{"id":13025,"date":"2021-10-21T10:02:21","date_gmt":"2021-10-21T10:02:21","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/project\/plant-syn-derbyn-gofal\/"},"modified":"2025-04-11T13:16:54","modified_gmt":"2025-04-11T13:16:54","slug":"plant-syn-derbyn-gofal","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/plant-syn-derbyn-gofal\/","title":{"rendered":"Plant sy\u2019n derbyn gofal"},"content":{"rendered":"<p><strong>Bu'r cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghyfradd y plant sydd mewn gofal yng Nghymru yn ystod y 25 mlynedd diwethaf yn destun pryder o safbwynt polisi.<\/strong><\/p>\n<p>Gwelwyd cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.\u00a0 Mae'r gyfradd bellach yn uwch nag ar unrhyw adeg ers y 1980au. Yn ogystal, bu gan Gymru fwy o blant yn gyson yn derbyn gofal fesul 10,000 o'r boblogaeth na gweddill y Deyrnas Unedig. Mae'r duedd hon yn destun pryder; yn enwedig yr effaith ar ganlyniadau plant sy'n cael eu cymryd i ofal o ran cyrhaeddiad addysgol, iechyd, diweithdra, digartrefedd a chyfiawnder troseddol. Ar ben hynny, disgwylir bod pandemig Covid-19 wedi gwaethygu'r sefyllfa.<\/p>\n<p>Cyhoeddodd y Ganolfan nodyn briffio (<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/plant-dan-ofal-yng-nghymru\/\">Plant sy\u2019n derbyn gofal yng Nghymru - Tueddiadau<\/a>) yn disgrifio'r tueddiadau sy'n gysylltiedig \u00e2 phlant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ar lefel genedlaethol a lleol.<\/p>\n<p>Rydym hefyd wedi <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/beth-mae-plant-a-phobl-ifanc-syn-derbyn-gofal-au-teuluoedd-yn-ei-feddwl-o-ofal\/\">datblygu adroddiad<\/a> sy'n crynhoi\u2019r llenyddiaeth ar farn plant a phobl ifanc am y system ofal ac yn nodi canfyddiadau allweddol comisiynwyr yng Nghymru. Gwnaed y gwaith hwn gyda'r ddealltwriaeth bod gan blant a phobl ifanc sydd \u00e2 phrofiad o ofal, yn ogystal \u00e2'u teuluoedd, bersbectif unigryw ar y system ofal. At hynny, mae mabwysiadu dull gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn ceisio barn plant a phobl ifanc ac yn eu cymryd i ystyriaeth mewn prosesau gwneud penderfyniadau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Rydym ni\u2019n gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i archwilio pam ceir amrywiadau yng nghyfraddau\u2019r plant sy'n derbyn gofal ledled Cymru.<\/strong><\/p>\n<p>Er bod y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy\u2019n derbyn gofal, mae amrywiad sylweddol; ac mae rhai wedi profi gostyngiad yng nghyfradd y plant sy\u2019n derbyn gofal ers 2014.<\/p>\n<p>Gan ddefnyddio data cyhoeddedig, datblygwyd nifer o sesiynau briffio (<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/plant-dan-ofal-yng-nghymru\/\">Plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru: ffactorau sy'n cyfrannu at amrywiad cyfraddau, Plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru \u2013 Y llif i mewn ac allan o'r System Ofal yng Nghymru<\/a>) yn archwilio'r ffactorau sy'n gyrru'r tueddiadau hyn. Mae\u2019r dystiolaeth yn awgrymu bod ffactorau sy'n gysylltiedig \u00e2 nodweddion y boblogaeth; gwahaniaethau polisi ac ymarfer; r\u00f4l capasiti rhianta ac adnoddau yn egluro rhywfaint ar yr amrywiadau ar lefel leol.<\/p>\n<p>Mae'r Ganolfan hefyd wedi ffurfio partneriaeth \u00e2 CASCADE i gynnal arolwg o\u2019r gweithlu gofal cymdeithasol plant yng Nghymru i archwilio sut mae ymarfer yn gyrru amrywiadau ledled Cymru. Ymatebodd gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr, penaethiaid gwasanaethau a chyfarwyddwyr i arolwg a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad \u00e2 phenaethiaid gwasanaethau plant, Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru, oedd yn mynd i'r afael \u00e2'r meysydd pwnc canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Pa ffactorau mae gweithwyr cymdeithasol ac uwch-reolwyr yn tybio sy'n dylanwadu ar gyfraddau gofal ledled Cymru.<\/li>\n<li>A oes amrywiad yn y gwerthoedd, y penderfyniadau a wneir, safbwyntiau, ac arfer sefydliadol ac arweinyddiaeth mewn awdurdodau lleol sydd \u00e2 gwahanol newidiadau mewn cyfraddau (cynyddu, sefydlog, gostwng), a rhwng gweithwyr cymdeithasol ac uwch-reolwyr yn yr awdurdodau lleol hynny.<\/li>\n<li>Effaith pandemig COVID-19 ar asesiadau risg ac ymarfer.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae adroddiad arolwg ar y gweill.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Mae'r Ganolfan wedi archwilio dulliau o reoli darpariaeth lleoliadau a sut gall gwaith amlasiantaeth mewn gwasanaethau plant arwain at ganlyniadau cadarnhaol yng Nghymru<\/strong><\/p>\n<p>Buom yn gweithio gyda'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Oxford Brookes (IPC) i adolygu <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/dulliau-rhyngwladol-o-reoli-darpariaeth-lleoliadau-i-blant-a-phobl-ifanc-syn-derbyn-gofal\/\">tystiolaeth ar ddulliau rhyngwladol o reoli darpariaeth lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.<\/a><\/p>\n<p>Mae'r adroddiad yn nodi pum maes allweddol lle ceir gwahaniaethau rhwng y gwledydd a astudiwyd, a fyddai'n addas i'w harchwilio ymhellach:<\/p>\n<ol>\n<li>Y cydbwysedd rhwng ailuno a sefydlogrwydd.<\/li>\n<li>Ymgorffori llais plant a theuluoedd mewn lleoliadau a phenderfyniadau.<\/li>\n<li>Y cydbwysedd rhwng darpariaeth y wladwriaeth, darpariaeth breifat a darpariaeth y trydydd sector;<\/li>\n<li>Y math o wasanaethau lleoli.<\/li>\n<li>Y dull o fynd ati i gomisiynu\u2019n strategol.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Bydd plant a theuluoedd 'mewn perygl' yn rhyngweithio'n aml ag asiantaethau a gwasanaethau lluosog. Mae wedi bod yn ddyhead ers amser maith bod y cyrff hyn a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn cael eu cydgysylltu'n well ac, ar ben hynny, yn troi o gwmpas y bobl y maent yn ceisio eu helpu. Mae'r dyhead hwn wedi arwain at gyfres o bolis\u00efau gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio hyrwyddo gwaith amlasiantaeth i gefnogi plant a theuluoedd.<\/p>\n<p>Rydym wedi edrych ar y dystiolaeth ynghylch <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/gwaith-amlasiantaeth-a-deilliannau-i-blant-syn-derbyn-gofal\/\">ffactorau sy\u2019n gallu cynyddu effeithiolrwydd gwaith amlasiantaeth mewn gwasanaethau plant<\/a> a'r hyn y gall yr effeithiolrwydd hwnnw ei olygu o ran canlyniadau i blant mewn gofal a'u teuluoedd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bu'r cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghyfradd y plant sydd mewn gofal yng Nghymru yn ystod y 25 mlynedd diwethaf yn destun pryder o safbwynt polisi. Gwelwyd cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru.\u00a0 Mae'r gyfradd bellach yn uwch nag ar unrhyw adeg ers y 1980au. Yn ogystal, bu gan [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12986,"template":"","categories":[150],"tags":[143,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-13025","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-profiad-bywyd","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"sad-child-2-scaled.jpg","filesize":398909,"sizes":{"medium":{"file":"sad-child-2-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":47619,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-744x496.jpg"},"large":{"file":"sad-child-2-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":109077,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"sad-child-2-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41345,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"sad-child-2-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":50426,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"sad-child-2-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":166925,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"sad-child-2-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":273905,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"sad-child-2-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":207216,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"sad-child-2.jpg","ID":"13024","name":"sad-child-2-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-scaled.jpg","title":"sad-child-2.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/sad-child-2-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13025","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13025\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13025"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13025"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13025"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=13025"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}