{"id":15426,"date":"2024-06-13T08:45:58","date_gmt":"2024-06-13T08:45:58","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/pam-mae-angen-i-gymru-gael-dull-newydd-o-fynd-ir-afael-ag-unigrwydd\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:05","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:05","slug":"pam-mae-angen-i-gymru-gael-dull-newydd-o-fynd-ir-afael-ag-unigrwydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/pam-mae-angen-i-gymru-gael-dull-newydd-o-fynd-ir-afael-ag-unigrwydd\/","title":{"rendered":"Pam mae angen i Gymru gael dull newydd o fynd i'r afael ag unigrwydd"},"content":{"rendered":"<p>Mae unigrwydd yn ddrwg i ni. Mae\u2019r ffaith bod<a href=\"https:\/\/www.who.int\/news\/item\/15-11-2023-who-launches-commission-to-foster-social-connection\"> Sefydliad Iechyd y Byd<\/a> (WHO) wedi datgan yn 2023 bod unigrwydd yn fygythiad difrifol i iechyd byd-eang yn dangos bod unigrwydd mor niweidiol, oherwydd bod tystiolaeth gynyddol a brawychus yn dangos pa mor beryglus yw unigrwydd i iechyd a llesiant pobl. Mae ymchwil yn dangos bod unigrwydd yn gallu eich gwneud chi <a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/25956016\/\">50% yn fwy tebygol o gael dementia<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC4941172\/\">32% yn fwy tebygol o gael str\u00f4c<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC4941172\/\">29% yn fwy tebygol o ddioddef clefyd y galon<\/a>, a hyd yn oed <a href=\"https:\/\/pubmed.ncbi.nlm.nih.gov\/25910392\/\">26% yn fwy tebygol o ddioddef marwolaeth gynnar<\/a>. Er mwyn rhoi meincnod clir, mae Llawfeddygon Cyffredinol yr Unol Daleithiau yn <a href=\"https:\/\/www.hhs.gov\/sites\/default\/files\/surgeon-general-social-connection-advisory.pdf\">tynnu sylw<\/a> at y ffaith bod datgysylltiad cymdeithasol yn cael yr un effaith ar iechyd ag ysmygu <a href=\"https:\/\/www.ncbi.nlm.nih.gov\/pmc\/articles\/PMC5598785\/\">15 o sigar\u00e9ts y dydd<\/a>.<\/p>\n<p>Mae nifer y bobl ledled y DU sy\u2019n dweud eu bod nhw\u2019n unig drwy\u2019r amser wedi parhau i gynyddu ers 2020, ac mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch pa mor dda mae ein dulliau presennol o ymdrin ag unigrwydd yn gweithio. Ydyn ni\u2019n darparu\u2019r adnoddau cyfyngedig sydd gennym yn y ffordd iawn?<\/p>\n<p><strong>Yr hyn rydyn ni wedi\u2019i ddysgu<\/strong><\/p>\n<p>Mae ein hadolygiad rhyngwladol o anghydraddoldebau unigrwydd yn edrych ar unigrwydd mewn goleuni newydd, ac mae\u2019n dadlau y gellid gwario ar adnoddau cyhoeddus cyfyngedig yn well pe bai unigrwydd yn cael ei ddeall ac yn cael sylw drwy lygaid anghydraddoldebau. Y rheswm am hyn yw nad yw unigrwydd yn cael ei rannu\u2019n gyfartal. Mae rhai grwpiau o bobl yn fwy tebygol o fod yn unig nag eraill. Mae'r adolygiad yn mapio'r gwahanol grwpiau ar y cyrion, yn nodi'r gwahanol rwystrau sy\u2019n wynebu\u2019r grwpiau hyn rhag gallu perthyn, ac yn arwydd o\u2019r angen am ddull newydd o oresgyn rhwystrau presennol ac atal unigrwydd yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adolygiad yn tynnu sylw at sut mae grwpiau mewn cymdeithas sydd eisoes yn dioddef o anghydraddoldebau cymdeithasol, allg\u00e1u cymdeithasol, a gwahaniaethu \u2013 fel y rheini sydd ag anableddau, y rheini sy\u2019n rhan o\u2019r cymunedau LHDTC+, ymfudwyr, y rheini sydd mewn caledi economaidd ac, mewn gwirionedd, y rheini sydd mewn unrhyw ffordd yn wahanol i\u2019r mwyafrif \u2013 yn fwy tebygol o ddioddef unigrwydd. Mae\u2019r tebygolrwydd hwnnw\u2019n cynyddu rhagor pan fydd sawl categori\u2019n berthnasol (er enghraifft, ymfudwr h\u0177n sydd ag anableddau). Bydd bylchau'n parhau i ehangu os na fyddwn ni\u2019n rhoi sylw gwirioneddol i'r ddealltwriaeth newydd hon o unigrwydd ac yn ceisio mynd i'r afael \u00e2 hyn mewn ffordd wahanol.<\/p>\n<figure id=\"attachment_8249\" aria-describedby=\"caption-attachment-8249\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-8249\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Figure-6-Welsh.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"201\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-8249\" class=\"wp-caption-text\">Ffigur 1: ffactorau uniongyrchol ac anuniongyrchol sy\u2019n esbonio unigrwydd<\/figcaption><\/figure>\n<p><strong>Pam mae\u2019r anghydraddoldebau hyn yn datblygu?<\/strong><\/p>\n<p>Mae'r adolygiad yn dangos sut mae pobl o grwpiau ar y cyrion mewn mwy o berygl o unigrwydd, a hynny\u2019n rhannol oherwydd y ffordd y maen nhw\u2019n cael eu trin gan gymdeithas. Mae rhwystrau gweladwy ac anweledig yn rhwystro pobl rhag teimlo eu bod nhw\u2019n perthyn. Er enghraifft, gall pobl o\u2019r grwpiau sydd wedi\u2019u mapio yn yr adolygiad ddioddef stigma, bwlio ac aflonyddu bob dydd, ac mae hyn yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo nad ydyn nhw\u2019n perthyn, gan eu harwain at risg uwch o unigrwydd. Mae deinameg llai amlwg hefyd, fel pobl yn teimlo eu bod yn wahanol i\u2019r bobl eraill sydd o\u2019u cwmpas. Er enghraifft, wrth ymgysylltu\u2019n ddiweddar yngl\u0177n \u00e2\u2019n canfyddiadau, dywedodd unigolyn niwrowahanol:<\/p>\n<blockquote><p><em>\u201cOs ydych chi\u2019n niwroamrywiol, rydych chi\u2019n edrych yn \u2018normal\u2019. Mae tybiaethau\u2019n cael eu gwneud am lefel eich dealltwriaeth. O ran cael sgyrsiau cymdeithasol yn y gwaith, mae pobl yn tueddu i ddefnyddio ystyron cudd ac mae\u2019n hawdd i berson niwroamrywiol \u2018gamddeall y sefyllfa\u2019. Yna, rydych chi\u2019n cael y label o fod yn \u201crhyfedd\u201d ac rydych chi\u2019n cael eich eithrio o sgyrsiau cymdeithasol. Dydych chi ddim yn cael bod yn rhan o\u2019r sgyrsiau. Mae\u2019n waith caled ymgysylltu a bod yn gymdeithasol.\u201d <\/em><\/p><\/blockquote>\n<figure id=\"attachment_8247\" aria-describedby=\"caption-attachment-8247\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignnone\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-8247 size-medium\" src=\"http:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/wp-content\/uploads\/Chwe-Ffactor-Strwythol-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" \/><figcaption id=\"caption-attachment-8247\" class=\"wp-caption-text\">Ffigur 2: Chwe Ffactor Strwythol sy'n Debygol o Ddylanwadu ar Anghydraddoldebau Unigrwydd<\/figcaption><\/figure>\n<p>Gall graffeg allweddol yn yr adolygiad fod yn fframweithiau i lunwyr polis\u00efau ac ymarferwyr fynd i'r afael ag unigrwydd drwy lens anghydraddoldebau. Mae Ffigur 1 yn dangos sut mae allg\u00e1u rhyngbersonol (fel stigma neu fwlio) a\u2019r gwahaniaeth o gymdeithas ddominyddol yn gallu arwain yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol at unigrwydd. Mae Ffigur 2 yn crynhoi\u2019r chwe ffactor strwythurol sy\u2019n gallu cynyddu unigrwydd a nodwyd gan yr adolygiad. Gyda\u2019i gilydd, mae modd eu defnyddio i nodi\u2019n well y prif rwystrau sy\u2019n atal pobl a lleoedd rhag perthyn, ac i roi llais i\u2019r bobl sydd \u00e2 phrofiadau uniongyrchol.<\/p>\n<p><strong>Sut gallwn ni liniaru yn erbyn yr anghydraddoldebau hyn?<\/p>\n<p><\/strong>Yn ymarferol, mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran unigrwydd yn golygu ceisio dealltwriaeth ddyfnach o\u2019r canlynol: <em>beth sy'n rhwystro rhai grwpiau rhag cysylltu'n ystyrlon yn gymdeithasol?<\/em> Bydd yr ateb yn edrych yn wahanol ar gyfer gwahanol grwpiau a lleoedd, ond mae\u2019r cwestiwn yn aros yr un fath. Er bod hyn yn swnio'n syml, byddai hyn yn newid radical o ddulliau traddodiadol o ymdrin ag unigrwydd, sy'n ystyried unigrwydd fel problem gydag unigolion (fel sgiliau cymdeithasol gwael, hwyliau isel, neu ddiffyg ymgysylltu cymdeithasol).<\/p>\n<p>O safbwynt polisi, mae Cymru mewn sefyllfa dda i lywio cwrs newydd. Mae gan Gymru weledigaethau beiddgar eisoes i wella llesiant a chydraddoldeb yn Neddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol, Cymru Iachach, ac amrywiol gynlluniau gweithredu sy\u2019n canolbwyntio ar gydraddoldeb ar Wrth-hiliaeth ac Anabledd. Mae\u2019r rhain i gyd yn rhoi cyfeiriad ar sut i lywio tuag at ddyfodol mwy disglair. Fodd bynnag, mae angen i Gymru ddefnyddio unigrwydd fel arwydd bod rhai rhwystrau rhag cysylltiad cymdeithasol yn dal i sefyll yn ffordd pobl, ac mae angen cymryd camau i fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn wrth wraidd y broblem.<\/p>\n<p>Mae ein hadroddiad yn dangos yn glir nad bai unigolion yw prif achos unigrwydd. Mae edrych ar un ochr y ddadl yn gallu stigmateiddio ac ynysu\u2019r union bobl rydyn ni eisiau eu cynnwys, yn enwedig os ydyn ni\u2019n gwneud rhagdybiaethau amdanyn nhw y tu \u00f4l i\u2019w cefnau nhw.<\/p>\n<p><strong>Casgliad<\/p>\n<p><\/strong>Mae\u2019r newid yn ein dull gweithredu yn seiliedig ar y dystiolaeth, a gall hyn wella ac ategu at ddulliau traddodiadol a allai fod yn gweithio i rai pobl. Mae ein dull gweithredu\u2019n ymwneud \u00e2 derbyn nad yw unigrwydd wedi'i ddosbarthu'n gyfartal mewn cymdeithas, felly mae angen i ni edrych yn ehangach i nodi a chael gwared ar y rhwystrau strwythurol a chymdeithasol sy'n cadw pobl a grwpiau rhag cael cysylltiad. Mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir mai grwpiau sydd eisoes ar y cyrion ac sy\u2019n cael eu gwahaniaethu sydd fwyaf tebygol o ddioddef unigrwydd heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mae dulliau traddodiadol o ymdrin ag unigrwydd yn ddulliau unigol, ac nid ydynt yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a'u lliniaru. Mae angen i ni feddwl, gweithredu a defnyddio mwy a mwy o adnoddau ar wraidd y broblem er mwyn lleihau nifer y bobl sydd bob amser yn teimlo\u2019n unig.<\/p>\n<p>Os ydyn ni\u2019n canolbwyntio ar \u2018unigrwydd\u2019 fel problem i\u2019w datrys heb archwilio pam mae rhai pobl a grwpiau\u2019n fwy tebygol o fod yn unig nag eraill, bydd Cymru\u2019n methu \u00e2 chyflawni ei gweledigaeth flaengar, ac yn peryglu achosi rhagor o broblemau i\u2019r union bobl y maen nhw\u2019n ceisio eu cynnwys. Mae unigrwydd yn broblem sy\u2019n ymwneud \u00e2 llwyddiant llawer o bolis\u00efau blaengar Cymru. Bydd gweithredu ar anghydraddoldebau unigrwydd yn gwneud Cymru\u2019n iachach ac yn fwy cynhwysol mewn cymunedau mwy cydlynol.<\/p>\n<p>Ein cyfrifoldeb ni i gyd yw gwneud Cymru\u2019n lle mae pawb yn teimlo eu bod nhw\u2019n perthyn. Rydyn ni wrthi\u2019n rhoi cynnig ar adnoddau ac yn eu profi er mwyn rhoi\u2019r dystiolaeth hon ar waith i wella canlyniadau yng Nghymru.\u00a0 Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn y maes hwn, cysylltwch ag <a href=\"mailto:info@wcpp.org.uk\">info@wcpp.org.uk<\/a><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae unigrwydd yn ddrwg i ni. Mae\u2019r ffaith bod Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi datgan yn 2023 bod unigrwydd yn fygythiad difrifol i iechyd byd-eang yn dangos bod unigrwydd mor niweidiol, oherwydd bod tystiolaeth gynyddol a brawychus yn dangos pa mor beryglus yw unigrwydd i iechyd a llesiant pobl. Mae ymchwil yn dangos bod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":15427,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137,148],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15426","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-unigrwydd"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Young-people-park-loneliness-inequalities.jpg","filesize":444750,"sizes":{"medium":{"file":"Young-people-park-loneliness-inequalities-744x388.jpg","width":744,"height":388,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":60774,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-744x388.jpg"},"large":{"file":"Young-people-park-loneliness-inequalities-1200x627.jpg","width":1200,"height":627,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":126991,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-1200x627.jpg"},"thumbnail":{"file":"Young-people-park-loneliness-inequalities-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":63845,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Young-people-park-loneliness-inequalities-768x401.jpg","width":768,"height":401,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":63842,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-768x401.jpg"},"1536x1536":{"file":"Young-people-park-loneliness-inequalities-1536x802.jpg","width":1536,"height":802,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":185107,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-1536x802.jpg"},"2048x2048":{"file":"Young-people-park-loneliness-inequalities-2048x1069.jpg","width":2048,"height":1069,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":282726,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-2048x1069.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Young-people-park-loneliness-inequalities-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":268580,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15422","name":"Young-people-park-loneliness-inequalities.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities.jpg","title":"Young-people-park-loneliness-inequalities.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Young-people-park-loneliness-inequalities-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15426","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15426"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15426\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":15429,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15426\/revisions\/15429"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/15427"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15426"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15426"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15426"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15426"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}