{"id":20519,"date":"2026-03-05T16:07:38","date_gmt":"2026-03-05T16:07:38","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=20519"},"modified":"2026-03-05T21:25:06","modified_gmt":"2026-03-05T21:25:06","slug":"sero-net-a-all-cymru-ddysgu-gan-yr-alban","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/sero-net-a-all-cymru-ddysgu-gan-yr-alban\/","title":{"rendered":"Sero net: A all Cymru ddysgu gan yr Alban?"},"content":{"rendered":"\n<p>Wrth i Gymru symud tuag at sero net, mae un peth yn dod yn fwyfwy clir: nid yw\u2019r newid yn ymwneud \u00e2 thechnoleg yn unig. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 thrawsnewid economaidd \u2013 pwy sy\u2019n berchen arno, pwy sy\u2019n ei siapio, a phwy sy\u2019n elwa ohono. Mae taith yr Alban yn cynnig gwersi gwerthfawr ar sut y gall dull cydweithredol sy\u2019n seiliedig ar leoedd ac sy\u2019n cael ei arwain gan y gymuned sicrhau\u2019r canlyniadau gorau posibl o ran yr hinsawdd a\u2019r economi. Ond mae gan Gymru gyfle hefyd i wneud pethau\u2019n wahanol ac yn well.<\/p>\n\n\n\n<p>Gydag etholiadau ar y gorwel ar gyfer ddwy wlad, a chyda sero net yn bwnc amserol ac weithiau\u2019n ddadleuol, nawr yw\u2019r amser i sicrhau bod pob penderfyniad yn adeiladu ar yr arferion gorau ac yn sicrhau manteision yn eang ac yn deg ar draws cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Alban wedi dangos yr hyn sy\u2019n bosibl hyd yn oed gydag ynni yn fater a gadwyd yn \u00f4l. Mae ei <a href=\"https:\/\/www.gov.scot\/binaries\/content\/documents\/govscot\/publications\/advice-and-guidance\/2019\/05\/scottish-government-good-practice-principles-community-benefits-onshore-renewable-energy-developments\/documents\/scottish-government-good-practice-principles-community-benefits-onshore-renewable-energy-developments\/scottish-government-good-practice-principles-community-benefits-onshore-renewable-energy-developments\/govscot%3Adocument\/scottish-government-good-practice-principles-community-benefits-onshore-renewable-energy-developments.pdf\"><strong>Egwyddorion Arferion Da<\/strong><\/a> yn annog datblygwyr i gyfrannu \u00a35,000 y MW mewn buddion cymunedol, gan gynhyrchu dros \u00a3194 miliwn ers 1990. Mae <a href=\"https:\/\/biggareconomics.co.uk\/community-benefit-funds-creating-a-legacy\"><strong>ymchwil<\/strong><\/a> yn awgrymu bod tua \u00a34.18 o werth economaidd lleol ychwanegol yn cael ei greu am bob \u00a31 o gyllid budd cymunedol. Ond eto, gellid cadw mwy o werth yn lleol, a dyna pam rydym wedi bod yn cefnogi ymchwil i sefydlu Cronfa Cyfoeth Cymunedol yr Alban o ffynonellau adnewyddadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Ledled y wlad, mae dulliau ymarferol o adeiladu cyfoeth cymunedol yn dod i\u2019r amlwg. Bu <a href=\"https:\/\/cles.org.uk\/\"><strong><u>CLES<\/u><\/strong><\/a> yn gweithio gyda South of Scotland Enterprise i ddatblygu <a href=\"https:\/\/www.southofscotlandenterprise.com\/media\/s0olsjna\/community-wealth-building-framework-from-renewables.pdf\"><strong><u>Fframwaith Adeiladu Cyfoeth Cymunedol ar gyfer Ynni Adnewyddadwy<\/u><\/strong><\/a><strong>, <\/strong>a chyda Chyngor yr Ucheldir ar Siarter Gwerth gan sicrhau bod datblygiadau ar raddfa fawr yn darparu gwerth ychwanegol i gymunedau lleol. Mae perchnogaeth hefyd yn bwysig: Roedd trydydd sector cryf yr Alban, gyda deddfwriaeth grymuso cymunedol gadarn yn gefn iddo, wedi galluogi sefydlu bron i 28,000 o brosiectau ynni lleol a chymunedol erbyn 2023.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae awdurdodau lleol yn dod yn rhan gynyddol o'r darlun hefyd. Mae Cyngor Ynysoedd Orkney yn datblygu ei fferm wynt ei hun, y disgwylir iddi gynhyrchu \u00a35.5 miliwn bob blwyddyn, ac mae Gogledd Ayrshire yn datblygu prosiectau solar. Pan fydd perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol yn rhan o\u2019r gymysgedd, mae\u2019r manteision yn amlhau \u2013 yn ariannol, yn gymdeithasol ac yn ddemocrataidd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cymru mewn sefyllfa dda i fynd ymhellach. Mae <a href=\"https:\/\/futuregenerations.wales\/cym\/darganfod\/cenedlaethaur-dyfodol-cymru\/deddf-cenedlaethaur-dyfodol-2015\/\"><strong>Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol 2015<\/strong><\/a> yn cynnig sylfaen unigryw ar gyfer modelau perchnogaeth gyhoeddus, gymunedol a chydweithredol sy\u2019n cadw mwy o gyfoeth yn agos at gartref. Ond mae\u2019n hanfodol sicrhau bod gan Gymru\u2019r sgiliau cywir yn y llefydd iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r ddwy wlad yn wynebu prinder mewn crefftau peirianneg, \u00f4l-osod a thechnegol. Ond, mae\u2019r Alban wedi dysgu nad yw sgiliau technegol yn unig yn ddigon. Mae\u2019r broses o bontio\u2019n llwyddiannus hefyd yn dibynnu ar y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sgiliau datblygu economaidd lleol i ddeall cadwyni cyflenwi a gwaith dylunio ymyriadau lleol;<\/li>\n\n\n\n<li>Sgiliau caffael a chomisiynu sy\u2019n agor cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig lleol; a<\/li>\n\n\n\n<li>Sgiliau delio \u00e2\u2019r cyhoedd a meithrin ymddiriedaeth, sy\u2019n siapio cydsyniad ac yn cysoni prosiectau \u00e2 blaenoriaethau lleol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae potensial pontio teg o ran cyflogaeth yn sylweddol. Canfu dadansoddiad CLES y gallai <a href=\"https:\/\/cles.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/A-roadmap-to-decarbonisation-FINAL.pdf\"><strong><u>datgarboneiddio anheddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig<\/u><\/strong><\/a> yn Ne\u2019r Alban gynnal 6,690 o swyddi uniongyrchol erbyn 2045, a chynhyrchu \u00a3340 miliwn mewn gwerth ychwanegol gros uniongyrchol. Gwreiddio\u2019r sgiliau hyn yn lleol yw\u2019r cam nesaf \u2013 ac mae hwn yn faes y gallai Cymru arwain y ffordd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019r aliniad cywir rhwng colegau, awdurdodau lleol a sefydliadau angori, gallai Cymru sefydlu system sgiliau gwbl integredig sy\u2019n cael ei harwain gan leoedd. System sy\u2019n hyfforddi nid yn unig y gweithlu ond hefyd y sefydliadau sy\u2019n gyfrifol am siapio\u2019r trawsnewid.<\/p>\n\n\n\n<p>Maes arall lle gallai Cymru ragori ar yr Alban yw perchnogaeth tir, a\u2019r manteision y gall hyn eu cynnig. Yn yr Alban, mae patrymau perchnogaeth tir hirsefydlog yn golygu bod refeniw sylweddol o ddatblygiadau adnewyddadwy yn dal i lifo i dirfeddianwyr ystadau mawr yn hytrach na chymunedau lleol. Mae gan Gymru gyfle i ddefnyddio tir cyhoeddus yn fwy strategol, gan sicrhau bod gwerth yn aros yn lleol a galluogi modelau perchnogaeth gymunedol neu ar y cyd i ffynnu.<\/p>\n\n\n\n<p>Ond mae mwy i gadw cyfoeth na thir neu berchnogaeth yn unig. Ers degawdau, mae modelau economaidd wedi achosi i werth sy\u2019n cael ei gynhyrchu\u2019n lleol gael ei golli drwy strwythurau perchnogaeth pell a chadwyni cyflenwi tameidiog. Mae dull adeiladu cyfoeth cymunedol yn cynnig datrysiad. Drwy ddefnyddio caffael cyhoeddus, cryfhau busnesau bach a chanolig sydd \u00e2 gwreiddiau lleol, a chefnogi modelau cydweithredol a sefydliadau cymdeithasol, gall Cymru sicrhau bod mwy o\u2019r cyfoeth sy\u2019n cael ei greu o fewn ei ffiniau yn cael ei gadw a\u2019i ailddosbarthu. Efallai y gallai deddfwriaeth adeiladu cyfoeth cymunedol ddilyn yr un esiampl?<\/p>\n\n\n\n<p>Mae natur hirdymor y newid i sero net yn golygu y bydd penderfyniadau a wneir heddiw yn siapio cyfleoedd ac anghydraddoldeb, am ddegawdau i ddod. Os bydd Cymru\u2019n adeiladu ar ei chryfderau, yn cadw gwerth yn lleol ac yn buddsoddi yn ei phobl a\u2019i sefydliadau, gall ragori ar yr Alban o ran cyflawni\u2019r broses o newid i sero net sydd dan berchnogaeth leol, sy\u2019n gynhyrchiol yn economaidd ac sy\u2019n deg yn gymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae tasg Llywodraeth nesaf Cymru yn glir: bod yn fwriadol, bod yn uchelgeisiol, bod yn wydn, gwreiddio cyfiawnder a chynaliadwyedd wrth galon sero net a datblygiad economaidd fel bod ffyniant yn cael ei rannu, a gwir bontio\u2019r cenedlaethau. Mewn geiriau eraill, ymgorffori dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Naomi Mason, Pennaeth yr Alban yn CLES, yn pennu cyfeiriad cadarnhaol i Gymru ar lwybr cydweithredol tuag at sero net, sy\u2019n seiliedig ar leoedd ac sy\u2019n sicrhau\u2019r canlyniadau gorau posibl o ran yr hinsawdd a\u2019r economi<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":20528,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140,142,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-20519","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-pontio-cyfiawn","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":20531,"authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Scotland-wind-turbines.jpg","filesize":2030058,"sizes":{"medium":{"file":"Scotland-wind-turbines-744x389.jpg","width":744,"height":389,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60574,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-744x389.jpg"},"large":{"file":"Scotland-wind-turbines-1200x628.jpg","width":1200,"height":628,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":139527,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-1200x628.jpg"},"thumbnail":{"file":"Scotland-wind-turbines-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64523,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Scotland-wind-turbines-768x402.jpg","width":768,"height":402,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64535,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-768x402.jpg"},"1536x1536":{"file":"Scotland-wind-turbines-1536x804.jpg","width":1536,"height":804,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":211668,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-1536x804.jpg"},"2048x2048":{"file":"Scotland-wind-turbines-2048x1071.jpg","width":2048,"height":1071,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":340413,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-2048x1071.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"Scotland-wind-turbines-395x207.jpg","width":395,"height":207,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":20051,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-395x207.jpg"},"banner":{"file":"Scotland-wind-turbines-1920x640.jpg","width":1920,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":180633,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-1920x640.jpg"},"square_thumb":{"file":"Scotland-wind-turbines-800x800.jpg","width":800,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":105467,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-800x800.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"11","credit":"Getty Images\/iStockphoto","camera":"Canon EOS 5D Mark II","caption":"Renewable energy wind turbines","created_timestamp":"1326549287","copyright":"","focal_length":"153","iso":"100","shutter_speed":"0.003125","title":"Wind turbines","orientation":"1","keywords":["spittal wind farm","wind farm"]},"ID":"20526","name":"Scotland-wind-turbines.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Scotland-wind-turbines.jpg","title":"Wind turbines","caption":"Renewable energy wind turbines","description":"","alt":"Wind turbines in Scotland","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20519","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20519"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20519\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20520,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20519\/revisions\/20520"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/20528"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20519"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20519"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20519"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=20519"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}