{"id":21664,"date":"2026-10-09T11:31:46","date_gmt":"2026-10-09T11:31:46","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=21664"},"modified":"2026-10-09T11:31:46","modified_gmt":"2026-10-09T11:31:46","slug":"sut-gall-y-rhai-syn-gwneud-penderfyniadau-helpu-cymunedau-i-wrthsefyll-rhaniadau-12-argymhelliad-polisi-clir","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-gall-y-rhai-syn-gwneud-penderfyniadau-helpu-cymunedau-i-wrthsefyll-rhaniadau-12-argymhelliad-polisi-clir\/","title":{"rendered":"Sut gall y rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau helpu cymunedau i wrthsefyll rhaniadau: 12 argymhelliad polisi clir"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwleidyddion a llywodraethau yn awyddus iawn i ganfod ymyriadau a fydd yn eu helpu i ddygymod pan fydd digwyddiadau dadleuol neu drasiedi yn cael sylw yn y cyfryngau ac yn sbarduno tensiynau cymunedol, gan gynnwys protestiadau sy\u2019n seiliedig ar gasineb. Mae\u2019r gwersi clir a gyflwynir yma yn deillio o bum mlynedd o waith ymchwilio i <a href=\"https:\/\/wiserd.ac.uk\/cy\/project\/poblyddiaeth-gwrthdaro-pholareiddio-gwleidyddol\/\">bolareiddio a\u2019i effaith ar gymunedau<\/a>. Gwaith a gynhaliwyd fel rhan o ddau brosiect ymchwil gan Amy Sanders a\u2019i chydweithwyr yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). Penllanw\u2019r gwaith hwn oedd cyhoeddi <em>Pecyn Cymorth i Ymarferwyr ar Gymunedau Sy\u2019n Gwrthsefyll Rhaniadau<\/em>. Cafodd y gwaith hwn ei ariannu gan Gronfa Sbarduno\u2019r Academi Brydeinig a\u2019i gyd-gynhyrchu \u00e2 Sefydliad Jo Cox, Partneriaeth Mwy yn Gyffredin Caerdydd, T\u00eem Cydlyniant Cymunedol Caerdydd, 106 o ymarferwyr cymunedol a 34 a mwy o sefydliadau cymunedol.&nbsp; Bydd adnoddau ar-lein sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r pecyn cymorth hwn ar gael i\u2019r cyhoedd cyn bo hir, ond yn y cyfamser dyma wybodaeth allweddol i lunwyr polis\u00efau:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>1. Cofiwch y ddau ddimensiwn:<\/strong> Dylai strategaeth cydlyniant cymunedol ystyried sut i hyrwyddo undod fel mesur ataliol A sut i gefnogi cymunedau pan fyddant yn wynebu digwyddiadau dadleuol.&nbsp; Mae maes theori a pholisi yn aml yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r ddau fater hwn ar wah\u00e2n, ond mae ein canfyddiadau ni yn dangos bod ganddynt fwy yn gyffredin na\u2019r disgwyl.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>2.<\/strong>&nbsp;<strong>Gwrthsefwch y dirywiad:<\/strong> Mae cymunedau\u2019n cael eu llethu gan y cwymp ymddangosiadol tuag at fygythiad, argyfwng a rhaniadau. Dylid anelu\u2019n strategol at fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn er mwyn galluogi cymunedau i deimlo\u2019n obeithiol ac yn rhan o\u2019r datrysiad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>3.<\/strong>&nbsp;<strong>Byddwch yn barod i ymateb i ddigwyddiadau dadleuol a chefnogi\u2019r effaith sbardun:<\/strong> Mae ein hymchwil yn dangos bod digwyddiadau dadleuol yn digwydd yn aml mewn cymunedau.Ond, peidiwch \u00e2 chynhyrfu. Pan fydd y digwyddiadau dadleuol hyn yn digwydd, gall cymunedau weithredu ac ymateb. Gall hyn fod yn sbardun ar gyfer gweithgareddau cymunedol yn y dyfodol a fydd yn hyrwyddo undod. Dylid rhoi strategaeth ar waith i roi cymorth i gymunedau a chyfeirio adnoddau presennol tuag at yr effaith sbardun, gan greu momentwm cadarnhaol. Dylid darparu mynediad at gronfa gychwynnol gyflym er mwyn meithrin ymgysylltiad grwpiau cymunedol a galluogi\u2019r effaith sbardun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>4.&nbsp;Cofiwch nad yw cydlynu adnoddau mor anodd \u00e2'r disgwyl:<\/strong> Nid yw\u2019n gymhleth ac mae\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau\u2019n bodoli\u2019n barod. Gellir defnyddio gweithgareddau cymunedol traddodiadol a dulliau datblygu cymunedol i feithrin ymdeimlad o undod. Defnyddiwch adnoddau sydd eisoes ar gael drwy grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol lleol. Mae angen symiau cymharol fach o arian i gyfeirio gweithgareddau tuag at hyrwyddo undod. I wneud y gwaith hwn, mae\u2019n hollbwysig bod llunwyr polis\u00efau yn diogelu adnoddau presennol ar gyfer y sector cymunedol a\u2019r sector gwirfoddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>5.&nbsp;Gwreiddiwch y rhinweddau sy\u2019n hyrwyddo undod mewn ymyriadau cymunedol:<\/strong> Mae adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) o dystiolaeth wedi dangos bod angen atgyfnerthu\u2019r cysylltiad rhwng prosiectau gwirfoddoli cymunedol a chydlyniant. Mae rhinweddau sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth ac sy\u2019n hyrwyddo undod drwy weithgarwch cymunedol yn adnabyddus ac yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Amlygu pobl i amrywiaeth a dathlu amrywiaeth; ac<\/li>\n\n\n\n<li>Annog pobl i weithio gyda\u2019i gilydd i gyflawni nod cyffredin.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y rhinweddau ychwanegol a nodwyd gan aelodau\u2019r gymuned ar gyfer y pecyn cymorth yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Prosiectau rhannu bwyd;<\/li>\n\n\n\n<li>Prosiectau traws-genhedlaeth; a\u00a0<\/li>\n\n\n\n<li>Phrosiectau sy\u2019n groesawgar ac yn gynhwysol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>6. Dilynwch y camau clir hyn i gynyddu\u2019r effaith:<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein hymchwil yn dangos:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gellir defnyddio hunaniaeth leol i greu ymdeimlad o undod;<\/li>\n\n\n\n<li>Gellir cynyddu effaith hyn os bydd nifer o sefydliadau\u2019n gweithio gyda\u2019i gilydd mewn partneriaeth ac os bydd y partneriaethau hynny wedyn yn rhwydweithio gyda\u2019i gilydd ar draws ardaloedd daearyddol; a<\/li>\n\n\n\n<li>Gall strwythurau rhwydwaith droi\u2019n aml-haenog gan ffurfio rhwydweithiau o rwydweithiau i greu strwythur cydweithredol cymhleth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy hynny, gellir cydnabod gwerth sefydlu rhwydweithiau o fudiadau cymunedol ar lawr gwlad sy\u2019n cysylltu ar draws ardaloedd daearyddol. Dylid annog twf y rhwydwaith myseliwm hwn a darparu adnoddau ar ei gyfer mewn strategaethau cydlyniant cenedlaethol. Ategir hyn gan adolygiad tystiolaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a oedd yn pwysleisio\u2019r angen i fuddsoddi mewn seilweithiau cymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>7.<\/strong>&nbsp; <strong>Rhaid i Lywodraethau ddeall y rhan maen nhw\u2019n ei chwarae:<\/strong> Rhaid i\u2019r wladwriaeth daro cydbwysedd gofalus drwy gefnogi rhwydweithiau yn ogystal \u00e2 rhoi cyfle iddynt dyfu\u2019n organig drwy\u2019r sector cymunedol a gwirfoddol. Un astudiaeth achos sy\u2019n dangos sut y gellir cyflawni hyn yw\u2019r timau cydlyniant cymunedol yng Nghymru sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Rhaglen Cydlyniant Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>8.<\/strong>&nbsp; <strong>Dylech wybod sut i ysbrydoli ymdeimlad o berthyn a gobaith:<\/strong> Dylid cydnabod y r\u00f4l y mae rhwydweithiau yn gallu ei chwarae wrth ysbrydoli gobaith a gwrthsefyll y naratif o fygythiad ac anobaith, fel y mae rhwydwaith \u2018Mwy yn Gyffredin\u2019 Sefydliad Jo Cox yn ei ddangos.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>9. Atgyfnerthwch y rhwydweithiau:<\/strong> Er bod tystiolaeth glir yn dangos sut i ffurfio\u2019r rhwydweithiau hyn, bu i\u2019n hymchwil dynnu sylw at faes y mae angen ei ddatblygu i sicrhau bod aelodau unigol o\u2019r gymuned yn deall beth yw eu rhan nhw yn y gwaith hwn.Dylid treialu dulliau newydd sy\u2019n ymgysylltu ag aelodau unigol o\u2019r gymuned sydd eisoes yn ymwneud \u00e2 mudiadau cymunedol er mwyn adlewyrchu ar y rhan y gallent ei chwarae yn hyrwyddo undod a goresgyn rhaniadau, a thrwy hynny, yn meithrin ymdeimlad o berthyn i fudiad (gweler 12).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>10.<\/strong>&nbsp; <strong>Paratowch gymunedau:<\/strong> Pan fydd cymuned yn wynebu digwyddiad dadleuol neu drychineb a all arwain at fwy o densiynau, bydd y rhwydweithiau cymunedol ar lawr gwlad a ddisgrifir uchod (gweler 6) yn galluogi\u2019r gymuned i ddod o hyd i gymorth. Mae cyngor clir ar gael i gymunedau i\u2019w paratoi ar gyfer y digwyddiadau hyn. Rhannwch y cyngor hwn drwy\u2019r rhwydweithiau hyn cyn i argyfwng ddigwydd, er mwyn i sefydliadau cymunedol wybod ymlaen llaw sut i ymateb a ble i gael gafael ar gymorth. Dylai llunwyr polis\u00efau feithrin y disgwyliad hwn yn y cymorth y maent yn ei gynnig i rwydweithiau drwy sefydliadau seilwaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>11.<\/strong>&nbsp; <strong>Defnyddiwch gymorth cyfryngau sydd eisoes yn bodoli:<\/strong> Mae angen cymorth cyfathrebu ar fudiadau gwirfoddol a chymunedol pan fyddant yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau. Mae ein hymchwil yn dangos nad oes gan lawer o sefydliadau cymunedol yr arbenigedd cyfathrebu sydd ei angen i ymateb i\u2019r cyfryngau ac nid oes gan yr un sefydliad yr arbenigedd cyfryngau cymdeithasol sydd ei angen i ddeall sut i beidio \u00e2 gwaethygu\u2019r sefyllfa. Mae gan gyrff seilwaith y trydydd sector ac awdurdodau lleol dimau cyfathrebu. Dylid datblygu mecanweithiau i alluogi sefydliadau i gael gafael ar gymorth cyfathrebu o\u2019r ffynonellau hyn pan fyddant yn wynebu argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>12.&nbsp; Cr\u00ebwch seilweithiau cyfathrebu cymunedol:<\/strong> Mae angen i sefydliadau wybod am y gefnogaeth hon cyn i argyfwng ddigwydd. Dylai cyrff seilwaith trydydd sector a thimau cyfathrebu awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am gysylltu \u00e2\u2019r sefydliadau hyn ac adeiladu ar gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli. Ar ben hynny, mae gweithredwyr polisi eisiau gwybod sut i fynd i\u2019r afael \u00e2 chamwybodaeth a thwyllwybodaeth ac mae diffyg tystiolaeth ynghylch sut y gellir mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn. Gellir datblygu sianeli cyfathrebu cyffredin a\u2019u defnyddio i ledaenu gwrth-negeseuon pan fydd camwybodaeth niweidiol a thwyllwybodaeth yn cael eu rhannu mewn amser real.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r ymchwil yn manylu ar ymyriadau cydlyniant presennol y gellir eu gweithredu ar lefel strwythurol ac mae\u2019n cyfeirio at ragor o ymyriadau i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bylchau. Canfu adolygiad tystiolaeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru bod angen rhagor o ddealltwriaeth o ymyriadau ar lefel strwythurol ac ar lefel y boblogaeth, yn enwedig o ystyried bod y dystiolaeth sy\u2019n ymwneud ag ymyriadau cydlyniant presennol yn gyfyngedig i lefel y gr\u0175p, lefel rhyngbersonol neu lefel unigol. Nid diben ein hymchwil oedd archwilio\u2019r effeithiolrwydd, ac felly rydym ni\u2019n credu mai nawr yw\u2019r cyfle i gasglu data ar yr ymyriadau hyn. Gallai ddarparu atebion ystyrlon i broblem gymdeithasol sy\u2019n ymwneud \u00e2 pholisi Cymru ac sy\u2019n bwysig ar raddfa fyd-eang.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Ariannwyd yr ymchwil WISERD hwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Chronfa Sbarduno Rhwydwaith Ymchwilwyr Newydd yr Academi Brydeinig. Roedd y t\u00eem ymchwil yn cynnwys Dr Amy Sanders, Yr Athro Mike Woods, Dr Rhys Dafydd Jones a Dr Flossie Caerwynt. Mae nifer o erthyglau cyfnodolion yn aros i gael eu cyhoeddi.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Sut gall y rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau helpu cymunedau i wrthsefyll rhaniadau?<br \/>\nDr Amy Sanders o Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru sy\u2019n argymell 12 argymhelliad polisi clir ar gyfer pan fydd argyfwng yn digwydd.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":21661,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21664","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"project":20813,"lead_author":21639,"authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21664","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21664"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21664\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21667,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21664\/revisions\/21667"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21661"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21664"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21664"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21664"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21664"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}