{"id":13046,"date":"2022-11-25T09:57:36","date_gmt":"2022-11-25T09:57:36","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/project\/diffinio-mesur-a-monitro-iechyd-democratiaeth-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:16:54","modified_gmt":"2025-04-11T13:16:54","slug":"diffinio-mesur-a-monitro-iechyd-democratiaeth-yng-nghymru","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/diffinio-mesur-a-monitro-iechyd-democratiaeth-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Diffinio, mesur, a monitro iechyd democratiaeth yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae 'democratiaeth' yn cael ei hystyried yn system lywodraeth ddelfrydol am ei bod yn rhoi grym a dilysrwydd i weithredwyr a sefydliadau gwleidyddol, ac i'r graddau y maen nhw\u2019n cynrychioli 'ewyllys y bobl' yn unig. I'r rhai sy'n ceisio llywodraethu, rhaid iddyn nhw allu dangos bod ganddyn nhw gefnogaeth y rhai sy\u2019n mynd i fod yn cael eu llywodraethu. Ond mae sut yn union mae 'ewyllys y bobl' yn cael ei fesur drwy systemau trafod a dethol wedi bod yn bwnc llosg i ddemocratiaethau ledled y byd. Mae pryderon yn cael eu codi dro ar \u00f4l tro am 'iechyd democratiaeth' \u2013 a yw systemau dethol (drwy brosesau etholiadol yn bennaf \u2013 ond nid drwy\u2019r dulliau hyn yn unig) wir yn cynrychioli ewyllys poblogaidd, ac, os nad ydyn nhw, sut y gellir gwella\u2019r prosesau hyn?<\/p>\n<p>Yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r ddadl ynghylch iechyd democratiaeth wedi canolbwyntio ar y niferoedd isel sydd wedi pleidleisio yn etholiadau\u2019r Senedd ac etholiadau lleol. Mae nifer isel o bleidleiswyr yn cael ei ystyried yn ddangosydd democratiaeth sy\u2019n wan ei hiechyd gan nad yw'r system etholiadol o reidrwydd yn adlewyrchu ewyllys y bobol, a gallai roi llai o hygrededd i lywodraethau. Ystyrir nifer isel o bleidleiswyr yn rhywbeth sydd gyfystyr \u00e2 lefelau isel o ymgysylltu \u00e2 gwleidyddiaeth.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae iechyd democratiaeth yn fater sy\u2019n llawer ehangach na hyn. Ydy dinasyddion yn ymgysylltu \u00e2 materion gwleidyddol? Oes ganddyn nhw'r ffynonellau o ran addysg a gwybodaeth i'w galluogi i greu barn ar faterion gwleidyddol pwysig sy'n effeithio ar eu bywydau? Ydy eu hawliau i drefniadaeth a mynegiant gwleidyddol yn cael eu diogelu? Ac a yw pob dinesydd yn gallu cymryd rhan mewn prosesau democrataidd mewn modd cyfartal, waeth beth yw eu cefndir?<\/p>\n<p>Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) edrych ar beth fyddai\u2019r ffyrdd gorau o ddiffinio, mesur a monitro iechyd democratiaeth Cymru. Bydd y gwaith hwn yn helpu i ganolbwyntio ymdrechion ar annog rhagor o bobl i chwarae rhan lawn mewn prosesau democrataidd cenedlaethol a lleol yng Nghymru, yn enwedig ymhlith grwpiau a dangynrychiolir.<\/p>\n<p>Bydd yn canolbwyntio ar y tri chwestiwn ymchwil canlynol:<\/p>\n<ol>\n<li>Beth fyddai nodweddion democratiaeth iach yng Nghymru?<\/li>\n<li>Beth yw\u2019r ffordd orau o gasglu data a\u2019i adrodd i fesur iechyd democratiaeth yng Nghymru?<\/li>\n<li>Beth yw\u2019r ffordd orau o fonitro iechyd democratiaeth Cymru?<\/li>\n<\/ol>\n<p>Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd gan Gomisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, i helpu i 'gryfhau democratiaeth Cymru'. Bu sawl prosiect ymchwil diweddar yn y maes hwn, gan gynnwys ymchwil WCPP sy'n archwilio <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/diwygio-cyfraith-ac-arferion-etholiadol\/\">sut mae newidiadau mewn gweinyddiaeth etholiadol yn rhyngwladol wedi effeithio ar y niferoedd sy\u2019n pleidleisio<\/a>, ac ymchwil ar brofiadau pobl ifanc sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar y sylfaen dystiolaeth gynyddol hon i ddeall pa wersi y gellir eu dysgu gan wledydd eraill ynghylch diffinio, mesur, a monitro iechyd democratiaeth yng Nghymru. Bydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod mewn gwell sefyllfa i fesur hyder mewn democratiaeth a sefydliadau democrataidd, patrymau demograffig, a\u2019r hyn sy\u2019n annog pobl i ymgysylltu a chymryd rhan.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae 'democratiaeth' yn cael ei hystyried yn system lywodraeth ddelfrydol am ei bod yn rhoi grym a dilysrwydd i weithredwyr a sefydliadau gwleidyddol, ac i'r graddau y maen nhw\u2019n cynrychioli 'ewyllys y bobl' yn unig. I'r rhai sy'n ceisio llywodraethu, rhaid iddyn nhw allu dangos bod ganddyn nhw gefnogaeth y rhai sy\u2019n mynd i fod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"template":"","categories":[],"tags":[141,152],"research-and-impact":[],"class_list":["post-13046","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","tag-llywodraeth-leol","tag-llywodraethiad"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"senedd-sign-cropped-1-1-scaled.jpg","filesize":918603,"sizes":{"medium":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1-744x466.jpg","width":744,"height":466,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":101375,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-744x466.jpg"},"large":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1-1200x752.jpg","width":1200,"height":752,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":244080,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-1200x752.jpg"},"thumbnail":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91758,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1-768x481.jpg","width":768,"height":481,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":107471,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-768x481.jpg"},"1536x1536":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1-1536x962.jpg","width":1536,"height":962,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":383519,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-1536x962.jpg"},"2048x2048":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1-2048x1283.jpg","width":2048,"height":1283,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":632166,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-2048x1283.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"senedd-sign-cropped-1-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":507084,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"senedd-sign-cropped-1-1.jpg","ID":"13045","name":"senedd-sign-cropped-1-1-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-scaled.jpg","title":"senedd-sign-cropped-1-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/senedd-sign-cropped-1-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13046","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13046\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13046"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13046"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13046"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=13046"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}