{"id":20268,"date":"2026-02-04T14:22:27","date_gmt":"2026-02-04T14:22:27","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpp.org.uk\/?p=20268"},"modified":"2026-03-10T10:51:39","modified_gmt":"2026-03-10T10:51:39","slug":"20268","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/20268\/","title":{"rendered":"Gobaith am y flwyddyn o'n flaen"},"content":{"rendered":"\n<p>Fel llawer ohonoch,&nbsp;rydw i wedi bod yn treulio ychydig o&nbsp;amser yn diweddaraf&nbsp;yn&nbsp;meddwl am&nbsp;yr hyn a allai fod o\u2019n blaenau yn 2026.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae etholiad pwysig y Senedd yn agos\u00e1u a hynny o fewn cyd-destun ehangach o newid ac ansicrwydd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae'r DU yn&nbsp;dal&nbsp;i wynebu heriau domestig dyrys - economi wan, amgylchedd cyllidol tynn, a nifer o arwyddion o wasanaethau cyhoeddus a seilwaith sydd angen eu gwella. Mae pob un o'r rhain yn cael effaith wirioneddol ar ansawdd bywyd a llesiant pobl, yn enwedig y rhai mwy difreintiedig ac ymylol yn ein cymdeithas.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae angen i lywodraethau ledled y DU fynd i'r afael \u00e2'r heriau hyn ar yr un pryd \u00e2 cheisio mynd i'r afael \u00e2'r tueddiadau ehangach sy\u2019n digwydd - newid mewn demograffeg; datblygiadau technolegol arloesol; yr angen i addasu i hinsawdd sy'n newid ar yr un pryd \u00e2 pharhau ag ymdrechion i ddatgarboneiddio; a'r diffyg lle ar gyfer trafodaeth gyhoeddus adeiladol ynghylch sut rydym ni'n mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn i gyd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Os yw'n swnio i mi gael amser digon digalon dros wyliau\u2019r Nadolig, peidiwch \u00e2 digalonni. Mae yna dal resymau i fod yn obeithiol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Un o'r prif resymau yw nifer yr unigolion a'r sefydliadau sy'n angerddol dros geisio goresgyn yr heriau hyn. Rwy'n ffodus fy mod yn cael treulio fy niwrnod gwaith yn cyfathrebu \u00e2 phobl o'r fath. Wrth gwrs, rwy'n meddwl am fy nghydweithwyr CPCC, ond hefyd am ein gwahanol bartneriaid o'r byd academaidd, y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Yn ogystal \u00e2'r rheini sydd \u00e2 phrofiad uniongyrchol o'r materion rydym yn gweithio arnynt.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y Ganolfan, ein cyfraniad yw cefnogi'r defnydd o'r dystiolaeth a'r ddealltwriaeth orau sydd ar gael. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ledled Cymru i nodi'r materion y gallwn eu cefnogi, ac i ddod \u00e2'r ymchwil a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt at ei gilydd i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth i Gymru geisio mynd i'r afael \u00e2'r heriau a wynebir, a delio \u00e2\u2019r newid a'r ansicrwydd sydd o'n blaenau, mae'r Ganolfan yn dal yn sicr o werth tystiolaeth i wneud penderfyniadau; ac o werth gweithio ar y cyd ag eraill i gefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y tymor byr, rydym ni'n falch iawn o fod yn cydweithio \u00e2'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) i gyflwyno cyfres o&nbsp;weminarau&nbsp;cyn yr etholiad -<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/cyfres-weminarau-cyn-etholiad-y-senedd-gydar-sefydliad-materion-cymreig\/\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/news\/cyfres-weminarau-cyn-etholiad-y-senedd-gydar-sefydliad-materion-cymreig\/\"> <em>Y ffordd ymlaen: Tystiolaeth a gwybodaeth ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru.<\/em><\/a> Bydd pedair&nbsp;gweminar&nbsp;sy'n herio'r meddwl dros y ddau fis nesaf yn canolbwyntio ar her polisi yn un o'r meysydd rydym ni\u2019n blaenoriaethu - Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau, yr Amgylchedd a Sero Net, a Llesiant Cymunedol - ynghyd \u00e2 dyfodol llywodraeth leol - gyda mewnbwn gan siaradwyr gwadd arbenigol, a chyfleoedd i ymgysylltu \u00e2'r gynulleidfa.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y tymor hwy, bydd gennym Senedd newydd sbon estynedig, ac felly rydym yn paratoi i weithio gydag Aelodau newydd y Senedd a'r Llywodraeth newydd i'w galluogi i ddefnyddio tystiolaeth amserol, berthnasol a hygyrch.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Ond yn y cyfamser, mae ein gwaith gyda phartneriaid mewn llywodraethau lleol, a'r sector cyhoeddus ehangach, yn parhau.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>O ganlyniad, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i ddysgu ac i esblygu ein hymarfer; ac fel rhan o hyn, byddem wir yn gwerthfawrogi eich adborth ar ein perfformiad. <a href=\"https:\/\/app.onlinesurveys.jisc.ac.uk\/s\/cardiff\/wcpp-engagement-survey-2025-version-for-translation\" data-type=\"link\" data-id=\"https:\/\/app.onlinesurveys.jisc.ac.uk\/s\/cardiff\/wcpp-engagement-survey-2025-version-for-translation\"><strong>Defnyddiwch y ddolen i gwblhau ein harolwg byr.&nbsp;<\/strong><\/a><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel llawer ohonoch,&nbsp;rydw i wedi bod yn treulio ychydig o&nbsp;amser yn diweddaraf&nbsp;yn&nbsp;meddwl am&nbsp;yr hyn a allai fod o\u2019n blaenau yn 2026.&nbsp;&nbsp; Mae etholiad pwysig y Senedd yn agos\u00e1u a hynny o fewn cyd-destun ehangach o newid ac ansicrwydd.&nbsp;&nbsp; Mae'r DU yn&nbsp;dal&nbsp;i wynebu heriau domestig dyrys - economi wan, amgylchedd cyllidol tynn, a nifer o arwyddion [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":8,"featured_media":19777,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[],"class_list":["post-20268","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"meta_box":{"project":"","lead_author":11937,"authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-scaled-e1767964756949.jpg","filesize":183921,"sizes":{"medium":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37750,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-744x418.jpg"},"large":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-1200x674.jpg","width":1200,"height":674,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":78811,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-1200x674.jpg"},"thumbnail":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37824,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-768x431.jpg","width":768,"height":431,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":39074,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-768x431.jpg"},"1536x1536":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-1536x862.jpg","width":1536,"height":862,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":119100,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-1536x862.jpg"},"2048x2048":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-2048x1150.jpg","width":2048,"height":1150,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":206364,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-2048x1150.jpg"},"post-thumbnail":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-395x222.jpg","width":395,"height":222,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":15382,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-395x222.jpg"},"banner":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-1920x640.jpg","width":1920,"height":640,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":116036,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-1920x640.jpg"},"square_thumb":{"file":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-800x800.jpg","width":800,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":69005,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-800x800.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9.jpg","ID":"19985","name":"Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-scaled-e1767964756949.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-scaled-e1767964756949.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-scaled-e1767964756949.jpg","title":"Dan Bristow Andrew Morgan 16 9","caption":"","description":"","alt":"WCPP Director Prof Dan Bristow with Cllr Andrew Morgan OBE, WLGA Chief Executive","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-1200x674.jpg 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-768x431.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-1536x862.jpg 1536w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-2048x1150.jpg 2048w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-395x222.jpg 395w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Dan-Bristow-Andrew-Morgan-16-9-scaled-e1767964756949.jpg 1980w"}],"files":[{"file":["20394"]}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20268","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/8"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=20268"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20268\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20393,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/20268\/revisions\/20393"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19777"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=20268"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=20268"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=20268"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=20268"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}