{"id":19142,"date":"2025-08-05T19:26:23","date_gmt":"2025-08-05T19:26:23","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=project&#038;p=19142"},"modified":"2026-03-30T21:36:47","modified_gmt":"2026-03-30T21:36:47","slug":"arferion-rhoi-gwybodaeth-ar-waith-yn-effeithiol","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/arferion-rhoi-gwybodaeth-ar-waith-yn-effeithiol\/","title":{"rendered":"Arferion rhoi gwybodaeth ar waith yn effeithiol"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/brocera-gwybodaeth-a-chyrff-brocera-gwybodaeth\/\">sefydliad brocera gwybodaeth<\/a> sy'n rhoi tystiolaeth ar waith i lywio polis\u00efau ac arferion gwasanaethau cyhoeddus. Er bod y manteision o lunio polis\u00efau ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn rhai sy\u2019n argyhoeddi, nid yw\u2019n glir i ba raddau y maen nhw wedi'u cyflawni. Mae angen rhoi gwybodaeth ar waith yn effeithiol ar gyfer y naill fel y llall, yn enwedig yn lleol lle mae elfennau penodol sy\u2019n dibynnu ar y cyd-destun yn tanseilio honiadau cyffredinol o 'beth sy'n gweithio'. Prin fu\u2019r ymchwil am sut mae prosesau lleol o roi gwybodaeth ar waith, yr arferion y maen nhw\u2019n eu defnyddio a pham, a beth y gellir ei ddysgu ganddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom gynnal adolygiad cwmpasu systematig o fodelau lleol o roi gwybodaeth waith yn ogystal \u00e2 chynnal cyfweliadau gyda\u2019r rhai sy\u2019n rhoi gwybodaeth ar waith ar draws y DU. Ein nod oedd mynd i'r afael \u00e2'r bylchau hyn o ran deall prosesau ac arferion, a gwella ein dull ein hunain o weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru a Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae canfyddiadau ein hadolygiad yn nodi tair nodwedd allweddol o roi gwybodaeth ar waith: mae'n cynnwys meithrin a chynnal perthnasoedd \u00e2 llunwyr polis\u00efau a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus; mae'n cynnwys integreiddio gwahanol fathau o wybodaeth; ac mae'n cydnabod bod angen teilwra gwybodaeth i gyd-destunau, diwylliant a gallu lleol er mwyn i unigolion, sefydliadau a systemau allu defnyddio tystiolaeth. Mae cyfweliadau gyda\u2019r rhai sy\u2019n rhoi gwybodaeth ar waith yn datgelu'r arferion maen nhw'n eu defnyddio i ddatblygu perthnasoedd, integreiddio gwybodaeth ac ystyried y cyd-destun.&nbsp; Fe ddaeth i\u2019r amlwg inni bod rhoi gwybodaeth ar waith yn effeithiol yn seiliedig ar: ryngweithiadau cymhleth, ailadroddus, ac anffurfiol ag unigolion a chyrff amrywiol ar draws lleoliadau ymchwil, polis\u00efau ac arferion; integreiddio gwahanol fathau o wybodaeth (gan gynnwys canfyddiadau ymchwil, arbenigedd proffesiynol a phrofiad byw) i greu 'mosaigau tystiolaeth'; ac ymgysylltu parhaus a chyson \u00e2'r cyd-destunau lleol a pholis\u00efau penodol lle mae tystiolaeth yn cael ei chymhwyso.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein canfyddiadau yn hyrwyddo dealltwriaeth o sut y gellir cynllunio camau rhoi gwybodaeth ar waith, yn enwedig yn lleol, i ddefnyddio tystiolaeth yn well mewn polis\u00efau ac ym maes gwasanaeth cyhoeddus. <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>PAPURAU:<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Durrant, H., Havers, R., Downe, J., a Martin, S. (2024). <a href=\"https:\/\/bristoluniversitypressdigital.com\/view\/journals\/evp\/20\/3\/article-p370.xml?rskey=NA2M8z&amp;result=1\">Improving evidence use: a systematic scoping review of local models of knowledge mobilisation<\/a>. Evidence &amp; Policy 20(3): 370-392 <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1332\/174426421X16905563871215\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/doi.org\/10.1332\/174426421X16905563871215<\/a><\/p>\n\n\n\n<p>Mae'r adolygiad hwn yn nodi nodweddion allweddol rhoi gwybodaeth ar waith ar lefel leol. Fodd bynnag, mae hefyd yn datgelu bylchau mewn gwybodaeth am yr arferion a'r prosesau penodol dan sylw, yn ogystal \u00e2'r galw am dystiolaeth a'r effaith ar benderfyniadau polisi a gwasanaethau cyhoeddus. I gyd-fynd \u00e2 chyhoeddi'r papur, fe wnaethom ysgrifennu blog Tystiolaeth a Pholisi o'r enw '<a href=\"https:\/\/evidenceandpolicyblog.co.uk\/2023\/11\/29\/how-to-do-knowledge-mobilisation-what-we-know-and-what-we-dont\/\"><strong>How to do knowledge mobilisation? What we know, and what we&nbsp;don\u2019t<\/strong><\/a>\u2019 (Tachwedd, 2023). Mae'r blog hwn yn crynhoi canfyddiadau'r adolygiad. Mae'n pwysleisio gwerth sefydlu nodweddion allweddol rhoi gwybodaeth ar waith er mwyn gwella sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio i lywio polis\u00efau. Fodd bynnag, mae hefyd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw llenwi'r bylchau o ran yr hyn nad ydym yn gwybod digon amdano; yn benodol, sut mae\u2019r rhai sy\u2019n rhoi gwybodaeth ar waith yn defnyddio'r nodweddion allweddol hyn yn ymarferol.<strong><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn sefydliad brocera gwybodaeth sy'n rhoi tystiolaeth ar waith i lywio polis\u00efau ac arferion gwasanaethau cyhoeddus. Er bod y manteision o lunio polis\u00efau ac arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn rhai sy\u2019n argyhoeddi, nid yw\u2019n glir i ba raddau y maen nhw wedi'u cyflawni. Mae angen rhoi gwybodaeth ar waith [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":19288,"template":"","categories":[],"tags":[],"research-and-impact":[130],"class_list":["post-19142","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"lead_author":12176,"authors":[12026,11929,11924],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19142","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19142\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20858,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19142\/revisions\/20858"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19142"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19142"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19142"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19142"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}