{"id":15443,"date":"2024-10-07T15:16:43","date_gmt":"2024-10-07T15:16:43","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/deall-effaith-ar-draws-y-rhwydwaith-what-works-y-du\/"},"modified":"2026-03-16T14:38:17","modified_gmt":"2026-03-16T14:38:17","slug":"deall-effaith-ar-draws-y-rhwydwaith-what-works-y-du","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/deall-effaith-ar-draws-y-rhwydwaith-what-works-y-du\/","title":{"rendered":"Deall effaith ar draws y Rhwydwaith 'What Works' y DU"},"content":{"rendered":"\n<p>Nod pob Canolfan What Works yw cael effaith drwy ymgorffori tystiolaeth mewn polis\u00efau a\/neu arferion. Fodd bynnag, oherwydd bod gan bob Canolfan wahanol nodau, arferion, cynulleidfaoedd, modelau cyllido, lefelau staffio a maint, gall eu dealltwriaeth o effaith, a sut maen nhw\u2019n mesur ac yn cyfleu eu heffaith, fod yn wahanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein hymchwil rhagarweiniol, sy\u2019n seiliedig ar gyfweliadau \u00e2 chanolfannau What Works a\u2019u rhanddeiliaid, yn dangos bod <strong>dealltwriaeth amrywiol o effaith<\/strong>. Mae\u2019r rhain yn cynnwys agweddau mor amrywiol \u00e2 bod yn sefydliad credadwy yn y maes tystiolaeth-polisi-ymarfer, cynhyrchu a chrynhoi tystiolaeth gadarn a dibynadwy, meithrin perthnasoedd a rhwydweithiau gyda\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau, a helpu pobl i weithredu\u2019r dystiolaeth. Mae\u2019r ystyron hyn o effaith yn <strong>fwy anffurfiol a chymhleth na dealltwriaeth achosol<\/strong> fel \u2018fe ddywedon ni hyn ac mae llunwyr polis\u00efau wedi\u2019i roi ar waith\u2019 (sy\u2019n digwydd yn anaml iawn).<\/p>\n\n\n\n<p><strong><u>Y digwyddiad lansio<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom lansio\u2019r prosiect yn yr Evidence Quarter yn Llundain ym mis Mehefin 2023 gyda 22 o gyfranogwyr o 10 Canolfan What Works. Helpodd y digwyddiad i ennyn diddordeb a momentwm mewn cysylltiad \u00e2\u2019r prosiect, a rhoddodd gyfle i gyfranogwyr \u00e2 rolau tebyg rwydweithio wyneb yn wyneb a dechrau trafod y tair prif agwedd ar effaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd tri math o weithgaredd eu cynnal gennym:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Sesiwn rwydweithio lle bu\u2019r cyfranogwyr yn trafod yr hyn yr oeddent am ei gael o\u2019r prosiect a sut y gallent gyfrannu ato. Mae\u2019r ffigur isod yn dangos bod cytundeb cyffredinol ynghylch prif nodau\u2019r prosiect hwn.<br><br><br><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"800\" height=\"440\" class=\"wp-image-20695\" style=\"width: 800px;\" src=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWW-Cym-1024x563-1.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWW-Cym-1024x563-1.jpg 1024w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWW-Cym-1024x563-1-744x409.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWW-Cym-1024x563-1-768x422.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/WWW-Cym-1024x563-1-395x217.jpg 395w\" sizes=\"auto, (max-width: 800px) 100vw, 800px\" \/><br><br><\/li>\n\n\n\n<li>Roedd ail sesiwn yn edrych ar beth oedd ystyr effaith i wahanol gyfranogwyr, a\u2019r ffactorau sy\u2019n dylanwadu ar hyn yn eu Canolfan What Works. Yma, roedd Canolfannau wedi dwyn \u00e2 <strong>mwy nag un ystyr o effaith<\/strong> i\u2019r golwg, o'r ddealltwriaeth achosol draddodiadol o effaith o ganlyniad i ddefnyddio cynhyrchion tystiolaeth, i'r broblem priodoli a'r anhawster profi effaith pan fydd sefydliad yn bodoli yn y gofod tystiolaeth-polisi-ymarfer.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn dangos bod paratoi\u2019r tir ar gyfer effaith,&nbsp; fel datblygu tystiolaeth gadarn o ymyriadau perthnasol, yn arwyddocaol ond bod y gwaith meithrin gallu mae Canolfannau\u2019n ei wneud wrth ddatblygu llythrennedd pwnc a thystiolaeth ymysg eu rhanddeiliaid drwy hyfforddiant yn bwysig hefyd. Cafodd yr effaith ei mesur drwy newidiadau mewn ymwybyddiaeth, ymddygiadau, systemau a pholisi, sy\u2019n gallu helpu i ddylanwadu ar newid systemig.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd roedd Canolfannau What Works wedi pwysleisio\u2019r <strong>nifer o heriau o ran sicrhau effaith<\/strong> fel y capasiti a\u2019r sgiliau yn eu sefydliad eu hunain, yn ogystal \u00e2 rhai eu rhanddeiliaid. Roedd cyfranogwyr wedi trafod manteisio ar gyfleoedd a\u2019u gallu i ddeall y system ehangach, gan ganiat\u00e1u iddynt fod yn strategol a thargedu eu camau gweithredu.<\/p>\n\n\n\n<ol start=\"3\" class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd y drydedd sesiwn yn gyfle i Ganolfannau <strong>rannu eu profiadau o gynhyrchu effaith<\/strong>. Tynnodd y Ganolfan Heneiddio\u2019n Well sylw at ei gwaith yn cyflawni ymrwymiad y llywodraeth i <a href=\"https:\/\/ageing-better.org.uk\/news\/government-raise-accessibility-standards-new-homes\">wella safonau hygyrchedd<\/a>. Trafododd y Ganolfan Effaith Digartrefedd <a href=\"https:\/\/www.homelessnessimpact.org\/what-works-implementation\">brosiect wedi\u2019i gynhyrchu ar y cyd<\/a> \u00e2 chynghorau a oedd yn darparu fframwaith ystyrlon a mesuradwy ar gyfer lleihau digartrefedd. Esboniodd What Works Growth yr <a href=\"https:\/\/whatworksgrowth.org\/training\/\">hyfforddiant y mae\u2019n ei gynnal i lunwyr polisi lleol ar ddefnyddio tystiolaeth a modelau rhesymeg<\/a>). Rhannodd What Works Crime Reduction ei <a href=\"https:\/\/www.college.police.uk\/support-forces\/maturity-model\">fodel aeddfedrwydd lleihau troseddu<\/a> sy\u2019n asesu pa mor seiliedig ar dystiolaeth yw sefydliad.<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Roedd rhannu\u2019r straeon effaith hyn wedi arwain at drafodaethau ar gyfres o bynciau fel:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth yw manteision (e.e. hygrededd a ph\u0175er cynnull) ac anfanteision (e.e. canfyddiad o fod yn agos at y llywodraeth) o fod yn Ganolfan What Works<\/li>\n\n\n\n<li>Yr angen a\u2019r awydd am Ganolfannau What Works \u2013 sydd \u00e2 rhywfaint o debygrwydd o ran materion a nodau \u2013 i rannu arferion ac adnoddau ar draws y Rhwydwaith What Works, a chofnodi newid i ganiat\u00e1u i eraill ddilyn yr arfer hwnnw. Gofynnodd y cyfranogwyr a fyddai\u2019n bosib casglu ynghyd yr holl weithgareddau sy\u2019n ymwneud ag effaith fel damcaniaethau newid, cenhadaeth, gweledigaethau a straeon am effaith mewn un lle. Rydyn ni\u2019n edrych ar wneud hyn nawr.<\/li>\n\n\n\n<li>Y cwestiwn ynghylch sut mae mesur effaith ac ar ba lefel (effaith strategol o\u2019i chymharu ag effaith ymarferol)<\/li>\n\n\n\n<li>Allwn ni datblygu dealltwriaeth gyffredin o effaith?<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong><u>Y camau nesaf<\/u><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rydyn ni\u2019n cynllunio cyfres o ddigwyddiadau pellach i Ganolfannau ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy ddysgu a gweithdai rhannu ar them\u00e2u wedi\u2019u targedu sydd wedi dod i\u2019r amlwg yn ystod y digwyddiad cyntaf, a thrafodaethau dwyochrog. Mae ein digwyddiad nesaf yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar y pynciau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth mae\u2019r llenyddiaeth yn ei ddweud am ddiffinio effaith a dulliau effaith a\u2019i mesur?<\/li>\n\n\n\n<li>Sut mae Canolfannau\u2019n cysyniadoli effaith a sut i'w chyflawni, a sut mae hynny'n cymharu \u00e2'r llenyddiaeth?<\/li>\n\n\n\n<li>Eitem ddewisol: Sut ydych chi\u2019n ymgysylltu\u2019n effeithiol \u00e2\u2019r llywodraeth (genedlaethol a lleol) i gael yr effaith fwyaf?<\/li>\n<\/ol>\n\n\n\n<p>Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y prosiect <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/examining-the-impact-of-the-what-works-network\/\">yma<\/a>. Os hoffech chi gysylltu \u00e2 ni, cysylltwch ag Eleanor MacKillop (<a href=\"mailto:Eleanor.mackillop@wcpp.org.uk\">Eleanor.mackillop@wcpp.org.uk<\/a>) neu James Downe (<a href=\"mailto:James.downe@wcpp.org.uk\">James.downe@wcpp.org.uk<\/a>).<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nod pob Canolfan What Works yw cael effaith drwy ymgorffori tystiolaeth mewn polis\u00efau a\/neu arferion. Fodd bynnag, oherwydd bod gan bob Canolfan wahanol nodau, arferion, cynulleidfaoedd, modelau cyllido, lefelau staffio a maint, gall eu dealltwriaeth o effaith, a sut maen nhw\u2019n mesur ac yn cyfleu eu heffaith, fod yn wahanol. Mae ein hymchwil rhagarweiniol, sy\u2019n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15444,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[],"research-and-impact":[133,132,130],"class_list":["post-15443","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","research-and-impact-dulliau-ac-agweddau","research-and-impact-effaith","research-and-impact-rol-kbos"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Rawpixel-edit-scaled.jpg","filesize":610170,"sizes":{"medium":{"file":"Rawpixel-edit-744x536.jpg","width":744,"height":536,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":88900,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-744x536.jpg"},"large":{"file":"Rawpixel-edit-1200x865.jpg","width":1200,"height":865,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":190710,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-1200x865.jpg"},"thumbnail":{"file":"Rawpixel-edit-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":68837,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Rawpixel-edit-768x553.jpg","width":768,"height":553,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":93760,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-768x553.jpg"},"1536x1536":{"file":"Rawpixel-edit-1536x1107.jpg","width":1536,"height":1107,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":281161,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-1536x1107.jpg"},"2048x2048":{"file":"Rawpixel-edit-2048x1476.jpg","width":2048,"height":1476,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":436285,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-2048x1476.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Rawpixel-edit-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":297494,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Rawpixel-edit.jpg","ID":"10322","name":"Rawpixel-edit-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-scaled.jpg","title":"Rawpixel-edit.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Rawpixel-edit-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15443","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15443"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15443\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":20697,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15443\/revisions\/20697"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15444"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15443"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15443"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15443"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15443"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}