{"id":15416,"date":"2024-06-03T11:25:23","date_gmt":"2024-06-03T11:25:23","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/tlodi-cudd-mewn-cymunedau-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:03","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:03","slug":"tlodi-cudd-mewn-cymunedau-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/tlodi-cudd-mewn-cymunedau-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Tlodi cudd mewn cymunedau yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae tlodi\u2019n cael ei bortreadu weithiau fel rhywbeth sy\u2019n digwydd mewn ardaloedd trefol yn bennaf, ond mae pobl yn wynebu caledi ariannol ym mhob rhanbarth ac ardal ddaearyddol yng Nghymru. <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/tlodi-incwm-cymharol-ebrill-2021-i-fawrth-2022-html\">Mae un o bob pump (21%) o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol; <\/a>\u00a0mae cyfran uwch na hyn yn gorfod byw heb yr hanfodion.\u00a0 Mae tri o bob deg o bobl (31%) yn cael anhawster i gynhesu eu cartrefi, ac <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/resources\/ciplun-ar-dlodi-yng-ngaeaf-2024\/\">mae bron i un o bob pedwar (24%) yn bwyta prydau llai o faint<\/a> neu\u2019n mynd heb brydau bwyd yn gyfan gwbl.\u00a0 Mae WCPP wedi comisiynu tri blog cysylltiedig sy\u2019n archwilio ardaloedd daearyddol o galedi yng Nghymru nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ddigonol.\u00a0 Mae\u2019r rhain yn disgrifio ysgogwyr penodol tlodi a sut mae \u00a0tlodi yn dod i\u2019r golwg mewn gwahanol fathau o gymunedau \u2013 lled-drefol, gwledig a ffermio \u2013 ac felly gallai fod angen datrysiadau polisi wedi\u2019u teilwra\u2019n bwrpasol.<\/p>\n<p>Yn ei blog gwadd ar gyfer WCPP, mae Eleri Williams o\u2019r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT) yn pwysleisio y gallai profiad pobl sy\u2019n byw mewn ardaloedd lled-drefol, ar gyrion canolfannau trefol, ddwys\u00e1u oherwydd absenoldeb cysylltiad cymdeithasol a seilwaith cymdeithasol. \u00a0\u00a0Mae blog Eleri wedi\u2019i ategu gan <a href=\"https:\/\/static1.squarespace.com\/static\/62554a379dc7e96b0ee4c256\/t\/6544db4846a6531e20544b15\/1699011403930\/Resilient+communities+-+meeting+the+challenge+of+being+at+the+margins+-+ENGLISH+v.2.pdf\">ymchwil<\/a> diweddar gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT), a ganfu bod caledi ar gyrion canolfannau trefol mawr yn cael ei ddwys\u00e1u gan ddiffyg asedau cymunedol a dinesig.\u00a0 Mae\u2019r \u2018ardaloedd llai cydnerth\u2019 hyn yn aml yn ystadau tai a adeiladwyd ar \u00f4l yr 2il Ryfel Byd a hen gymunedau glofaol, gyda llai o ganolfannau cymunedol, tafarndai a siopau a llai o gymunedau gweithredol ac ymgysylltiedig.\u00a0 Mae ymchwil BCT yn ychwanegu dimensiwn newydd i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, gan awgrymu bod preswylwyr ardaloedd lled-drefol yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith a phrofi problemau iechyd hirdymor, o gymharu \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n byw mewn tlodi mewn ardaloedd \u00e2 chymunedau mwy ymgysylltiedig a gweithredol.<\/p>\n<p>Yn ei flog gwadd ar gyfer WCPP, mae\u2019r Athro Mike Woods yn dangos natur gudd tlodi gwledig. Mae data a ddefnyddiwyd i fesur amddifadedd yn aml wedi\u2019i orliwio mewn ffordd sy\u2019n cuddio tlodi mewn ardaloedd gwledig.\u00a0 Mae teuluoedd sy\u2019n profi amddifadedd mewn ardaloedd gwledig yn aml wedi\u2019u gwasgaru ymhlith cymdogion mwy cyfoethog, ond mae amddifadedd yn aml yn fwy dwys mewn \u00a0lleoliadau trefol.\u00a0 Gall fod yn anodd hefyd canfod y dangosydd cywir ar gyfer tlodi mewn ardaloedd gwledig. Mae <a href=\"https:\/\/theconversation.com\/rural-poverty-is-getting-worse-and-welfare-harder-to-access-201060\">bod yn berchen ar gar, er enghraifft, yn fwy o anghenraid na dewis<\/a> oherwydd y cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael a\u2019r pellter rhwng cartrefi, gweithleoedd ac amwynderau.\u00a0 Mae digartrefedd hyd yn oed yn wahanol, gyda llai o bobl yn cysgu allan o gymharu ar ardaloedd trefol, ac yn hytrach maent yn cysgu yng nghartrefi perthnasoedd neu ffrindiau.\u00a0 Mae adroddiad blaenorol gan WCPP wedi pwysleisio\u2019r <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/publication\/rural-poverty-in-wales\/\">heriau o werthuso effaith ymyriadau<\/a> a ddyluniwyd i fynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi gwledig.<\/p>\n<p>I'r rhai sy\u2019n byw mewn ardaloedd gwledig, mae\u2019r rhyng-gysylltiadau rhwng cyflogaeth, trafnidiaeth a thai yn cyflwyno heriau tai penodol.\u00a0 Cyfraddau uchel o <a href=\"https:\/\/cf.sharepoint.com\/sites\/WCPP\/Shared%20Documents\/Inequalities\/Poverty\/Poverty%20blogs\/High%20rates%20of%20low-paid%20employment,%20unaffordable%20housing,%20and%20poor%20public%20transport%20are%20contributing%20to%20the%20erosion%20of%20rural%20communities\">swyddi cyflog isel, tai anfforddiadwy a thrafnidiaeth gyhoeddus wael<\/a> sy\u2019n ysgogi tlodi gwledig.\u00a0 Mae twristiaeth wedi darparu cyflogaeth i rai, ond mae\u2019r nifer o ail gartrefi a llety gwyliau wedi ei gwneud yn anos dod o hyd i rywle i fyw.\u00a0 Mae\u2019r farchnad rhentu hirdymor wedi crebachu, ac mae cost eiddo yn golygu na all llawer o bobl fforddio eu prynu.\u00a0 Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn gwneud cyfraniad sylweddol i\u2019r lefelau cyflogaeth yng Nghymru, yn berthynol i\u2019r DU, gan gynrychioli <a href=\"https:\/\/senedd.wales\/Research%20Documents\/16-053-Farming-sector-in-Wales\/16-053-Web-Welsh2.pdf\">\u00a0mwy na 4% o gyflogaeth yng Nghymru<\/a>. \u00a0Mae gan amaethyddiaeth gysylltiadau \u00e2 swyddi cysylltiedig eraill (er enghraifft, mewn marchnadoedd gwerthu anifeiliaid a lladd-dai), ond mae dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru yn ansicr.<\/p>\n<p>Yn eu blog gwadd i WCPP, mae Dr. Peter Gittins a Dr. Eifiona Thomas Lane yn amlinellu\u2019r pryderon \u00a0y disgwylir i galedi gynyddu i gymunedau ffermio. Mae incwm pobl yn isel ar y cyfan; <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/sites\/default\/files\/pdf-versions\/2024\/1\/3\/1706690573\/incymau-fferm-ebrill-2022-i-fawrth-2023.pdf\">mae gan dros hanner ffermydd Cymru incwm blynyddol o lai na \u00a3 25,000<\/a> a gallai newidiadau i gymorthdaliadau ffermio gael effaith arwyddocaol ar gynhyrchiant ffermydd.\u00a0 Mewn rhai achosion, mae <a href=\"https:\/\/www.ft.com\/content\/db2a28e2-c175-11e8-95b1-d36dfef1b89a\">cymorthdaliadau yn cynrychioli mwy na 90% o incwm blynyddol ffermwr<\/a>.\u00a0 Mae perygl bod yr ymdrechion i fynd i'r afael \u00e2'r argyfwng hinsawdd yn dwys\u00e1u\u2019r heriau i aelwydydd ffermio. Fel ceidwaid medrus ein tir, gall ffermwyr gyfrannu at fioamrywiaeth a chadwraeth ein hadnoddau naturiol, ond fel y mae protestiadau diweddar dros y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru wedi dangos, gall cefnogi ffermwyr yn ddigonol i gyflawni nodau bioamrywiaeth a chadwraeth fod yn heriol. \u00a0Mae ymdrechion eraill i gyrraedd sero net wedi arwain at brynu tir fferm cynhyrchiol yn gyfan gwbl ar gyfer gwrthbwyso carbon, gan ddwys\u00e1u\u2019r pwysau ar yr ecosystem cyflogaeth \u2013 a diwylliannol \u2013 yng nghefn gwlad Cymru.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.jrf.org.uk\/psychological-perspectives-on-poverty\"><u>effeithiau tlodi ar iechyd corfforol a meddyliol <\/u><\/a>yn drawiadol.\u00a0 Mae maetheg wael, tai a gwresogi annigonol a straen yn arwain at ganlyniadau iechyd gwael.\u00a0 Mae ymchwil diweddar wedi pwysleisio lefelau pryderus o <a href=\"https:\/\/bmcpublichealth.biomedcentral.com\/articles\/10.1186\/s12889-022-13790-w\"><u>broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol<\/u>\u00a0<\/a>mewn cymunedau ffermio yn y DU, yn arbennig poen, anesmwythder, gorbryder ac iselder.\u00a0 Ac mae\u2019r stigma sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi yn atal pobl rhag ceisio\u2019r cymorth sydd ei angen arnynt.\u00a0 Fel y mae Mike Woods yn ei ddisgrifio yn ei flog ar dlodi gwledig, gall cryfder y syniad o hunanddibyniaeth wledig a\u2019r ofn o sefyll allan mewn cymuned fach atal pobl rhag ceisio cymorth.\u00a0 Gall hyn yn ei dro atgyfnerthu dulliau cenedlaethol o ddarparu lles sy\u2019n canolbwyntio ar <u><a href=\"https:\/\/ruralfutures.wales\/wp-content\/uploads\/sites\/7\/2020\/06\/Rural-Poverty-Report-final.pdf\">syniadau o gyfrifoldeb personol, yn hytrach na hawl pawb i gael cymorth lles<\/a>\u00a0<\/u><\/p>\n<p>Mae achosion strwythurol tlodi yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol unigolion sy\u2019n byw mewn ardaloedd lled-drefol a gwledig, ac mewn cymunedau ffermio.\u00a0 Mae achosion a chanlyniadau strwythurol amrywiol yn galw am ystyriaethau polisi a dulliau gweithredu penodol.\u00a0 Mae angen cymorth ar ffermwyr i gydbwyso cynlluniau amaeth-amgylcheddol gyda gwirioneddau economaidd-gymdeithasol; mae angen cymorth ar gymunedau gwledig i greu cyfleoedd cyflogaeth, trafnidiaeth a thai, ac atgyfnerthu mynediad at amwynderau; ac mae angen gwella seilwaith a chydnerthedd cymunedol ar draws\u00a0 pob ardal ddaearyddol yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae tlodi\u2019n cael ei bortreadu weithiau fel rhywbeth sy\u2019n digwydd mewn ardaloedd trefol yn bennaf, ond mae pobl yn wynebu caledi ariannol ym mhob rhanbarth ac ardal ddaearyddol yng Nghymru. Mae un o bob pump (21%) o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol; \u00a0mae cyfran uwch na hyn yn gorfod byw heb yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":14839,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150,18],"tags":[146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15416","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1413266193.jpg","filesize":1064876,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1413266193-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":89598,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-1413266193-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":217532,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1413266193-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":78357,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1413266193-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":94799,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1413266193-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":341873,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-1413266193-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":575377,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1413266193-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":435852,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"10286","name":"iStock-1413266193.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193.jpg","title":"iStock-1413266193.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1413266193-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15416","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15416"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15416\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16550,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15416\/revisions\/16550"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14839"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15416"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15416"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15416"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15416"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}