{"id":15437,"date":"2024-09-10T13:14:28","date_gmt":"2024-09-10T13:14:28","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/gweithio-gydan-gilydd-i-fynd-ir-afael-a-stigma-ynhylch-tlodi-yng-nghymru-pum-mewnwelediad-allweddol\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:06","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:06","slug":"gweithio-gydan-gilydd-i-fynd-ir-afael-a-stigma-ynhylch-tlodi-yng-nghymru-pum-mewnwelediad-allweddol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/gweithio-gydan-gilydd-i-fynd-ir-afael-a-stigma-ynhylch-tlodi-yng-nghymru-pum-mewnwelediad-allweddol\/","title":{"rendered":"Gweithio gyda\u2019n gilydd i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynhylch tlodi yng Nghymru \u2013 pum mewnwelediad allweddol"},"content":{"rendered":"<p>Dros y 12 mis diwethaf, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi bod yn archwilio beth yw stigma ynghylch tlodi, o ble mae\u2019n dod, pam ei fod yn bwysig, beth sy\u2019n gweithio i fynd i\u2019r afael ag ef a beth allwn ni yn WCPP ei wneud i alluogi\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau i gyrchu tystiolaeth sy\u2019n llywio eu gweithredoedd i atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynchylch tlodi, yn hytrach nag ychwanegu ato. Yma rydym yn rhannu pum mewnwelediad allweddol yr ydym wedi'u darganfod hyd yn hyn, a'n cynlluniau ar gyfer y gwaith hwn yn y dyfodol.<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Mae stigma ynghylch tlodi yn effeithio ar gyfran sylweddol o boblogaeth Cymru, ond ar rai grwpiau yn fwy nag eraill. <\/strong>Fel y canfu ein harolwg gyda Sefydliad Bevan, mae chwarter o oedolion yn adrodd eu bod wedi profi stigma \u2018weithiau\u2019, \u2018yn aml\u2019 neu \u2018bob amser\u2019. Mae'r profiadau hyn yn llawer mwy cyffredin ymhlith pobl iau, derbynwyr budd-daliadau, pobl sy'n byw mewn tai rhent a phobl ag anableddau. Mae pobl sy'n profi ansicrwydd bwyd yn dweud eu bod yn derbyn deirgwaith yn fwy o stigma na'r rhai sydd ddim.<\/li>\n<li><strong>Mae stigma ynghylch tlodi yn cael ei gynhyrchu drwy\u2019r ffordd yr ydym yn trin ein gilydd, yn ogystal \u00e2 thrwy sefydliadau a strwythurau<\/strong>, megis gwasanaethau cyhoeddus, y cyfryngau a gwleidyddiaeth. Mae mwyafrif o boblogaeth Cymru (87%) yn gweld stigma ynghylch tlodi strwythurol \u2013 drwy\u2019r cyfryngau, gwleidyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus \u2013 ar waith \u2018bob amser\u2019, \u2018yn aml\u2019 neu \u2018weithiau\u2019. Mae hyn yn awgrymu'n gryf bod stigma ynghylch tlodi yn fater strwythurol yn ogystal \u00e2 mater rhyngbersonol.<\/li>\n<li><strong>Mae stigma ynghylch tlodi yn cynyddu effeithiau caledi materol ac yn ei gwneud yn anoddach i bobl ddianc rhag tlodi<\/strong>. Mae ein papur briffio polisi yn dangos bod stigma ynghylch tlodi yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, ynysu cymdeithasol, a llai o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau a gwasanaethau cymorth eraill.<\/li>\n<li><strong>Mae tystiolaeth ymchwil amrywiol a chyfoeth o fewnwelediadau seiliedig ar ymarfer am yr hyn sy'n gweithio i liniaru stigma ynghylch tlodi.\u00a0<\/strong>Gwyddom fod ysgogwyr allweddol stigma ynghylch tlodi yn cynnwys cynlluniau polisi sy\u2019n stigmateiddio, gwasanaethau biwrocrataidd a dad-ddyneiddiol, naratifau cyfryngau a gwleidyddol ac agweddau a rhagfarnau cymdeithasol. Mae tystiolaeth ar \u2018beth sy\u2019n gweithio\u2019 i fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi yn dal i ddod i\u2019r amlwg ac mae angen eu dwyn ynghyd.<\/li>\n<li><strong>Mae yna awydd i wneud rhywbeth am hyn<\/strong>. Mae mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi eisoes yn flaenoriaeth ymhlith llywodraethau cenedlaethol a llawer o lywodraethau lleol yng Nghymru, gan gynnwys yng Ngheredigion ac Abertawe. Mae rhai o ysgogwyr stigma ynghylch tlodi \u2013 yn enwedig o ran cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus \u2013 ymhell o fewn rheolaeth gwasanaethau cyhoeddus, ac nid ydynt o reidrwydd yn hynod gostus i fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Yn seiliedig ar y mewnwelediadau hyn, ac yn dilyn cwmpasu ac ymgysylltu helaeth, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i:<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Sefydlu Rhwydwaith Mewnwelediad Stigma Ynghylch Tlodi.\u00a0<\/strong>Bydd hyn yn darparu lle ac adnoddau i ddod ag ymarferwyr, llunwyr polisi, ymchwilwyr ac arbenigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ynghyd i rannu tystiolaeth a mewnwelediadau, i lywio ymdrechion i atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi. Byddwn yn rhannu ein hymchwil ein hunain drwy\u2019r Rhwydwaith, yn ogystal \u00e2 gwahodd eraill i rannu eu hymchwil, eu hymarfer a\u2019u syniadau. Bydd y Rhwydwaith hefyd yn cynhyrchu syniadau ar gyfer gweithredu y gallwn ni a\/neu eraill eu datblygu.<\/li>\n<li><strong>Cynnal rhaglen o waith seiliedig ar le yn Abertawe<\/strong>, gan weithio gyda Chomisiynwyr Gwirionedd Tlodi Abertawe, y Gwasanaeth Cymunedol a Gwirfoddol a'r Cyngor i gyflwyno tystiolaeth leol, mewnwelediad ac arbenigedd i sgwrs ag ymchwil academaidd ryngwladol, i gyd-greu strategaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth i atal a mynd i'r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi yn lleol.<\/li>\n<li><strong>Cefnogi a hysbysu Cymunedau Ymarfer Tlodi Plant a arweinir gan Lywodraeth Cymru<\/strong>, drwy fwydo tystiolaeth a mewnwelediadau o\u2019n gwaith ehangach i lywio\u2019r egwyddor allweddol o greu \u2018gwasanaethau caredig a thosturiol\u2019 a fydd yn rhedeg ar draws pob un o\u2019r pum Cymuned Ymarfer a chefnogi Amcan 4 y Strategaeth Tlodi Plant i \u2018fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi\u2019.<\/li>\n<li><strong>Cynnal adolygiad cyflym o dystiolaeth.\u00a0<\/strong>Er mwyn llywio pob un o\u2019r tri llinyn gwaith a ddisgrifir uchod, byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw yn y Gynghrair Tlodi a\u2019r <a href=\"https:\/\/www.gcu.ac.uk\/aboutgcu\/academicschools\/gsbs\/research\/spiru\">Scottish Policy and Inequality Research Unit\u00a0<\/a> i ddwyn ynghyd y dystiolaeth orau sydd ar gael sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r hyn sy\u2019n gweithio i atal a mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Byddwn yn myfyrio ar ein hymagwedd a\u2019n heffaith yn barhaus gyda chymorth ymchwilydd effaith sefydledig a chymorth gan ein Cymrawd Arloesedd Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a fydd yn ein cefnogi i fyfyrio\u2019n feirniadol ar ein hymagwedd at gyfranogiad.<\/p>\n<p>Er bod llawer o brif ysgogwyr tlodi \u2013 yn enwedig polisi macro-economaidd, cyllidol a nawdd cymdeithasol \u2013 y tu allan i reolaeth llywodraeth leol a chenedlaethol Cymru, mae mynd i\u2019r afael \u00e2 stigma ynghylch tlodi yn rhywbeth y gallwn ni i gyd wneud rhywbeth yn ei gylch, yn enwedig cynllunwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ac elusennol. Ac rydym wedi\u2019n calonogi bod cymaint o frwdfrydedd ymhlith gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda ni ac eraill i gael effaith gyfunol ar y mater hwn, i wella bywydau\u2019r rhai sy\u2019n profi caledi materol.<\/p>\n<p>Mae ein papur briffio polisi ar Drechu Tlodi sy\u2019n Gysylltiedig \u00e2 stigma <a href=\"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/cyhoeddi\/mynd-ir-afael-a-stigma-ynghylch-tlodi-briff-polisi\/\">yma<\/a>.<\/p>\n<p>Os hoffech chi gael gwybod mwy neu gymryd rhan yn unrhyw un o'r meysydd hyn o waith, cysylltwch \u00e2 Charlotte Morgan +44 (0)29 287 5345\u00a0<a href=\"mailto:charlotte.morgan@wcpp.org.uk\">charlotte.morgan@wcpp.org.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y 12 mis diwethaf, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) wedi bod yn archwilio beth yw stigma ynghylch tlodi, o ble mae\u2019n dod, pam ei fod yn bwysig, beth sy\u2019n gweithio i fynd i\u2019r afael ag ef a beth allwn ni yn WCPP ei wneud i alluogi\u2019r rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau i gyrchu tystiolaeth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":13075,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[141,143,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15437","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-llywodraeth-leol","tag-profiad-bywyd","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","filesize":284907,"sizes":{"medium":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x526.jpg","width":744,"height":526,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":59352,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x526.jpg"},"large":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1200x848.jpg","width":1200,"height":848,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":111467,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1200x848.jpg"},"thumbnail":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":56960,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-768x543.jpg","width":768,"height":543,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":61639,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-768x543.jpg"},"1536x1536":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1536x1086.jpg","width":1536,"height":1086,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":151539,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1536x1086.jpg"},"2048x2048":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-2048x1448.jpg","width":2048,"height":1448,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":215929,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-2048x1448.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":186959,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3.jpg","ID":"10440","name":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-scaled.jpg","title":"Poverty-stigma-web-page-graphic-3.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Poverty-stigma-web-page-graphic-3-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15437","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15437"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15437\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16555,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15437\/revisions\/16555"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13075"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15437"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15437"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15437"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15437"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}