{"id":15455,"date":"2024-11-04T12:45:19","date_gmt":"2024-11-04T12:45:19","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/tegwch-mewn-addysg-drydyddol-yng-nghymru-persbectif-dysgu-oedolion\/"},"modified":"2026-02-04T12:33:17","modified_gmt":"2026-02-04T12:33:17","slug":"tegwch-mewn-addysg-drydyddol-yng-nghymru-persbectif-dysgu-oedolion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/tegwch-mewn-addysg-drydyddol-yng-nghymru-persbectif-dysgu-oedolion\/","title":{"rendered":"Tegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru: persbectif dysgu oedolion"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>R\u00f4l allweddol a chyfle i Medr<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Gallai cyflwyno\u2019r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) newid dulliau o hybu tegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru yn sylweddol. Mae nifer o resymau dros fod yn weddol optimistaidd yngl\u0177n \u00e2\u2019r corff newydd a sut y gallai drawsnewid y dirwedd \u00f4l-orfodol.<\/p>\n<p>Mae gan y <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/cy\/asc\/2022\/1\/contents\/enacted\/welsh\">corff newydd<\/a> nifer o ddyletswyddau sy\u2019n rhoi ymdeimlad cryf o bwrpas iddo. Yn ogystal \u00e2\u2019r ddyletswydd i hybu cyfle cyfartal, bydd y dyletswyddau hyn i gyd yn effeithio ar degwch mewn addysg drydyddol mewn rhyw ffordd, ac yn darparu sail resymegol gychwynnol gadarn ar gyfer polis\u00efau cyllido a rheoleiddio Medr. Yr her i Medr fydd gweithredu\u2019r dyletswyddau hyn, a throi adrannau pwysig o statud yn gamau gweithredu yn y byd go iawn.<\/p>\n<p>Gallai bodolaeth corff sydd \u00e2 goruchwyliaeth ariannol a rheoleiddiol dros bob math o ddarpariaeth (chweched dosbarth, addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, dysgu seiliedig ar waith ac addysg uwch) fod yn fuddiol ynddo\u2019i hun. Yn ymarferol, gallai a dylai Medr fod yn edrych ar faterion fel tegwch yn thematig \u00e2 dealltwriaeth gadarn o\u2019r modd y gall newidiadau i un elfen o\u2019r sector addysg a hyfforddiant \u00f4l-orfodol (PCET) gael effaith gadarnhaol (neu negyddol) ar un arall a sut y gallai hyn gefnogi cynnydd dysgwyr.<\/p>\n<p>I gymryd enghraifft o\u2019r byd go iawn, yn 2021 <a href=\"https:\/\/www.sefydliaddysguagwaith.cymru\/clare-palmer\/\">enillodd Clare Palmer Wobr Sgiliau Hanfodol Bywyd<\/a> yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion. Gadawodd Clare yr ysgol heb unrhyw gymwysterau a threuliodd y rhan fwyaf o\u2019i gyrfa yn gweithio mewn salon trin gwallt ac fel cynorthwyydd gofal. Rhwng yr adeg pan oedd yn 14 oed a phan oedd yn 41 oed nid oedd wedi ymwneud \u00e2 dysgu ffurfiol, ond aeth yn \u00f4l i ddysgu yn y gymuned gan ymuno \u00e2 dosbarthiadau mathemateg a Saesneg. Dyfalbarhaodd \u00e2\u2019i sgiliau hanfodol ac ar \u00f4l cwblhau Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roedd gan Clare lawer mwy o hunan-gred. O ganlyniad, penderfynodd fynd \u00e2\u2019i diddordeb mewn gofal gam ymhellach a gwneud cais am le mewn prifysgol er mwyn bod yn weithiwr cymdeithasol.<\/p>\n<p>Dyma enghraifft o sut y gall dysgu gydol oes newid bywyd rhywun, drwy ddysgu oedolion a\u2019r gymuned, addysg bellach ac addysg uwch. Ond mae stori Clare yn eithriad i\u2019r rheol. Os yw Medr am gyflawni ei ddyletswydd i hybu cyfle cyfartal, mae angen i enghreifftiau fel un Clare ddod yn nodwedd fwy cyffredin yn ein tirwedd \u00f4l-orfodol. Mae hynny\u2019n golygu llwybrau cynnydd llawer cliriach ac ymdrechion allgymorth a hyrwyddo cryfach ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed a dysgwyr sy\u2019n oedolion.<\/p>\n<p>Bydd yn rhaid i Medr reoli dau ddyhead polisi clir. Mae\u2019r cyntaf o bosibl yn amlwg i bawb sydd wedi bod yn rhan o\u2019r sgwrs PCET hyd yn hyn, ac yn cael ei adlewyrchu i raddau helaeth yn y dadansoddiad o\u2019r data a ddarparwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru\/Ymchwil Data Gweinyddol Cymru: anfon y rhai sy\u2019n gadael yr ysgol ar daith bywyd wedi\u2019u harfogi \u00e2\u2019r sgiliau, y cymwysterau, a\u2019r hunangred y mae arnynt ei angen er mwyn cyflawni eu potensial. Mae tystiolaeth gynyddol o anghydraddoldeb mewn mynediad a chyfranogiad mewn PCET yng Nghymru ymhlith pobl ifanc sy\u2019n gadael ysgol ar sail ffactorau economaidd-gymdeithasol amrywiol.<\/p>\n<p><strong><em>Anghydraddoldeb mewn PCET yng Nghymru<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Fel mae dadansoddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru\/Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn dangos, mae hwn yn faes sy\u2019n llawn anghydraddoldeb ar hyn o bryd, \u00e2 nodweddion dysgwyr yn amrywio\u2019n fawr yn \u00f4l y mathau o gymwysterau a\u2019r mannau lle mae\u2019r myfyriwr yn astudio ar eu cyfer. Er enghraifft, mae\u2019r gyfran sy\u2019n mynd i\u2019r chweched dosbarth yn gostwng o 43% ar gyfer y rhai sydd heb unrhyw amddifadedd i 13% ar gyfer y rhai sydd \u00e2 4 dimensiwn o amddifadedd. Mae\u2019r gwrthwyneb yn wir am golegau Addysg Bellach lle gwelwn fwy o niferoedd yn cymryd rhan mewn AB po fwyaf o ddimensiynau o amddifadedd sydd gan ddysgwr.<\/p>\n<p>Mae anghydraddoldeb mewn cyfranogiad hefyd rhwng Cymru a\u2019r DU yn fwy cyffredinol. Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) yn cadarnhau\u2019r heriau penodol sy\u2019n wynebu Cymru. Canfu\u2019r <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/UK-Nations-post-16-Report-1-Jan-2024-FINAL.pdf\">ymchwil<\/a> hwn fod y gyfran o\u2019r bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yng Nghymru yn cynyddu (o 6% yn 2021\/22 i 11% yn 2022\/23), fod cyfranogiad mewn addysg uwch yn 18 oed yn is nag yng ngwledydd eraill y DU (30% o\u2019i gymharu \u00e2 49% yn yr Alban), bod bwlch mawr rhwng bechgyn a merched sy\u2019n cyfranogi mewn Addysg Uwch, ac mai dynion ifanc o Gymru yw\u2019r rhai lleiaf tebygol o fynd i brifysgol (24%).<\/p>\n<p>Er bod hyn yn annerbyniol nid yw\u2019n llawer o syndod, ac mae\u2019n debyg bod llawer o\u2019r tueddiadau hyn yn bodoli ers tro. Y cwestiwn sy\u2019n codi felly yw beth y gellir ei wneud yngl\u0177n \u00e2\u2019r tueddiadau hyn, oherwydd mae\u2019n amlwg nad yw cyfleoedd mewn addysg drydyddol wedi\u2019u dosbarthu\u2019n gyfartal ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Fel y mae <a href=\"https:\/\/epi.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/02\/UK-Nations-post-16-Report-1-Jan-2024-FINAL.pdf\">adroddiad<\/a> yr EPI yn dweud, nid yw nodi \u2018achos polisi\u2019 anghydraddoldeb anghymesur canlyniadau yng Nghymru yn dasg hawdd. Ond dylai brys eu casgliadau o leiaf annog Medr i gymryd y mater o ddifri. Os ydym am fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r anghydraddoldebau hyn bydd angen edrych yn onest ar y system yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys herio effaith y degawd diwethaf o ddewisiadau cyllidebol caled ar ganlyniadau ar draws y sector \u00f4l-orfodol, a hynny mewn ffordd adeiladol.<\/p>\n<p><strong><em>Addysg oedolion<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Mae llai o siarad am yr ail ddyhead polisi y bydd angen i Medr ei reoli, ond mae yr un mor bwysig. Y dyhead hwn yng ngeiriau\u2019r cyn Weinidog Addysg, Jeremy Miles, yw adeiladu <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cenedl-o-ail-gyfle-lle-nad-yw-byth-yn-rhy-hwyr-i-ddysgu\"><em>Cenedl o Ail Gyfle: lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu<\/em><\/a>. Nid ar chwarae bach y mae rhoi uchelgais mor ganmoladwy ar waith. Rydym i gyd yn gyfarwydd \u00e2 hawl i addysg nes byddwn yn dod yn oedolion, ond nid yw\u2019r hawl honno mor amlwg wrth i ni fynd yn h\u0177n.<\/p>\n<p>Unwaith eto, mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/cy\/asc\/2022\/1\/contents\/enacted\/welsh\">ddeddfwriaeth<\/a> a sefydlodd Medr yn rhoi cyfeiriad clir i\u2019r sefydliad newydd yn y cyswllt hwn, gan fod dyletswydd i ddysgu gydol oes yn cael lle blaenllaw yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru). Mae adran 94 o\u2019r ddeddfwriaeth hefyd yn gwneud sicrhau \u2018cyfleusterau priodol\u2019 ar gyfer addysg a hyfforddiant i bersonau cymwys dros 19 oed yn ddyletswydd am y tro cyntaf.<\/p>\n<p>Mae hyn yn swnio fel newid bach iawn, ond yn ymarferol mae\u2019n arwain at ganlyniadau arwyddocaol. Roedd y ddeddfwriaeth flaenorol, <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/cy\/ukpga\/2000\/21\/section\/32\">Deddf Dysgu a Sgiliau 2000<\/a> yn rhoi\u2019r ddyletswydd hon i ddarpariaeth 16-19 yn unig, a oedd yn golygu i bob pwrpas bod darpariaeth amser llawn mewn AB (pobl ifanc 16-19 oed at ei gilydd) yn cael gwell triniaeth pan oedd arian yn dynn o gymharu \u00e2 darpariaeth ran-amser ac addysg oedolion yn y gymuned (19+). Cadarnheir hyn gan yr <a href=\"https:\/\/statscymru.llyw.cymru\/Catalogue\/Education-and-Skills\/Post-16-Education-and-Training\/Further-Education-and-Work-Based-Learning\/Learners\/Further-Education\/uniquelearnersenrolledfurthereducationinstitutions-by-age-modeoflearning-gender\">ystadegau cyfranogiad<\/a> sy\u2019n <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/statistics-and-research\/2024-02\/addysg-bellach-dysgu-seiliedig-ar-waith-dysgu-cymunedol-awst-2022-i-gorffennaf-2023-978.pdf\">dangos<\/a> bod niferoedd dysgu seiliedig ar waith ac AB amser llawn wedi bod yn sefydlog at ei gilydd dros y degawd diwethaf, ond bod AB rhan-amser wedi gostwng o tua 110,000 o ddysgwyr yn 2012\/13 i bwynt isel o ychydig dros 42,800 yn 2020\/21 cyn gwella ychydig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae <a href=\"https:\/\/statscymru.llyw.cymru\/Catalogue\/Education-and-Skills\/Post-16-Education-and-Training\/Further-Education-and-Work-Based-Learning\/Learners\/Local-Authority-Community-Learning\/uniquelearnerslocalauthoritycommunitylearning-by-age-gender\">patrymau<\/a> tebyg i\u2019w gweld mewn dysgu oedolion yn y gymuned \u00e2 31,427 o ddysgwyr unigryw yn 2012\/13 a phwynt isel o 5,555 yn 2020\/21 cyn gwella ychydig. Yn sicr mae\u2019r pandemig wedi cael effaith ar ddifrifoldeb y pwyntiau isel, ond roedd y duedd yn mynd ar i lawr drwy\u2019r degawd ac mae\u2019r adferiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi mynd \u00e2 ni i niferoedd dysgwyr cyn y pandemig, sy\u2019n sylweddol is na\u2019r lefelau ar ddechrau\u2019r degawd diwethaf.<\/p>\n<p>Mae\u2019r newid hwn yn bwysig oherwydd nid yw anghydraddoldeb mynediad ar \u00f4l 19 oed yn cael ei fesur na\u2019i ddeall hanner cymaint. Pan fydd y cohort yn cynnwys y boblogaeth gyfan, mae deall y rhesymau dros ddysgu (neu beidio \u00e2 dysgu), yr effaith y mae dysgu\u2019n ei gael ar ganlyniadau unigolion a\u2019r profiadau blaenorol sy\u2019n llywio dymuniadau dysgu yn anodd iawn. Gwyddom o\u2019n hymchwil blaenorol ein hunain fod y sbardun ar gyfer dysgu yn aml yn gallu bod yn gymhleth, a\u2019i fod yn amrywio ar draws cefndiroedd economaidd-gymdeithasol a lefelau cyrhaeddiad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi Arolwg blynyddol o Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu a all ddechrau ateb rhai o\u2019r cwestiynau hyn. Canfu arolwg 2023 fod bron i hanner yr oedolion yn y DU wedi cymryd rhan mewn dysgu o ryw fath (49%), er bod hyn yn is yng Nghymru (41%). Yn ddiddorol iawn, mae\u2019n ymddangos bod cyfranogiad wedi cynyddu\u2019n sylweddol yn Lloegr, ond wedi aros yn gymharol sefydlog yn y gwledydd eraill. Yn unol \u00e2\u2019r arolygon blaenorol, mae oedran, gradd gymdeithasol, statws yn y farchnad lafur, a\u2019r oedran y gorffennodd yr ymatebwyr addysg amser llawn i gyd yn arwyddocaol fel rhagfynegyddion cyfranogiad mewn dysgu.<\/p>\n<p>O safbwynt oedran, roedd cyfranogiad yng Nghymru yn is ym mhob cohort oedran, er bod y bwlch yn lleihau wrth i\u2019r cohortau fynd yn h\u0177n, \u00e2\u2019r bylchau mwyaf mewn cohortau oedran iau (17-19 oed lle\u2019r oedd y bwlch rhwng Cymru a\u2019r DU yn 15%). Mae dirywiad llawer cliriach mewn cyfranogiad fesul gradd gymdeithasol neu \u2018ddosbarth\u2019 yng Nghymru o\u2019i gymharu \u00e2\u2019r DU yn ei chyfanrwydd (gweler ffigur 1).<\/p>\n<p>Yn y b\u00f4n, rydych yn llai tebygol o gymryd rhan mewn dysgu oedolion os ydych wedi gadael yr ysgol heb lawer o gymwysterau, os ydych ar gyrion y farchnad lafur neu mewn gwaith sgiliau isel.<\/p>\n<p><strong><em>Goresgyn rhwystrau dysgu oedolion<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Gan droi at rwystrau sy\u2019n atal dysgu, ledled y DU mae dysgwyr yn fwyaf tebygol o nodi pwysau gwaith ac amser (24%), cost dysgu (16%), dim hyder i ddysgu (13%), methu \u00e2 meddwl am brofion ac arholiadau (12%) neu deimlo eu bod yn rhy hen (12%). Er bod y canrannau wedi cynyddu, nid yw patrwm yr heriau y cyfeiriwyd atynt wedi newid llawer o\u2019i gymharu \u00e2\u2019r arolygon blaenorol. Yn ddiddorol iawn, cyfeiriodd cyfran uwch yng Nghymru (14% o\u2019i gymharu \u00e2 10% yn y DU drwyddi draw) at anabledd neu afiechyd fel rhwystr sy\u2019n atal dysgu, sy\u2019n dangos y gorgyffwrdd \u00e2 pholisi iechyd yng nghyswllt canlyniadau dysgu (a chyflogaeth).<\/p>\n<p>Mae troi hyn yn gamau polisi ymarferol y gall Medr geisio eu gweithredu yn her, ond gallai gynnwys sicrhau bod darpariaeth yng Nghymru yn hyblyg er mwyn ystyried pwysau gwaith ac amser, lleihau costau dysgu, yn enwedig i\u2019r rhai sydd mewn graddau cymdeithasol is, a sicrhau bod y dulliau dysgu yn hygyrch, yn enwedig ar lefelau is lle mae hunanhyder mewn dysgu yn is. Yn hollbwysig, mae angen ymdrech wedi\u2019i hystyried er mwyn codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo ymhlith grwpiau sydd dan anfantais, \u00e2 negeseuon cadarnhaol i fynd i\u2019r afael \u00e2 phryderon yngl\u0177n ag ymgysylltu \u00e2 dysgu ac yn cadarnhau ei fanteision. Byddai hyn hefyd yn bwysig er mwyn helpu Medr i gyflawni ei ddyletswydd i hybu dysgu gydol oes, fel y mae <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/cefnogi-system-dysgu-gydol-oes-cymru\/\">gwaith blaenorol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi dadlau<\/a>.<\/p>\n<p>Mae\u2019n debyg bod rhwystrau eraill y gall Medr fynd i\u2019r afael \u00e2 hwy ar wah\u00e2n i gyfyngiadau\u2019r data yn yr Arolwg o Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu. Mae\u2019n hollbwysig felly, wrth iddo ddatblygu ei gapasiti ei hun, bod Medr yn gallu cynhyrchu sail dystiolaeth gref ar gyfer gwneud penderfyniadau yn ymwneud \u00e2 chyllid a rheoleiddio er mwyn mynd i\u2019r afael ag anghydraddoldeb cyfleoedd. Rhaid iddo wedyn roi hyn ar waith yn y ffordd y mae\u2019n comisiynu darpariaeth.<\/p>\n<p>Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad polisi cryf i ddysgu gydol oes ac uchelgais i greu Cymru sy\u2019n \u2018genedl o ail gyfle\u2019. Mae adroddiadau Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn darparu sylfaen gref ar gyfer dull gweithredu sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy\u2019n gobeithio y bydd Medr yn gweithredu\u2019n rhagweithiol yn gynnar er mwyn symud yr agenda hon yn ei blaen.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>R\u00f4l allweddol a chyfle i Medr Gallai cyflwyno\u2019r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) newid dulliau o hybu tegwch mewn addysg drydyddol yng Nghymru yn sylweddol. Mae nifer o resymau dros fod yn weddol optimistaidd yngl\u0177n \u00e2\u2019r corff newydd a sut y gallai drawsnewid y dirwedd \u00f4l-orfodol. Mae gan y corff newydd nifer o ddyletswyddau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18891,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[134,136],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15455","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-amrywiaeth-chynhwysiant","tag-anghydraddoldebau-addysg"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1218970736.jpg","filesize":370536,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1218970736-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":49013,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1218970736-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":96155,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1218970736-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":43116,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1218970736-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":51080,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1218970736-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":137721,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1218970736-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":213709,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1218970736-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":167667,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15451","name":"iStock-1218970736.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736.jpg","title":"iStock-1218970736.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1218970736-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15455","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15455"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15455\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20266,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15455\/revisions\/20266"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18891"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15455"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15455"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15455"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15455"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}