{"id":19890,"date":"2025-07-30T11:15:54","date_gmt":"2025-07-30T11:15:54","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=project&#038;p=19890"},"modified":"2025-12-11T22:52:33","modified_gmt":"2025-12-11T22:52:33","slug":"mynd-ir-afael-a-stigma-tlodi-yn-abertawe","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/mynd-ir-afael-a-stigma-tlodi-yn-abertawe\/","title":{"rendered":"Mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe"},"content":{"rendered":"\n<p>Rydyn ni\u2019n gweithio gyda Chyngor Abertawe ynghyd ag ymarferwyr yn y sector cyhoeddus, academyddion, arbenigwyr drwy brofiad, a grwpiau cymunedol i ddatblygu atebion lleol sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi yn yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae stigma tlodi yn amlygu effeithiau caledi materol ac yn ei gwneud yn anoddach i bobl ddianc rhag tlodi. Mae ein&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/mynd-ir-afael-a-stigma-ynghylch-tlodi-briff-polisi\/\">briff polisi<\/a>&nbsp;yn dangos bod stigma tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, ynysu cymdeithasol, a llai o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill, ac mae\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/codir-caead\/\">arolwg YouGov<\/a>&nbsp;a gomisiynwyd gennym y llynedd wedi datgelu maint y broblem yng Nghymru, gyda 25% o oedolion yn profi stigma ynghylch tlodi \u2018bob amser\u2019, \u2018yn aml\u2019 neu \u2018weithiau\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein gwaith ehangach ar stigma tlodi yn ceisio&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/stigma-tlodi\/\">cefnogi gwasanaethau cyhoeddus<\/a>&nbsp;a llunwyr polis\u00efau yng Nghymru i ddeall stigma tlodi yn well, sut mae\u2019n effeithio ar eu cymunedau, a ffyrdd o\u2019i leihau. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o\u2019r mater hwn ymysg y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae rhai llywodraethau lleol, megis Cyngor Abertawe, wedi ymrwymo i gymryd camau rhagweithiol i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd yngl\u0177n \u00e2 \u2018beth sy\u2019n gweithio\u2019 i atal stigma tlodi a mynd i\u2019r afael ag ef, a beth yw\u2019r ffordd orau o ddefnyddio\u2019r dystiolaeth honno drwy bolisi ac ymarfer mewn ardal benodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni wedi comisiynu t\u00eem ymchwil i ymchwilio i brofiadau o stigma tlodi yn Abertawe a r\u00f4l gwasanaethau cyhoeddus lleol o ran cyfrannu at stigma a\u2019i atal. Bydd y t\u00eem ymchwil yn gweithio gydag arbenigwyr drwy brofiad lleol i gydgynhyrchu\u2019r prosiect ymchwil \u00e2 Chyngor Abertawe. Nodau\u2019r prosiect hwn yw helpu partneriaid yn y sector cyhoeddus yn Abertawe i wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Deall a dysgu o brofiadau bywyd o stigma tlodi yn Abertawe<\/strong>\u00a0\u2013 o ble mae\u2019n dod, sut mae\u2019n ymddangos ym mywydau bob dydd pobl a\u2019u profiadau o wasanaethau cyhoeddus, a sut mae\u2019n effeithio ar bobl.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Deall r\u00f4l gwasanaethau cyhoeddus lleol<\/strong>\u00a0\u2013 o ran cyfrannu at stigma tlodi a\u2019i leihau, gan adeiladu hefyd ar unrhyw ymdrechion presennol sydd eisoes yn gweithio\u2019n dda i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Dysgu o ymchwil ac arferion addawol mewn mannau eraill<\/strong>\u00a0\u2013 i archwilio\u2019r hyn y mae tystiolaeth ryngwladol yn ei ddweud am fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi a sut y gellir cymhwyso\u2019r gwersi hyn i bolisi ac ymarfer yn Abertawe.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Cyd-greu gweledigaeth a chynllun gweithredu lleol ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi<\/strong>\u00a0\u2013 i lywio Strategaeth Mynd i\u2019r Afael \u00e2 Thlodi Cyngor Abertawe ac ymdrechion ehangach i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Drwy\u2019r gwaith hwn, rhagwelir y byddwn yn cynhyrchu adroddiad ymchwil, canllaw ymarferol a chrynodeb cymunedol a fydd ar gael i\u2019r cyhoedd yn 2025.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y canfyddiadau\u2019n cael eu rhannu i lywio cynllun gweithredu a strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe. Bydd yr hyn a ddysgir yn Abertawe hefyd yn cael ei rannu \u00e2 llywodraethau lleol eraill yng Nghymru, gyda Llywodraeth Cymru, a thrwy&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/rhwydwaith-mewnwelediad-stigma-tlodi\/\">Rwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, neu am ein gwaith fel arall, cysylltwch \u00e2 ni drwy anfon e-bost at info@wcpp.org.uk.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydyn ni\u2019n gweithio gyda Chyngor Abertawe ynghyd ag ymarferwyr yn y sector cyhoeddus, academyddion, arbenigwyr drwy brofiad, a grwpiau cymunedol i ddatblygu atebion lleol sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi yn yr ardal. Mae stigma tlodi yn amlygu effeithiau caledi materol ac yn ei gwneud yn anoddach i bobl [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":19084,"template":"","categories":[18],"tags":[134,135,136,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19890","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-anghydraddoldebau-iechyd","tag-anghydraddoldebau-addysg","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"lead_author":12170,"authors":[12254,12316],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19890","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19890\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19891,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19890\/revisions\/19891"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19084"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19890"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19890"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19890"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19890"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}