{"id":19144,"date":"2025-08-05T19:16:41","date_gmt":"2025-08-05T19:16:41","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=project&#038;p=19144"},"modified":"2025-08-26T14:55:05","modified_gmt":"2025-08-26T14:55:05","slug":"effaith-cyrff-ymgysylltu-a-pholisiau-prifysgolion-y-du","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/effaith-cyrff-ymgysylltu-a-pholisiau-prifysgolion-y-du\/","title":{"rendered":"Effaith cyrff ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau prifysgolion y DU"},"content":{"rendered":"\n<p>Dros y degawd diwethaf, mae llu o gyrff wedi dod i'r amlwg mewn prifysgolion yn y DU, a thu hwnt, sy'n ceisio brocera tystiolaeth a gynhyrchwyd gan eu sefydliad, a\u2019i chyflwyno i\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau. Mae'r ffenomen hon yn gysylltiedig \u00e2'r sylw ar effaith ymchwil (er enghraifft y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn y DU) a phwyslais prifysgolion ar y genhadaeth ddinesig a gwerth cyhoeddus ymchwil.<\/p>\n\n\n\n<p>Cam cyntaf y prosiect hwn oedd cynnal arolwg o\u2019r cyrff sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau mewn prifysgolion yn y DU, gan restru a chategoreiddio\u2019r 46 o gyrff ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau a oedd yn bodoli ar y pryd. Ategwyd hyn drwy ddogfennu'r hyn a ddywedodd staff o'r cyrff hyn am sut roedden nhw\u2019n dod yn fwyfwy amlwg, sut maen nhw'n gweithio, a sut maen nhw'n ceisio dylanwadu ar bolis\u00efau ac arferion.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae'r ymchwil yn nodi pedwar math o gorff sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau prifysgol - y swyddfa gymorth sy\u2019n edrych ar effaith polis\u00efau, y broceriaid gwybodaeth, y cynhyrchwyr tystiolaeth o bolis\u00efau, a'r adeiladwyr perthnasoedd a arweinir gan alw - yn ogystal \u00e2'r gwahanol strategaethau a'r offer y maen nhw\u2019n eu defnyddio i roi tystiolaeth ar waith mewn polis\u00efau. Rydym yn canfod bod y gwahaniaethau rhwng y mathau o gyrff sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau mewn prifysgolion yn adlewyrchu'r gwahanol ddehongliadau o'r hyn y mae ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau a\u2019u heffaith yn ei olygu, yn ogystal \u00e2 gwahanol gyfleoedd, adnoddau a galluoedd i ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau. Fodd bynnag, mae pob un o\u2019r rhain yn ailedrych ar ba r\u00f4l y gallai prifysgolion ei chwarae wrth lywio penderfyniadau ynghylch polis\u00efau a gwella canlyniadau cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>PAPURAU:<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Durrant, H. a MacKillop, E. M. (2022). <a href=\"https:\/\/academic.oup.com\/rev\/article\/31\/3\/372\/6609060\">University policy engagement bodies in the UK and the variable meanings of and approaches to impact<\/a>, <em>Research Evaluation<\/em>, 31(3): 372-384. <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1093\/reseval\/rvac015\">https:\/\/doi.org\/10.1093\/reseval\/rvac015<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae'r ymchwil hon yn esbonio dyfodiad ac amrywiaeth cyrff sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau a sefydlwyd gyda phrifysgolion y DU i gyd-fynd \u00e2\u2019r newid yn y berthynas rhwng ymchwil a llunio polis\u00efau. Rydym yn canfod, er bod rhai yn gweithio'n fewnol i ddylanwadu ar allu ymchwil i ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau, mae eraill yn ceisio meithrin rhwydweithiau allanol i gasglu gwybodaeth ar alw am dystiolaeth, neu ganolbwyntio ar berthnasoedd dyfnach a dylanwadu ar bennu agend\u00e2u.<\/p>\n\n\n\n<p>I gyd-fynd \u00e2'r papur, fe wnaethom gyhoeddi blog Effaith LSE - <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/impactofsocialsciences\/2022\/08\/31\/surveying-the-landscape-of-uk-university-policy-engagement-what-are-we-doing-differently-and-why\/\">Surveying the landscape of UK University policy engagement \u2013 What are we doing differently and why? -<\/a> sy'n crynhoi'r ymchwil ac, yn sg\u00eel y buddsoddiad ychwanegol gan arianwyr mewn ymgysylltu \u00e2 pholis\u00efau mewn prifysgolion, mae\u2019n pwysleisio'r angen am well dealltwriaeth o effaith y cyrff hyn ar bolis\u00efau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y degawd diwethaf, mae llu o gyrff wedi dod i'r amlwg mewn prifysgolion yn y DU, a thu hwnt, sy'n ceisio brocera tystiolaeth a gynhyrchwyd gan eu sefydliad, a\u2019i chyflwyno i\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau. Mae'r ffenomen hon yn gysylltiedig \u00e2'r sylw ar effaith ymchwil (er enghraifft y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn y DU) [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":19294,"template":"","categories":[],"tags":[],"research-and-impact":[130],"class_list":["post-19144","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"lead_author":12026,"authors":[11941],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19144","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19144\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19294"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19144"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19144"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19144"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19144"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}