{"id":15420,"date":"2024-06-10T14:53:59","date_gmt":"2024-06-10T14:53:59","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/prifddinas-ranbarth-caerdydd-ceir-a-datblygiad-syn-seiliedig-ar-systemau-trafnidiaeth\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:03","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:03","slug":"prifddinas-ranbarth-caerdydd-ceir-a-datblygiad-syn-seiliedig-ar-systemau-trafnidiaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/prifddinas-ranbarth-caerdydd-ceir-a-datblygiad-syn-seiliedig-ar-systemau-trafnidiaeth\/","title":{"rendered":"Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Ceir a datblygiad sy'n seiliedig ar systemau trafnidiaeth"},"content":{"rendered":"<p><strong>Y broblem<\/strong><\/p>\n<p>Mae ein hecosystem cynllunio a datblygu wedi golygu ein bod wedi adeiladu \u2018yr holl bethau anghywir yn yr holl fannau anghywir\u2019 ers dros 50 mlynedd. Cartrefi, ysbytai, siopau, swyddfeydd, sinem\u00e2u, canolfannau hamdden ac ati i gyd wedi\u2019u dylunio a\u2019u lleoli ar sail mynediad i geir. Erbyn hyn, mae\u2019r ecosystem hon lle mae angen car i gyrraedd lleoedd yn golygu bod llawer o dai newydd wedi\u2019u lleoli mewn llefydd lle mae\u2019n rhaid i chi fynd i\u2019ch car bob tro rydych chi eisiau prynu peint o laeth.<\/p>\n<p>Y dylanwad negyddol mwyaf ar lawer o strydoedd mawr ein dinasoedd a\u2019n trefi yw\u2019r <a href=\"https:\/\/www.iwa.wales\/agenda\/2024\/01\/death-of-the-high-street-welsh-city-centres\/\">adleoli enfawr o swyddfeydd, siopau manwerthu, gwasanaethau cyhoeddus, i leoliadau y tu allan i\u2019r dref lle mae angen car i\u2019w cyrraedd<\/a> yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae de-ddwyrain Cymru yn llawn ohonynt; Porth Caerdydd, Trago Mills, Parc Imperial, Parc Spytty, Navigation Park, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Celtic Springs, McArthur Glen, Croes Cwrlwys, Llanfrechfa Grange.<\/p>\n<p>Wrth gyfuno\u2019r realiti hwn \u00e2 nifer fawr o archfarchnadoedd corfforaethol lle mae angen car i\u2019w cyrraedd, dirywiad siopau annibynnol a siopau manwerthu bwyd lleol o ganlyniad i hyn, a pha mor wrthnysig erbyn hyn yw\u2019r siopau coffi gyrru-drwodd, daw prif achos yr aflwydd sy\u2019n effeithio ar ein strydoedd mawr yn amlwg \u2013 datblygiadau y tu allan i\u2019r dref lle mae angen ceir i\u2019w cyrraedd. Mae pob un ohonom <a href=\"https:\/\/swalesmetroprof.blog\/2023\/04\/17\/cars-congestion-health-and-road-pricing\/\">yn cau llygaid<\/a> i\u2019r sefyllfa gyda cheir ac yn methu \u00e2 chydnabod <a href=\"https:\/\/swalesmetroprof.blog\/2022\/05\/15\/mark-barry-may-2022-submission-to-senedd-climate-change-committee\/\">costau<\/a> cymdeithasol ac economaidd ehangach y rhyddid a ddaw yn eu sgil.<\/p>\n<p><strong>Yr effaith<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r difrod canlyniadol a\u2019r costau allanol ehangach wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru a gomisiynodd <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/sites\/default\/files\/publications\/2021-07\/small-towns-big-issues-independent-research-report.pdf\">adroddiad<\/a> gan yr Ymchwil i\u2019r Economi Sylfaenol yn 2021, \u201cSmall Towns Big Issues\u201d sy\u2019n taflu goleuni ar effaith negyddol datblygiadau y tu allan i drefi lle mae angen ceir i\u2019w cyrraedd, yn enwedig ar ganol trefi presennol. Daeth <a href=\"https:\/\/audit.wales\/cy\/publication\/adfywio-canol-trefi-yng-nghymru\">adroddiad<\/a> pellach gan Archwilio Cymru i\u2019r un casgliadau\u2019n fras: \u201cMae twf canolfannau manwerthu y tu allan i drefi lle mae angen ceir i\u2019w cyrraedd wedi cyfrannu\u2019n sylweddol at ddirywiad canol trefi\u201d.<\/p>\n<p>Mae\u2019n addysgiadol cymharu, hyd yn oed o ran ansawdd, fywiogrwydd a statws Stryd Fawr Tonypandy (Stryd Dunraven) yng nghanol Cwm Rhondda \u00e2 Stryd Fawr Treorci ar ben uchaf y Rhondda.\u00a0 Mae problemau, eiddo gwag, nifer isel o ymwelwyr, a llawer o fentrau aflwyddiannus dros ddegawdau yn gysylltiedig \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.walesonline.co.uk\/news\/wales-news\/anger-frustration-pain-trying-trade-15802874\">stryd fawr Tonypandy<\/a> ac fe\u2019i hystyrir yn is na\u2019r gorau.\u00a0 Mewn cyferbyniad llwyr, enillodd <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/uk-wales-51234575\">Stryd Fawr Treorci<\/a> \u201cstryd fawr y flwyddyn\u201d mor ddiweddar \u00e2 2019.\u00a0 Sut gall dau le mor agos gael strydoedd mawr sy\u2019n perfformio mor wahanol?<\/p>\n<p>Rydw i\u2019n dal fod Tonypandy wedi dioddef llawer mwy yn sgil twf y siopau y tu allan i\u2019r dref lle mae angen car i\u2019w cyrraedd. Lai na milltir o Stryd Dunraven mae siop Tesco fawr iawn yn Llwynypia; nid yw goleuadau llachar Tonysguboriau neu Bontypridd gyda siop Sainsbury ar yr A470 yn rhy bell i ffwrdd chwaith. Fodd bynnag, ychydig o le neu dir sydd ar gael yn Nhreorci neu o\u2019i chwmpas, ac mae\u2019n debyg nad oes digon o botensial masnachol i ganolfan manwerthu fawr debyg lle mae angen car i\u2019w gyrraedd yn Nhreorci (<em>er bod Coop llai gyda maes parcio<\/em>). Mae stryd fawr Tonypandy wedi cael ei gwagio drwy dynnu gweithgarwch i lefydd fel Tesco, ond yn Nhreorci mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r gweithgarwch wedi aros yn lleol, mewn siopau lleol.<\/p>\n<p>Mae adeiladu ein bywydau o amgylch y car wedi arwain at broblem enfawr i ni. Mae ceir wedi rhoi llawer iawn o ryddid a hwylustod i filiynau o bobl, ond ar ba gost?<\/p>\n<p><strong>Yr Ateb - Datblygiad sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth (TOD)<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r argyfwng hinsawdd a <a href=\"chrome-extension:\/\/efaidnbmnnnibpcajpcglclefindmkaj\/https:\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Datgarboneiddio%E2%80%99r-system-drafnidiaeth-dra-cysylltu-pobl-a-lleoedd.pdf\">thargedau newid modd<\/a> Llywodraeth Cymru yn mynnu ein bod yn ailystyried yn llwyr ein dull o ddefnyddio tir ac, wrth wneud hynny, yn cofleidio\u2019r hyn a elwir \u201c<a href=\"https:\/\/swalesmetroprof.blog\/2019\/04\/25\/transit-oriented-development-in-the-cardiff-capital-region\/\">Datblygiad sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth<\/a>\u201d a <a href=\"https:\/\/dcfw.org\/wp-content\/themes\/dcfw-child\/assets\/PlacemakingGuideDigitalENG.pdf\">Creu Lleoedd<\/a> i ategu\u2019r gwaith o ddatblygu a gweithredu Metro De Cymru.<\/p>\n<p>Er bod llawer o ddiffiniadau o Ddatblygiad sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth<a href=\"#_ftn1\" name=\"_ftnref1\">[1]<\/a>, mae angen i ni gynnwys y nodweddion allweddol canlynol yng Nghymru:<\/p>\n<ul>\n<li>Datblygiadau defnydd cymysg a dwysedd uwch o amgylch coridorau a gorsafoedd trafnidiaeth;<\/li>\n<li>Sicrhau bod tai newydd, gwasanaethau cyhoeddus a safleoedd cyflogaeth yn cyd-fynd \u00e2 thrafnidiaeth gyhoeddus \u2013 <em>cynllunio gwirioneddol ar gyfer defnydd tir\/trafnidiaeth<\/em>;<\/li>\n<li>Gwella diogelwch ac ansawdd ardaloedd trefol \u2013 yn enwedig ein strydoedd trefol;<\/li>\n<li>Integreiddio \u00e2 theithio llesol;<\/li>\n<li>Cynnwys mannau agored\/gwyrdd; a<\/li>\n<li>Ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned a\u2019i chynnwys yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu cynlluniau.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae Datblygiad sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth yn ddull o ddatblygu sy\u2019n canolbwyntio ar bobl, mannau cyhoeddus a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan arwain at lai o ddibyniaeth ar geir. Mae\u2019n ddull sy\u2019n sicrhau manteision, er enghraifft:<\/p>\n<ul>\n<li>Gyda phoblogaeth fwy dwys, mae\u2019n dod yn haws ac yn llai costus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus;<\/li>\n<li>Mae gan ganolfannau manwerthu a siopau lleol fwy o alw\u2019n lleol y gellir cael mynediad ato drwy deithio llesol;<\/li>\n<li>Mewn llawer o achosion, gellir cysylltu cynlluniau ar gyfer tai newydd \u00e2 phrosiectau adfywio lleol ac adfywio canol trefi, a gwneud gwelliannau gwyrdd i dir trefol; a<\/li>\n<li>Mae\u2019n haws cyfiawnhau buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod nifer uwch o bobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau cludo yn haws (gan helpu i greu blwch tocynnau a lleihau cymorthdaliadau gweithredol gwasanaethau cludo newydd \u2013 bysiau neu drenau).<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gyda\u2019i gilydd, ac yn fwy pwysig, mae Datblygiad sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth yn lleihau ein hangen i ddefnyddio a bod yn berchen ar geir \u2013 wrth ystyried perygl presennol newid yn yr hinsawdd, efallai mai dyma\u2019r prif reswm i ni yng Nghymru gofleidio Datblygiadau sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth. Mae\u2019r bwriad hwn hefyd wedi\u2019i nodi yn y <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cymrur-dyfodol-y-cynllun-cenedlaethol-2040\">Fframwaith Datblygu Cenedlaethol<\/a>, a gall lifo drwodd i\u2019r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a\u2019r Cynlluniau Datblygu Strategol a ragwelir ledled Cymru.<\/p>\n<p><strong>Sut y gellir gweithredu Datblygiad sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth?<\/strong><\/p>\n<p>Mae angen corff newydd arnom sy\u2019n canolbwyntio ar weithredu a chyflawni er mwyn manteisio ar Ddatblygiadau sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn enwedig wrth ddatblygu <a href=\"https:\/\/tfw.wales\/projects\/metro\/south-wales-metro\">Metro De Cymru<\/a>. Mae angen goruchwyliaeth i helpu i adeiladu dinas-ranbarth mwy cynaliadwy gyda defnydd tir, adfywio a datblygu effeithiol a ffocws ar lawer o dai (cyhoeddus fwyaf tebyg), sy\u2019n fforddiadwy, ac wedi\u2019u cysylltu \u00e2 chludiant. A oes gan <a href=\"https:\/\/www.cardiffcapitalregion.wales\/cy\/\">Brifddinas-Ranbarth Caerdydd<\/a> y capasiti a\u2019r gallu i ymgymryd \u00e2\u2019r her o groesawu Datblygiad sy\u2019n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth?\u00a0 A oes angen <em>Corfforaeth Datblygu Metro<\/em> ar y rhanbarth i ategu Trafnidiaeth Cymru?<\/p>\n<p>Mae disgwyliadau <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru\">Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol<\/a>, yr <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/adolygiad-annibynnol-or-cyflenwad-o-dai-fforddiadwy-adroddiad\">Adolygiad ar Gartrefi Fforddiadwy<\/a> gan Lywodraeth Cymru yn 2019, ac erthyglau amrywiol gan arbenigwyr yn y diwydiant, academyddion ac arsylwyr yn darparu rhagor o gyd-destun ac yn cefnogi'r angen am gapasiti ac arweinyddiaeth fwy strategol yn y maes hwn. Yn bwysicach, mae\u2019r pwyslais ar greu lleoedd o fewn polisi cynllunio cenedlaethol yn dangos angen dybryd am archwilio sut a ble i hyrwyddo cartrefi cynaliadwy, creu lleoedd gwych a Datblygiadau sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth mewn lleoliadau strategol.<\/p>\n<p>Yn ymarferol, bydd yn rhaid i unrhyw sefydliad newydd hefyd weithio gyda\u2019r sector preifat i helpu i gyflwyno llawer o ddatblygiadau mewnlenwi llai, yn wahanol i\u2019r safleoedd caeau glas mwy sy\u2019n cael eu ffafrio\u2019n amlach gan ddatblygwyr. Mae hyn yn heriol.<\/p>\n<p>Er bod Datblygiadau sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gallu lleihau\u2019r ddibyniaeth ar geir yn y tymor hwy mewn ardaloedd trefol (fel ein bod yn darparu mwy o le ar y ffyrdd i\u2019r bobl hynny y mae gwir angen iddynt yrru), mae\u2019n fwy o her mewn ardaloedd gwledig a lleoedd sydd \u00e2 llai o boblogaeth ac sy\u2019n fwy cyfyngedig.\u00a0 Dyma lle bydd y car yn dal yn hanfodol \u2013 yn dal i fod yn brif ddull o deithio i lawer \u2013 a lle dylid canolbwyntio cynlluniau gwefru cerbydau trydan.<\/p>\n<p><strong>I gloi...<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r symudiad tuag at Ddatblygiadau sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth yn fwy eang yn hanfodol ac efallai yr un mor bwysig i gyflawni ein rhwymedigaethau o ran datgarboneiddio \u00e2\u2019r buddsoddiad angenrheidiol mewn seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus fel Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, os nad yn bwysicach.<\/p>\n<p><strong><em>Fersiwn wedi\u2019i thalfyrru yw hon; <a href=\"https:\/\/swalesmetroprof.blog\/\">mae\u2019r fersiwn llawn ar gael yma<\/a><\/em><\/strong><\/p>\n<p><em>Mae Mark Barry yn Athro Ymarfer mewn Cysylltedd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd. Mae gan Mark hefyd ei fusnes ymgynghori ei hun, M&amp;G Barry Consulting. Arweiniodd Ddatblygiad Metro De Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru rhwng mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2016 yn dilyn cyhoeddi ei Astudiaeth o Effaith y Metro yn 2013. <\/em><\/p>\n<p>E-bost: <a href=\"mailto:mark@mgbarryconsulting.com\">mark@mgbarryconsulting.com<\/a>\u00a0neu <a href=\"mailto:barrym9@cardiff.ac.uk\">barrym9@cardiff.ac.uk<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>[1] I gael rhagor o wybodaeth am Ddatblygiad sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth, gweler: Gr\u0175p Trafnidiaeth Drefol; <a href=\"https:\/\/www.transportfornewhomes.org.uk\/\">Trafnidiaeth ar gyfer Cartrefi Newydd<\/a>; <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=WgExzJs0irU&amp;t=9s\">Brent Toderian ar symudedd cynaliadwy<\/a>; <a href=\"https:\/\/www.planetizen.com\/blogs\/116953-urban-village-planning-checklist\">Rhestr Wirio Cynllunio Pentrefi Trefol<\/a>; <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=RYsqWIGyRVk\">Esbonio Datblygiad sy'n seiliedig ar Systemau Trafnidiaeth<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y broblem Mae ein hecosystem cynllunio a datblygu wedi golygu ein bod wedi adeiladu \u2018yr holl bethau anghywir yn yr holl fannau anghywir\u2019 ers dros 50 mlynedd. Cartrefi, ysbytai, siopau, swyddfeydd, sinem\u00e2u, canolfannau hamdden ac ati i gyd wedi\u2019u dylunio a\u2019u lleoli ar sail mynediad i geir. Erbyn hyn, mae\u2019r ecosystem hon lle mae angen [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14889,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150,12],"tags":[141,144,147],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15420","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-llywodraeth-leol","tag-sero-net","tag-trafnidiaeth"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1437935052-1-1.jpg","filesize":1723099,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1437935052-1-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":127300,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-744x418.jpg"},"large":{"file":"iStock-1437935052-1-1-1200x674.jpg","width":1200,"height":674,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":327236,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-1200x674.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1437935052-1-1-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":127300,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1437935052-1-1-768x432.jpg","width":768,"height":432,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":134296,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-768x432.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1437935052-1-1-1536x863.jpg","width":1536,"height":863,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":523736,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-1536x863.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1437935052-1-1-2048x1151.jpg","width":2048,"height":1151,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":879619,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-2048x1151.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1437935052-1-1-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":786343,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15419","name":"iStock-1437935052-1-1.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1.jpg","title":"iStock-1437935052-1-1.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-1200x674.jpg 1200w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-1536x863.jpg 1536w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-2048x1151.jpg 2048w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1437935052-1-1-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15420","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15420"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15420\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16551,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15420\/revisions\/16551"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14889"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15420"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15420"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15420"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15420"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}