{"id":20672,"date":"2026-03-16T13:13:51","date_gmt":"2026-03-16T13:13:51","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=20672"},"modified":"2026-04-01T12:05:05","modified_gmt":"2026-04-01T12:05:05","slug":"diogelu-cyfran-cymru-yn-ystod-y-trawsnewid-cyfiawn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/diogelu-cyfran-cymru-yn-ystod-y-trawsnewid-cyfiawn\/","title":{"rendered":"Diogelu cyfran Cymru yn ystod y trawsnewid cyfiawn"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae\u2019r trawsnewid i sero net yn aml yn cael ei gyflwyno fel cost i gymdeithas a chymunedau. Mewn gwirionedd, mae\u2019n un o gyfleoedd ariannol gorau Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cymru\u2019n dechrau\u2019r trawsnewid hon mewn sefyllfa unigryw. Mae ei threftadaeth ddiwydiannol, ei sectorau sy\u2019n defnyddio llawer o ynni a\u2019i chanolfannau gweithgynhyrchu yn golygu bod allyriadau pob person yn dal yn sylweddol uwch na chyfartaledd y DU, er bod allyriadau Cymru wedi gostwng yn sylweddol ers 1990, yn bennaf oherwydd canolfannau diwydiannol yn cau. Er mwyn cyrraedd targedau sero net Llywodraeth y DU, sy\u2019n rhwymol yn gyfreithiol, rhwng 2020 a 2050 bydd rhaid i bob person yn y DU leihau ei allyriadau o tua 125 tunnell o CO\u2082 pob blwyddyn. Yng Nghymru, mae\u2019r ffigur hwn ar gyfartaledd yn 225 tunnell pob person, bron i ddwywaith y gofyniad ar draws y DU.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r her felly yn un sylweddol i Gymru, ond yn cynnig cyfleoedd anhygoel.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Gwerth cymdeithasol datgarboneiddio Cymru<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gan ddefnyddio gwerthoedd Llyfr Gwyrdd Trysorlys EF a llwybrau datgarboneiddio sydd wedi\u2019u cyhoeddi, mae\u2019n bosib mesur gwerth cymdeithasol gwireddu\u2019r cyfle ariannol hwn. I\u2019r DU, amcangyfrif y gwerth cymdeithasol blynyddol cyfartalog yw \u00a393.7 biliwn (tua 5% o werth ychwanegol gros 2020). I Gymru, mae\u2019n \u00a37.6 biliwn pob blwyddyn \u2013 sy\u2019n cyfateb i tua 11% o werth ychwanegol gros Cymru yn 2020. Gall gwerth cymdeithasol datgarboneiddio diwydiannol yn unig gyfrannu \u00a32.7 biliwn yn flynyddol (tua 4% o werth ychwanegol gros y wlad).<\/p>\n\n\n\n<p>Y pen, mae gwerth cymdeithasol datgarboneiddio diwydiannol yng Nghymru o leiaf dwywaith cyfartaledd y DU. Mae hyn yn adlewyrchu maint sylfaen diwydiannol Cymru a hyd a lled y trawsnewid sydd ei angen. Yn fyr: mae gan Gymru mwy i\u2019w wneud, ond hefyd mwy i\u2019w ennill.<\/p>\n\n\n\n<p>Dylai fod unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth y DU sydd wedi\u2019i gadw\u2019n \u00f4l i helpu diwydiannau i ddatgarboneiddio fod o leiaf dwywaith y gyfatebiaeth poblogaeth. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, mae diwydiant Cymru yn cael swm sylweddol is na\u2019i chyfran o\u2019r boblogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Seilwaith: datgloi sero net<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Nid uchelgais na diffyg prosiectau sy\u2019n rhoi gwerth da am arian yw\u2019r rhwystrau i ddatgloi\u2019r cyfleoedd ariannol gorau yn yr unfed ganrif ar hugain, ond yn hytrach, y seilwaith a\u2019r cymorth ariannol sydd eu hangen i alluogi buddsoddiad mewn seilwaith ynni carbon isel.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae buddsoddiad araf yn rhwydweithiau trydan Cymru, sy\u2019n arwain at gyfyngiadau grid, cyfyngiadau ar gyrhaeddiad y rhwydwaith mewn ardaloedd gwledig, a pheidio \u00e2 gallu bodloni\u2019r angen strategol sydd ei angen am seilwaith dal a chadw carbon (CCS) a hydrogen, eisoes yn arafu cynnydd. Mae buddsoddi rhagweithiol \u2013 adeiladau capasiti cyn bod galw \u2013 yn hanfodol i ddatgloi cynhyrchiad trydan carbon isel a datgarboneiddio diwydiannol drwy drydaneiddio, hydrogen a defnyddio CCS. Mae\u2019r Prosbectws Buddsoddi mewn Ynni Gl\u00e2n ar gyfer Cymru yn tynnu sylw at amryw o brosiectau sy\u2019n addas i fuddsoddi ynddynt, a fyddai\u2019n gallu trawsnewid Cymru\u2019n bwerdy ynni gl\u00e2n, gan barhau i fod yn gonglfaen sylfaen ddiwydiannol y DU, yn cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau cynaliadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019i gilydd, rydyn ni\u2019n disgwyl i ynni adnewyddadwy a phrosiectau datgarboneiddio gynhyrchu \u00a39 biliwn mewn gwerth ychwanegol gros dros y degawd nesaf. Mae Cymru hefyd yn manteisio ar Borthladdoedd Rhydd, Parthau Buddsoddi, Ardaloedd Twf AI ac amgylchedd rheoleiddio cefnogol, wedi\u2019u seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol. Mae\u2019r achos dros fuddsoddi yn gryf. Ond mae\u2019n rhaid i\u2019r cyllid, gan gynnwys cymorth Trysorlys EF, gyfateb i faint y cyfle.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ailgylchu refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU ar gyfer trawsnewid cyfiawn<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cynhyrchodd Cynllun Masnachu Allyriadau\u2019r DU \u00a317.8 biliwn mewn refeniw arwerthiant rhwng 2021 a 2025, yn \u00f4l adroddiad Swyddfa Archwilio Genedlaethol y DU. Yn wahanol i gynllun yr Undeb Ewropeaidd, lle mae aelod-wladwriaethau\u2019n cael eu hannog i ddefnyddio o leiaf 50% o\u2019r refeniw i gefnogi datgarboneiddio diwydiannol, nid oes gofyniad cyfreithiol i Drysorlys EF ail-fuddsoddi cyfran sylfaenol o refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau\u2019r DU ar gyfer yr un pwrpas, er bod 10-15% o allyriadau\u2019r Cynllun sydd wedi\u2019u cadarnhau yn dod o Gymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar yr un pryd, mae rhan fwyaf o\u2019r cyllid sydd wedi\u2019i ddyrannu gan Drysorlys EF i ddarparu seilwaith carbon isel o fewn Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn elwa\u2019r Alban a gogledd Lloegr yn bennaf, gyda chyfran fach yn unig, ac yn sylweddol is na\u2019i chyfatebiaeth poblogaeth, yn elwa Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly, mae Cymru a\u2019i diwydiant yn cyfrannu\u2019n anghymesur at y cynllun \u2013 tua dwy neu dair gwaith ei chyfatebiaeth poblogaeth \u2013 ond yn cael llai o lawer na\u2019r gyfran honno yn n\u00f4l. Mae\u2019r gwahaniaeth sylweddol hwn yn creu trawsnewid \u2018anghyfiawn\u2019 ac yn rhoi\u2019r neges i ddiwydiannau Cymru mai \u2018dim ond treth arall\u2019 yw Cynllun Masnachu Allyriadau\u2019r DU. Mae hyn yn gwneud eu gweithredoedd yn llai cystadleuol byth o\u2019i gymharu \u00e2 chanolfannau a sefydliadau arall yn eu sector, ac felly\u2019n creu sefyllfa annheg.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn galluogi trawsnewid cyfiawn, dylai Cymru elwa ar gyfran deg, e.e. sy\u2019n cyfateb i\u2019w baich allyriadau (ei chyfran deg) o ailgylchu refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau\u2019r DU i gefnogi buddsoddiad mewn seilwaith ynni carbon isel a datgarboneiddio diwydiannau Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cyfran deg i Gymru<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Gymru\u2019r adnoddau naturiol, y gallu diwydiannol a\u2019r fframwaith cyfreithiol i fod yn arweinydd mewn ynni gwynt alltraeth, hydrogen, ynni\u2019r llanw a gweithgynhyrchu uwch. Mae\u2019n cynnig eglurder polisi, sefydliadau sy\u2019n cydweithio a gweledigaeth strategol glir i fuddsoddwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond er mwyn sicrhau ei chyfran yn y trawsnewid cyfiawn, mae angen buddsoddi rhagweithiol a chymorth ariannol Llywodraeth y DU ar Gymru, sy\u2019n adlewyrchu ei baich allyriadau a\u2019i chyfleoedd gwerth cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddai ailgylchu o leiaf 50% o refeniw Cynllun Masnachu Allyriadau\u2019r DU mewn datgarboneiddio diwydiannol, gyda dyraniad teg i Gymru sy\u2019n cyfateb i\u2019w baich allyriadau, nid yn unig yn datgloi \u00a37.6 biliwn mewn gwerth cymdeithasol blynyddol ond hefyd yn dangos bod y trawsnewid i sero net yn gallu creu Cymru lewyrchus mewn ffordd \u2018gyfiawn\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyfle wedi\u2019i fesur. Mae\u2019r prosiectau wedi\u2019u nodi. Mae\u2019r cyllid yn bodoli.<\/p>\n\n\n\n<p>Nawr yw\u2019r amser i sicrhau cyfran deg, a grymuso Cymru i gyflawni ei photensial.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Sero Net Cymru, yn galw am fuddsoddi a chyllid rhagweithiol sy\u2019n gymesur \u00e2 baich allyriadau a chyfleodd gwerth cymdeithasol Cymru, er mwyn sicrhau cyfraniad teg yn y trawsnewid cyfiawn.<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":20684,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-20672","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":20680,"authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1994571134.jpg","filesize":386610,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1994571134-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":27278,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-744x418.jpg"},"large":{"file":"iStock-1994571134-1200x675.jpg","width":1200,"height":675,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":55617,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-1200x675.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1994571134-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":27207,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1994571134-768x432.jpg","width":768,"height":432,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":28308,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-768x432.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"iStock-1994571134-395x222.jpg","width":395,"height":222,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":11039,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-395x222.jpg"},"banner":{"file":"iStock-1994571134-1366x640.jpg","width":1366,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":65026,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-1366x640.jpg"},"square_thumb":{"file":"iStock-1994571134-800x768.jpg","width":800,"height":768,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":53716,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-800x768.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"Getty Images","camera":"","caption":"Businesswoman hand holding glowing light bulb on coin stacking. Saving money and financial growth concept.","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"Businesswoman hand holding glowing light bulb on coin stacking. Saving money and financial growth concept","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"20683","name":"iStock-1994571134.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134.jpg","title":"Businesswoman hand holding glowing light bulb on coin stacking. Saving money and financial growth concept","caption":"Businesswoman hand holding glowing light bulb on coin stacking. Saving money and financial growth concept.","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-1200x675.jpg 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-768x432.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134-395x222.jpg 395w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1994571134.jpg 1366w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20672","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20672"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20672\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20900,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20672\/revisions\/20900"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20684"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20672"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20672"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20672"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=20672"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}