{"id":15431,"date":"2024-08-05T11:23:56","date_gmt":"2024-08-05T11:23:56","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/mae-ymdeimlad-cyffredin-o-bwrpas-yn-sbarduno-cydweithio-amlsector-llwyddiannus-gwersi-or-pandemig-covid-19\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:05","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:05","slug":"mae-ymdeimlad-cyffredin-o-bwrpas-yn-sbarduno-cydweithio-amlsector-llwyddiannus-gwersi-or-pandemig-covid-19","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/mae-ymdeimlad-cyffredin-o-bwrpas-yn-sbarduno-cydweithio-amlsector-llwyddiannus-gwersi-or-pandemig-covid-19\/","title":{"rendered":"Mae ymdeimlad cyffredin o bwrpas yn sbarduno cydweithio amlsector llwyddiannus \u2013 gwersi o\u2019r pandemig COVID-19"},"content":{"rendered":"<p>Yn ystod y pandemig COVID-19, daeth sefydliadau\u2019r sector gwirfoddol a chymunedol yn fwy amlwg nag erioed o\u2019r blaen.\u00a0 Gyda gwreiddiau dwfn yn y cymunedau y maen nhw\u2019n eu gwasanaethu, roedd y mudiadau hyn yn gallu manteisio ar wybodaeth leol a seilwaith oedd eisoes yn bodoli i gyrraedd y rheini roedd angen help arnyn nhw fwyaf. Fe wnaeth adroddiad gan <a href=\"https:\/\/locality.org.uk\/assets\/images\/We-were-built-for-this-Locality-2020.06.13.pdf\"><strong>Locality (2020)<\/strong><\/a> dynnu sylw at r\u00f4l sefydliadau cymunedol fel \u2018cocos cyswllt\u2019 sy\u2019n galluogi systemau lleol sy\u2019n gweithio\u2019n dda i ddod i\u2019r amlwg yn gyflym, gan ddefnyddio seilwaith cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli i ddiwallu anghenion brys. Er enghraifft, nododd ymchwil gan <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/\"><strong>Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru<\/strong> (WCPP)<\/a> y <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/the-role-of-communities-and-the-use-of-technology-in-mitigating-loneliness-during-the-coronavirus-pandemic\/\">r\u00f4l hanfodol y gwnaeth sefydliadau cymunedol ei chwarae wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn ystod y pandemig<\/a> a\u2019r ffactorau galluogi a wnaeth gefnogi'r ymateb hwn.<\/p>\n<p>Cyn y pandemig, roedd teimlad weithiau bod rhaniad rhwng sefydliadau cymunedol a sefydliadau sector cyhoeddus \u2013 p\u2019un a oedd hyn yn gysylltiedig \u00e2 ffyrdd gwahanol o weithio, y defnydd o iaith wahanol, neu flaenoriaethau gwahanol \u2013 yn ystod ac ar \u00f4l y pandemig, mae cydweithio amlsector wedi ffynnu.\u00a0 Mewn llawer o feysydd, roedd yn ymddangos bron fel pe bai\u2019r rhwystrau oedd yn atal cydweithio wedi diflannu.\u00a0 Datblygwyd neu cryfhawyd perthnasoedd newydd rhwng llywodraeth leol, iechyd a'r sectorau cymunedol, gan symud tuag at weithio system gyfan (<a href=\"https:\/\/locality.org.uk\/assets\/images\/We-were-built-for-this-Locality-2020.06.13.pdf\"><strong>Locality, 2020<\/strong><\/a>; <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/the-role-of-communities-and-the-use-of-technology-in-mitigating-loneliness-during-the-coronavirus-pandemic\/\"><strong>Havers et al, 2021<\/strong><\/a>; <a href=\"https:\/\/www.newlocal.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/01\/Shifting-the-Balance.pdf\"><strong>Kaye &amp; Morgan, 2021<\/strong><\/a>). Nodwyd bod r\u00f4l llywodraeth leol mewn cefnogi gweithredu cymunedol yn dyngedfennol mewn cydweithrediadau sy'n seiliedig ar leoedd (<a href=\"https:\/\/www.newlocal.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/02\/Community-Power-The-Evidence-1.pdf\"><strong>Pollard et al., 2021<\/strong><\/a>).<\/p>\n<p><strong>Ymchwil newydd \u2013 beth sy\u2019n gwneud i gydweithio weithio?<\/strong><\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.54454\/24073002\">ymchwil newydd<\/a>, a gynhyrchwyd ar y cyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a\u2019r <a href=\"https:\/\/copronet.wales\/what-we-do\/rcp\/\"><strong>Bartneriaeth Cymunedau Dyfeisgar<\/strong><\/a> (RCP), yn archwilio nid yn unig pa ffactorau sy\u2019n gwneud cydweithio amlsector yn effeithiol, ond yn hollbwysig, sut y mae modd cydweithio ar draws gwahanol gyd-destunau a pham. Fe wnaeth yr ymchwil ganfod fod <strong>ymdeimlad cyffredin o bwrpas<\/strong> yn sbardun allweddol i gydweithio amlsector llwyddiannus. Fe wnaeth argyfwng y pandemig ddarparu pwrpas canolog clir i ddod ag asiantaethau at ei gilydd i gefnogi gweithredu a llesiant cymunedol. Sbardun allweddol arall oedd <strong>hyblygrwydd<\/strong> \u2013 sawl gwaith y clywsom ni y geiriau \u2018pivot\u2019 ac \u2018agile\u2019 yn ystod y pandemig?<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfnod adfer hwn, wrth i ni frwydro yn erbyn nifer o argyfyngau, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, y cyfyngiadau cyllidol ar wasanaethau cyhoeddus, a\u2019r argyfwng hinsawdd, mae cefnogi gweithredu cymunedol yn dal yn brif flaenoriaeth ar gyfer llesiant \u2013 ac eto mae perygl y byddwn ni\u2019n llithro\u2019n \u00f4l i\u2019n hen seilos.\u00a0 Gyda hyn mewn golwg, cyd-gynhyrchodd Coleg Brenhinol y Meddygon a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yr ymchwil hon i ddarganfod pa gamau ystyrlon a phendant y mae modd eu cymryd i ddatblygu cydweithio amlsector sy\u2019n cefnogi gweithredu cymunedol.<\/p>\n<p>Mae'r ymchwil yn cynnwys adolygiadau o lenyddiaeth o gyn ac ar \u00f4l y pandemig, synthesis o ddysgu o ymarfer, a gweithdy sy'n ychwanegu profiad a chyd-destun pellach sy'n seiliedig ar ymarfer i'r sylfaen dystiolaeth.<\/p>\n<p><strong>Crynodeb o'r ymchwil<\/strong><\/p>\n<p>Yn gyntaf, nododd yr ymchwil nodweddion allweddol cydweithio effeithiol a ffactorau sy\u2019n ei gefnogi, cyn canolbwyntio ar gamau gweithredu diriaethol i gefnogi datblygiad cydweithio amlsector mewn gwahanol gyd-destunau. Mae\u2019r rhain wedi\u2019u rhannu\u2019n dair thema:<\/p>\n<p><strong>Gweithgareddau at ddatblygu dibenion cyffredin:<\/strong> Fe wnaeth yr ymchwil ganfod fod cydweithio\u2019n fwy effeithiol lle mae nod llesiant ar y cyd y tu hwnt i\u2019r cydweithio ei hun.\u00a0 Cafodd gweithgareddau ar gyfer datblygu nodau a dealltwriaeth ar y cyd eu grwpio i\u2019r categor\u00efau hyn: casglu gwybodaeth; meddwl systemau darlun mawr; cynllunio tymor hir a macro-gyfeirio; hyfforddi a dysgu ar y cyd; cyfuno a rhannu gwybodaeth; diffinio canlyniadau a sut i\u2019w mesur; goruchwyliaeth ar y cyd i gydlynu gwasanaethau.<\/p>\n<p><strong>Trefniadau llywodraethu:<\/strong> Roedd y rhain yn cynnwys rolau, cyfrifoldebau, prosesau a strwythurau a wnaeth helpu yn hytrach na llesteirio cydweithio amlsector ac a gafodd eu grwpio i\u2019r categor\u00efau hyn:\u00a0 rolau cyswllt\/cydlynu a llwybrau atgyfeirio; cyfrifoldebau a ffiniau y cytunwyd arnynt ar y cyd; arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau ar y cyd; polis\u00efau a gweithdrefnau; r\u00f4l cyrff a seilweithiau rhanbarthol a chenedlaethol; is-grwpiau cydweithio; cefnogi capasiti a chysondeb y gweithlu.<\/p>\n<p><strong>Mecanweithiau ariannol:<\/strong> Cafodd dulliau cefnogol o ariannu gwaith a mentrau mewn ffyrdd sy\u2019n cefnogi cydweithio amlsector eu grwpio i\u2019r categor\u00efau hyn: cyllid grant cyfranogol hyblyg a thymor hir; comisiynu; adeiladu cyfoeth cymunedol; seilwaith\/ystadau; codi arian; cynnull adnoddau; adrodd ar effaith.<\/p>\n<p>Gallwch chi ddarllen mwy am yr hyn sy'n gweithio i gefnogi cydweithio amlsector yn yr <strong>adroddiad<\/strong>. Ar ben hynny, mae canfyddiadau\u2019r ymchwil wedi cael eu datblygu\u2019n <a href=\"https:\/\/doi.org\/10.54454\/24080501\"><strong>Fframwaith Gweithredu<\/strong><\/a> rhyngweithiol y mae modd ei ddefnyddio i gefnogi cydweithio amlsector mewn gwahanol gyd-destunau ymarfer a pholisi, drwy nodi camau gweithredu diriaethol y mae modd eu cymryd yn y tri maes hyn.<\/p>\n<p><strong>Myfyrdodau<\/strong><\/p>\n<p>Mae cydweithio amlsector i gefnogi gweithredu a llesiant cymunedol yn fecanwaith hynod bwysig ond cymhleth o ran darparu cymdeithas gymdeithasol gyfiawn a theg sy\u2019n cefnogi iechyd a llesiant i bawb.<\/p>\n<p>Yn y DU, fe wnaeth adroddiad gan y Sefydliad Tegwch Iechyd nodi fod cydweithio amlsector rhwng pob lefel o lywodraeth a chymdeithas sifil yn ofyniad mewn cymdeithasau 'adeiladu yn \u00f4l yn decach\u2019 o ran iechyd a thegwch cymdeithasol yn dilyn y pandemig (<a href=\"https:\/\/www.health.org.uk\/publications\/build-back-fairer-the-covid-19-marmot-review\"><strong>Marmot et al., 2020<\/strong><\/a>).\u00a0 Mae\u2019r adroddiad yn pwysleisio\u2019r angen i fanteisio ar y cyfle a ddaeth yn sgil argyfwng y pandemig i adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd, i wneud pethau\u2019n wahanol ar gyfer cymdeithas decach a mwy cyfiawn.\u00a0 Yn eu barn nhw, un o\u2019r nodau ddylai fod adeiladu economi llesiant sy\u2019n rhoi iechyd a llesiant, yn hytrach na nodau economaidd yn unig, wrth galon strategaeth y llywodraeth.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid yw cydweithio amlsector yn gweithio os mai cyfarwyddeb o\u2019r brig i lawr yn unig ydyw; rhaid iddo hefyd gael ei arwain o lawr gwlad a rhaid i bob ochr gytuno arno. Mae hyn yn cael ei gydnabod i ryw raddau mewn adroddiad diweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop, sy\u2019n tanlinellu pwysigrwydd perthnasoedd rhwng pobl, llywodraeth a sefydliadau eraill o ran meithrin gwytnwch economaidd a chymdeithasol mewn argyfwng ac adferiad sy\u2019n gyfiawn yn gymdeithasol ar \u00f4l y pandemig (<a href=\"https:\/\/www.who.int\/europe\/publications\/i\/item\/WHO-EURO-2023-7137-46903-68412\"><strong>Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop, 2023<\/strong><\/a>). Mae eu hargymhellion polisi yn cefnogi egwyddorion cydweithio amlsector sy\u2019n cael eu harddel gan Goleg Brenhinol y Meddygon a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn yr ymchwil hon, yn enwedig egwyddorion llywodraethu democrataidd, partneriaethau rhwng llywodraeth, y gymuned a mudiadau sector cyhoeddus, cynnwys cymunedau yn y gwaith o ddatblygu strategaethau sy\u2019n seiliedig ar leoedd ar gyfer iechyd a llesiant, dysgu ar y cyd, a monitro a gwerthuso effaith ar gyfer atebolrwydd.<\/p>\n<p>Er bod llenyddiaeth o gyn y pandemig yn nodi amrywiaeth o fodelau cydweithio ac yn dweud llawer am gymhlethdodau rhannu p\u0175er a chyfrifoldeb rhwng mudiadau a sectorau, mae gan y llenyddiaeth o ar \u00f4l y pandemig thema gyffredin sy\u2019n nodi pwysigrwydd pwrpas cyffredin.\u00a0 Fe wnaeth y pandemig ddarparu pwrpas cyffredin ar gyfer cydweithio, ac nid oedd yn ymddangos bod y problemau rhannu p\u0175er a nodwyd yn y llenyddiaeth cyn y pandemig yr un mor bwysig. Wrth symud ymlaen, mae\u2019n ymddangos bod canfod nodau cyffredin ar gyfer cydweithio amlsector yn elfen hanfodol ar gyfer llwyddiant, ac y gallai gwneud hyn ar y cyd helpu i osgoi rhai o\u2019r rhwystrau i lwyddiant a oedd yn bodoli cyn y pandemig.<\/p>\n<p>Roedd yr hyn a ddysgwyd o ymarfer yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu canlyniadau a dangosyddion priodol i fesur ac adrodd ar lwyddiant y cydweithio, yn ogystal \u00e2 ffyrdd ymarferol o sicrhau bod cydweithio\u2019n gweithio.\u00a0 Mae llawer o enghreifftiau mewn gwahanol gyd-destunau yn cael eu darparu yn yr adroddiad.<\/p>\n<p>Mae hyblygrwydd yn elfen gyffredin ar draws y tair prif thema yn y llenyddiaeth ymchwil, a chafodd hyn ei atgyfnerthu gan yr hyn a ddysgwyd o ymarfer.\u00a0 Argymhellwyd bod hyd yn oed y modelau a nodwyd yn y llenyddiaeth o gyn y pandemig yn cael eu haddasu i gyd-destunau polisi ac ymarfer penodol, gan gydnabod bod gwahanol gyfuniadau o gryfderau sefydliadol a gwybodaeth arbenigol yn bodoli mewn gwahanol ardaloedd daearyddol ac ar gyfer nodau llesiant gwahanol.\u00a0 Mae\u2019r holl gamau gweithredu sy\u2019n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad ymchwil a\u2019r Fframwaith Gweithredu yn dibynnu ar gyd-destun ac mae modd ei hystyried fel bwydlen lle gall cydweithrediadau amlsector ddewis y cyfuniad mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion lleol.<\/p>\n<p>I grynhoi, bydd yr adnoddau hyn - sydd wedi cael eu paratoi ar y cyd gan randdeiliaid amlsector o ymchwil, polisi ac ymarfer - yn ddefnyddiol iawn i unrhyw un sy\u2019n awyddus i ddatblygu cydweithrediad amlsector newydd neu bresennol. Edrychwch ar y rhain a\u2019u haddasu i\u2019ch amgylchiadau eich hun.<\/p>\n<p><em>Yr Athro Anne-Marie Bagnall, <\/em><\/p>\n<p><em>Canolfan Ymchwil Hybu Iechyd, Prifysgol Leeds Beckett<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod y pandemig COVID-19, daeth sefydliadau\u2019r sector gwirfoddol a chymunedol yn fwy amlwg nag erioed o\u2019r blaen.\u00a0 Gyda gwreiddiau dwfn yn y cymunedau y maen nhw\u2019n eu gwasanaethu, roedd y mudiadau hyn yn gallu manteisio ar wybodaeth leol a seilwaith oedd eisoes yn bodoli i gyrraedd y rheini roedd angen help arnyn nhw fwyaf. [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15431","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-scaled.jpg","filesize":228831,"sizes":{"medium":{"file":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":44872,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-744x496.jpg"},"large":{"file":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":84777,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":44252,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":46505,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":117272,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":171356,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":151489,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"original_image":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons.jpg","ID":"10419","name":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons-scaled.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-scaled.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-scaled.jpg","title":"RCP-Webpage-header-Main-report-icons.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/RCP-Webpage-header-Main-report-icons-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15431","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15431"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15431\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16553,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15431\/revisions\/16553"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15431"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15431"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15431"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15431"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}