{"id":19851,"date":"2025-07-30T10:30:39","date_gmt":"2025-07-30T10:30:39","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/?p=19851"},"modified":"2025-12-11T21:36:37","modified_gmt":"2025-12-11T21:36:37","slug":"pedair-gwers-gan-ganolfannau-what-works-ar-ddeall-effaith","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pedair-gwers-gan-ganolfannau-what-works-ar-ddeall-effaith\/","title":{"rendered":"Pedair gwers gan ganolfannau \u2018What Works\u2019 ar ddeall effaith"},"content":{"rendered":"\n<p>Fel rhan o\u2019n prosiect a ariennir gan ESCR sy\u2019n&nbsp;<a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/project\/examining-the-impact-of-the-what-works-network\/\">pwyso a mesur effaith&nbsp;<strong>Rhwydwaith What Works y DU<\/strong><\/a>, mae Eleanor Mackillop o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhannu pedair gwers am gynllunio, cynhyrchu a gwerthuso effaith a allai fod o fudd i bob sefydliad sy\u2019n trosi tystiolaeth yn bolisi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhwydwaith yn dwyn ynghyd ganolfannau What Works sy\u2019n cynhyrchu, yn cyfuno ac yn trosglwyddo tystiolaeth i gynulleidfaoedd mewn meysydd polisi fel digartrefedd (y Ganolfan Effaith Digartrefedd), gofal iechyd (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICCE)), a chyrhaeddiad addysgol (y Sefydliad Gwaddol Addysgol).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Canolfannau What Works yn cynhyrchu cyfuniadau tystiolaeth, pecynnau cymorth sy\u2019n cymharu effeithiolrwydd gwahanol fathau o ymyriadau, adolygiadau o dystiolaeth, cymorth i weithredu ac yn cynnal digwyddiadau sy\u2019n dwyn ynghyd y bobl allweddol mewn maes penodol. Mae eu cynulleidfaoedd yn cynnwys y bobl sy\u2019n gwneud y penderfyniadau yn y llywodraeth ganol, mewn llywodraethau datganoledig, llywodraethau rhanbarthol a lleol, yn ogystal ag ymarferwyr fel athrawon, swyddogion heddlu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.&nbsp; Ceir nifer o achosion lle mae\u2019r gwaith hwn yn croesi ar draws y cynulleidfaoedd a\u2019r allbynnau y mae cyrff eraill sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 pholisi yn ceisio dylanwadu arnynt. Yma rydym yn crynhoi pedair gwers sydd o ddiddordeb arbennig yn ein barn ni.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Gwers 1: Mae\u2019n anodd cael effaith ym maes brocera gwybodaeth<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Gwnaed cryn ymdrechion i geisio cysyniadoli ac arddangos yn empirig effaith ymchwil ar gymdeithas, gyda llawer o astudiaethau\u2019n codi\u2019r cwestiwn pa mor bell yn \u00f4l y gall rhywun briodoli newidiadau mewn cymdeithas i brosiectau ymchwil penodol. Mae\u2019r dasg yn anos fyth os am ddangos effaith y broses o frocera gwybodaeth sy\u2019n digwydd ar y ffin sy\u2019n cysylltu ymchwil, tystiolaeth, cynhyrchwyr gwybodaeth ac allbynnau \u00e2 rhanddeiliaid polisi ac ymarfer.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r effaith yn wahanol ac yn mynd y tu hwnt i ymgysylltu. Dechreuodd llawer o Ganolfannau What Works ganolbwyntio ar ymgysylltu gan ei fod yn aml yn llwybr tuag at ddatblygu effaith. Maent wedi datblygu Damcaniaethau Newid a modelau rhesymeg i\u2019w helpu i gynllunio ar gyfer yr effaith, gan ofyn iddynt eu hunain pa effaith yr hoffent ei chael a gan weithio\u2019n \u00f4l i feddwl am eu gweithgareddau a\u2019u perthnasoedd. Mae effaith Canolfannau What Works yn canolbwyntio cymaint ar sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chynnwys mewn ymarfer a dogfennau polisi, ag a wna ar newid ymddygiad ac agweddau at fater.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Gwers 2: Mae meithrin perthnasoedd dwfn a dibynadwy yn cymryd amser<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn deall yr effaith yn y Rhwydwaith, fe wnaethom gynnal dros 40 o gyfweliadau gyda Chanolfannau What Works a\u2019u rhanddeiliaid. Daeth yn amlwg o bob cyfweliad fod meithrin perthnasoedd yn cael ei ystyried fel un o\u2019r llwybrau pwysig at gael effaith.&nbsp; Esboniodd un rhanddeiliad fod cysylltiad annatod i\u2019w gael rhwng effaith a meithrin perthynas:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019n fater o fod yno. Mae\u2019n fater o fod yn weladwy. Mae\u2019n fater o fod yn y mannau lle mae pobl yn siarad am y mathau hyn o benderfyniadau er mwyn llwyddo. Nid cyfeiriadau sy\u2019n bwysig. Mae cael eich crybwyll yn y Senedd yn braf, ond mae\u2019n llawer mwy perthynol na hynny.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Soniodd rhanddeiliaid eraill am bwysigrwydd gweithio\u2019n agos \u00e2 Chanolfannau What Works ac am bwysigrwydd perthynas gyfartal. Mae llawer o Ganolfannau What Works bellach wedi dechrau gweithio mewn partneriaeth \u00e2 phartneriaid lleol fel llywodraeth leol. Er enghraifft, mae\u2019r Ganolfan Heneiddio\u2019n Well wedi creu partneriaethau gyda Manceinion Fwyaf, Leeds a Swydd Lincoln; mae hyn yn helpu i feithrin cysylltiadau cryf a dibynadwy lle caiff yr angen am dystiolaeth ei drafod yn rheolaidd a lle caiff allbynnau eu cynhyrchu ar y cyd i ymateb i\u2019r angen hwnnw. Gan fod llefydd yn dod fwyfwy i\u2019r amlwg fel ffocws pwysig ar gyfer effaith (e.e. Partneriaethau Polisi ac Arloesi Lleol, Cronfa Ddatblygu Research England), fe all y partneriaethau lleol dwfn hyn fod yn drywydd addawol at effaith. Mae rhai prifysgolion, fel Sefydliad Dinesig Nottingham a Sefydliad Heseltine yn Lerpwl, wedi bod yn gweithio yn y maes \u2018lle\u2019 hwn ers tro.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth y Canolfannau What Works dynnu sylw at rai ffactorau sy\u2019n allweddol ar gyfer meithrin perthynas lwyddiannus gyda\u2019r bobl sy\u2019n gwneud y penderfyniadau. Ymysg y ffactorau hyn yr oedd, rhoi lle i feddwl ac amser iddynt wir bwyso a mesur y dystiolaeth yn hytrach na dim ond ei darllen, a gweithio\u2019n gynhyrchiol er mwyn esgor ar allbynnau y gellir eu defnyddio ar lawr gwlad.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Gwers 3: Mae mwy nag un ffordd o gynllunio ar gyfer yr effaith<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom drefnu digwyddiad ym mis Tachwedd 2024, gan ddwyn ynghyd y Canolfannau What Works i drafod sut maen nhw\u2019n cynllunio, yn cynhyrchu ac yn mesur effaith. Fel rhan o\u2019r digwyddiad hwn cafwyd siaradwyr o\u2019r tu allan i\u2019r Rhwydwaith er mwyn dangos y dulliau tebyg a\u2019r dulliau gwahanol o ymdrin \u00e2\u2019r mater hwn y gallai canolfannau ddysgu oddi wrthynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Does dim angen ailddyfeisio\u2019r olwyn. Mae digonedd o fodelau parod i\u2019w defnyddio ar gael yn y llenyddiaeth ac yn ehangach ar fframio a meddwl am eich effaith. Dyma ddolen i grynodeb o\u2019r dull gweithredu a baratowyd gennym ar gyfer Canolfannau What Works. Gellir hefyd ychwanegu enghreifftiau o\u2019r sesiwn Cyfnewid a Rhannu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Gwers 4: Mae mwy nag un ffordd o werthuso ac olrhain effaith hefyd<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pan fyddwch chi\u2019n meddwl eich bod wedi cael effaith, gall fod yn anodd dangos hynny. Mae hyn yn arbennig o wir am froceriaid gwybodaeth y mae eu gwaith yn aml yn digwydd y tu \u00f4l i\u2019r llenni ac yn aros ynghudd yn y ffin rhwng y byd academaidd a pholisi. Fel arfer, mae Canolfannau What Works yn gweithio i ddangos eu bod wedi gwneud cyfraniad sylweddol at yr effaith, ac fe allai pobl eraill sy\u2019n gweithio yn y maes ymgysylltu \u00e2 pholisi fod mewn sefyllfa debyg.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Canolfannau What Works wedi creu systemau gwahanol i gofnodi eu heffaith, o systemau rheoli prosiectau fel Asana sy\u2019n cysylltu tasgau prosiect \u00e2 nodau cyffredinol, i ddefnyddio sianeli Slack i ganiat\u00e1u i unrhyw o\u2019r sefydliad gofnodi enghreifftiau o effaith. Ceir yn aml gadwyni achosol hir rhwng ymchwil, tystiolaeth ac effaith derfynol, ac mae\u2019r angen i gysylltu gwaith eich sefydliad \u00e2 newid yn broses hir y mae angen ei gwerthuso\u2019n ofalus.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r canolfannau wedi ceisio osgoi syrthio i\u2019r \u2018magl\u2019 gwerthuso drwy fetrigau, a allai olygu aberthu\u2019r ffocws ar newid systemau i ddibynnu ar fetrigau symlach (e.e., nifer y lawrlwythiadau) a\u2019r effaith linol. Tynnodd y canolfannau What Works sylw at ba mor anodd yw mesur effaith gynnil, neu\u2019r hyn y gellid cyfeirio ati fel effaith anffurfiol\/gysyniadol, fel newid mewn agwedd ac ymddygiad. Mae defnyddio gweithdai mapio cyfranogol yn adnodd defnyddiol posibl i gofnodi fel gr\u0175p yr effeithiau a geisir ac yna archwilio sut cyflawnwyd yr effaith.<\/p>\n\n\n\n<p><strong><em>Casgliad: Mae\u2019n bwysig rhannu arferion da a dulliau o fesur effaith<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn gyfle i ganolfannau What Works rannu enghreifftiau o arferion da a dulliau o gael effaith. Dywedodd y canolfannau What Works ei bod yn bwysig rhannu\u2019r hyn maen nhw\u2019n ei wneud gyda\u2019i gilydd a gyda\u2019r byd ehangach er mwyn i eraill gael eu hysbrydoli ac, mewn rhai achosion, osgoi\u2019r un maglau. Mae hefyd yn bwysig i ganolfannau What Works ddysgu oddi wrth sefydliadau eraill fel cyrff ymgysylltu \u00e2 pholisi prifysgolion a bydd ein prosiect yn ceisio meithrin cysylltiadau agosach rhwng y ddwy gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed rhagor am y prosiect neu mewn bod yn rhan o ddigwyddiad gyda chanolfannau What Works i\u2019r dyfodol, cysylltwch \u00e2 ni (info@wcpp.org.uk).<\/p>\n\n\n\n<p>Cyhoeddwyd y blog i ddechrau gan&nbsp;<a href=\"https:\/\/upen.ac.uk\/resources\/four-lessons-from-what-works-centres-on-understanding-impact\/\">UPEN<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel rhan o\u2019n prosiect a ariennir gan ESCR sy\u2019n&nbsp;pwyso a mesur effaith&nbsp;Rhwydwaith What Works y DU, mae Eleanor Mackillop o Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn rhannu pedair gwers am gynllunio, cynhyrchu a gwerthuso effaith a allai fod o fudd i bob sefydliad sy\u2019n trosi tystiolaeth yn bolisi. Mae\u2019r rhwydwaith yn dwyn ynghyd ganolfannau What Works [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":18913,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,132,130],"class_list":["post-19851","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-effaith","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":11941,"authors":[],"image":[],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19851","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=19851"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19851\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":19852,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19851\/revisions\/19852"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18913"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19851"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19851"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19851"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19851"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}