{"id":21903,"date":"2026-10-07T09:33:30","date_gmt":"2026-10-07T09:33:30","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=21903"},"modified":"2026-10-07T09:33:30","modified_gmt":"2026-10-07T09:33:30","slug":"maer-rhyfel-yn-iran-yn-gwthio-biliau-i-fyny-eto-sut-gellir-amddiffyn-aelwydydd-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/maer-rhyfel-yn-iran-yn-gwthio-biliau-i-fyny-eto-sut-gellir-amddiffyn-aelwydydd-cymru\/","title":{"rendered":"Mae'r rhyfel yn Iran yn gwthio biliau i fyny eto \u2013 sut gellir amddiffyn aelwydydd Cymru?"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hon oedd y flwyddyn yr oedd disgwyl y byddai safonau byw o'r diwedd yn codi i bobl ar incwm is yng Nghymru. Yn hytrach, mae'r rhyfel yn Iran a chau Culfor Hormuz wedi codi olew crai Brent o tua $70 y gasgen ddiwedd mis Chwefror i uchafbwynt uwchlaw $115 ym mis Ebrill, gyda phrisiau nwy cyfanwerthu yn dyblu o'u lefel cyn y rhyfel. Mae biliau\u2019n dilyn, fel maen nhw bob amser yn ei wneud: mae prisiau petrol ledled y Deyrnas Unedig wedi codi 25 y cant yn ystod y chwe mis diwethaf, ac aeth y cap pris ynni i fyny 13 y cant ym mis Gorffennaf, tra bod Ofgem wedi cadarnhau cynnydd arall o 4 y cant o fis Hydref. Disgwylir codiadau difrifol pellach yn y flwyddyn newydd. Cyrhaeddodd chwyddiant 2.9 y cant ym mis Gorffennaf ac mae'n debygol y bydd yn codi uwchlaw 3 y cant yn y misoedd nesaf, sy'n cynyddu'r pwysau ar lunwyr polisi i weithredu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn digwydd ychydig ar \u00f4l y cyfnod chwyddiant uchaf ers degawdau. Mae prisiau ledled y Deyrnas Unedig eisoes chwarter yn uwch nag yr oeddent cyn i Rwsia ymosod ar Wcr\u00e1in, gyda bwyd i fyny bron i 40 y cant ac ynni i fyny mwy na 60 y cant, tra bod cyflogau wedi codi dim ond 29 y cant dros yr un cyfnod. Gan fod teuluoedd tlotach yn gwario cymaint mwy o'u cyllidebau ar yr hanfodion hynny, mae chwyddiant i'r tlotaf wedi rhedeg 0.7 pwynt canran uwchlaw'r cyfoethocaf rhwng 2019 a 2025.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1200\" height=\"703\" src=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Image-1-Welsh-Iran-war-blog-4-1200x703.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-21925\" srcset=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Image-1-Welsh-Iran-war-blog-4-1200x703.png 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Image-1-Welsh-Iran-war-blog-4-744x436.png 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Image-1-Welsh-Iran-war-blog-4-768x450.png 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Image-1-Welsh-Iran-war-blog-4-395x231.png 395w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Image-1-Welsh-Iran-war-blog-4.png 1362w\" sizes=\"auto, (max-width: 1200px) 100vw, 1200px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Addasiad a chyfieithiad i'r Gymraeg o ddeunydd gwreiddiol wedi\u2019i gynhyrchu gan y Resolution Foundation.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br>Tarodd yr argyfwng ynni diwethaf Gymru yn arbennig o galed hefyd. Mae'r siart isod yn dangos gostyngiadau yn y defnydd canolrifol o nwy a thrydan mewn cartrefi yn \u00f4l awdurdod lleol rhwng 2021 a 2022, wrth i bobl ymateb i brisiau uwch drwy gyfyngu ar eu defnydd o ynni. Gostyngodd aelwydydd yng Nghymru eu defnydd o drydan 10 y cant a'u defnydd o nwy 16 y cant, gostyngiad mwy yn y defnydd o ynni nag unrhyw ranbarth yn Lloegr. Mewn cyferbyniad, gwelodd Llundain ostyngiadau o 7 y cant a 13 y cant yn unig ar gyfer trydan a nwy yn y drefn honno. Canfu ein dadansoddiad hefyd mai incwm oedd y rhagfynegydd mwyaf o ostyngiadau yn y defnydd o nwy: bu i ardal yn y 10 canradd o incwm dorri nwy 1.8 pwynt canran yn fwy nag un yn y 90 canradd.\u00a0 Os bydd y patrymau hyn yn ailadrodd mewn ymateb i gynnydd arall mewn prisiau, aelwydydd Cymru fydd yn torri\u2019n \u00f4l fwyaf, sy\u2019n golygu cartrefi oerach a thywyllach y gaeaf hwn, yn enwedig i\u2019r tlotaf.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1365\" height=\"832\" src=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Picture2-blog-4-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-21928\" srcset=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Picture2-blog-4-1.png 1365w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Picture2-blog-4-1-744x453.png 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Picture2-blog-4-1-1200x731.png 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Picture2-blog-4-1-768x468.png 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Picture2-blog-4-1-395x241.png 395w\" sizes=\"auto, (max-width: 1365px) 100vw, 1365px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Addasiad a chyfieithiad i'r Gymraeg o ddeunydd gwreiddiol wedi\u2019i gynhyrchu gan y Resolution Foundation.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><br>Mae rhyfel Iran hefyd yn ychwanegu at y pwysau ar Gyllideb y Deyrnas Unedig. Mae\u2019n ymddangos y bydd gwariant amddiffyn yn codi\u2019n sylweddol dros y degawd nesaf, tra bod arenillion uwch ar giltiau yn gwneud benthyciadau a wneir gan y llywodraeth yn ddrutach. Mae hynny'n ei gwneud hi'n bwysicach fyth bod unrhyw ymateb i filiau ynni cynyddol yn fforddiadwy ac wedi'i dargedu'n dda.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Lywodraeth Cymru ei dulliau ei hun i gefnogi aelwydydd gyda chostau byw ehangach. Mae ei Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor cymharol hael yn golygu nad yw teulu sy'n derbyn y gefnogaeth fwyaf yn talu dim, o'i gymharu \u00e2 chyfartaledd o \u00a3248 yn Lloegr. Gall gweithredu ar brisiau bysiau hefyd fod o fudd anghymesur i bobl ar incwm is, er bod faint o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael a\u2019i ansawdd yn bwysig hefyd. Ond ni all y mesurau datganoledig hyn ddisodli ymateb ledled y Deyrnas Unedig i sioc ynni byd-eang. Felly, yr her ganolog yw llunio cefnogaeth a all gyrraedd aelwydydd Cymru sydd ei angen heb ailadrodd cost cefnogaeth gyffredinol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bedair blynedd ar \u00f4l y sioc ddiwethaf, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i fod yn brin o fecanwaith ar gyfer cael cefnogaeth arian parod wedi'i dargedu i aelwydydd y Deyrnas Unedig ac eithrio drwy'r system fudd-daliadau. Roedd hynny'n broblem fawr yn 2022, pan wariodd gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig \u00a344 biliwn ar gefnogaeth gyffredinol a derbyniodd hanner cyfoethocach y boblogaeth fwy na hanner ohono. Mae cyfeirio cefnogaeth at bobl sydd eisoes ar fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd, fel y mae'r Gostyngiad Cartref Cynnes yn ei wneud yng Nghymru a Lloegr, yn llawer rhatach. Ond dim ond chwarter yr aelwydydd y mae'n eu cyrraedd, ac ni fyddai'r rhan fwyaf o'r hanner tlotaf yn cael dim o hyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dull gweithredu gwell fyddai rhoi disgownt ar gyfraddau uned nwy a thrydan, a delir yn awtomatig i dderbynwyr budd-daliadau ac a ymestynnir i aelwydydd lle mae'r incwm unigol uchaf o dan \u00a324,000. Byddai hynny'n cwmpasu tua 40 y cant o aelwydydd ym Mhrydain Fawr a thri chwarter o'r rhai yn y pedwar degradd tlotaf, a byddai \u00a32 biliwn yn prynu \u00a3175 fesul aelwyd, neu \u00a3220 i'r tlotaf pe bai'n cael ei haenu. Yn ddelfrydol, byddai'r disgownt yn cael ei gymhwyso'n awtomatig, gan ddefnyddio'r cofnodion treth sydd gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi eisoes. Bydd y system honno\u2019n cymryd mwy o amser i\u2019w hadeiladu nag y mae\u2019r gaeaf hwn yn ei ganiat\u00e1u, felly am y tro byddai\u2019n rhaid i aelwydydd ddweud eu bod yn gymwys a chael eu gwirio wedyn. Y naill ffordd neu\u2019r llall, mae angen ei lunio nawr, cyn y cap ar gyfer Ch1 2027.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid yw siociau ynni byd-eang yn diflannu, ac nid yw'r pwysau ar gyllidebau aelwydydd chwaith. Gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau ei hun i leddfu rhywfaint o'r pwysau hwnnw, ond ni all adeiladu'r cynllun hwn ei hun. Dylai bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi\u2019r mecanwaith angenrheidiol ar waith cyn y sioc nesaf, gan weithio gyda San Steffan i sicrhau y gall cefnogaeth wedi\u2019i thargedu gyrraedd aelwydydd Cymru yn gyflym ac yn effeithlon pan fydd prisiau\u2019n codi.<a><\/a><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cillian Sheehan o Resolution Foundation yn archwilio sut y gallai costau ynni cynyddol effeithio ar aelwydydd incwm is yng Nghymru a beth all llywodraethau ei wneud i amddiffyn safonau byw.<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":21916,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[140,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21903","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-economi","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":21388,"lead_author":21935,"authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21903","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21903"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21903\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21929,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21903\/revisions\/21929"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21916"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21903"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21903"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21903"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21903"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}