a mentrau cyllidebol strategol. Byddwn ni\u2019n llunio cyfres o adroddiadau yn s\u00f4n am wersi allweddol ac egwyddorion arferion gorau, gan gynnwys enghreifftiau rhyngwladol sy\u2019n tynnu ar astudiaethau achos sydd eisoes wedi\u2019u cyhoeddi. Bydd y rhain ar gael yn ystod gwanwyn 2025.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal, rydyn ni\u2019n gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i gyflwyno dosbarth meistr arbenigol ar Adolygiadau Gwariant ar gyfer swyddogion yn Nhrysorlys Cymru ym mis Mawrth 2025.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llywodraethau ledled y byd wedi bod yn ymgodymu \u00e2 chymysgedd cymhleth o heriau cyllidol, o ymateb i ddigwyddiadau eithriadol megis pandemig COVID-19, i bwysau cynyddol ar wariant cyhoeddus o ganlyniad ffactorau mwy hirdymor megis poblogaeth yn heneiddio a\u2019r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn wedi arwain at ffocws polisi rhyngwladol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":19066,"template":"","categories":[],"tags":[152],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19892","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","tag-llywodraethiad"],"meta_box":{"lead_author":12254,"authors":[12484,12316],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19892","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19892\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19893,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19892\/revisions\/19893"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19066"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19892"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19892"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19892"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19892"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}