{"id":15468,"date":"2024-12-16T20:29:56","date_gmt":"2024-12-16T20:29:56","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-sydd-ei-angen-i-arwain-sefydliad-cyfryngwyr-tystiolaeth\/"},"modified":"2025-08-26T14:57:52","modified_gmt":"2025-08-26T14:57:52","slug":"beth-sydd-ei-angen-i-arwain-sefydliad-cyfryngwyr-tystiolaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-sydd-ei-angen-i-arwain-sefydliad-cyfryngwyr-tystiolaeth\/","title":{"rendered":"Beth sydd ei angen i arwain sefydliad cyfryngwyr tystiolaeth?"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae\u2019r Athro Steve Martin, a fu\u2019n gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am ddeng mlynedd gyntaf y ganolfan, yn taflu goleuni ar ei ymchwil cynnar i\u2019r hyn sydd ei angen i arwain y sefydliadau hyn \u2013 a sut y gellid defnyddio\u2019r dysgu hwn i helpu arweinwyr mentrau ymgysylltu polisi academaidd yn y dyfodol.<\/strong><\/p>\n<p>Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol o\u2019r r\u00f4l allweddol y gall sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth ei chwarae wrth annog polisi ac arfer sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth. Yn rhyfeddol, o ystyried mai eu cenhadaeth yw hyrwyddo\u2019r defnydd o dystiolaeth, cymharol ychydig a wyddom o hyd am yr hyn sy\u2019n gwneud sefydliad cyfryngwyr tystiolaeth yn effeithiol. Mae rhai astudiaethau\u2019n awgrymu bod arweinyddiaeth yn ffactor allweddol yn eu llwyddiant, ond nid oes gennym ddealltwriaeth glir o ble y daw arweinwyr sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth, beth maent yn ei wneud, na\u2019r offer sydd eu hangen arnynt ar gyfer y swydd.<\/p>\n<p>Fel cam cyntaf i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bwlch hwn, yn ddiweddar cynhaliais gyfres o sgyrsiau manwl, un-i-un ag arweinwyr rhai o sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth amlycaf y DU, gan gynnwys wyth canolfan <em>What Works<\/em>, arsyllfa a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), a thair canolfan dystiolaeth ranbarthol sy\u2019n gweithio gydag awdurdodau maerol cyfun. Cytunodd pob arweinydd yn garedig i roi disgrifiad gonest o\u2019u llwyddiannau, eu methiannau a\u2019u rhwystredigaethau, a\u2019r hyn a gafwyd oedd darlun hynod ddiddorol o\u2019r hyn sy\u2019n eu hysgogi, y rolau y maent yn eu cyflawni, a\u2019r sgiliau sydd eu hangen arnynt.<\/p>\n<p>Mae\u2019r sefydliadau y maent yn eu harwain yn amrywio\u2019n sylweddol o ran tarddiad, hirhoedledd, ffocws, staffio, cyllid, a strwythurau llywodraethu. Mae rhai wedi bod yn gweithredu ers dros ddegawd, tra mae eraill yn llai na phum mlwydd oed. Mae rhai yn elwa ar waddolion aml-flwyddyn gwerth miliynau o bunnoedd, ac yn cyflogi timau mawr o hyd at 100 o staff, tra mae eraill yn dibynnu ar grantiau cyfnod penodol byrrach, a chanddynt lai na deg o weithwyr llawn amser. Mae rhai yn canolbwyntio ar wasanaethau, sectorau, neu broffesiynau penodol, tra mae eraill yn seiliedig ar leoliad neu'n mynd i'r afael \u00e2 materion trawsbynciol. Daw eu harweinwyr hefyd o ystod amrywiol o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol. Roedd y rhan fwyaf wedi gweithio mewn rhyw fath o r\u00f4l ymchwil neu bolisi yn gynnar yn eu gyrfaoedd, ond dim ond hanner oedd \u00e2 PhD, a dim ond dau oedd \u00e2 phrofiad blaenorol fel prif weithredwr. Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, roedd profiadau\u2019r arweinwyr o arwain sefydliad cyfryngwyr tystiolaeth yn drawiadol o debyg.<\/p>\n<p>Roeddent wedi\u2019u huno gan ymdeimlad cryf o genhadaeth a'u cymell gan gred yng ngrym tystiolaeth i wella polisi a\/neu ymarfer. Buont yn siarad mewn modd tebyg am y cyfuniad o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i weithredu ar draws ffiniau sefydliadol ac yn y gofodau anffurfiol rhwng y byd academaidd a llywodraeth. Amlygwyd yr angen i allu gwerthuso cywirdeb tystiolaeth, gan fod mewn cytgord \u00e2 naws a blaenoriaethau newidiol y cyd-destunau gwleidyddol a pholisi y maent yn gweithio ynddynt ar yr un pryd. Mae angen iddynt fod yn strategwyr medrus sy'n gallu datblygu a chyfathrebu blaenoriaethau clir, yn rheolwyr staff a chyllidebau, ac yn godwyr arian medrus. Yn ogystal, rhaid iddynt feddu ar amrywiaeth o \u2018sgiliau meddal\u2019 i feithrin a chynnal hygrededd ac ymddiriedaeth gydag uwch academyddion, llunwyr polisi, ymarferwyr, cyllidwyr, a llu o randdeiliaid eraill.<\/p>\n<p>Amlygwyd hefyd bwysigrwydd gallu \u2018gwneud i bethau ddigwydd\u2019 er gwaethaf rhwystrau sefydliadol sylweddol. Bu sawl un yn rhan allweddol o greu\u2019r sefydliadau y maent bellach yn eu harwain \u2013 yn cydnabod yr angen, yn darbwyllo eraill ohono, ac yn sicrhau cyllideb i\u2019w wireddu. Disgrifiodd eraill drafodaethau cymhleth gyda chyllidwyr, sefydliadau cynnal, a rhanddeiliaid eraill, a oedd yn aml yn gofyn am feddwl a gweithio y tu allan i reolau a phrosesau sefydliadol safonol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gallu i addasu yn hanfodol. Rhaid i arweinwyr ragweld ac ymateb yn gyflym i anghenion a disgwyliadau newidiol rhanddeiliaid a bod yn gyfforddus ag ansicrwydd ac amwysedd. Rhaid iddynt hefyd ymdopi \u00e2\u2019r trosiant cyson o staff yn y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol, a sefydliadau partner eraill.<\/p>\n<p>Yn olaf, mae angen iddynt fod yn wydn. Rhoddodd yr arweinwyr y cwrddais \u00e2 nhw ddisgrifiad o\u2019r pwysau sy\u2019n deillio o lwythi gwaith trwm, yr angen i fodloni gofynion cystadleuol gwahanol rhanddeiliaid, a phwysigrwydd cyflawni canlyniadau cyflym i sicrhau cyllid parhaus. Mae'n rhaid iddynt hefyd gymell eu hunain a chodi ysbryd y t\u00eem pan fydd tystiolaeth y maent wedi gweithio'n galed i'w chynhyrchu a'i chyfleu yn cael ei hanwybyddu gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.<\/p>\n<p>Mae'r cyfuniad yma o sgiliau yn gwneud y r\u00f4l yn ddiddorol ond hefyd yn anarferol a heriol. Doedd bron dim un o'r arweinwyr y siaradais \u00e2 nhw wedi gwerthfawrogi ehangder a chymhlethdod hyn yn llawn cyn ymgymryd \u00e2'u rolau. Dywedodd y rhan fwyaf eu bod yn \u2018dysgu yn y swydd\u2019 ac yn cael trafferth gyda rhai agweddau ar y gwaith. Roedd yr heriau yr oeddent wedi\u2019u hwynebu a\u2019r camgymeriadau yr oeddent wedi\u2019u gwneud yn amrywio yn ddibynnol ar eu profiad blaenorol a natur eu sefydliad, ond yr un oedd y neges sylfaenol: sef bod prinder pobl sy\u2019n barod i arwain sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth ac sy\u2019n gallu gwneud hynny, bod prinder hyfforddiant neu ddatblygiad ar gyfer darpar arweinwyr y dyfodol, ac nad oes llwybr gyrfa sefydledig.<\/p>\n<p>Hoffwn awgrymu tair ffordd o ymateb i\u2019r canfyddiadau hyn. Yn gyntaf, gallem wneud llawer mwy - am ychydig iawn o gost - i annog a galluogi arweinwyr presennol sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth i rannu eu profiadau \u00e2'i gilydd a'r byd ehangach. Maent yn gweithio ar eu pen eu hunain ar hyn o bryd, gyda phob arweinydd yn darganfod eu hatebion eu hunain i heriau sy\u2019n aml yr un fath, neu\u2019n debyg iawn, i bawb. Yn ail, dylem ddefnyddio profiadau\u2019r arweinwyr hyn i lywio\u2019r gwaith o gynllunio mentrau ymgysylltu \u00e2 pholisi ymchwil yn y dyfodol. Byddai\u2019n ddefnyddiol ymgynghori \u00e2 nhw yn fuan yn y broses am yr hyn y maent wedi\u2019i ddysgu a beth allai weithio\u2019n well yn y dyfodol. Yn drydydd, mae angen i ni sicrhau \u2018arfaeth\u2019 arweinwyr y dyfodol. Cynigiaf ein bod yn canolbwyntio ar fentora un-i-un a chymorth cymheiriaid sydd wedi\u2019i deilwra i anghenion unigolion, bylchau sgiliau, a dyheadau, yn hytrach na hyfforddiant ffurfiol. Dylai llywodraethau, prifysgolion a chyllidwyr ymchwil i gyd gefnogi hyn oherwydd byddant i gyd yn elwa o greu sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth cryf ac effeithiol sy\u2019n cael eu harwain yn dda, ac sy\u2019n cefnogi polisi ac ymarfer sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Cydnabyddiaeth<\/p>\n<p>Rwy\u2019n ddiolchgar i arweinwyr sefydliadau cyfryngwyr tystiolaeth am gytuno i gwrdd \u00e2 mi. Diolch am eich amser, am y gwaith ysbrydoledig yr ydych yn ei wneud, ac am rannu eich profiadau gyda'r fath onestrwydd a threiddgarwch.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Athro Steve Martin, a fu\u2019n gyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru am ddeng mlynedd gyntaf y ganolfan, yn taflu goleuni ar ei ymchwil cynnar i\u2019r hyn sydd ei angen i arwain y sefydliadau hyn \u2013 a sut y gellid defnyddio\u2019r dysgu hwn i helpu arweinwyr mentrau ymgysylltu polisi academaidd yn y dyfodol. Mae yna gydnabyddiaeth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15467,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,130],"class_list":["post-15468","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":20002,"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1264228218.jpg","filesize":423389,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1264228218-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":39215,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1264228218-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":82882,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1264228218-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37871,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1264228218-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":41179,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1264228218-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":125442,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1264228218-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":211736,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1264228218-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":173055,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15467","name":"iStock-1264228218.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218.jpg","title":"iStock-1264228218.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1264228218-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15468","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15468"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15468\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16566,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15468\/revisions\/16566"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15467"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15468"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15468"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15468"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15468"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}