{"id":13035,"date":"2021-11-17T16:12:19","date_gmt":"2021-11-17T16:12:19","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/project\/datgarboneiddio-cymru-ynni-diwydiannau-tir\/"},"modified":"2025-04-11T13:16:54","modified_gmt":"2025-04-11T13:16:54","slug":"datgarboneiddio-cymru-ynni-diwydiannau-tir","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/datgarboneiddio-cymru-ynni-diwydiannau-tir\/","title":{"rendered":"Datgarboneiddio Cymru: Ynni, Diwydiannau, Tir"},"content":{"rendered":"<p>Yn sg\u00eel addewid Llywodraeth Cymru i gael gwared ar allyriadau carbon erbyn 2050 a chanlyniad cynhadledd COP26 yn Glasgow, mae\u2019n amlwg y bydd ymdrechion i ddatgarboneiddio ein heconomi a\u2019n cymdeithas yn fwyfwy pwysig i bolis\u00efau a thrafodaethau gwladol dros y blynyddoedd a\u2019r degawdau sydd i ddod.<\/p>\n<p>Er ein bod yn gwybod ble y dylen ni fod i osgoi effeithiau gwaetha\u2019r newid hinsoddol, mae\u2019n aneglur o hyd sut y byddwn ni\u2019n mynd yno a pha fath o gymdeithas a welwn ni yn y pen draw. Hoffen ni hwyluso trafodaeth ymhlith arbenigwyr dethol i ystyried y cwestiynau hyn a'r goblygiadau i bolis\u00efau ac arferion yng Nghymru.<\/p>\n<p>Oherwydd economi a daearyddiaeth Cymru, hoffen ni ganolbwyntio ar ddau faes yn y lle cyntaf. Yn gyntaf, <strong>datgarboneiddio ynni a diwydiannau trwm<\/strong>. I\u2019r perwyl hwnnw, bydd angen defnyddio trydan neu hydrogen mewn prosesau diwydiannol ynghyd \u00e2 gwario llawer ar ynni adnewyddadwy, batris ac atomfeydd. O\u2019i wneud yn dda, gallai \u2018twf gwyrdd\u2019 hwyluso datgarboneiddio heb newidiadau cymdeithasol neu economaidd ysgubol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n aneglur o hyd a fydd modd parhau i ddefnyddio adnoddau i\u2019r un graddau dros y tymor hir, gan awgrymu y gallai fod terfynau i dwf gwyrdd yn y pen draw. Mae hyrwyddwyr 'Degrowth', yn ogystal \u00e2 modelau economaidd megis 'economeg doesen', am weld cymdeithas sy\u2019n cadw at ffiniau\u2019r blaned yn hytrach na chynhyrchu a defnyddio adnoddau gymaint ag y bo modd. I wneud hynny, bydd angen newidiadau mawr a phellgyrhaeddol a fydd yn peri amddifadedd i lawer.<\/p>\n<p>Hoffen ni drafod goblygiadau\u2019r modelau hynny mewn modd gonest ac agored i ddeall eu gwahaniaethau, eu goblygiadau i\u2019n cymdeithas yng Nghymru ac unrhyw bethau a allai fod yn gyffredin.<\/p>\n<p>Yr ail bwnc yr hoffen ni ei ystyried yw <strong>defnyddio tir a newid ei ddibenion<\/strong>. Mae amaeth yn bwysig i ddiwylliant Cymru. Mae'n rhan allweddol o'r economi wledig ac yn gadarnle i\u2019r Gymraeg gan fod cymunedau amaethyddol yn fwy tebygol o siarad yr iaith na chymunedau eraill ledled y wlad. Gallai newidiadau megis ailwylltio, neu thalu ffermydd am gynhyrchu nwyddau amgylcheddol yn hytrach na rhoi taliadau sylfaenol, fod yn niweidiol iawn i\u2019r cymunedau hynny.<\/p>\n<p>Serch hynny, mae cydnabyddiaeth bod angen i amaeth newid. Mae ailwylltio, coedwigo ac adfer cynefinoedd yn cynnig cyfleoedd i gynyddu bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau, a bydd modd eu defnyddio i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd a lliniaru allyriadau a rhai o effeithiau\u2019r newid hinsoddol.<\/p>\n<p>Mae lle i drafod faint y gallwn ni ei gyflawni heb niweidio cymunedau amaethyddol. Hoffen ni hwyluso trafodaeth am sut mae cytuno ar y newidiadau hyn a\u2019u rheoli i hyrwyddo nwyddau amgylcheddol a diogelu bywoliaethau amaethyddol a'r cymunedau y maen nhw\u2019n eu cynnal.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn sg\u00eel addewid Llywodraeth Cymru i gael gwared ar allyriadau carbon erbyn 2050 a chanlyniad cynhadledd COP26 yn Glasgow, mae\u2019n amlwg y bydd ymdrechion i ddatgarboneiddio ein heconomi a\u2019n cymdeithas yn fwyfwy pwysig i bolis\u00efau a thrafodaethau gwladol dros y blynyddoedd a\u2019r degawdau sydd i ddod. Er ein bod yn gwybod ble y dylen ni [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13030,"template":"","categories":[12],"tags":[140,144,149],"research-and-impact":[],"class_list":["post-13035","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-sero-net","tag-ynni"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"carbon-neutral.jpg","filesize":487315,"sizes":{"medium":{"file":"carbon-neutral-744x529.jpg","width":744,"height":529,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":75084,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-744x529.jpg"},"large":{"file":"carbon-neutral-1200x854.jpg","width":1200,"height":854,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":159610,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-1200x854.jpg"},"thumbnail":{"file":"carbon-neutral-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":62802,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"carbon-neutral-768x546.jpg","width":768,"height":546,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":78507,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-768x546.jpg"},"1536x1536":{"file":"carbon-neutral-1536x1093.jpg","width":1536,"height":1093,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":238864,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-1536x1093.jpg"},"2048x2048":{"file":"carbon-neutral-2048x1457.jpg","width":2048,"height":1457,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":355962,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-2048x1457.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"carbon-neutral-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":272201,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"13030","name":"carbon-neutral.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral.jpg","title":"carbon-neutral.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/carbon-neutral-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13035","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13035\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13030"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13035"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13035"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13035"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=13035"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}