{"id":19094,"date":"2025-07-30T11:28:07","date_gmt":"2025-07-30T11:28:07","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?post_type=project&#038;p=19094"},"modified":"2026-03-26T10:04:47","modified_gmt":"2026-03-26T10:04:47","slug":"darparu-gwasanaethau-prawf-i-gymru","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/darparu-gwasanaethau-prawf-i-gymru\/","title":{"rendered":"Darparu gwasanaethau prawf i Gymru"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hir sefydlog i gryfhau ein setliad datganoli. Mae llywodraethau Cymru a'r DU a phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i lunio&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cytundeb-ar-gynhyrchu-memorandwm-cyd-ddealltwriaeth-ar-wasanaethau-prawf-yng-nghymru\">Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth<\/a>&nbsp;erbyn diwedd 2026. <\/p>\n\n\n\n<p>Gan adeiladu ar waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar Adeiladu Gwasanaeth Prawf Cymreig, mae Llywodraeth Cymru wedi ail-gomisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal prosiect dilynol sy\u2019n canolbwyntio ar yr agweddau ymarferol a\u2019r mecanweithiau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chyflawni Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein hadroddiad yn canfod bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ffordd ymarferol a phragmatig o gryfhau ymreolaeth leol; ymwreiddio gwaith partneriaeth; a darparu gwasanaethau prawf ymatebol. Ond, bydd heriau i\u2019w goresgyn wrth weithredu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a sefyllfa gymhleth i\u2019w hystyried o ran llywodraethu, daearyddiaeth a diwylliannau sefydliadol, a bydd yn cymryd amser i gytuno ar ddull hyblyg ac ymarferol. Bydd integreiddio\u2019r hyblygrwydd i ailadrodd, addasu neu wella\u2019r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn helpu i sicrhau y gellir adeiladu ar lwyddiannau, heb atal diwygiadau pellach i\u2019r gwasanaeth neu ddatganoli yn nes ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p>I gefnogi\u2019r gwaith o roi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar waith yn llwyddiannus, mae ein hadroddiad yn nodi tair thema allweddol:<\/p>\n\n\n\n<p>1. Llywodraethu Memoranda Cyd-ddealltwriaeth;<\/p>\n\n\n\n<p>2. Y ffactorau perthynol, gan gynnwys gweithio gyda darparwyr gwasanaethau a phartneriaid allweddol eraill; a<\/p>\n\n\n\n<p>3. Ffactorau gweithredol, fel defnyddio Memoranda Cyd-ddealltwriaeth i reoli contractau ac i hwyluso darpariaeth sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar gyfer pob un o\u2019r them\u00e2u hyn, rydym yn rhoi argymhellion ac yn myfyrio ar y gwersi allweddol rydym ni wedi\u2019u dysgu o Femoranda Cyd-ddealltwriaeth eraill a mecanweithiau cydweithredol, gan gynnwys Manceinion Fwyaf ac ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr. Cafodd ein gwaith ei lywio gan: gyfweliadau gydag ymarferwyr prawf, arbenigwr a rhanddeiliaid allweddol; adolygiadau o\u2019r llenyddiaeth; a gweithdai a chyflwyniadau. Ni wnaethom unrhyw benderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen \u00e2 Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.<br><br>Dywedodd Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig<strong>:<\/strong> \"Rwy\u2019n ddiolchgar iawn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac i bawb a gyfrannodd at y gwaith hynod arwyddocaol hwn.\"&nbsp; mynd i'r afael \u00e2 nhw yng Nghymru pe baem yn negodi ac yn cytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth.\u00a0<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hir sefydlog i gryfhau ein setliad datganoli. Mae llywodraethau Cymru a'r DU a phedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i lunio&nbsp;Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth&nbsp;erbyn diwedd 2026. Gan adeiladu ar waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar Adeiladu Gwasanaeth Prawf Cymreig, mae Llywodraeth Cymru wedi ail-gomisiynu Canolfan Polisi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18647,"template":"","categories":[],"tags":[152],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19094","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","tag-llywodraethiad"],"meta_box":{"lead_author":12028,"authors":[12132,19096,12492],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19094","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19094\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20842,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/19094\/revisions\/20842"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18647"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19094"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19094"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19094"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19094"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}