{"id":13072,"date":"2023-10-20T14:21:38","date_gmt":"2023-10-20T14:21:38","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/project\/stigma-tlodi\/"},"modified":"2026-07-31T12:13:42","modified_gmt":"2026-07-31T12:13:42","slug":"stigma-tlodi","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/stigma-tlodi\/","title":{"rendered":"Stigma tlodi"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi&nbsp;<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaeth ymchwil flaenorol ar y <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/profiad-pobl-o-dlodi-ac-allgau-cymdeithasol-yng-nghymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">profiad uniongyrchol o dlodi ac allg\u00e1u cymdeithasol yng Nghymru<\/a> a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2022 nodi fod mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn flaenoriaeth allweddol i bobl sy\u2019n profi tlodi. Yn rhannol o ganlyniad i hyn, roedd Strategaeth Tlodi Plant 2024 yn cynnwys mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi fel un o\u2019i phum amcan. Fe wnaeth hyn ein hysgogi i ystyried sut y gellir cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fabwysiadu dull sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth o atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Deall yr her: Hyd a lled a natur y stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2024, fe wnaethom gynhyrchu briff polisi,&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/mynd-ir-afael-a-stigma-ynghylch-tlodi-briff-polisi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi<\/a>, sy\u2019n dangos bod stigma ynghylch tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael,&nbsp;allg\u00e1u&nbsp;cymdeithasol, a defnyddio llai ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill. Ochr yn ochr \u00e2 hyn, fe wnaeth&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/arolwg-cpcc-yn-codir-caead-ar-stigma-tlodi-yng-nghymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Codi'r Caead ar Stigma Tlodi yng Nghymru<\/a>, yn seiliedig ar arolwg&nbsp;YouGov&nbsp;a gomisiynwyd gennym yn 2024, ddatgelu graddfa\u2019r broblem yng Nghymru, gydag 1 o bob 3 oedolyn incwm isel yn profi stigma tlodi \u2018bob amser\u2019, \u2018yn aml\u2019 neu \u2018weithiau\u2019 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.\u202f\u202f&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Deall \u2018beth sy\u2019n gweithio\u2019: Atebion polisi ac ymarfer<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn cryfhau a llywio ymdrechion i atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi ar lefel leol a chenedlaethol, fe wnaethom gomisiynu&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/adolygiad-cyflym-o-dystiolaeth-am-stigma-tlodi-tudalen-gyhoeddiadau\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">adolygiad cyflym o\u2019r dystiolaeth<\/a>&nbsp;yn edrych ar sut mae atal a mynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi yn effeithiol mewn polis\u00efau ac arferion yn y DU ac yn rhyngwladol. Roedd yr adolygiad, a gynhaliwyd gan y Gynghrair Tlodi ac Uned Ymchwil Anghydraddoldeb Tlodi'r Alban (SPIRU), yn defnyddio dull systematig, aml-gam i nodi, asesu a chyfosod tystiolaeth ar draws amrywiaeth o feysydd polisi gan gynnwys tai, cymorth bwyd ac addysg.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rhoi tystiolaeth ar waith: Cyd-gynhyrchu camau gweithredu ar gyfer Abertawe<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddem hefyd wedi ceisio sefydlu sut gellid defnyddio a chyd-destunoli\u2019r&nbsp;dystiolaeth hon ar \u2018beth sy\u2019n gweithio\u2019 i atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi drwy bolisi ac ymarfer&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/lleisiau-abertawe-herio-stigma-tlodi-gydan-gilydd\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">mewn ardal benodol<\/a>. O\u2019r herwydd, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth \u00e2 Chyngor Abertawe a gr\u0175p o Ymchwilwyr Cymunedol yn Abertawe i wneud y canlynol:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Deall a dysgu o brofiadau go iawn o stigma tlodi yn Abertawe<\/strong>&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Deall r\u00f4l gwasanaethau cyhoeddus lleol<\/strong>&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Dysgu o ymchwil ac arferion addawol mewn mannau eraill<\/strong>&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym wedi cyhoeddi dau ganlyniad allweddol o'r broses yn Abertawe. Mae\u2019r cyntaf,&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Understanding-and-tackling-poverty-stigma-in-Swansea-May-2026-WELSH-final-1.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Deall a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe<\/a>, yn adroddiad dan arweiniad y gymuned a ddatblygwyd gan ymchwilwyr cymunedol yn Abertawe. Mae\u2019n dwyn ynghyd ganfyddiadau ymchwil ansoddol gyda thrigolion lleol a gweithwyr proffesiynol o wasanaethau cyhoeddus yn Abertawe i ddeall ble, sut a pham mae stigma tlodi yn amlygu ei hun i bobl yn Abertawe.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r adroddiad polisi ac ymarfer a gyhoeddwyd ochr yn ochr \u00e2\u2019r adroddiad cymunedol,&nbsp;Lleisiau Abertawe: Herio stigma tlodi gyda\u2019n gilydd,&nbsp;yn crynhoi mewnwelediadau allweddol i ddeall, atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn Abertawe. Mae\u2019r adroddiad yn seiliedig ar broses gyd-greadigol a ddaeth \u00e2&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/report\/adolygiad-cyflym-o-dystiolaeth-am-stigma-tlodi-tudalen-gyhoeddiadau\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">thystiolaeth academaidd<\/a>,&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=zhXlw-wPwv0\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">arbenigedd profiad bywyd,<\/a>&nbsp;ac arbenigedd proffesiynol ac ymarferwyr at ei gilydd i archwilio polis\u00efau ac arferion ar gyfer creu Abertawe heb stigma. Gyda\u2019n gilydd, fe wnaethom ddatblygu wyth cam gweithredu sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer newid yn Abertawe ar draws tri maes allweddol: cael gwared ar y stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 chael gafael ar gymorth, darparu gwasanaethau gydag urddas a pharch, a newid diwylliant a systemau iaith.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y camau gweithredu sy\u2019n cael eu creu ar y cyd yn sail i Strategaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe a\u2019r cynllun gweithredu sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r strategaeth. Mae\u2019r holl gamau gweithredu a nodwyd yn berthnasol i wahanol raddau i awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a gweddill y DU sydd \u00e2 diddordeb mewn atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel rhan o\u2019n hymchwil yn Abertawe, comisiynwyd&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/cyfres-luniau-heb-stigma-yn-taflu-goleuni-ar-arferion-cynhwysol\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">cyfres o ffotograffau<\/a>&nbsp;o bobl a lleoedd o amgylch Abertawe a gynhyrchwyd yn unol ag egwyddorion di-stigma.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rhannu\u2019r hyn rydym wedi\u2019i ddysgu a\u2019r hyn rydym wedi\u2019i ddysgu gan eraill:&nbsp;Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn rhannu\u2019r hyn rydym wedi\u2019i ddysgu\u2019n ehangach, ac er mwyn dysgu gan eraill, yn 2024 fe wnaethom sefydlu\u2019r&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/rhwydwaith-mewnwelediad-stigma-tlodi\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Tlodi<\/a>, rhwydwaith o unigolion a sefydliadau ledled y DU sydd \u00e2\u2019r nod cyffredin o geisio deall, atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi yn well. Mae'r aelodau'n cynnwys arbenigwyr profiad bywyd, llunwyr polis\u00efau, ymarferwyr, ymchwilwyr ac academyddion. Drwy'r Rhwydwaith rydym yn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau ac arferion lleol a chenedlaethol i fynd i'r afael \u00e2 stigma tlodi drwy ddefnyddio tystiolaeth a mewnwelediad i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o stigma tlodi, herio mythau am dlodi, a newid y naratif; ac i newid agweddau ac arferion gwasanaethau cyhoeddus, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau eraill. Rydym yn gwneud hyn drwy rannu syniadau, arferion da ac enghreifftiau o \u2018beth sy\u2019n gweithio\u2019 ac, yn bwysig iawn, drwy ganolbwyntio ar leisiau pobl sydd \u00e2 phrofiad uniongyrchol o stigma tlodi, a defnyddio eu harbenigedd i ddod o hyd i atebion.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os hoffech chi ymuno \u00e2\u2019r Rhwydwaith Deall Stigma Tlodi, neu os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch ag info@wcpp.org.uk.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cysylltu \u00e2 ni<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I glywed mwy am ein gwaith presennol yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi, neu os ydych chi\u2019n lluniwr polisi neu\u2019n ymarferydd a bod gennych ddarn penodol o waith mewn golwg a fyddai\u2019n ddefnyddiol, cysylltwch \u00e2&nbsp;<a href=\"mailto:charlotte.morgan@wcpp.org.uk\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">charlotte.morgan@wcpp.org.uk<\/a>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydyn ni\u2019n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polis\u00efau yng Nghymru i ddeall stigma tlodi a\u2019i effaith ar gymunedau.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":10440,"template":"","categories":[18],"tags":[141,143,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-13072","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-llywodraeth-leol","tag-profiad-bywyd","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572.jpg","filesize":203398,"sizes":{"medium":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-744x526.jpg","width":744,"height":526,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":57430,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-744x526.jpg"},"large":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-1200x848.jpg","width":1200,"height":848,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":105979,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-1200x848.jpg"},"thumbnail":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55012,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-768x543.jpg","width":768,"height":543,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":59656,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-768x543.jpg"},"1536x1536":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-1536x1086.jpg","width":1536,"height":1086,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":142801,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-1536x1086.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-368x260.jpg","width":368,"height":260,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":21711,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-368x260.jpg"},"banner":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-1920x640.jpg","width":1920,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":98909,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-1920x640.jpg"},"square_thumb":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-800x800.jpg","width":800,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":92138,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-800x800.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[],"alt":""},"original_image":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4.jpg","ID":"13073","name":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4-scaled-e1765978793572.jpg","title":"Poverty-stigma-web-page-graphic-resize-4.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[{"file":["13074"],"title_for_display":"Crynodebau Gweithdai Stigma Tlodi"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13072","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13072\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21541,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13072\/revisions\/21541"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10440"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13072"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13072"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13072"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=13072"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}