{"id":21568,"date":"2026-08-12T12:32:11","date_gmt":"2026-08-12T12:32:11","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=21568"},"modified":"2026-08-12T12:32:11","modified_gmt":"2026-08-12T12:32:11","slug":"beth-syn-digwydd-rhwng-ymchwil-ac-effaith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-syn-digwydd-rhwng-ymchwil-ac-effaith\/","title":{"rendered":"Beth sy'n digwydd rhwng ymchwil ac effaith?"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dyma'r cwestiwn sydd wrth wraidd <a href=\"https:\/\/www.ukri.org\/opportunity\/sector-transition-ukri-policy-fellowships-2026\/\">Cymrodoriaeth Polisi UKRI<\/a> newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Cymrodoriaethau Polisi UKRI yn rhoi cyfle i ymchwilwyr dreulio deunaw mis mewn adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/guidance\/what-works-network\">Chanolfannau What Works<\/a> (gyda\u2019r canolfannau\u2019n canolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio tystiolaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus). Mae cymrodyr yn cyd-ddylunio ac yn cyflawni prosiectau ymchwil gyda'u sefydliad lletyol wrth ddysgu sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio'n ymarferol. Mae sefydliadau lletyol, yn eu tro, yn elwa ar arbenigedd y cymrodyr i ateb cwestiynau polisi allweddol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy nghymrodoriaeth yn canolbwyntio ar sut gall Canolfannau What Works, a sefydliadau brocera gwybodaeth yn ehangach, ddeall effaith eu gwaith yn well a chofnodi hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd fy ymchwil flaenorol yn archwilio beth sy'n digwydd pan <a href=\"https:\/\/www.routledge.com\/Policy-Meets-Practice-A-Multimodal-Exploration-of-Language-Education-in-Galician-Schools\/Bermingham-DePalma\/p\/book\/9781032714103\">fydd polisi ac arfer yn cwrdd<\/a>, gyda ffocws penodol ar bolisi iaith mewn lleoliadau addysg. Ar \u00f4l gweithio ar gwestiynau polisi mewn cyd-destunau rhyngwladol, fel Sbaen a Cabo Verde, mae'r gymrodoriaeth hon yn cynnig cyfle i droi at wledydd Prydain fel cyd-destun ac archwilio rhan gynharach o'r daith bolisi \u2013 sut mae tystiolaeth yn siapio\u2019r broses o lunio polis\u00efau ac, yn fwy penodol, sut gall sefydliadau sy'n cysylltu tystiolaeth \u00e2 pholisi gofnodi eu heffaith yn well.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae deall y broses hon yn bwysig oherwydd bod cyllidwyr yn gofyn fwyfwy i ymchwilwyr esbonio sut y bydd eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae prifysgolion hefyd yn buddsoddi amser ac adnoddau sylweddol mewn dangos tystiolaeth o effaith ymchwil a'i gwerthuso. Yn arbennig, mae trafodaethau am effaith yn aml yn canolbwyntio ar ddau beth: yr ymchwil ei hun a'r newidiadau sy'n deillio ohoni. Rhoddir llai o sylw i bopeth sy'n digwydd rhwng ymchwil ac effaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae hyn yn arbennig o wir yng nghyd-destun polisi cyhoeddus, lle nad yw ymchwil yn dylanwadu ar bolisi\u2019n uniongyrchol yn aml. Caiff tystiolaeth ei thrafod, ei dehongli ac, yn wir, ei herio. Mae'n symud drwy sefydliadau a rhwydweithiau cyn llywio trafodaethau polisi. Erbyn y pwynt hynny, efallai y bydd yn anodd gwahanu ei chyfraniad oddi wrth y nifer o ddylanwadau eraill sy'n siapio\u2019r broses o wneud penderfyniadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Deall beth sy'n digwydd yn y gofod rhwng y ddau beth hwn yw'r union her mae fy nghymrodoriaeth yn ceisio mynd i'r afael \u00e2 hi. Mae'n archwilio'r r\u00f4l mae pobl, cysylltiadau a sefydliadau yn ei chwarae wrth gysylltu tystiolaeth \u00e2\u2019r broses o wneud penderfyniadau, a pham mae deall eu cyfraniad yn bwysig ar gyfer cofnodi effaith.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y misoedd nesaf, gan adeiladu ar <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/deall-effaith-ar-draws-y-rhwydwaith-what-works-y-du\/\">waith blaenorol yn WCPP<\/a> a oedd yn edrych ar sut mae effaith yn cael ei chysyniadu, byddaf yn siarad \u00e2 chydweithwyr ar draws Rhwydwaith What Works i archwilio'r dulliau maen nhw'n eu defnyddio i gofnodi eu heffaith, yr heriau maen nhw'n eu hwynebu, a sut maen nhw'n defnyddio'r profiadau hynny i wella eu harfer.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y nod yw cyd-ddatblygu adnoddau ar gyfer cofnodi effaith a hwyluso cyfleoedd ar gyfer dysgu gan gymheiriaid. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cyfrannu at, ac yn dysgu gan <a href=\"https:\/\/upen.ac.uk\/resources\/lets-dig-in-and-do-the-work-the-way-ahead-for-the-upen-cop-on-knowledge-mobilisation\/\">Gymuned Ymarfer Defnyddio Gwybodaeth<\/a> <a href=\"https:\/\/upen.ac.uk\/\">Rhwydwaith Ymgysylltu \u00e2 Pholisi\u2019r Prifysgolion<\/a> (UPEN), yn enwedig ei gwaith cydweithredol ar ddeall, cofnodi a chyfleu effeithiau defnyddio gwybodaeth ar draws gwahanol gyd-destunau sefydliadol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os ydych chi'n ymwneud \u00e2 gweithgarwch cofnodi effaith mewn Canolfan What Works neu sefydliad brocera gwybodaeth tebyg, mae croeso i chi gysylltu \u00e2 fi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma'r cwestiwn sydd wrth wraidd Cymrodoriaeth Polisi UKRI newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP). Mae Cymrodoriaethau Polisi UKRI yn rhoi cyfle i ymchwilwyr dreulio deunaw mis mewn adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a Chanolfannau What Works (gyda\u2019r canolfannau\u2019n canolbwyntio'n benodol ar ddefnyddio tystiolaeth i wella gwasanaethau cyhoeddus). Mae cymrodyr yn cyd-ddylunio ac yn cyflawni prosiectau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":21567,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[132,130],"class_list":["post-21568","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-effaith","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":20504,"authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21568","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=21568"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21568\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":21569,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/21568\/revisions\/21569"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/21567"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=21568"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=21568"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=21568"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=21568"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}