{"id":22035,"date":"2026-11-17T17:20:04","date_gmt":"2026-11-17T17:20:04","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=22035"},"modified":"2026-11-17T17:32:22","modified_gmt":"2026-11-17T17:32:22","slug":"profiad-dave-jenkins-intern-phd-yn-cpcc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/profiad-dave-jenkins-intern-phd-yn-cpcc\/","title":{"rendered":"Profiad Dave Jenkins, intern PhD"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">1. Ar y cyfan, sut brofiad fu eich amser yn y Ganolfan?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd fy amser yn WCPP yn hynod werthfawr a gwerth chweil. Rhoddodd gyfle unigryw i gael cipolwg uniongyrchol ar sut mae gwaith ymchwil academaidd yn cael ei ddefnyddio i lywio polis\u00efau a gwneud penderfyniadau yng Nghymru. Roeddwn i'n gallu gweithio'n annibynnol ar brosiect ymchwil sylweddol gan gael cefnogaeth ac arweiniad rhagorol. Cryfhaodd y profiad fy nealltwriaeth o'r berthynas rhwng ymchwil, tystiolaeth a llunio polis\u00efau, a rhoddodd brofiad ymarferol i mi y tu hwnt i'r hyn y gallwn fod wedi'i gael trwy fy PhD yn unig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">2. Beth ydych chi wedi gallu ei wneud\/cymryd rhan ynddo drwy eich interniaeth na fyddech chi wedi gallu ei wneud hebddo?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yr interniaeth yn caniat\u00e1u i mi gynnal prosiect ymchwil annibynnol yn archwilio sut mae mapiau a chartograffeg yn cael eu defnyddio i gyfleu tystiolaeth a chefnogi dulliau llunio polis\u00efau. Cynhaliais adolygiad llenyddiaeth, dadansoddais ddogfennau polisi, cynhaliais gyfweliadau \u00e2 gweithwyr proffesiynol ym maes polisi, a chynhyrchais adroddiad ymchwil ar gyfer cynulleidfa anacademaidd. Cefais gyfle hefyd i ymgysylltu'n uniongyrchol \u00e2 llunwyr polis\u00efau ac ymchwilwyr sy'n gweithio yn y sector polisi, gan gael cipolwg ar brosesau datblygu polisi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">3. Sut ydych chi'n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi eich astudiaethau PhD?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y lleoliad yn ategu fy PhD drwy ddatblygu fy sgiliau ymchwil, dadansoddi a chyfathrebu mewn amgylchedd gwaith go iawn. Gwnaeth wella fy nealltwriaeth o sut y gall ymchwil gael effaith ymarferol y tu hwnt i'r byd academaidd a rhoddodd brofiad o gasglu a dadansoddi data ansoddol. Mae'r prosiect hefyd wedi creu syniadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, gan gynnwys cysylltiadau posibl rhwng prosiect yr interniaeth a'm hymchwil PhD, yn enwedig o ran defnyddio mapiau o fewn polisi iaith. Mae'r profiad wedi fy helpu i feddwl yn fwy beirniadol am effaith ymchwil a chyfnewid gwybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">4. Sut ydych chi'n meddwl bod eich amser yn y Ganolfan wedi cefnogi'ch datblygiad proffesiynol ehangach?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cryfhaodd y lleoliad fy sgiliau proffesiynol yn sylweddol, gan gynnwys rheoli prosiectau, ymgysylltu \u00e2 rhanddeiliaid, cyfweld, dadansoddi ansoddol, ysgrifennu adroddiadau a chyfleu ymchwil i gynulleidfaoedd anacademaidd. Rhoddodd brofiad gwerthfawr i mi hefyd o weithio o fewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar bolisi a'm helpu i greu rhwydweithiau proffesiynol gydag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes polisi. Cynyddodd yr interniaeth fy hyder mewn rheoli prosiectau ymchwil annibynnol a chadarnhaodd fy niddordeb mewn dilyn gyrfa sy'n gysylltiedig ag ymchwil a llunio polis\u00efau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">5. Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth fyfyrwyr PhD eraill sydd \u00e2 diddordeb mewn interniaeth gyda\u2019r Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP)?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Byddwn yn annog myfyrwyr PhD yn gryf i wneud cais am interniaeth WCPP. Mae'n gyfle gwych i weld sut mae gwaith ymchwil yn cael ei gymhwyso'n ymarferol ac i gael profiad y tu allan i'r amgylchedd academaidd. Mae'r lleoliad yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, creu rhwydweithiau proffesiynol a gweithio ar ymchwil sydd \u00e2 pherthnasedd clir i'r byd go iawn. Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan WCPP yn rhagorol, a gall y profiad helpu i ehangu cyfleoedd gyrfaol wrth hefyd gyfoethogi eich gwaith ymchwil doethurol. Mae t\u00eem WCPP yn hynod gyfeillgar ac yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd, fel gemau bwrdd amser cinio, sy'n helpu i greu amgylchedd gwaith croesawgar a chefnogol. Ar y cyfan, roeddwn i'n teimlo bod fy amser yn WCPP yn werthfawr o safbwynt proffesiynol ac yn bleserus o safbwynt personol!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Dave Jenkins yn egluro gwerth ei interniaeth PhD yn WCPP.  Roedd yr interniaeth yn archwilio sut mae mapiau yn cael eu defnyddio i gefnogi dulliau llunio polis\u00efau.<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":22059,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[131],"class_list":["post-22035","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-interniaid-phd"],"meta_box":{"project":22027,"lead_author":"","authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22035","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=22035"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22035\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":22076,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/22035\/revisions\/22076"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/22059"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=22035"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=22035"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=22035"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=22035"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}