{"id":20756,"date":"2026-03-19T14:04:40","date_gmt":"2026-03-19T14:04:40","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=20756"},"modified":"2026-03-19T15:00:06","modified_gmt":"2026-03-19T15:00:06","slug":"mae-gormod-o-blant-yng-nghymru-yn-tyfu-mewn-caledi-difrifol-ond-gall-llywodraeth-nesaf-cymru-droir-llanw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/mae-gormod-o-blant-yng-nghymru-yn-tyfu-mewn-caledi-difrifol-ond-gall-llywodraeth-nesaf-cymru-droir-llanw\/","title":{"rendered":"Mae gormod o blant yng Nghymru yn tyfu mewn caledi difrifol \u2013 ond gall Llywodraeth nesaf Cymru droi\u2019r llanw"},"content":{"rendered":"\n<p>Yng Nghymru, fel ledled y DU, rydym wedi gweld cynnydd hynod bryderus yn nifer y bobl sy'n wynebu caledi difrifol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer cynyddol o bobl yn wynebu newyn gan nad ydyn nhw\u2019n gallu fforddio'r hanfodion sydd eu hangen ar bawb. Mae'r caledi hwn sy\u2019n dwys\u00e1u wedi bod yn arbennig o amlwg ymhlith teuluoedd \u00e2 phlant. Yn frawychus, mae tua chwarter o deuluoedd \u00e2 phlant yng Nghymru yn wynebu newyn \u2013 mae hynny dair gwaith yn uwch na\u2019r gyfradd ymhlith teuluoedd sydd heb blant (24% o\u2019i chymharu ag 8%).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae banciau bwyd ledled Cymru wedi bod o dan bwysau aruthrol wrth geisio cefnogi teuluoedd drwy gynnig bwyd mewn argyfwng a chymorth ymarferol i fynd i'r afael \u00e2'r ffactorau sy'n achosi eu sefyllfa. Y llynedd, rhoddodd banciau bwyd yng nghymuned Trussell yng Nghymru 154,000 o barseli bwyd mewn argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pobl yn cael eu gorfodi i droi at fanciau bwyd gan nad oes ganddyn nhw ddigon o arian ar gyfer yr hanfodion. Mae rhai ohonyn nhw rhwng swyddi, yn dioddef cyflyrau iechyd, neu'n gofalu am berthnasau a phlant. Mae rhai mewn swyddi ansicr, anhygyrch, neu nad ydyn nhw\u2019n talu digon i fyw arno. Ac mae diffyg tai fforddiadwy, trafnidiaeth a gofal plant yn atal pobl rhag cael cyfleoedd i gynyddu eu hincwm.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, un duedd sy\u2019n peri pryder i ni yw\u2019r ffordd y mae darparu bwyd elusennol yn cael ei normaleiddio\u2019n gynyddol mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys banciau bwyd a darparu bwyd elusennol mewn ffyrdd eraill fel mewn pantr\u00efoedd bwyd, archfarchnadoedd cymdeithasol, clybiau bwyd fforddiadwy ac oergelloedd cymunedol. Gall pob un o\u2019r rhain gynnig cefnogaeth amhrisiadwy yn y tymor byr, ond nid nhw yw'r ateb. Mae'r dystiolaeth yn glir nad cynnig bwyd am ddim neu am bris gostyngol yw'r cymorth gorau i\u2019w gynnig mewn argyfwng, ac yn aml, nid ydyn nhw\u2019n ymgorffori dulliau ataliol sy'n meithrin gwydnwch ariannol yn ein cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae'n hanfodol bod Llywodraeth nesaf Cymru yn gwneud ymrwymiad penodol i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd yng Nghymru, yn ogystal \u00e2 chyflwyno cynllun gweithredu, nid yn unig i ddiwallu anghenion uniongyrchol ar hyn o bryd, ond i fynd i'r afael \u00e2'r ffactorau sylfaenol sy'n achosi newyn a chaledi.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai'r cynllun hwnnw gynnwys y 10 cam hyn:<\/p>\n\n\n\n<p>1. Defnyddio 'Cyllid tlodi bwyd' yn y modd mwyaf effeithiol. Gwneud yn si\u0175r bod y cyllid sy\u2019n mynd i awdurdodau lleol a phartneriaethau bwyd i geisio lleihau 'tlodi<\/p>\n\n\n\n<p>bwyd' yn canolbwyntio ar fynd i'r afael \u00e2'r ffactorau lleol sy'n sbarduno'r angen am fwyd mewn argyfwng.<\/p>\n\n\n\n<p>2. Cymorth arian parod mewn argyfwng. Gwneud yn si\u0175r bod y cymorth a roddir drwy\u2019r Gronfa Cymorth Dewisol yn ddigonol i bobl allu talu am yr hanfodion a\u2019i fod, o leiaf, yn cynyddu yn unol \u00e2 chwyddiant. Ar ben hynny, dylid cynnig cyngor a chymorth wedi'i ariannu i bawb sy'n gwneud cais i\u2019r Gronfa Cymorth Dewisol.<\/p>\n\n\n\n<p>3. Edrych ar opsiynau i roi cynllun 'Taliad Plant Cymru' ar waith, gan ddysgu o'r hyn sy\u2019n digwydd yn yr Alban, a chael bwriad clir i gyflwyno'r cynllun ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>4. Ehangu Prydau Ysgol am Ddim fel eu bod ar gael ar gyfer plant o deuluoedd sy\u2019n derbyn Credyd Cynhwysol, yn ogystal \u00e2 phob plentyn sydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus o aelwydydd sydd ar lefelau incwm sy'n gymharol \u00e2 Chredyd Cynhwysol, neu islaw hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>5. Cynyddu cymorth gofal plant i deuluoedd ar incwm isel sydd \u00e2 phlant ifanc, a dod \u00e2 'loteri c\u00f4d post' cymorth gofal plant i ben.<\/p>\n\n\n\n<p>6. Gwella ansawdd a diogelwch llety dros dro, a\u2019r nifer sydd ar gael, yn ogystal \u00e2 gwella canllawiau a deddfwriaeth i wneud yn si\u0175r bod pobl yn ddiogel a bod ganddyn nhw gyfleusterau coginio, lleoedd i storio bwyd, cyfleusterau golchi dillad a Wi-Fi.<\/p>\n\n\n\n<p>7. Lleihau nifer y bobl mewn llety dros dro, a'r rhai sy'n cael trafferth fforddio talu rhent yn y sector preifat, drwy gael cynllun clir i gynyddu\u2019n sylweddol nifer y cartrefi cymdeithasol yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>8. Rhoi cymorth a chynyddu\u2019r cyllid sydd ar gael i wneud yn si\u0175r bod gwasanaethau cynghori yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf tebygol o wynebu newyn a chaledi. Rydym wedi gweld mewn banciau bwyd sut y gall rhoi cyngor o ansawdd uchel ar ddyled, budd-daliadau, tai a materion eraill fod yn drawsnewidiol. Fodd bynnag, mae gormod o bobl yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar gyngor pan mae gwir angen hynny arnyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p>9. Ymgorffori Siarter Budd-daliadau Cymru ledled Cymru, gan wneud yn si\u0175r bod pob awdurdod lleol yn blaenoriaethu camau i symleiddio\u2019r broses o gael budd-daliadau yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>10. Galw ar lywodraeth y DU i ddadrewi\u2019r Lwfans Tai Lleol a chymryd camau pellach tuag at sefydlu Gwarant Hanfodion fel bod Credyd Cynhwysol yn talu cost hanfodion fel isafswm.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd Helen Barnard un o\u2019n siaradwyr gwahodd ar ein weminar <strong><em>Troi\u2019r llanw ar dlodi plant<\/em><\/strong>, rhan o\u2019n cyfres <strong><em>Y ffordd ymlaen: tystiolaeth a gwybodaeth i Lywodraeth nesaf Cymru a gynhelir gan y Sefydliad Materion Cymreig.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gyda thua chwarter o deuluoedd \u00e2 phlant yng Nghymru yn wynebu newyn, mae Helen Barnard o Trussell, yn awgrymu 10 cam y gallai Llywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i droi\u2019r llanw ar dlodi plant<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":20761,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-20756","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":20752,"authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-2188128423.jpg","filesize":417452,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-2188128423-744x446.jpg","width":744,"height":446,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":28148,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423-744x446.jpg"},"large":{"file":"iStock-2188128423-1200x720.jpg","width":1200,"height":720,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60658,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423-1200x720.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-2188128423-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":27148,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-2188128423-768x461.jpg","width":768,"height":461,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":29557,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423-768x461.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"iStock-2188128423-395x237.jpg","width":395,"height":237,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":10944,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423-395x237.jpg"},"banner":{"file":"iStock-2188128423-1322x640.jpg","width":1322,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":65137,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423-1322x640.jpg"},"square_thumb":{"file":"iStock-2188128423-800x793.jpg","width":800,"height":793,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56771,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423-800x793.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"9","credit":"Getty Images","camera":"DC-S5","caption":"Expressing support and togetherness, Studio shot presents a top view of family hands stacked on an isolated background. Parents and children hold an empty space for Family and Parents Day.","created_timestamp":"1666276498","copyright":"SORAPOP UDOMSRI","focal_length":"53","iso":"125","shutter_speed":"0.00625","title":"Studio shot, Close-up top view of family hands stacked on isolated background. Parents and kid hold empty space together signifying support and love on Family and Parents Day.","orientation":"1","keywords":[]},"ID":"20760","name":"iStock-2188128423.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-2188128423.jpg","title":"Studio shot, Close-up top view of family hands stacked on isolated background. Parents and kid hold empty space together signifying support and love on Family and Parents Day.","caption":"Expressing support and togetherness, Studio shot presents a top view of family hands stacked on an isolated background. Parents and children hold an empty space for Family and Parents Day.","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20756","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20756"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20756\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20764,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20756\/revisions\/20764"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20761"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20756"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20756"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20756"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=20756"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}