{"id":21629,"date":"2026-10-09T11:35:11","date_gmt":"2026-10-09T11:35:11","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=21629"},"modified":"2026-10-09T11:35:11","modified_gmt":"2026-10-09T11:35:11","slug":"sgyrsiau-a-chysylltiadau-sut-mae-llanelli-yn-mynd-ati-i-ddatblygu-cydlyniant-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sgyrsiau-a-chysylltiadau-sut-mae-llanelli-yn-mynd-ati-i-ddatblygu-cydlyniant-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Sgyrsiau a Chysylltiadau: sut mae Llanelli yn mynd ati i ddatblygu cydlyniant cymdeithasol"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth sydd ei angen i gadw cymuned gyda\u2019i gilydd mewn cyfnod pan fo rhaniadau, drwgdybiaeth ac ansicrwydd ar gynnydd? Yn Llanelli aeth partneriaeth feiddgar rhwng gr\u0175p Healing the Divide, Cyngor Sir Caerfyrddin (T\u00eem Cydlyniant Gorllewin Cymru), <a href=\"https:\/\/belongnetwork.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Belong: the Cohesion and Integration Network<\/a>, a\u2019r felin drafod <a href=\"https:\/\/www.britishfuture.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">British Future<\/a> ati i geisio ateb y cwestiwn hwnnw. Datblygwyd y cynllun Healing the Divide nid yn unig i ymateb i densiwn pan ddaw i\u2019r wyneb, ond hefyd i ofalu bod gan ymarferwyr lleol yr hyder, y sgiliau a\u2019r perthnasoedd angenrheidiol i ddelio ag adegau anodd, i gryfhau ymddiriedaeth ac i helpu i greu cymunedau mwy cysylltiedig a gwydn ar draws Llanelli.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth y cynllun ag ymarferwyr lleol a phartneriaid cymunedol at ei gilydd drwy gyfres o weithdai a sesiynau dysgu wedi\u2019u hwyluso, a oedd yn cyfuno sgiliau ymarferol a chyfleoedd i ystyried ar y cyd ac i drafod y tensiynau gwirioneddol sy\u2019n effeithio ar Lanelli. Roedd y sesiynau\u2019n rhoi sylw i sgyrsiau anodd a chynhennus, ymddiriedaeth a meithrin perthnasoedd, ac effaith camwybodaeth a thwyllwybodaeth, gan greu lle i gyfranogwyr ddysgu gan ei gilydd ac i ystyried sut gellid rhoi\u2019r dulliau hyn ar waith yn lleol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth yn amlwg nad cyflwyno rhywbeth cwbl newydd oedd y \u2018gwaith\u2019. Roedd y sylfeini yno\u2019n barod \u2013 swyddogion ymroddedig cynghorau lleol, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol gweithgar, ac ymdeimlad cryf o le a hunaniaeth. Yr her oedd sut i greu\u2019r amodau i\u2019r asedau hyn gysylltu, addasu, ac ymateb i newid.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pobl, nid polisi, yw\u2019r man cychwyn<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un o\u2019r gwersi amlycaf oedd nad strategaeth yw cydlyniant, ond rhywbeth mae pobl yn ei fyw o ddydd i ddydd. Gall sgyrsiau am \u201cgydlyniant cymunedol\u201d deimlo\u2019n ddamcaniaethol yn aml, ond wrth eu hail-fframio yng nghyd-destun perthyn, tegwch, a theimlo\u2019n gartrefol, gall pobl ymgysylltu'n fwy agored.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Roedd gwreiddio\u2019r gwaith mewn gwirioneddau lleol \u2013 deinameg cymdogaethau penodol, mannau a rennir, a phrofiadau bywyd \u2013 yn ei wneud yn arwyddocaol.&nbsp;<\/em><\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Creu\u2019r amgylchiadau iawn cyn disgwyl newid<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym mhob rhan o\u2019r rhaglen fe wnaethom flaenoriaethu creu gweithdai diogel, oedd yn cael eu hwyluso, lle gallai pobl siarad yn onest. Roedd hynny\u2019n golygu cydnabod tensiwn, nid ei osgoi.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l creu\u2019r amgylchiadau hynny, digwyddodd rhywbeth pwysig: roedd pobl yn teimlo\u2019n ddiogel i fod yn agored. Daeth yn bosibl i gael sgyrsiau anodd a chynhyrchiol am hunaniaeth, newid, a chamwybodaeth. Mewn llawer o achosion, roedd pobl yn newid eu safbwyntiau yn ystod y rhaglen.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae\u2019n ein hatgoffa nad ymyriad \u201cmeddal\u201d yw trafodaeth. Pan fydd wedi\u2019i strwythuro\u2019n dda, gall fod yn un o\u2019r adnoddau mwyaf effeithiol sydd gennym.<\/em><\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Galluogi pobl i weithredu, nid dim ond deall<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Un neges gyson oedd yr angen am adnoddau ymarferol. Roedd fframweithiau ar gyfer strwythuro sgyrsiau, technegau syml i dawelu sefyllfaoedd, a ffyrdd o ymateb i gamwybodaeth i gyd yn help i fagu hyder.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Nid mater o droi pobl yn arbenigwyr oedd hyn. Rhoi digon o hyder i staff rheng flaen a phartneriaid cymunedol weithredu oedd y nod \u2013 i gamu i mewn i sefyllfaoedd anodd yn hytrach na\u2019u hosgoi.<\/em><\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Nid emosiwn yw\u2019r broblem \u2013 man cychwyn yw emosiwn<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd rhwystredigaeth, pryder, a gorflinder yn amlwg mewn llawer o\u2019r sgyrsiau. Yn hytrach na thrin yr elfennau hyn fel rhwystrau, bu\u2019r rhaglen yn gweithio gyda nhw. Roedd y trafodaethau\u2019n helpu\u2019r bobl i gydnabod yr hyn sydd wrth wraidd y tensiynau sydd ar yr wyneb. Pan oedd pobl yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad, roeddent yn llawer mwy parod i wrando eu hunain.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Nid drwy hap a damwain mae creu cysylltiad<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gan Sir Gaerfyrddin rwydwaith cryf o fudiadau ac arweinwyr cymunedol. Drwy\u2019r rhaglen ac mewn partneriaeth \u00e2\u2019r cyngor a British Future, gwelsom werth ymgynnull bwriadol. Dod \u00e2 phobl at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin, gyda strwythur i ategu\u2019r broses honno, a gwelwyd perthnasoedd yn dechrau symud o fod yn anffurfiol i fod yn rhai cydweithredol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae hyn nawr yn cael ei adlewyrchu yn rhwydwaith newydd Llanelli Together, sef mudiad o dan arweiniad yr ardal leol a luniwyd i gynnal momentwm, i gryfhau perthnasoedd, ac i ddatgloi cyfleoedd newydd i weithredu ar y cyd.<\/em><\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Cadw pethau\u2019n lleol, a dal ati<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Efallai mai\u2019r canlyniad mwyaf calonogol yw\u2019r awydd i barhau. Nid hyfforddiant untro oedd hyn ym meddwl y rheini a oedd yn bresennol, ond man cychwyn. Erbyn hyn, mae cymuned ymarfer yn datblygu gyda\u2019r perthnasoedd a\u2019r hyder i fwrw ymlaen \u00e2\u2019r gwaith.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Gair i gloi<\/strong>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os oes un peth i\u2019w ddysgu o Lanelli, nid drwy ddatganiadau mawr neu strategaethau unigol y mae datblygu cydlyniant. Mae\u2019n datblygu drwy weithredoedd bach a chyson o gysylltiad, sgyrsiau, perthnasoedd, ac ymdrechion ar y cyd dros amser.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">R\u00f4l rhaglenni fel <strong><em>Healing the Divide\/rhwydwaith Llanelli Together<\/em><\/strong> yw creu\u2019r amodau i hynny ddigwydd, ac yna helpu pobl leol i gymryd yr awenau o hynny ymlaen. Gall hynny greu rhywbeth diriaethol y gellir ei rannu a\u2019i ehangu ar lefel ehangach yng Nghymru.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth sydd ei angen i ddal cymuned at ei gilydd mewn oes o raniadau, drwgdybiaeth ac ansicrwydd? Dyma gyfle i glywed Raj Bhari o Belong yn trafod partneriaeth amlsector a ddaeth o hyd i atebion i\u2019r cwestiwn hwn.<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":21628,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-21629","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"project":20813,"lead_author":21620,"authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21629","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21629"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21629\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21669,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21629\/revisions\/21669"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21628"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21629"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21629"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21629"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21629"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}