{"id":19368,"date":"2025-07-30T11:13:47","date_gmt":"2025-07-30T11:13:47","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=project&#038;p=19368"},"modified":"2025-10-21T11:45:02","modified_gmt":"2025-10-21T11:45:02","slug":"ffactorau-llwyddiant-ar-gyfer-contractio-a-dyfarnu-masnachfreintiau-bysiau","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/ffactorau-llwyddiant-ar-gyfer-contractio-a-dyfarnu-masnachfreintiau-bysiau\/","title":{"rendered":"Ffactorau llwyddiant ar gyfer contractio a dyfarnu masnachfreintiau bysiau"},"content":{"rendered":"\n<p>Ym mis Mawrth 2025, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Bysiau i Gymru i roi mwy o reolaeth i\u2019r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau, gyda\u2019r nod o greu rhwydwaith bysiau cwbl integredig, carbon isel, sy\u2019n canolbwyntio ar deithwyr yn rhan o\u2019i gweledigaeth ehangach Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, bydd y ddeddfwriaeth yn gofyn am fasnachfreinio bysiau ledled Cymru, gan ddisodli\u2019r system bresennol sydd wedi\u2019i dadreoleiddio gyda model ar sail masnachfraint wedi\u2019i dendro\u2019n gystadleuol, a hynny i wella\u2019r rhwydwaith bysiau ac annog defnydd ehangach o wasanaethau bysiau. Bydd gweithredwyr masnachfreintiau yn derbyn ffi i gynnal gwasanaethau bysiau a bydd Trafnidiaeth Cymru yn derbyn refeniw am werthu ticedi a derbyn unrhyw risg o golled mewn refeniw.<\/p>\n\n\n\n<p>Gofynnodd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad \u00e2 Thrafnidiaeth Cymru, i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru roi tystiolaeth ar ffactorau llwyddiant allweddol wrth gontractio a dyfarnu masnachfreintiau bysiau. Nod ein hymchwil yw ateb dau gwestiwn cyffredinol:<\/p>\n\n\n\n<p>1. Mewn masnachfreinio gwasanaethau bysiau, pa arferion neu nodweddion contractio a dyfarnu sy\u2019n addo cyflawni gwelliant mewn ansawdd a chanlyniadau polisi dymunol wrth sicrhau gwerth am arian?<\/p>\n\n\n\n<p>2. Sut y gall contractio, gan gynnwys cymhellion, helpu i ysgogi\u2019r canlynol: newid moddol drwy gynyddu nifer y bobl sy\u2019n defnyddio bysiau; Sero Net 2050; integreiddio trafnidiaeth; a lleihau tlodi trafnidiaeth?<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd yr ymchwil yn llywio datblygiad is-ddeddfwriaeth y Bil Bysiau sydd ar y gweill, a gwaith parhaus Trafnidiaeth Cymru i roi masnachfreinio bysiau ar waith. Er mwyn cynnig dealltwriaeth angenrheidiol a dod ag ystod o arbenigedd ar draws y byd ynghyd, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfres o sesiynau \u2018cyflwyno tystiolaeth\u2019 fydd yn para 90 munud yr un, a hynny rhwng mis Mawrth a mis Mai 2025. Bydd y sesiynau\u2019n rhoi cipolwg manwl i Lywodraeth Cymru a swyddogion Trafnidiaeth Cymru ar y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Astudiaethau achos sy\u2019n seiliedig ar arfer: bydd arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol ym maes trafnidiaeth yn rhannu eu hymagweddau at fasnachfreinio bysiau ac yn nodi gwersi allweddol a ddysgwyd ynghylch contractio, dyfarnu a chymhellion.<\/li>\n\n\n\n<li>Heriau o ran polisi: bydd arbenigwyr yn cyflwyno\u2019r syniadau diweddaraf ar sut y gall contractio a dyfarnu effeithio ar feysydd polisi pwysig fel trydaneiddio a sero net, y cynnydd yn y galw am fysiau, lliniaru tlodi trafnidiaeth, a gwella symudedd ac integreiddio mewn ardaloedd gwledig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd y canfyddiadau yn gyfres hon o sesiynau cyflwyno tystiolaeth yn cael eu datblygu\u2019n adroddiad sy\u2019n cyfuno\u2019r gwersi allweddol a ddysgwyd mewn ymateb i\u2019n cwestiynau ymchwil er mwyn llywio dull Cymreig o fasnachfreinio gwasanaethau bysiau. Ochr yn ochr \u00e2\u2019r adroddiad hwn, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi crynodebau o\u2019r astudiaethau achos a drafodwyd ac erthyglau herio polisi a gyfrannwyd gan arbenigwyr. Ein nod yw sicrhau bod yr allbynnau hyn ar gael i\u2019r cyhoedd yn ystod haf 2025.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech chi rhagor o wybodaeth am y prosiect yma, neu unrhyw un o\u2019n prosiectau newydd, cysylltwch \u00e2 ni drwy e-bostio info@wcpp.org.uk.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ym mis Mawrth 2025, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Bysiau i Gymru i roi mwy o reolaeth i\u2019r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau, gyda\u2019r nod o greu rhwydwaith bysiau cwbl integredig, carbon isel, sy\u2019n canolbwyntio ar deithwyr yn rhan o\u2019i gweledigaeth ehangach Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":19081,"template":"","categories":[12],"tags":[144,147],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19368","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-sero-net","tag-trafnidiaeth"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[12254,12424,12316],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19368","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19368\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19369,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19368\/revisions\/19369"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19081"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19368"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19368"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19368"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19368"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}