{"id":15439,"date":"2024-09-04T11:28:43","date_gmt":"2024-09-04T11:28:43","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/taflu-goleuni-ar-y-stigma-sydd-ynghlwm-wrth-dlodi\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:07","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:07","slug":"taflu-goleuni-ar-y-stigma-sydd-ynghlwm-wrth-dlodi","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/taflu-goleuni-ar-y-stigma-sydd-ynghlwm-wrth-dlodi\/","title":{"rendered":"Taflu goleuni ar y stigma sydd ynghlwm wrth dlodi"},"content":{"rendered":"<p>Mae effaith ddinistriol stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi yn bodoli ers tro. Rydym yn gwybod ei fod yn gwaethygu iechyd meddwl pobl, yn gwneud i bobl beidio \u00e2 hawlio\u2019r holl fudd-daliadau mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, ac yn cynyddu\u2019r risg y bydd plant yn absennol o\u2019r ysgol. Tan yn ddiweddar, nid oeddem yn gwybod llawer am ba mor gyffredin oedd y stigma mewn cymunedau yng Nghymru. Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn taflu goleuni ar yr agwedd hon ar dlodi sy\u2019n aml yn cael ei diystyru, gan godi rhai cwestiynau ynghylch pa gamau y dylid eu blaenoriaethu i fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn.<\/p>\n<p><strong>Pa mor gyffredin yw stigma tlodi yng Nghymru?\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn defnyddio gwybodaeth a gasglwyd gan YouGov fel rhan o Arolwg Cipolwg ar Dlodi gan Sefydliad Bevan. Mae\u2019n edrych ar brofiadau pobl o stigma mewn dwy ffordd:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Stigma yn sgil agweddau pobl eraill<\/strong> \u2013 profiadau personol unigolion o gael eu barnu\u2019n negyddol, eu heithrio, neu eu trin yn annheg gan eraill am eu bod yn byw ar incwm isel.<\/li>\n<li><strong>Stigma canfyddedig<\/strong> \u2013 cred unigolion bod pobl sy\u2019n byw ar incwm isel yn cael eu trin yn annheg gan wasanaethau cyhoeddus, y sawl sy\u2019n gwneud penderfyniadau, a sefydliadau fel y cyfryngau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019n amlwg o\u2019r data bod pobl ledled Cymru yn cydnabod bod stigma canfyddedig yn bodoli. Mae dros 6 o bob 10 o bobl ledled Cymru yn meddwl bod pobl sy\u2019n byw ar incwm isel weithiau, yn aml neu bob amser yn cael gwasanaeth cyhoeddus o safon is (63%), ac mae dros 7 o bob 10 o bobl yn meddwl bod gwleidyddion weithiau, yn aml neu bob amser yn edrych i lawr ar bobl ar incwm isel (73%).<\/p>\n<p>Er bod pobl ledled Cymru yn cydnabod bod stigma canfyddedig yn bodoli, pobl ar incwm isel sydd fwyaf tebygol o ddweud eu bod wedi profi stigma yn sgil agweddau pobl eraill. Mae mwy nag 1 o bob 5 person sy\u2019n byw ar aelwydydd ag incwm o lai nag \u00a320,000 weithiau, yn aml neu bob amser yn gweld pobl yn eu trin yn nawddoglyd oherwydd nad oes ganddyn nhw arian (22%) o\u2019i gymharu \u00e2 chyfartaledd Cymru, sef 13%.<\/p>\n<p><strong>Sut gallwn ni leihau stigma tlodi?\u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Y prif beth sy\u2019n achosi i bobl deimlo stigma yw tlodi ei hun. Efallai y bydd modd lleihau\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi drwy gymryd camau fel darparu gwell hyfforddiant i staff. Gallai hyn leihau nifer yr achosion o staff sy\u2019n siarad yn nawddoglyd \u00e2 phobl ar incwm isel, gan leihau stigma. Fodd bynnag, er mwyn gwneud gwahaniaeth mwy sylweddol, mae angen edrych ar y berthynas rhwng stigma a\u2019r elfennau strwythurol sy\u2019n achosi tlodi.<\/p>\n<p>Nid dim ond canlyniad i dlodi yw stigma. Mae hefyd yn gallu gwaethygu ei effaith a gwthio pobl i fwy o dlodi a\u2019u cadw mewn tlodi am gyfnod hirach. Os bydd y dirywiad yn iechyd meddwl person yn arwain at leihau ei oriau gwaith, bydd ei risg o fyw mewn mwy o dlodi yn cynyddu. Bydd pobl sy\u2019n dewis peidio \u00e2 hawlio eu budd-daliadau yn wynebu mwy o galedi ariannol na phe baen nhw\u2019n hawlio\u2019r holl gymorth mae ganddyn nhw hawl iddo. Bydd plant sy\u2019n absennol o\u2019r ysgol oherwydd stigma yn ei chael hi\u2019n anoddach cael y graddau gorau, gan gynyddu eu risg o fyw mewn tlodi pan fyddan nhw\u2019n oedolion. Dylai\u2019r camau a gymerir i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ganolbwyntio ar feysydd fel y rhain.<\/p>\n<p>Enghraifft o\u2019r hyn y gellid ei wneud yw ei gwneud yn haws i bobl wneud cais am fudd-daliadau drwy\u2019r system nawdd cymdeithasol. Ceir corff o dystiolaeth sy\u2019n dangos bod gorfod llenwi sawl ffurflen gais a siarad ag ymgynghorwyr ac aseswyr amrywiol yn gallu dwys\u00e1u\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi, gan arwain at bobl yn peidio \u00e2 hawlio\u2019r cymorth y mae ganddyn nhw\u2019r hawl iddo. Gallai symleiddio\u2019r broses o wneud cais am gymorth fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhwystrau hyn, gan gynyddu\u2019r nifer sy\u2019n hawlio budd-daliadau a lleihau stigma. Mae\u2019n braf gweld bod Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau ar hyn gyda\u2019i phartneriaid yn yr awdurdodau lleol fel rhan o\u2019i gwaith i ddatblygu System Budd-daliadau i Gymru. Rhaid i\u2019r gwaith hwn barhau ar garlam i ddatblygu ateb sy\u2019n gweithio i bawb yng Nghymru.<\/p>\n<p>Man arall lle gellid cymryd camau yw yn ein hysgolion. Pam mae rhai ysgolion yn dal i fynnu bod disgyblion yn gwisgo gwisg ysgol ddrud neu\u2019n trefnu teithiau ysgol drud iawn? Nid yn unig y mae\u2019r gofynion a\u2019r gweithgareddau hyn yn dyfnhau\u2019r ymdeimlad o stigma a deimlir gan blant, maen nhw\u2019n tanseilio polis\u00efau eraill Llywodraeth Cymru sydd wedi\u2019u cynllunio i leihau stigma fel darparu prydau ysgol am ddim i bawb. Os nad yw ysgolion yn barod i arwain ar y materion hyn neu i ddilyn canllawiau, yna mae achos i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau llymach.<\/p>\n<p>Nid yw\u2019r camau hyn ar eu pen eu hunain yn debygol o ddatrys tlodi na dileu effaith ei stigma, ond byddan nhw\u2019n gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Drwy gymryd y mesurau hyn ochr yn ochr ag ymyriadau eraill fel buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol a gwella mynediad at ofal plant, mae\u2019n bosibl newid sefyllfa tlodi yn sylweddol a lleihau ei stigma.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae effaith ddinistriol stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi yn bodoli ers tro. Rydym yn gwybod ei fod yn gwaethygu iechyd meddwl pobl, yn gwneud i bobl beidio \u00e2 hawlio\u2019r holl fudd-daliadau mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, ac yn cynyddu\u2019r risg y bydd plant yn absennol o\u2019r ysgol. Tan yn ddiweddar, nid oeddem yn gwybod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14734,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[143,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15439","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-profiad-bywyd","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","filesize":284907,"sizes":{"medium":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x526.jpg","width":744,"height":526,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":59352,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x526.jpg"},"large":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1200x848.jpg","width":1200,"height":848,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":111467,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1200x848.jpg"},"thumbnail":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56960,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-768x543.jpg","width":768,"height":543,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":61639,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-768x543.jpg"},"1536x1536":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1536x1086.jpg","width":1536,"height":1086,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":151539,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1536x1086.jpg"},"2048x2048":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-2048x1448.jpg","width":2048,"height":1448,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":215929,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-2048x1448.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":186959,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3.jpg","ID":"10440","name":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","title":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15439","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15439"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15439\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16556,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15439\/revisions\/16556"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14734"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15439"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15439"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15439"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15439"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}