{"id":19055,"date":"2025-07-30T10:32:50","date_gmt":"2025-07-30T10:32:50","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/blog-posts\/from-evidence-to-action-co-creating-a-resource-to-strengthen-multisector-collaboration-in-wales\/"},"modified":"2026-01-14T14:17:43","modified_gmt":"2026-01-14T14:17:43","slug":"from-evidence-to-action-co-creating-a-resource-to-strengthen-multisector-collaboration-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/from-evidence-to-action-co-creating-a-resource-to-strengthen-multisector-collaboration-in-wales\/","title":{"rendered":"O dystiolaeth i weithredu: Cyd-greu adnodd i gryfhau cydweithio amlsector yng Nghymru"},"content":{"rendered":"\n<p>Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau cymhleth sy\u2019n wynebu cymunedau ledled Cymru bydd angen partneriaethau ystyrlon sy\u2019n pontio\u2019r bwlch rhwng y sector cyhoeddus a\u2019r cymunedau y mae\u2019n eu cefnogi. Mae gwaith ymgysylltu diweddaraf WCPP yn datgelu bod awydd a pharodrwydd i gydweithio rhwng sectorau yng Nghymru, a sail dystiolaeth i gefnogi hynny, ond bod rhwystrau yn dal i atal cydweithio parhaus rhwng y sectorau cymunedol a chyhoeddus. Er ein bod yn cydnabod nad oes atebion syml er mwyn chwalu\u2019r holl rwystrau hysbys ac anhysbys sy\u2019n atal cydweithio, rydym wedi bod yn edrych beth arall y gallwn ei wneud fel canolfan dystiolaeth i helpu i ysgogi a meithrin ymddygiadau ac arferion mwy cydweithredol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er 2023, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) a\u2019r <a href=\"https:\/\/copronet.wales\/what-we-do\/rcp\/?cn-reloaded=1\">Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar<\/a> (RCP) wedi datblygu sail dystiolaeth sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cydweithio-amlsector\/\">chydweithio amlsector i wella llesiant cymunedol.<\/a> Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2024-25) rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd gwell o drosi\u2019r dystiolaeth hon yn weithredu. Gan adeiladu ar waith cwmpasu cychwynnol, rydym wedi:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynnal tri gweithdy dylunio er mwyn dod \u00e2 rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i brofi syniadau a chanfod anghenion y byd go iawn.<\/li>\n\n\n\n<li>Arwain cyfweliadau un-i-un \u00e2 rhanddeiliaid allweddol ac ymgysylltu \u00e2\u2019n rhwydwaith ehangach yng Nghymru er mwyn dilysu mewnwelediadau ein gweithdai.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnal adolygiad desg o offer ac adnoddau sy\u2019n bodoli\u2019n barod, ac sydd ar gael i\u2019r cyhoedd, y gallem ddysgu rhywbeth ohonynt.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Nod yr ymgysylltu hwn oedd ceisio deall beth arall y gallai fod ar ymarferwyr ei angen er mwyn defnyddio dull gweithredu sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth. Nid ceisio canfod <em>yr<\/em> ateb oedd nod yr ymgysylltu. Yn hytrach, roedd yn ceisio cael mewnwelediad dyfnach, a chanfod a oes gwir alw am ddatblygu offeryn neu adnodd i gefnogi gweithredu, ac os oes: <em>Beth sydd ei angen? Pwy sydd ei angen? Beth allen nhw fod eisiau ei wneud, ei brofi, a\u2019i gyflawni drwy ryngweithio \u00e2\u2019r offeryn\/adnodd?<\/em> Yn y blog yma rydym yn tynnu sylw at rai o\u2019r prif bethau a ddysgwyd ac yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y prif bethau a ddysgwyd o\u2019n gweithgareddau ymgysylltu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dangosodd y gweithdai frwdfrydedd a rhwystredigaeth. Roedd llawer o drafodaethau\u2019n archwilio\u2019r rhwystrau diwylliannol, strwythurol, ac ymddygiadol sy\u2019n atal cydweithio. Gall y rhwystrau hyn greu partneriaethau anghyfartal, neu ddisgwyliadau anghydnaws, rhwng y gymuned a phartneriaid cyhoeddus yn&nbsp; deillio o wahanol gyllidebau, strwythurau llywodraethu, systemau monitro, a ffyrdd o weithio a all achosi i\u2019r sectorau hyn weithio \u2018gyda\u2019i gilydd\u2019 ac ar wah\u00e2n yr un pryd.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan ofynnwyd beth allai helpu i bontio\u2019r bwlch gweithredu, mynegodd y rhanddeiliaid bryderon yngl\u0177n \u00e2 datblygu \u2018pecyn cymorth arall\u2019 na fyddai\u2019n cael ei ddefnyddio o bosibl. Roeddent yn ein hannog i feddwl am hirhoedledd ac effaith o\u2019r dechrau un \u2014 er enghraifft, drwy ymwreiddio\u2019r hyn sy\u2019n cael ei ddatblygu mewn arferion a phrosesau sy\u2019n bodoli\u2019n barod \u2014 er mwyn mynd ymhellach na\u2019r adnoddau presennol a lleihau\u2019r risg o \u2018eistedd-ar-silff\u2019. Tri o\u2019r prif bethau y gofynnwyd amdanynt oedd datblygu cyfuniad o offeryn digidol, yn cael ei ategu gan ryngweithio dynol, a fydd yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Helpu i bontio\u2019r lefel strategol \u00e2\u2019r lefel leol, gymunedol<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu cysylltiadau clir ag arferion da ac enghreifftiau ohonynt<\/li>\n\n\n\n<li>Cysylltu defnyddwyr \u00e2 rhwydwaith ehangach o gefnogaeth, tystiolaeth ac adnoddau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Er nad ydym yn si\u0175r a fydd cyfuno\u2019r dynol a\u2019r digidol yn ddichonadwy, pwysleisiodd llawer fod angen cysylltiadau dynol gan eu bod yn teimlo y byddai\u2019n amhosibl i adnodd digidol ddarparu gwybodaeth gyfredol, berthnasol yn gyson y gall defnyddwyr ei chymhwyso er mwyn canfod eu ffordd o gwmpas y strwythurau presennol a\/neu oresgyn rhwystrau penodol sy\u2019n atal cydweithio.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Y prif bethau a ddysgwyd o\u2019n hadolygiad desg<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn dysgu o\u2019r arferion presennol ac osgoi dyblygu, fe wnaethom adolygu 36 o adnoddau a nodwyd gan y rhai a ddaeth i\u2019r gweithdai a thrwy chwiliadau rhyngrwyd ehangach. Datgelodd yr adolygiad desg fylchau amlwg a chyfleoedd i wella:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>ar hyn o bryd nid oes adnodd neu offeryn cysylltiedig \u00e2 chydweithio amlsector sy\u2019n rhyngweithiol, yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr ac yn gyfredol.<\/li>\n\n\n\n<li>mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r adnoddau presennol yn ffeiliau PDF sefydlog, llawer \u00e2 chysylltiadau wedi\u2019u torri a dim llawer o dystiolaeth o ddefnydd neu effaith.<\/li>\n\n\n\n<li>nid oedd yr un o\u2019r offer a adolygwyd yn galluogi swyddogaeth ddiagnostig yn llawn nac yn darparu galluoedd llywiwr\u2014nodweddion y cyfeiriwyd atynt dro ar \u00f4l tro gan y bobl a ddaeth i\u2019r gweithdai fel rhai pwysig.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Pwynt pwysig a ddysgwyd o\u2019r adolygiad hwn oedd y gallai\u2019r weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer yr offeryn\/adnodd, a\u2019r heriau technegol a chysylltiedig ag adnoddau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019i wireddu, egluro pam nad oes adnodd o\u2019r math hwn yn bodoli ar hyn o bryd. Maes nad ydym wedi edrych arno eto yw a allai datblygu cymwysiadau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol hygyrch helpu i wneud ein gweledigaeth yn fwy dichonadwy o safbwynt technegol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pwyntiau a ddysgwyd a\u2019r camau nesaf<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Pan oeddem yn dechrau\u2019r gwaith hwn roeddem yn amheus a oedd galw am offeryn neu adnodd arall, gan fod cynifer yn bodoli\u2019n barod, ond erbyn y diwedd rydym wedi ein hysbrydoli gan faint y diddordeb parhaus a\u2019r momentwm a gr\u00ebwyd gan y gyfres o weithdai. Rhoddodd y momentwm hwn ddigon o hyder i WCPP roi\u2019r her hon allan ar dendr er mwyn edrych ar yr ystod o bartneriaid ac atebion posibl a allai fod yn bodoli. Rydym yn gobeithio symud ymlaen \u00e2\u2019r gwaith hwn yn hydref 2025 a thrwy 2026.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid ydym yn disgwyl creu ateb i gydweithio amlsector rhwng y sectorau cymunedol a chyhoeddus, ond rydym yn gobeithio y gallwn gymryd camau ystyrlon tuag at chwalu rhwystrau ac ategu ymdrechion ehangach er mwyn adeiladu cydweithio effeithiol, mwy cyfartal i wella llesiant cymunedol. Nid ydym ychwaith yn disgwyl i bartner ymgymryd \u00e2\u2019r her hon ar ei ben ei hun. Er mwyn stiwardio\u2019r prosiect hwn ar y cyd, rydym wedi creu Gr\u0175p Llywio yn cynnwys safbwyntiau amrywiol o fewn y sector a chyfleoedd posibl i brofi\u2019r offeryn yn y byd go iawn.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech ymwneud \u00e2\u2019r gwaith hwn, dilyn ein camau nesaf, neu drafod unrhyw rai o\u2019r mewnwelediadau hyn, cysylltwch \u00e2 charlotte.morgan@wcpp.org.uk.<\/p>\n\n\n\n<p>Os hoffech dendro am y gwaith hwn, neu ein helpu i rannu gwybodaeth am y cyfle, &nbsp;<a href=\"https:\/\/www.find-tender.service.gov.uk\/Notice\/037857-2025?origin=SearchResults&amp;p=1\"><strong>ewch i\u2019n tudalen dendro.<\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>We have launched a tender to develop a tool\/resource that supports multisector collaborations aimed at improving community wellbeing.<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18699,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[],"research-and-impact":[],"class_list":["post-19055","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":12316,"authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-scaled.jpg","filesize":658247,"sizes":{"medium":{"file":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-744x507.jpg","width":744,"height":507,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91569,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-744x507.jpg"},"large":{"file":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-1200x818.jpg","width":1200,"height":818,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":196101,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-1200x818.jpg"},"thumbnail":{"file":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":82846,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-768x523.jpg","width":768,"height":523,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":95829,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-768x523.jpg"},"1536x1536":{"file":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-1536x1047.jpg","width":1536,"height":1047,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":288126,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-1536x1047.jpg"},"2048x2048":{"file":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-2048x1396.jpg","width":2048,"height":1396,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":457280,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-2048x1396.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":363594,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham.jpg","ID":"15390","name":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-scaled.jpg","title":"Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-workshop-Ty-Pawb-Wrexham-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19055","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=19055"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19055\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20057,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/19055\/revisions\/20057"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18699"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=19055"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=19055"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=19055"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=19055"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}