{"id":13007,"date":"2020-11-26T15:00:23","date_gmt":"2020-11-26T15:00:23","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/project\/unigrwydd-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:16:52","modified_gmt":"2025-04-11T13:16:52","slug":"unigrwydd-yng-nghymru","status":"publish","type":"project","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/unigrwydd-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Unigrwydd yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae unigrwydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles y cyhoedd, ac mae wedi bod yn fater o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ers cyn pandemig y coronafeirws. Mae mynd i\u2019r afael ag unigrwydd wedi dibynnu ar strategaethau a mentrau er mwyn cynyddu ansawdd cysylltiadau cymdeithasol unigolion. Mae cadw pellter cymdeithasol a gwarchod i arafu lledaeniad y coronafeirws ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed ar yr un pryd yn cynyddu'r risg o unigrwydd ac yn cyfyngu'n sylweddol ar weithgareddau llawer o ddulliau presennol o fynd i'r afael ag ef.<\/p>\n<p>Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio i ddod \u00e2 darparwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol, o lywodraeth leol a\u2019r trydydd sector, at ei gilydd gydag academyddion o ledled y DU, a\u2019r tu hwnt iddi, i rannu gwybodaeth a phrofiad, trafod materion a heriau lleol, deall yr effaith, ac ystyried sut mae lliniaru ac atal unigrwydd. Cyn y pandemig, cynhyrchom <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/how-do-we-tackle-loneliness-evidence-on-deprivation-and-different-communities\/\">gyfres o flogiau<\/a> ar unigrwydd yng Nghymru a'r hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ar gyfer grwpiau allweddol.\u00a0Mewn ymateb i'r cyd-destun newydd, a gr\u00ebwyd gan gyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol uniongyrchol, cynhyrchom nodyn briffio ar <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/loneliness-in-the-lockdown\/\">Unigrwydd dan gyfyngiadau symud,<\/a> ynghyd \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/commentary\/loneliness-in-lockdown\/\">blog.\u00a0<\/a>\u00a0Gyda\u2019i gilydd, nod y rhain yw dechrau sgwrs am r\u00f4l technoleg wrth helpu i fynd i\u2019r afael ag unigrwydd. Hefyd, cynhyrchom ddau bodlediad (dolenni isod) ag arbenigwyr yn trafod materion allweddol yn ymwneud \u00e2 thechnoleg a r\u00f4l cyfathrebu da wrth fynd i'r afael ag unigrwydd yn ystod y cyfyngiadau symud.<\/p>\n<p>Gan adeiladu ar y gwaith cychwynnol hwn, rydym wedi cynhyrchu adroddiad, '<a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/dylunio-gwasanaethau-syn-defnyddio-technoleg-i-fynd-ir-afael-ag-unigrwydd\/\">Dylunio gwasanaethau wedi'u galluogi gan dechnoleg i fynd i'r afael ag unigrwydd<\/a>', sy'n amlinellu egwyddorion dylunio allweddol er mwyn i wasanaethau wedi'u galluogi gan dechnoleg fynd i'r afael ag unigrwydd. Mae heriau'n gysylltiedig \u00e2 defnyddio technoleg i fynd i'r afael ag unigrwydd, gan gynnwys allg\u00e1u digidol, sy'n effeithio'n anghymesur ar grwpiau sy'n agored i unigrwydd, fel pobl oedrannus, y rhai ar incwm isel, a rhai grwpiau sy'n byw \u00e2 chyflyrau iechyd corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, daw ein hadroddiad i'r casgliad ei bod yn bwysig, lle gellir defnyddio technoleg fel rhan o gymysgedd o ddarpariaeth gwasanaethau, ystyried yr hyn y mae'r dechnoleg honno'n galluogi i bobl ei wneud o ran darparu cyfleoedd ar gyfer cysylltiad ystyrlon a sut y mae wedi'i gynllunio gyda phobl ac ar eu cyfer mewn amgylchiadau gwahanol.<\/p>\n<p>Mae agweddau eraill ar ein rhaglen waith yn y maes hwn yn cynnwys prosiect sy'n archwilio r\u00f4l cymunedau wrth fynd i'r afael ag unigrwydd. Rydym yn siarad \u00e2 grwpiau cymunedol ar draws Cymru am eu profiad yn ystod pandemig y Coronafeirws er mwyn deall gweithgareddau eu grwpiau, y r\u00f4l y mae technoleg wedi'i chwarae wrth gydlynu a chefnogi eu gweithgareddau, a sut y gellir gwella a chynnal arferion da. Rydym wedi llunio adroddiad sy\u2019n manylu ar ganfyddiadau'r ymchwil hon: <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/rol-cymunedau-ar-defnydd-o-dechnoleg-wrth-liniaru-unigrwydd-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws\/\">R\u00f4l cymunedau a'r defnydd o dechnoleg wrth liniaru unigrwydd yn ystod pandemig y Coronafeirws<\/a>. Gellir gweld crynodeb o ganfyddiadau ac argymhellion allweddol <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/rol-cymunedau-ar-defnydd-o-dechnoleg-wrth-liniaru-unigrwydd-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws\/\">yma<\/a>. Cefnogir yr ymchwil hon gan ddadansoddiad data sydd ar y gweill o\u2019r berthynas rhwng seilwaith cymunedol ac unigrwydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae unigrwydd yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles y cyhoedd, ac mae wedi bod yn fater o flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ers cyn pandemig y coronafeirws. Mae mynd i\u2019r afael ag unigrwydd wedi dibynnu ar strategaethau a mentrau er mwyn cynyddu ansawdd cysylltiadau cymdeithasol unigolion. Mae cadw pellter [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":12962,"template":"","categories":[150],"tags":[146,148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-13007","project","type-project","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Lonely-woman-smaller.jpg","filesize":412296,"sizes":{"medium":{"file":"Lonely-woman-smaller-744x359.jpg","width":744,"height":359,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":22341,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller-744x359.jpg"},"large":{"file":"Lonely-woman-smaller-1200x580.jpg","width":1200,"height":580,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":59351,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller-1200x580.jpg"},"thumbnail":{"file":"Lonely-woman-smaller-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":28210,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Lonely-woman-smaller-768x371.jpg","width":768,"height":371,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":23924,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller-768x371.jpg"},"1536x1536":{"file":"Lonely-woman-smaller-1536x742.jpg","width":1536,"height":742,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":104058,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller-1536x742.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Lonely-woman-smaller-1920x966.jpg","width":1920,"height":966,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":225561,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller-1920x966.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"12962","name":"Lonely-woman-smaller.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Lonely-woman-smaller.jpg","title":"Lonely-woman-smaller.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13007","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/project"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/project\/13007\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12962"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13007"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13007"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13007"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=13007"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}