{"id":21990,"date":"2026-11-06T09:13:38","date_gmt":"2026-11-06T09:13:38","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=21990"},"modified":"2026-11-06T09:19:18","modified_gmt":"2026-11-06T09:19:18","slug":"mesur-yr-hyn-syn-bwysig-asesu-dylanwad-brocera-gwybodaeth-drwy-ymchwil-mewnosodedig","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/mesur-yr-hyn-syn-bwysig-asesu-dylanwad-brocera-gwybodaeth-drwy-ymchwil-mewnosodedig\/","title":{"rendered":"Mesur yr hyn sy\u2019n bwysig: asesu dylanwad brocera gwybodaeth drwy ymchwil mewnosodedig\u00a0"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwilydd dylanwad mewnosodedig yn gweithio ar draws prosiectau byw i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cynllunio a chofnodi dylanwad i ddeall yn well pam y gall brocera gwybodaeth wella\u2019r broses o lunio polis\u00efau ar sail tystiolaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn Sefydliad Brocera Gwybodaeth sy\u2019n rhoi tystiolaeth annibynnol gadarn i weinidogion Llywodraeth Cymru ac i wasanaethau cyhoeddus er mwyn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. Mae wedi ymrwymo i sicrhau\u2019r dylanwad mwyaf posibl drwy ddeall sut a pham y gall brocera gwybodaeth alluogi\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau i gael gafael ar dystiolaeth yn well a\u2019i defnyddio.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y blynyddoedd diwethaf bu cynnydd yn nifer y Sefydliadau Brocera Gwybodaeth, a law yn llaw \u00e2 hynny bu nifer o astudiaethau ar <a href=\"https:\/\/blogs.lse.ac.uk\/impactofsocialsciences\/2023\/08\/15\/knowledge-brokering-organisations-what-are-they-and-what-do-they-do\/\">eu r\u00f4l a\u2019u gweithgareddau amrywiol<\/a>, ond nid ydym yn gwybod rhyw lawer am eu <a href=\"https:\/\/academic.oup.com\/rev\/article\/doi\/10.1093\/reseval\/rvaf022\/8152427\">dylanwad<\/a>. Mae ein hymchwil ni yn ceisio deall y berthynas rhwng <a href=\"https:\/\/evidenceandpolicy.home.blog\/2023\/11\/29\/how-to-do-knowledge-mobilisation-what-we-know-and-what-we-dont\/\">arferion brocera gwybodaeth<\/a> ein Canolfan a defnyddio tystiolaeth mewn penderfyniadau ar bolisi ac ymarfer.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Yr Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi datblygu model Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig. Dyma ymchwilydd sy\u2019n gweithio ar draws prosiectau byw i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cynllunio a chofnodi dylanwad. Gwnaethom ddefnyddio enghreifftiau a oedd eisoes yn bodoli o ymchwil \u2018mewnol\u2019 a gynhaliwyd gan sefydliadau brocera gwybodaeth ochr yn ochr \u00e2 gwerthusiadau a gynhaliwyd gan ymchwilwyr \u2018mewnosodedig, i ddylunio ac i fireinio nifer o adnoddau a dulliau cofnodi dylanwad a datblygu dull o\u2019u defnyddio\u2019n systematig ar draws ein gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn defnyddio dull sy\u2019n seiliedig ar wybodaeth gan realyddion er mwyn gwerthuso dylanwad ein harferion brocera gwybodaeth. Mae hyn yn canolbwyntio ar fynegi ac adnabod y mecanweithiau sylfaenol sy\u2019n arwain at ddylanwad a\u2019r ffactorau cyd-destunol sy\u2019n galluogi hyn. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu gweithio ochr yn ochr \u00e2 chydweithwyr yn y Ganolfan ac eraill (e.e. academyddion, Llywodraeth Cymru, neu swyddogion yn y sector cyhoeddus) a defnyddio cyfres o \u2018offer\u2019 drwy gydol prosiectau \u2500 gan gynnwys arsylwi strwythuredig, dadansoddiad rhanddeiliaid, mapio dylanwad, logiau myfyriol, cyfweliadau sy\u2019n seiliedig ar wybodaeth gan realyddion a sesiynau myfyrio \u2500 i gofnodi\u2019r dewisiadau ymarfer sy\u2019n cael eu gwneud i sicrhau dylanwad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut mae Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn gweithio?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig wedi bod ar waith ers dros flwyddyn. Fe wnaethom gofnodi ein profiadau mewn <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1093\/reseval\/rvag022\">papur<\/a> sy\u2019n s\u00f4n am y tri phrif fyfyrdod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Yr angen am fodelau gwell o\u2019r broses brocera gwybodaeth<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn gyntaf, mae\u2019n bwysig deall defnyddioldeb modelau sydd eisoes yn bodoli o\u2019r broses brocera gwybodaeth. Fe wnaethom ddylunio\u2019r dull Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig i weithredu o fewn model \u2018llinol\u2019 sy\u2019n cael ei arwain gan y galw o\u2019r broses brocera gwybodaeth, lle mae llunwyr polis\u00efau, neu ddefnyddwyr tystiolaeth eraill, yn comisiynu a\/neu\u2019n cydweithio \u00e2\u2019r Ganolfan i gynhyrchu neu i gyfuno tystiolaeth i fynd i\u2019r afael ag angen tystiolaeth polisi penodol. Mae\u2019r model hwn yn cynnig portread syml o sut mae brocera gwybodaeth yn gweithio mewn theori y gall pob gweithredwr ei ddeall, ond nid yw\u2019n rhoi cyfrif digonol am y ffordd fl\u00ear y mae brocera gwybodaeth yn digwydd yn ymarferol. Er enghraifft, yn aml nid oes gan lunwyr polis\u00efau anghenion tystiolaeth wedi\u2019u mynegi\u2019n glir, felly mae cwestiynau ymchwil yn aml yn cael eu \u2018cyd-benderfynu\u2019 rhwng y brocer gwybodaeth a\u2019r defnyddiwr tystiolaeth sy\u2019n cynnwys nifer o gamau yn \u00f4l ac ymlaen yn y broses.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae angen gwell damcaniaethau a fframweithiau sy\u2019n adlewyrchu natur gymhleth ac ailadroddol brocera gwybodaeth mewn polisi cyhoeddus. Yn hollbwysig, o ran asesu dylanwad, mae\u2019r modelau presennol yn tueddu i ganolbwyntio ar effeithiau tymor byr, fel bodlonrwydd cyfranogwyr, yn hytrach na dylanwadau ehangach yn y byd go iawn ar brosesau polisi, defnyddwyr tystiolaeth a chanlyniadau. Mae\u2019r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn cyfrannu at well damcaniaethau a fframweithiau brocera gwybodaeth sy\u2019n taro cydbwysedd rhwng osgoi gorsymleiddio sy\u2019n anwybyddu cymhlethdod y byd go iawn, ar yr un pryd \u00e2 chadw draw o fodelau anhyblyg sy\u2019n rhy gymhleth y mae\u2019n anodd eu gweithredu ar draws gwahanol gyd-destunau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Meddwl yn \u2018fecanistig\u2019<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hail fyfyrdod yn ymwneud \u00e2 heriau cynllunio ar gyfer brocera gwybodaeth mewn prosiectau ac asesu dylanwad hynny. Mae hi\u2019n aml yn anodd mesur dylanwad, ac mae hi\u2019n anodd priodoli polisi hirdymor neu ganlyniadau cymdeithasol yn uniongyrchol i\u2019r gweithgareddau hyn. Yn lle hynny, mae dylanwad yn aml yn ymddangos drwy ganlyniadau \u2018canolraddol\u2019, fel gwell gallu i ddefnyddio tystiolaeth, maint y rhwydweithio rhwng cynhyrchwyr tystiolaeth a defnyddwyr, a newidiadau mewn dealltwriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hi wedi bod yn anodd defnyddio dulliau traddodiadol o gynllunio dylanwad, gan eu bod yn tueddu i ganolbwyntio ar ganlyniadau clir sy\u2019n cael eu gyrru gan wasanaeth. Mewn ymateb, datblygwyd dull mwy hyblyg, gan ganolbwyntio ar pam mae arferion penodol \u2500 e.e. cyfuno tystiolaeth draddodiadol, mathau amgen o gasglu a chyfathrebu tystiolaeth, rhyngweithio wedi\u2019i hwyluso \u00e2 thystiolaeth drwy gyfarfodydd bwrdd crwn, gweithdai a digwyddiadau eraill, ac ati \u2500 yn cael eu dewis, sut maen nhw\u2019n cael eu rhoi ar waith, a\u2019r cyd-destun lle maen nhw\u2019n gweithredu. Roedd hyn yn caniat\u00e1u myfyrio mwy realistig ar ddylanwad wrth i brosiectau esblygu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o\u2019r prif fewnwelediadau o r\u00f4l yr Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yw gwerth edrych ar arferion brocera gwybodaeth fel mecanweithiau sy\u2019n helpu i greu dylanwad. Mae\u2019r safbwynt hwn yn hybu symud oddi wrth gynllunio anhyblyg sy\u2019n seiliedig ar ganlyniadau tuag at ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae newid yn digwydd yn ymarferol sy\u2019n cefnogi gwerthuso mwy ystyrlon a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>\u2018Mewnosod\u2019 fel ffordd o werthuso<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y trydydd myfyrdod yw bod gwerthuso dylanwad sefydliad brocera gwybodaeth o sefyllfa fewnosodedig yn cyflwyno rhai heriau. Gan eistedd rhwng r\u00f4l \u201cfewnol\u201d a r\u00f4l \u201cfewnosodedig\u201d, rhaid i\u2019r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig gydbwyso bod yn ddigon agos i ddeall ac i gefnogi prosiectau, gan barhau i fod yn ddigon annibynnol i roi gwybodaeth feirniadol. Rydym yn disgrifio\u2019r Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig fel gwerthuswr cefnogol. Yn hytrach na rhoi awgrymiadau ymarferol am y ffordd orau o sicrhau dylanwad, mae\u2019n galluogi broceriaid i fynegi ac i fyfyrio ar eu gwybodaeth ddealledig a\u2019u tybiaethau am sut bydd eu harferion yn arwain at ddylanwad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhai heriau methodolegol hefyd. Mae timau prosiect yn aml yn gweithredu fel porthorion i gyfranogwyr, sy\u2019n gallu gogwyddo gwerthusiad at safbwyntiau mwy cadarnhaol. Ymdrechwyd i ehangu cyfranogiad a lleihau\u2019r dylanwad hwn, er bod rhai lleisiau\u2019n dal yn anoddach eu casglu. Roedd hybu myfyrio agored ar heriau a methiannau hefyd yn cymryd amser, ond roedd hyn wedi gwella wrth ddatblygu ymddiriedaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae tensiwn terfynol rhwng cael ymchwilydd ymroddedig sy\u2019n canolbwyntio ar werthuso dylanwad a meithrin cyfrifoldeb sefydliadol ar y cyd dros ddylanwad. Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn, cafodd adnoddau a dulliau eu dylunio i fod yn hygyrch a\u2019u defnyddio ar y cyd, gan helpu i fewnosod meddwl am ddylanwad mewn arferion bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ble nesaf?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwaith yr Ymchwilydd Dylanwad Mewnosodedig yn parhau, ac mae\u2019r ymchwilydd bellach yn gweithio ar brosiectau newydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Rydym wedi defnyddio\u2019r hyn a ddysgwyd o gam cyntaf yr ymchwil i\u2019r prosiectau newydd hyn ac wedi mireinio ein dull gweithredu. Yn y pen draw, rydym yn bwriadu \u2018prif ffrydio\u2019 defnyddio offer asesu dylanwad o fewn yr ystod eang o brosiectau brocera gwybodaeth y mae\u2019r Ganolfan yn eu darparu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r papur y seiliwyd y blog hwn arno ar gael i\u2019w ddarllen drwy fynediad agored yma:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Smith, F., Durrant, H., a Downe, J. (2026) Evaluating the impact of knowledge brokering practices: Learning from embedded impact research at the Wales Centre for Public Policy, <em>Research Evaluation<\/em>, 35 <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.1093\/reseval\/rvag022\">https:\/\/doi.org\/10.1093\/reseval\/rvag022<\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ein hymchwilydd dylanwad mewnosodedig yn gweithio ar draws prosiectau byw i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cynllunio a chofnodi dylanwad i ddeall yn well pam y gall brocera gwybodaeth wella\u2019r broses o lunio polis\u00efau ar sail tystiolaeth. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn Sefydliad Brocera Gwybodaeth sy\u2019n rhoi tystiolaeth annibynnol gadarn i weinidogion Llywodraeth Cymru [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":21997,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[132],"class_list":["post-21990","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-scaled.jpg","filesize":485057,"sizes":{"medium":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":66775,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-744x496.jpg"},"large":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":143770,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60565,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":70230,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":213097,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":338709,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-2048x1365.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-390x260.jpg","width":390,"height":260,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":23113,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-390x260.jpg"},"banner":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-1920x640.jpg","width":1920,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":175292,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-1920x640.jpg"},"square_thumb":{"file":"Amy-Alexis-spark-resize-1-800x800.jpg","width":800,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":87103,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-800x800.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"1694703234","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[],"alt":""},"original_image":"Amy-Alexis-spark-resize-1.jpg","ID":"21996","name":"Amy-Alexis-spark-resize-1-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Amy-Alexis-spark-resize-1-scaled.jpg","title":"Amy Alexis spark resize","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21990","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21990"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21990\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21991,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21990\/revisions\/21991"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21997"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21990"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21990"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21990"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21990"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}