{"id":20896,"date":"2026-04-01T11:12:08","date_gmt":"2026-04-01T11:12:08","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=20896"},"modified":"2026-04-01T11:12:08","modified_gmt":"2026-04-01T11:12:08","slug":"sut-gall-llywodraethu-gefnogi-llwybrau-sero-net-syn-gweithio-i-economiau-lleol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sut-gall-llywodraethu-gefnogi-llwybrau-sero-net-syn-gweithio-i-economiau-lleol\/","title":{"rendered":"Sut gall llywodraethu gefnogi llwybrau sero net sy'n gweithio i econom\u00efau lleol?"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae cyflawni sero net yn her systemig gymhleth sy'n datblygu'n wahanol ar lefelau byd-eang, cenedlaethol a lleol. Mae'n ychwanegol i'r heriau presennol sy'n wynebu econom\u00efau lleol, o anghydraddoldebau i seilwaith gwaddol. Yng nghyd-destun hinsawdd sy'n newid yn gyflym, mae cyflymder trawsnewid yn bwysig iawn os yw'r DU am gyrraedd ei thargedau hinsawdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Does dim un ateb sy'n gweddu i bawb os ydym am gyflawni hyn. Fydd yr hyn sy'n gweithio mewn un lle a'i economi unigryw ddim o reidrwydd yn gweithio yn rhywle arall. Y newyddion da yw bod amrywiaeth eang o opsiynau i benderfynwyr eu hystyried, fel technolegau effeithiol, arferion da, gwersi o leoedd tebyg, a dirnadaeth ymchwil. Dangosodd adroddiad 2025 yr Academi Brydeinig, Governance to Accelerate Net Zero, fod trefniadau llywodraethu'r DU yn gwegian dan gymhlethdodau'r agenda sero net, gan greu ffrithiant sy'n arafu cyflawni. Mae'n cynnig y dylai arweinwyr gwleidyddol a pholisi ddefnyddio dulliau llywodraethu democrataidd da i drin y cymhlethdod hwn a chyrraedd targedau\u2019n amserol.<\/p>\n\n\n\n<p>Llywodraethu democrataidd yw'r cyfrwng a ddefnyddir gan lunwyr polisi i nodi, cynllunio, cyflawni a chreu atebolrwydd ar gyfer llwybrau lleol priodol at sero net, yn hytrach na dibynnu ar un ateb i bawb. Er bod penderfynwyr lleol yn wynebu pwysau sylweddol ar adnoddau, mae angen ystyried cefnogaeth y cyhoedd wrth benderfynu buddsoddi mewn trefniadau llywodraethu da fel elfen o weithredu dros yr hinsawdd. Yn Governance to Accelerate Net Zero nodir wyth cyflymydd sy'n cyfuno penderfyniadau ac arweinyddiaeth o ansawdd da gyda dulliau cyfranogol, sy'n canolbwyntio ar le a phobl, i helpu awdurdodau i gyflawni targedau sero net a chadw cefnogaeth y cyhoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae dau gyflymydd yn gwbl hanfodol i sicrhau bod sero net yn gweithio i econom\u00efau lleol. Y cyflymydd cyntaf yw cydweithio \u00e2 chyfryngwyr. Mae hyn yn arbennig o bwysig i econom\u00efau lleol oherwydd bod cyfryngwyr yn aml yn fusnesau \u00e2 phresenoldeb lleol sydd \u00e2'r un balchder yn eu lle \u00e2'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Mae ganddyn nhw'r gallu i bontio a chysylltu pobl, cymunedau, busnesau a'r llywodraeth. Maen nhw'n ffurfio partneriaethau, yn trosglwyddo gwybodaeth, yn meithrin cyfranogiad, yn datblygu llwybrau sy'n briodol yn lleol, yn cynhyrchu adnoddau ac yn codi hyder. Fodd bynnag, ar y dechrau, yn aml bydd angen rhywfaint o gymorth ariannol ar gyfryngwyr ynghyd ag amgylchedd sy'n galluogi a ddarperir gan y llywodraeth. Gall<\/p>\n\n\n\n<p>llywodraethau lleol a chenedlaethol hefyd ddefnyddio eu p\u0175er i gynnull a'u strwythurau rhannu gwybodaeth i gefnogi partneriaethau traws-sector trwy gyfryngwyr. Yr ail gyflymydd yw llywio trawsnewidiadau cyfiawn. Mae Cymru newydd ddatblygu Fframwaith Trawsnewid Cyfiawn sydd, ochr yn ochr \u00e2 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn cynnig cyfle ardderchog ar gyfer arweinyddiaeth. Ond mae llywio trawsnewid cyfiawn yn golygu mynd i'r afael \u00e2 hanesion cymhleth ac anghydbwysedd p\u0175er, yn enwedig mewn sectorau fel diwydiannau ynni-ddwys, ffermio a chynhyrchu bwyd. Gall yr anghydbwysedd hwn ddod i'r amlwg pan fydd llunwyr polisi, busnesau lleol, cymunedau a buddsoddwyr allanol yn cael eu tynnu at ei gilydd i gyflawni nodau sero net mewn econom\u00efau lleol, er nad yw eu buddiannau bob amser yn cyd-fynd yn syth. Mae deall y ddeinameg, bod yn dryloyw, a gweithredu ar y wybodaeth hon yn hanfodol i ganfod llwybrau teg a all gynnal cefnogaeth y cyhoedd. Yma, gall llywodraeth leol a chenedlaethol hefyd rannu gwybodaeth, mabwysiadu agweddau cyfranogol a phartneriaethau aml-lefel i lywio'r cymhlethdod hwn. Mae gan Yr Academi Brydeinig gyfoeth o dystiolaeth ar gyrraedd sero net a mynd i'r afael \u00e2 heriau systemig cymhleth eraill sy'n wynebu llunwyr polisi. Y wers bwysicaf yw bod sylfaen o dystiolaeth amrywiol eisoes ar gael i lywio polisi yn y gofod hwn. I raddau helaeth, rydyn ni eisoes yn gwybod beth sy'n gweithio. Ceir llawer o enghreifftiau y gallwn ddysgu ohonynt, cyhyd \u00e2 bod llunwyr polisi yn sicrhau dealltwriaeth feddylgar o bobl a chymdeithas. Does dim un o'r rhain yn ddatrysiad hawdd, ond ceir nifer o opsiynau ymarferol, ac os c\u00e2nt eu galluogi gan lywodraethu democrataidd da, gallen nhw helpu sero net i lwyddo mewn econom\u00efau lleol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Henry Richards, Uwch Arweinydd Dyfodol yn yr Academi Brydeinig, sy\u2019n trafod sut y gall llywodraethu democrataidd rymuso econom\u00efau lleol i lywio trawsnewidiadau sero net cymhleth.<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":20895,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-20896","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":20889,"authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20896","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20896"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20896\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20897,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20896\/revisions\/20897"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20895"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20896"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20896"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20896"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=20896"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}