{"id":15465,"date":"2024-12-12T12:59:39","date_gmt":"2024-12-12T12:59:39","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/goresgyn-heriau-cyllido-gwaith-ol-osod-llwybr-at-gyflawni-sero-net\/"},"modified":"2025-09-03T20:08:06","modified_gmt":"2025-09-03T20:08:06","slug":"goresgyn-heriau-cyllido-gwaith-ol-osod-llwybr-at-gyflawni-sero-net","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/goresgyn-heriau-cyllido-gwaith-ol-osod-llwybr-at-gyflawni-sero-net\/","title":{"rendered":"Goresgyn heriau cyllido gwaith \u00f4l-osod: Llwybr at gyflawni sero net"},"content":{"rendered":"<p><span data-contrast=\"auto\">Mae Cymru a\u2019r Deyrnas Unedig yn wynebu her sylweddol o ran cynyddu\u2019r ddarpariaeth \u00f4l-osod i fodloni nodau sero net, tlodi tanwydd ac iechyd. Ar draws y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd rydym yn \u00f4l-osod tua 250,000 o gartrefi bob blwyddyn, ond er mwyn cyrraedd ein targedau mae angen i ni gynyddu hyn i 1.5 miliwn o gartrefi bob blwyddyn erbyn 2035. Mae\u2019r cynnydd chwephlyg hwn yn hanfodol i gyflawni cyfanswm o 11.8 miliwn \u00f4l-osod yn Lloegr, 1 miliwn yng Nghymru, 1.2 miliwn yn yr Alban a 300,000 yng Ngogledd Iwerddon, a dim ond os ydym yn targedu EPC C ar gyfer pob cartref yw hynny. Mae llawer yn y diwydiant yn dweud bod angen i ni fynd ymhellach o lawer. Fodd bynnag, mae\u2019r cyd-destun cyllido presennol, a\u2019r cyllid sydd ar gael, yn cyflwyno nifer o rwystrau i\u2019r ehangu hwn.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Nid yw\u2019r cyllid cyffredinol sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigon i ddiwallu anghenion y<\/span> <a href=\"https:\/\/www.nea.org.uk\/news\/price-cap-february-24\/\"><span data-contrast=\"none\">6 miliwn o gartrefi<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> yn y Deyrnas Unedig sy\u2019n byw mewn tlodi tanwydd. I Gymru, mae hyn yn <\/span><a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/amcangyfrifon-tlodi-tanwydd-wediu-modelu-ar-gyfer-cymru-prif-ganlyniadau-ym-mis-hydref-2021-html\"><span data-contrast=\"none\">14%<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> o\u2019r holl gartrefi \u2013 <\/span><a href=\"https:\/\/www.futuregenerations.wales\/resources_posts\/homes-fit-for-the-future-the-retrofit-challenge\/\"><span data-contrast=\"none\">ac amcangyfrifir y bydd \u00f4l-osod pob cartref sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru yn costio dros \u00a34.8bn.<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Ar ben hynny, mae\u2019r opsiynau cyllido sydd ar gael ar hyn o bryd yn aml yn llai na chost lawn mesurau \u00f4l-osod hanfodol a gwaith galluogi. Mae cyfuniad o ddibyniaeth ar grantiau a chylchoedd anrhagweladwy cyllid grant yn arwain at lif gwaith cyfnewidiol i gwsmeriaid ac i\u2019r gadwyn gyflenwi. Mae\u2019r rhwystrau gweinyddol cymhleth a\u2019r gofynion cymhwysedd ar gyfer cynlluniau sy\u2019n cael eu hariannu gan grantiau yn golygu bod y broses hyd yn oed yn fwy heriol a chymhleth.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae cwmpas y rhaglenni sydd ar gael ar hyn o bryd yn rhy gul hefyd. Nid ydynt yn ystyried costau cynyddol a threuliau annisgwyl. Mae\u2019r gronfa ariannu gyffredinol yn rhy fach i fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi tanwydd yn effeithiol ac i \u00f4l-osod yr holl dai cymdeithasol. Mae ceisiadau cystadleuol a therfynau amser tynn i wario yn creu teimlad ffug o brinder, gan ychwanegu pwysau diangen sy\u2019n gallu effeithio ar y cyflawni ac o bosibl ar ansawdd y gwaith \u00f4l-osod. Mae deiliadaeth neu incwm hefyd yn cyfyngu ar y rhan fwyaf o opsiynau cyllido. Mae hyn yn golygu ei bod hi\u2019n anodd gweithredu dulliau ehangach sy\u2019n seiliedig ar leoedd a chynyddu \u00f4l-osod.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er mwyn chwalu\u2019r rhwystrau hyn, mae angen i ni ddatblygu atebion arloesol fel benthyciadau cost isel, modelau gwres-fel-gwasanaeth, a chymhellion treth. Mae modelau ariannol integredig a chynnyrch morgais arbenigol hefyd yn hanfodol i gefnogi\u2019r twf hwn. Er mwyn i ragor o brosiectau \u00f4l-osod lwyddo, mae angen i\u2019r sectorau \u00f4l-osod a chyllid gydweithio\u2019n agos. Er enghraifft, mae hyfforddi broceriaid morgeisi i godi ymwybyddiaeth o\u2019r cynlluniau sydd ar gael yn hanfodol, gan eu bod yn delio \u00e2\u2019r rhan fwyaf o geisiadau am forgeisi. Mae angen rhagor o hyder ar gyllidwyr hefyd wrth reoli atebolrwydd wrth weithio gyda phartneriaid \u00f4l-osod. Hefyd, dylid arfogi\u2019r sector cyllid i ddylunio atebion hawdd eu defnyddio, er mwyn iddi fod yn hawdd i gwsmeriaid gael gafael ar yr arian sydd ei angen arnynt. Mae cwsmeriaid yn ymddiried mewn banciau ac mae banciau\u2019n gallu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o\u2019u haddysgu am y dewisiadau hyn. Mae mentrau fel cartref ffug sero net Barclays-British Gas yn Plymouth yn enghraifft werthfawr i ddysgu ac i fireinio\u2019r dulliau hyn.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Dylid hefyd rhoi blaenoriaeth i sefydlu cynnig <\/span><a href=\"https:\/\/nationalretrofithub.org.uk\/financing-retrofit-roundtable\/\"><span data-contrast=\"none\">cyllido gwaith \u00f4l-osod<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> cyson rhwng y banciau, gan godi\u2019r cap ar y benthyciad uchaf i \u00a325,000. Gallu cael gafael ar gyllid fforddiadwy ar log isel yw un o\u2019r cymhellion cryfaf i gwsmeriaid sy\u2019n awyddus i uwchraddio eu cartref.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er mwyn cyflawni ar raddfa fawr, mae gan awdurdodau lleol gyfle unigryw i arwain y ffordd o ran \u00f4l-osod drwy gysylltu darparwyr sgiliau a hyfforddiant, busnesau lleol, grwpiau cymunedol, a sefydliadau ariannol i greu siopau un stop ar gyfer gwasanaethau \u00f4l-osod. Byddai\u2019r hybiau hyn yn helpu i symleiddio\u2019r gofynion cynllunio fel nad ydynt yn arafu prosiectau \u00f4l-osod, ar yr un pryd \u00e2 throi stoc tai lleol yn lle profi ar gyfer technolegau newydd.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Maes allweddol arall mae angen ei wella yw <\/span><a href=\"https:\/\/nationalretrofithub.org.uk\/knowledge-hub\/epc-reform\"><span data-contrast=\"none\">diwygio system y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC).<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> Mae ein hadolygiad o wybodaeth am y diwydiant ac adborth gan y sector wedi tynnu sylw at nifer o broblemau gyda\u2019r system EPC bresennol. Cafodd yr EPC presennol ei ddylunio fel metrig cost i ddangos pa mor ddrud neu rad ydy gwresogi cartref, gan hepgor gwybodaeth hanfodol am ddefnyddio ynni ac allyriadau carbon, ac felly nid yw\u2019n gwneud fawr ddim i hyrwyddo datgarboneiddio gwres. Ar ben hynny, mae\u2019r data mewn EPCs yn aml yn annibynadwy oherwydd dilysrwydd data gwan, tybiaethau diffygiol, a modelu anghywir.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae EPCs hefyd yn colli\u2019r cyfle i ymgysylltu perchnogion tai \u00e2 pherfformiad ynni eu cartref. Nid yw\u2019r adroddiadau\u2019n hawdd eu deall, ac mae\u2019r argymhellion yn aml yn amwys neu\u2019n anodd eu gweithredu. Gan fod y diwydiant cyllid yn dibynnu ar EPCs i adrodd ac i werthuso \u00f4l troed carbon eu portffolios, byddai metrigau carbon mwy cywir a dibynadwy yn helpu i ddatgloi cyllid gwyrdd i uwchraddio adeiladau.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Byddai gwneud EPCs yn haws i ddefnyddwyr eu deall\u2013gyda chyfeiriadau clir, dolenni defnyddiol, a chamau nesaf syml\u2013yn gwella ymgysylltiad yn sylweddol. Mae ein rhwydwaith hefyd yn credu y dylai EPCs ystyried ffactorau iechyd a llesiant, gan roi gwybodaeth am sut gallai amgylchedd cartref effeithio ar ei breswylwyr. Byddai hyn yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwell ansawdd aer dan do, gwell cysur thermol, a strategaethau i leihau\u2019r risg o lwydni.<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;335559738&quot;:240,&quot;335559739&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn ddiweddar, mae\u2019r National Retrofit Hub wedi bod yn edrych ar sut mae cryfhau\u2019r cysylltiadau rhwng cyllid a chyflawni gwaith \u00f4l-osod. Mewn trafodaeth bwrdd crwn, gofynnwyd y cwestiwn, \u2018Ydy integreiddio cyllid yn uniongyrchol i gyflawni gwaith \u00f4l-osod i\u2019r sector sy\u2019n gallu talu yn gallu arwain at ganlyniadau gwell a chynyddu\u2019r nifer sy\u2019n gwneud hyn?\u2019 Er bod mabwysiadwyr cynnar wedi bod yn hanfodol i brofi cynnyrch ariannol sydd eisoes ar gael, mae cynyddu lefel y gwaith \u00f4l-osod i farchnad ehangach yn golygu mynd i\u2019r afael ag amrywiaeth o anghenion unigryw. Fe gawsom wybodaeth gan brosiectau <\/span><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/green-home-finance-accelerator-discovery-phase-projects\"><span data-contrast=\"none\">Cyflymydd Cyllid Cartrefi Gwyrdd<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> Llywodraeth y DU, gan gynnwys Parity Projects, People Powered Retrofit, Trustmark, a Lendology, sydd i gyd yn datblygu modelau arloesol sy\u2019n <\/span><a href=\"https:\/\/nationalretrofithub.org.uk\/finance-4\/\"><span data-contrast=\"none\">dod \u00e2 chyllid i mewn i\u2019r gwaith o gyflawni gwaith \u00f4l-osod<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Er mwyn gwireddu manteision llawn \u00f4l-osod\u2014gwell iechyd, diogelwch ynni, y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd ac arbed costau\u2014mae angen inni ddefnyddio\u2019r manteision hyn i greu buddsoddiad. <\/span><span data-contrast=\"auto\">Mae mentrau fel<\/span><span data-contrast=\"auto\"> \u2018<\/span><a href=\"https:\/\/nationalretrofithub.org.uk\/delivery-approaches-4\/\"><span data-contrast=\"none\">cymdogaethau<\/span> <span data-contrast=\"none\">sero net<\/span><span data-contrast=\"none\">\u2019<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\"> yn gallu dangos gwerth dull cynhwysfawr o \u00f4l-osod ar raddfa, gan ddangos yr effaith drawsnewidiol ar gymunedau ac ar yr economi.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae'r llwybr i gynyddu lefel y gwaith \u00f4l-osod yn heriol, ond mae modd goresgyn y rhwystrau hyn drwy feithrin cydweithrediad rhwng y sectorau cyllid ac \u00f4l-osod, diwygio\u2019r system EPC, a datblygu dulliau cynhwysfawr sy\u2019n seiliedig ar leoedd. Mae hi\u2019n hen bryd cofleidio potensial \u00f4l-osod, nid dim ond <\/span><span data-contrast=\"auto\">fel ffordd o<\/span><span data-contrast=\"auto\"> gyflawni\u2019r nod, ond fel catalydd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy, cadarn a theg.<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/nationalretrofithub.org.uk\/about\/meet-the-team\/\"><i><span data-contrast=\"none\">Mae Rachael Owens yn Gyd-gyfarwyddwr y National Retrofit Hub<\/span><\/i><\/a><i><span data-contrast=\"auto\">, lle mae hi\u2019n arwain yr ymdrechion i gydlynu, i eiriol ac i gyflymu\u2019r gwaith o \u00f4l-osod ar draws y DU.<\/span><\/i><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Cymru a\u2019r Deyrnas Unedig yn wynebu her sylweddol o ran cynyddu\u2019r ddarpariaeth \u00f4l-osod i fodloni nodau sero net, tlodi tanwydd ac iechyd. Ar draws y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd rydym yn \u00f4l-osod tua 250,000 o gartrefi bob blwyddyn, ond er mwyn cyrraedd ein targedau mae angen i ni gynyddu hyn i 1.5 [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15464,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[12],"tags":[140,144,149],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15465","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-sero-net","tag-ynni"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1456166365-1.jpg","filesize":320653,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1456166365-1-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":35616,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1456166365-1-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":76462,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1456166365-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":32914,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1456166365-1-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":37421,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1456166365-1-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":114657,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1456166365-1-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":184819,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1456166365-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":149798,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15464","name":"iStock-1456166365-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1.jpg","title":"iStock-1456166365-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1456166365-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15465","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15465"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15465\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16565,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15465\/revisions\/16565"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15464"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15465"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15465"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15465"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15465"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}