{"id":15461,"date":"2024-11-06T13:45:26","date_gmt":"2024-11-06T13:45:26","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/rhagor-o-ddata-a-phwyslais-cynharach-yn-allweddol-i-fynd-ir-afael-ag-anghydraddoldebau-mewn-addysg-a-hyfforddiant-ol-16-oed\/"},"modified":"2025-09-04T13:10:34","modified_gmt":"2025-09-04T13:10:34","slug":"rhagor-o-ddata-a-phwyslais-cynharach-yn-allweddol-i-fynd-ir-afael-ag-anghydraddoldebau-mewn-addysg-a-hyfforddiant-ol-16-oed","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/rhagor-o-ddata-a-phwyslais-cynharach-yn-allweddol-i-fynd-ir-afael-ag-anghydraddoldebau-mewn-addysg-a-hyfforddiant-ol-16-oed\/","title":{"rendered":"Rhagor o ddata a phwyslais cynharach yn allweddol i fynd i\u2019r afael ag anghydraddoldebau mewn addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed"},"content":{"rendered":"<p>Mae creu Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn cynrychioli newid sylfaenol yn nhrefniadaeth addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 yng Nghymru. Mae\u2019r blog hwn yn trafod rhai o\u2019r heriau mwyaf sy\u2019n wynebu llunwyr polisi addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys lefelau cymharol isel y cyfranogiad mewn addysg uwch, lefelau cyfranogi is mewn addysg academaidd yn achos bechgyn ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol mawr. Mae hefyd yn ystyried sut y gallai polisi ymateb yn y ffyrdd gorau. I wneud hynny, mae\u2019n cyfeirio at ystod o dystiolaeth newydd ar addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed yn y DU. Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth eang ac adolygiadau polisi a gynhyrchwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPCC), dadansoddiad arloesol o addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed a gynhyrchwyd gan CPCC\/ADR Cymru a gwaith ar y cyd rhyngof i a chydweithwyr <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/publications-and-research\/uk-nations-education-and-training\/\">EPI\/SKOPE<\/a> ar addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed ledled y DU.<\/p>\n<p><strong>Lefelau cyfranogi isel mewn dosbarthiadau chwech ac addysg uwch yng Nghymru<\/strong><\/p>\n<p>Un o nodweddion diffiniol allweddol addysg \u00f4l-16 oed yng Nghymru, o\u2019i gymharu \u00e2 gweddill y DU, yw\u2019r gyfradd gyfranogi is mewn dosbarthiadau chwech mewn ysgolion ac addysg uwch. Yn ein hadroddiad <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/publications-and-research\/uk-nations-education-and-training\/\">EPI\/SKOPE<\/a> diweddar, rydym yn dangos mai dim ond 35% o rai 16-17 oed yng Nghymru sy\u2019n mynychu dosbarthiadau chwech ysgolion. Mae hyn yn cymharu \u00e2 45% yn Lloegr, dros 60% yn Gogledd Iwerddon a 63% yn yr Alban (hyd at 79% os ydych yn cyfrif cofrestriadau deuol yn yr Alban). Mae cyfran llawer uwch o bobl ifanc mewn colegau yng Nghymru (dros 50%).<\/p>\n<p>Mae\u2019n debygol iawn bod y gwahaniaethau hyn yn y math o ddarpariaeth yn adlewyrchu argaeledd cymharol dosbarthiadau chwech mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mewn ardaloedd gwledig yn benodol, nid yw disgyblion yn debygol o gael llawer iawn o ddewis rhwng dosbarthiadau chwech mewn ysgolion a cholegau, ac mae\u2019n bosibl y byddant yn dal i deithio cryn bellter i fynychu lleoliad \u00f4l-16 oed.<\/p>\n<p>Mae hyn yn bwysig gan y bydd yn debygol o effeithio ar y math o gymwysterau addysgol y bydd pobl ifanc yn eu cael. Mae colegau\u2019n fwy tebygol o gynnig cyrsiau galwedigaethol, gyda dosbarthiadau chwech mewn ysgolion yn fwy tebygol o gynnig cyrsiau academaidd, fel Lefelau A. Er enghraifft, mae\u2019r rhan fwyaf o bobl ifanc mewn dosbarthiadau chwech ysgolion yn dilyn cyrsiau lefel A, gyda lefelau A yn cyfrif am ddim ond tua <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/publications-and-research\/uk-nations-education-and-training\/\">28%<\/a> o\u2019r cyrsiau a ddilynir gan bobl ifanc mewn colegau yng Nghymru. Yn rhannol o ganlyniad i hyn, mae adroddiad CPCC\/ADR Cymru yn dangos bod dros 50% o bobl ifanc yng Nghymru\u2019n dilyn cyrsiau galwedigaethol, gyda 32% wedi cofrestru ar gyfer Lefelau A. Yn <a href=\"https:\/\/explore-education-statistics.service.gov.uk\/find-statistics\/participation-in-education-and-training-and-employment\">Lloegr<\/a>, ar y llaw arall, roedd 47% o bobl ifanc yn astudio Lefel A yn 2022.<\/p>\n<p>O gofio\u2019r gwahaniaethau hyn, efallai nad yw\u2019n syndod ein bod hefyd yn gweld lefelau cyfranogi is mewn addysg uwch yng Nghymru. Fel yr ydym yn ei ddangos yn ein hadroddiad <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/publications-and-research\/uk-nations-education-and-training\/\">EPI\/SKOPE<\/a>, roedd tua 37-38% o rai 18 oed yn Lloegr yn cymryd rhan mewn addysg uwch yn 2023. Mae\u2019r ffigurau ar gyfer yr Alban yn cael eu cyfrifo mewn ffordd ychydig yn wahanol, ond nid ydynt yn debygol o fod yn llawer is na\u2019r rhai a welir yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yng Nghymru, ar y llaw arall, dim ond tua 30% o rai 18 oed oedd mewn addysg uwch yn 2023. Mae llawer o resymau am y lefel is hon o gyfranogiad mewn addysg uwch, ond un o\u2019r prif resymau yw\u2019r pwyslais ar gyrsiau a cholegau galwedigaethol. Mae prifysgolion yn fwy tebygol o fod \u00e2 gofynion mynediad sydd wedi\u2019u seilio ar gymwysterau academaidd fel Lefelau A.<\/p>\n<p><strong>Hanfodol i ddeall y canlyniadau <\/strong><\/p>\n<p>Ni ddylai\u2019r ffaith bod mwy o ddisgyblion yn mynd i golegau yng Nghymru ac yn dilyn cyrsiau galwedigaethol fod yn anfanteisiol. Yn wir, mi all cael mwy o ddisgyblion ar gyrsiau technegol o safon uchel lle maent yn dysgu sgiliau gwerthfawr fod yn gryfder. Mae rhinweddau\u2019r dull Cymreig felly\u2019n dibynnu ar ganlyniadau\u2019r gwahanol lwybrau addysg i fyfyrwyr a phobl ifanc.<\/p>\n<p>Er nad yw\u2019r data cyfredol yn dangos inni ble mae dysgwyr ar lwybrau galwedigaethol yng Nghymru\u2019n diweddu, rydym yn gweld canlyniadau i rai pobl ifanc yng Nghymru sy\u2019n achos pryder. Rydym eisoes wedi gweld eu bod yn llai tebygol o fynychu addysg uwch. Maent hefyd yn fwy tebygol o beidio \u00e2 bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Roedd bron i 11% o rai 16-18 oed yng Nghymru\u2019n cael eu cyfrif fel NEET yn 2022-23, o\u2019i gymharu ag 8% yn Lloegr, 9% yn yr Alban a 5% yng Ngogledd Iwerddon. Hefyd, mae\u2019r canlyniadau economaidd i bobl ifanc yng Nghymru o gefndiroedd dosbarth gweithio\u2019n eithaf gwael. Maent yn llai tebygol o fod \u00e2 chymwysterau cymwysterau sy\u2019n cyfateb i Lefel 3 neu Lefel A (56% yng Nghymru, o\u2019i gymharu \u00e2 60-65% yng ngweddill y DU). Maent hefyd yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth (71% yng Nghymru, o\u2019i gymharu \u00e2 74-78% yng ngweddill y DU).<\/p>\n<p>I gael dealltwriaeth fwy manwl fyth o ddeilliannau a chanlyniadau llwybrau addysg yng Nghymru byddai angen mwy o ddata na sydd gennym ar hyn o bryd. Yn benodol, mae angen cysylltu data gweinyddol addysg \u00e2 data enillion, cyflogaeth a budd-daliadau gan CThEF a DWP. Mae\u2019r data hyn ar gael eisoes yn Lloegr ar ffurf y set ddata Deilliannau Hydredol Addysg ac maent eisoes yn datgelu gwybodaeth am yr hyn sy\u2019n achosi anghydraddoldebau addysgol ac enillion. Dylid rhoi blaenoriaeth ar unwaith i sicrhau bod data o\u2019r fath ar gael yng Nghymru hefyd.<\/p>\n<p><strong>Lefelau anghydraddoldebau sy\u2019n achosi pryder<\/strong><\/p>\n<p>Mae pryderon tymor hir a chyson wedi\u2019u mynegi ynghylch anghydraddoldebau addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed yng Nghymru a\u2019r DU. Mae hyn yn amlwg yn yr holl ddadansoddiadau ar y pwnc. Mae adroddiad CPCC\/ADR Cymru yn dangos mai dim ond 15% o\u2019r plant sydd \u00e2 hawl i gael prydau ysgol am ddim sydd mewn dosbarthiadau chwech mewn ysgolion yng Nghymru ac mai dim ond 9% sy\u2019n gwneud Lefelau A. Hefyd, yn un o nodweddion mwyaf gwerthfawr yr adroddiad arloesol hwn, maent yn dangos bod yr anghydraddoldebau hyn yn ymestyn i wahaniaethau mawr yn \u00f4l galwedigaeth y rhieni, addysg y rhieni ac elfennau eraill o amddifadedd. Er bod hyn yn amlwg yn achos pryder, bydd yn bwysig bod y Medr newydd yn parhau \u00e2\u2019r dadansoddiad ac yn cyhoeddi\u2019r gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol o ran mynediad at wahanol fathau o addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed, a hynny\u2019n rheolaidd. Bydd hyn yn annog dadl gyhoeddus, ac yn y diwedd yn arwain at newid polisi.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn gweld gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol amlwg o ran mynediad at addysg uwch. Mae ein hadroddiad <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/publications-and-research\/uk-nations-education-and-training\/\">EPI\/SKOPE<\/a> yn dangos mai dim ond tua 15-16% o bobl ifanc o ardaloedd o amddifadedd yng Nghymru a\u2019r Alban sy\u2019n mynychu addysg uwch. Yn Lloegr, mae\u2019r ffigur hwn yn uwch, sef tua 20%, ond mae\u2019n is yng Ngogledd Iwerddon, sef 13%. Yn amlwg, mae problemau ledled y DU o ran galluogi\u2019r disgyblion sy\u2019n profi\u2019r amddifadedd mwyaf i fynd i addysg uwch.<\/p>\n<p>Un o\u2019r anghydraddoldebau amlwg eraill sydd i\u2019w gweld mewn addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed yw gwahaniaethau\u2019n \u00f4l rhywedd. Mae merched yn llawer mwy tebygol o fynychu dosbarthiadau chwech mewn ysgolion (37%) na bechgyn (30%) yng Nghymru. Mae bechgyn yn fwy tebygol na merched o ddilyn cyrsiau galwedigaethol. Yn ein hadroddiad <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/publications-and-research\/uk-nations-education-and-training\/\">EPI\/SKOPE<\/a>, mi welwn hefyd fod bechgyn yng Nghymru\u2019n llawer llai tebygol o fynd i addysg uwch (24%) na merched (36%), ac na welwyd y nesaf peth i ddim newid yng nghyfran y bechgyn sy\u2019n mynd i addysg uwch yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwahaniaethau hyn mewn cyfranogiad mewn addysg i\u2019w gweld yn glir ledled y DU, ac yn wir yn y rhan fwyaf o\u2019r gwledydd \u00e2\u2019r econom\u00efau mwyaf datblygedig. Fodd bynnag, gan mai Cymru sydd \u00e2\u2019r gyfradd isaf ar y cyfan o ran cyfranogiad mewn addysg uwch, bechgyn Cymru sydd \u00e2\u2019r lefelau cyfranogi isaf mewn addysg uwch ledled y DU. Unwaith eto, mae hyn bod yn sicr o fod yn gysylltiedig \u00e2\u2019r ffaith bod mwy o fechgyn Cymreig yn dilyn cyrsiau galwedigaethol ar \u00f4l 16 oed.<\/p>\n<p><strong>Mae\u2019r ymatebion polisi gorau\u2019n debygol o ganolbwyntio ar yr hyn sy\u2019n dod cyn 16 oed<\/strong><\/p>\n<p>Yn eu hadolygiad trylwyr o\u2019r dystiolaeth, mae CPCC yn dangos bod diffyg tystiolaeth o effeithiolrwydd llawer o\u2019r cynlluniau sydd \u00e2\u2019r nod o ehangu cyfranogiad mewn addysgu bellach ac uwch ymhlith pobl ifanc. Yn anffodus, nid yw hyn yn gymaint o syndod \u00e2 hynny. Mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos mai\u2019r hyn sy\u2019n digwydd cyn 16 oed sy\u2019n dylanwadu fwyaf pan ddaw\u2019n fater o wneud dewisiadau addysg yn ddiweddarach. Pan fyddwch yn <a href=\"https:\/\/ifs.org.uk\/articles\/raising-gcse-attainment-crucial-get-more-young-people-disadvantaged-backgrounds-university\">ystyried<\/a> cyrhaeddiad blaenorol hyd at 16 oed, mae gwahaniaethai economaidd-gymdeithasol mewn cyfranogiad mewn addysg uwch a deilliannau\u2019n lleihau neu\u2019n diflannu\u2019n gyfan gwbl. Mae hyn yn awgrymu mai\u2019r ffordd orau o gynyddu cyfranogiad mewn addysg bellach ac uwch yw lleihau anghydraddoldebau yn y system ysgolion.<\/p>\n<p>Yn anffodus, mae tystiolaeth glir o anghydraddoldebau uchel cyson yn y system ysgolion yng Nghymru, a lefelau sy\u2019n uwch nag yng ngweddill y DU. Roedd y canlyniadau <a href=\"https:\/\/www.oecd.org\/pisa\/\">PISA<\/a> diweddar yn rhoi darlun pryderus iawn o lefelau sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yng Nghymru, a hynny o\u2019i gymharu \u00e2 gweddill y DU a gweddill y byd. Mae <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/publications-and-research\/inequalities-in-gcse-results-across-england-and-wales\/\">dadansoddiad<\/a> EPI o ganlyniadau TGAU wedi dangos bod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru tua 22-23 o fisoedd ar \u00f4l o ran eu cynnydd addysgol o\u2019i gymharu \u00e2\u2019u cymheiriaid mwy breintiedig, sy\u2019n cymharu \u00e2 bwlch anfantais llai mewn canlyniadau TGAU o tua 18 mis yn Lloegr. Ni fu fawr ddim newid yn y bwlch anfantais hwn yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf.<\/p>\n<p>Mae fy <a href=\"https:\/\/ifs.org.uk\/publications\/major-challenges-education-wales\">adroddiad<\/a> IFS diweddar yn dadlau hefyd bod anghydraddoldebau uwch yn y system ysgolion yng Nghymru\u2019n annhebygol o adlewyrchu tlodi uwch yng Nghymru, cymysgedd ethnig gwahanol o ddisgyblion, tueddiadau ystadegol neu wahaniaethau mewn adnoddau. Yn hytrach, maent yn fwy tebygol o adlewyrchu gwahaniaethau mewn polisi a dulliau. Hefyd, nid oes fawr ddim tystiolaeth i awgrymu y gallai newidiadau i\u2019r cwricwlwm, asesiadau neu\u2019r flwyddyn ysgol sy\u2019n digwydd neu sydd yn yr arfaeth wella pethau na lleihau anghydraddoldebau. Yn wir, mae risg wirioneddol y gallai newidiadau o\u2019r fath waethygu anghydraddoldebau. Heb ymdrechion newydd, newid mewn cyfeiriad polisi ac adnoddau ychwanegol i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bwlch cyrhaeddiad, mewn ysgolion, mi fydd gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol mewn addysg bellach ac uwch yn parhau\u2019n fawr.<\/p>\n<p>Mae\u2019n debyg bod gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran cyfranogiad mewn addysg a mathau o gyrsiau\u2019n anos fyth i\u2019w newid. Er bod merched yn perfformio\u2019n well na bechgyn yn y system ysgolion, nid yw\u2019r gwahaniaeth hwn yn agos at fod yn ddigon i egluro pam mae merched gymaint yn fwy tebygol o ddilyn cyrsiau academaidd neu fynd ymlaen i addysg uwch. Mae gwahaniaethau o\u2019r fath yn fwy tebygol o adlewyrchu normau ac agweddau sefydledig rhwng y rhywiau.<\/p>\n<p><strong>Casgliadau polisi \u00a0<\/strong><\/p>\n<p>I gloi, mae\u2019n ymddangos fod cyfoeth y hwn o dystiolaeth newydd yn amlygu nifer o ganfyddiadau a goblygiadau allweddol cyson. Yn gyntaf, dylai\u2019r Medr newydd fod yn olrhain anghydraddoldebau mewn cyfranogiad a dewis o gyrsiau mewn ffordd reolaidd a systematig. Gallai dadansoddiad o\u2019r fath wneud defnydd o ddata gweinyddol a chyfrifiad cysylltiol newydd, dylai gynnwys cymaint o agweddau ar anghydraddoldeb \u00e2 phosibl, a dylai alluogi cymariaethau \u00e2 gweddill y DU a gwledydd eraill. Bydd hyn yn llywio dadl gyhoeddus ac yn creu\u2019r pwysau i leihau\u2019r anghydraddoldebau hyn. Yn ail, mae angen inni ddatblygu dealltwriaeth well o ganlyniadau gwahanol gyfranogiad a dewis o gyrsiau, a\u2019r anghydraddoldebau yn y dewisiadau hynny. Ni fydd hyn yn bosibl heb ddata gweinyddol addysg wedi\u2019u cysylltu \u00e2 data CThEM a DWP ar enillion, cyflogaeth a budd-daliadau. Mae data o\u2019r fath ar gael eisoes yn Lloegr ar ffurf y set ddata Canlyniadau Addysg Hydredol. Dylai creu\u2019r un data i Gymru fod yn flaenoriaeth ar unwaith. Yn drydydd, dylem fod yn realistig o ran effeithiau polis\u00efau cyfranogi sy\u2019n canolbwyntio ar rai dros 16 oed ac oedolion ifanc. Mi all polis\u00efau o\u2019r fath newid cyfranogiad pobl ifanc, eu pynciau a\u2019u dewis o gyrsiau rhyw gymaint ar y cyrion. Fodd bynnag, yr hyn sy\u2019n dod cyn eu bod yn 16 oed yw\u2019r hyn sy\u2019n cael fwyaf o effaith ar benderfyniadau addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed. Byddai mynd i\u2019r afael ar y lefelau enfawr a digyfnewid o anghydraddoldeb mewn cyrhaeddiad addysg lefel ysgol yng Nghymru\u2019n cael llawer mwy o effaith ar ddewisiadau addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed. Dylai Llywodraeth Cymru a\u2019r Medr newydd weithio ag ysgolion i leihau anghydraddoldebau mewn cyrhaeddiad cyn-16 oed fel man cychwyn holl bwysig.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae creu Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn cynrychioli newid sylfaenol yn nhrefniadaeth addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 yng Nghymru. Mae\u2019r blog hwn yn trafod rhai o\u2019r heriau mwyaf sy\u2019n wynebu llunwyr polisi addysg a hyfforddiant \u00f4l-16 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys lefelau cymharol isel y cyfranogiad mewn addysg uwch, lefelau cyfranogi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":16564,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,136,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15461","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-anghydraddoldebau-addysg","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":13067,"lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-534576365.jpg","filesize":661193,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-534576365-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":64104,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-534576365-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":134400,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-534576365-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56650,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-534576365-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":66996,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-534576365-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":204020,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-534576365-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":340840,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-534576365-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":270276,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"10506","name":"iStock-534576365.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365.jpg","title":"iStock-534576365","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-534576365-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[{"file":["15462"],"title_for_display":"Myfrdodau arbenigol ar yr heriau annhegwch mewn addysg drydyddol"}],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15461","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15461"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15461\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16563,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15461\/revisions\/16563"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/16564"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15461"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15461"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15461"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15461"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}