{"id":15414,"date":"2024-05-31T09:45:17","date_gmt":"2024-05-31T09:45:17","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/llywio-dyfodol-ffermio-sut-y-gall-ffermwyr-droin-wyrdd-os-ydynt-yn-y-coch\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:02","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:02","slug":"llywio-dyfodol-ffermio-sut-y-gall-ffermwyr-droin-wyrdd-os-ydynt-yn-y-coch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/llywio-dyfodol-ffermio-sut-y-gall-ffermwyr-droin-wyrdd-os-ydynt-yn-y-coch\/","title":{"rendered":"Llywio dyfodol ffermio: Sut y gall ffermwyr droi\u2019n \u2018Wyrdd\u2019 os ydynt yn y \u2018Coch?\u2019"},"content":{"rendered":"<p>Yn dilyn Brexit a chyflwyno Polisi Amaethyddol Domestig y DU, mae\u2019r sector ffermio yn y DU yn wynebu ansicrwydd sylweddol.\u00a0 Mae\u2019r blog hwn yn trafod rhai o effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y newidiadau hyn yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar y broblem gynyddol o dlodi ymhlith aelwydydd ffermio.<\/p>\n<p>Mae\u2019r polisi amaethyddiaeth yn dilyn Brexit yn creu llawer o ansicrwydd economaidd i lawer o ffermwyr y DU.\u00a0 Mae pwysau cynyddol gan lywodraethau i gyflawni nodau cynaliadwyedd amgylcheddol rhyngwladol a chenedlaethol, er enghraifft cyflawni sero net, yn creu newidiadau mawr yn y diwydiant.\u00a0 Mae\u2019r newidiadau polisi hyn yn arwain at anfodlonrwydd cynyddol ymhlith rhai ffermwyr, sy\u2019n arwain at newidiadau i arferion ffermio, pryderon yngl\u0177n \u00e2 hyfywedd economaidd eu busnes, a chynnydd mewn biwrocratiaeth.\u00a0 Mae ffermwyr Cymru yn ymuno \u00e2\u2019u cyfoedion yn yr Iseldiroedd, Ffrainc a\u2019r Alban yn mynegi eu pryderon drwy brotestiadau ffermwyr.<\/p>\n<p><strong>Ffermio ar \u00f4l Brexit yng Nghymru<\/strong><\/p>\n<p>Mae diddymiad Cynllun y Taliad Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, a oedd yn cyfrannu\u2019n sylweddol at incwm ffermydd ac yn ffactor sefydlogi ar gyfer marchnadoedd ansicr cynnyrch amaethyddol, yn cyflwyno bygythiad sylweddol i sefydlogrwydd ariannol ffermwyr Cymru.\u00a0 Mae cymorthdaliadau o\u2019r fath, mewn rhai achosion, yn cynrychioli\u00a0<a href=\"https:\/\/www.ft.com\/content\/db2a28e2-c175-11e8-95b1-d36dfef1b89a\">hyd at 90% o Incwm Busnes Fferm blynyddol ffermwyr<\/a>. Mae <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/habitat-wales-scheme-outline-html\">Cynllun Cynefin<\/a> newydd Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi ffermwyr i ddefnyddio arferion cynaliadwy i reoli eu tir.\u00a0 Fodd bynnag, nifer gyfyngedig sydd wedi manteisio ar hyn oherwydd taliadau cyfyngedig fesul hectar a\u2019r effeithiau sylweddol ar reoli tir a chynhyrchiant posibl ffermydd.<\/p>\n<p>Yn debyg i\u2019r polisi ffermio yn Lloegr, cyflwynir y <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/y-cynllun-ffermio-cynaliadwy-cynigion-bras-o-2025-cwestiynau-cyffredin-html\">Cynllun Ffermio Cynaliadwy<\/a> yng Nghymru yn 2025, gan ddisodli Cynllun y Taliad Sylfaenol yr UE (BPS). Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn parhau fel y cynllun gwirfoddol sydd eisoes mewn grym, gan ddod yn brif ffynhonnell cymorth i ffermwyr gan y llywodraeth ac yn biler canolog o gefnogaeth ar gyfer ffermydd prif ffrwd yng Nghymru ac, fel y mae\u2019r enw\u2019n awgrymu, bydd yn ceisio hyrwyddo arferion ffermio \u2018cynaliadwy\u2019 drwy ddyrannu\u2019r cymhorthdal hwn.\u00a0 Fodd bynnag, mae lefel y gefnogaeth ariannol a fydd ar gael yn y dyfodol o dan y cynllun hwn yn ansicr.<\/p>\n<p>Mae pryder y gallai trawsnewid i gynlluniau newydd, gan ddisodli BPS ddwys\u00e1u tlodi gwledig a chaledi ymhlith aelwydydd sy\u2019n ffermio.\u00a0 Gallai hyn arwain at golli ffermwyr o\u2019r sector, a gallai olygu colli\u2019r sgiliau rheoli tir sydd eu hangen i wynebu\u2019r heriau o\u2019n blaenau.<\/p>\n<p><strong>Ffermio a sero net yng Nghymru<\/strong><\/p>\n<p>Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn helpu Llywodraeth y DU i gyflawni ei chynlluniau amgylcheddol ehangach o gyflawni sero net erbyn 2050.\u00a0 Yn wir, <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cymru-sero-net\">mae gwahanol agweddau at gyflawni sero net yn cael eu cynnig<\/a>. Fodd bynnag, mae pryderon dilys (yn ein barn ni) yngl\u0177n \u00e2\u2019r cynlluniau sero net a\u2019r effeithiau ar y diwydiant ffermio.\u00a0 Mae rhai o\u2019r pryderon hyn wedi ffurfio\u2019r sail i <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/uk-news\/2024\/feb\/28\/why-are-farmers-protesting-against-welsh-governments-rural-policies-explainer#:~:text=What%20are%20the%20farmers%20protesting,land%20is%20under%20tree%20cover.\">brotestiadau gan ffermwyr Cymru<\/a>. Yn wir, mae nifer gynyddol o ffermydd yng Nghymru yn cael eu prynu gan gwmn\u00efau sy\u2019n ceisio gwrthbwyso eu hallyriadau carbon drwy blannu coed. \u00a0Mae mentrau o\u2019r fath wedi ysgogi undebau ffermio yng Nghymru i ymateb drwy wneud <a href=\"https:\/\/www.nfu-cymru.org.uk\/media\/fzznuwdb\/net-zero_12pp_cymru_welsh.pdf\">galwad i weithredu ar fasnachu carbon <\/a>\u00a0i sicrhau bod ffermwyr Cymru \u2013 a\u2019r sgiliau sydd ganddynt i'w cynnig \u2013 yn <a href=\"https:\/\/www.fuw.org.uk\/images\/CarbonTrading-Cymraeg.pdf\">rhan o\u2019r ateb<\/a>. Yn wir, mae\u2019r gwaith i wrthbwyso carbon ar dir ffrwythlon, fel y gwelir ym Mhowys, Canolbarth Cymru, sy\u2019n aml yn cael ei ysgogi gan fuddiannau corfforaethol mawr, nid yn unig yn effeithio ar bris a dyfodol cynhyrchu bwyd ar dir yng Nghymru, ond gallai hefyd <a href=\"https:\/\/www.fwi.co.uk\/news\/environment\/carbon\/carbon-offsetting-pricing-welsh-farmers-out-of-land-market\">effeithio ar fioamrywiaeth pridd, cyrsiau d\u0175r, a bioamrywiaeth tirweddau<\/a>. Yr hyn sy\u2019n gyfrifol am hyn yw\u2019r tueddiadau arwyddocaol o blannu coetiroedd sy\u2019n llawn rhywogaethau conwydd, sy\u2019n llai gwerthfawr ar gyfer amrywiaeth bywyd gwyllt.\u00a0 Gall cyfaddawdu economaidd a chymdeithasol ddigwydd pan fydd gormod o bwysau ar leihau a gwrthbwyso carbon.<\/p>\n<p>Mae yna risg bosibl i gynhyrchiant bwyd hefyd os bydd ardaloedd mawr o dir yn cael eu defnyddio at ddibenion dad-ddofi.\u00a0 Yn ogystal, mae ansicrwydd sylweddol ar lefel ffermydd yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn mae\u2019r llywodraeth yn ei ddisgwyl gan ffermwyr yngl\u0177n \u00e2 sero net.\u00a0 Oherwydd bod y strategaeth sero net yn cael ei mesur ar sail allyriadau tiriogaethol, mae pryderon yn codi y gallai cynhyrchiant bwyd gael ei allanoli i wledydd eraill.\u00a0 Gallai hyn olygu bod bwyd yn cael ei brynu am bris rhatach gan ffermwyr lleol, a gallai hefyd danseilio safonau\u00a0lles anifeiliaid a diogelu\u2019r amgylchedd.\u00a0 Am nad yw allyriadau o allforion yn cael eu mesur o dan y raddfa bresennol, gallai hyn arwain at \u2018allanoli\u2019 allyriadau i bob pwrpas, yn hytrach na\u2019u lleihau ar lefel fyd-eang.<\/p>\n<p><strong>Ffactorau Economaidd<\/strong><\/p>\n<p>Mae amaethyddiaeth yn hollbwysig i economi, cymdeithas ac amgylchedd Cymru, gan <a href=\"https:\/\/ymchwil.senedd.cymru\/erthyglau-ymchwil\/ffeithiau-a-ffigurau-am-ffermio-yng-nghymru\/\">gyflogi tua 58,300 o bobl<\/a>. Gyda 84% o dir Cymru\u2019n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, a hynny mewn \u2018Ardaloedd Llai Ffafriol\u2019 yn bennaf, sy\u2019n addas ar gyfer ffermio da byw mynydd ac ucheldir, mae\u2019r <a href=\"https:\/\/ymchwil.senedd.cymru\/media\/ub5bkfk1\/22-43-cymorth-amaethyddol.pdf\">sector yn agored iawn i niwed yn sgil cael gwared ar y cymorthdaliadau<\/a>. Mae costau mewnbwn cynyddol, sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r argyfwng costau byw, y gostyngiad mewn cymorthdaliadau i ffermydd a phrisiau anwadal y farchnad yn golygu bod rhedeg busnes fferm yn fenter heriol.<\/p>\n<p>Yn wir, mewn ymateb i heriau cynyddol o ran proffidioldeb yn y sector, mae llawer o ffermwyr yn ymrwymo mwy o amser i gynyddu eu hincwm drwy weithrediadau presennol a mentrau arallgyfeirio newydd ar eu ffermydd.\u00a0 Mae cyfleoedd arallgyfeirio i werthu\u2019n uniongyrchol, amaeth-dwristiaeth ac ynni adnewyddadwy yn cyflwyno llwybrau proffidiol posibl i lawer o ffermwyr.\u00a0 Fodd bynnag, mae\u2019r gallu i gael mynediad at gyngor a chefnogaeth ar gyfer mentrau entrepreneuraidd o\u2019r fath yn aml yn cyfyngu ar gyfleoedd llawer o ffermwyr.<\/p>\n<p><strong>Ffermio yng Nghymru: Cyfraniadau Cymdeithasol ac Amgylcheddol<\/strong><\/p>\n<p>Mae ffermio yng Nghymru yn hanfodol o safbwynt cymdeithasol a diwylliannol, gyda llawer o deuluoedd wedi ffermio\u2019r un tir ers cenedlaethau.\u00a0 Mae ffermio yng Nghymru yn cynhyrchu nwyddau cyhoeddus allweddol ac yn cefnogi ecosystemau diwylliannol, gan gynnwys y gwaith o gynnal a chadw tirweddau diwylliannol byw o ddydd i ddydd yng Nghymru.\u00a0 Gwelir hyn yn amlwg yn y tir sy\u2019n cael ei ffermio ym Mharciau Cenedlaethol Cymru ac mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.<\/p>\n<p>Mae arferion ffermio traddodiadol, er enghraifft defnyddio c\u0175n gweithio, mynediad a rennir a bugeilio\u2019r \u2018<em>cynefin mynydd\u2019<\/em>, a\u2019r arbenigedd o gynnal a chadw a defnyddio hen beiriannau, nid yn unig yn arferion ymarferol, maent hefyd yn ychwanegu cyfoeth diwylliannol i gefn gwlad Cymru.\u00a0 Mae\u2019r arferion treftadaeth hyn, o ffermwyr sy\u2019n dewis gweithio gyda ch\u0175n yn hytrach na pheiriannau i gynaeafu gwair yn y ffordd draddodiadol ac arddangos eu crefftau mewn sioeau a ffeiriau pentref lleol, yn rhan annatod o\u2019r ardaloedd o gefn gwlad delfrydol a werthfawrogir gan y cyhoedd.\u00a0 Dylai cynlluniau newydd ddiogelu rhag colli\u2019r traddodiadau a\u2019r gweithgareddau gwerthfawr a\u2019u harwyddoc\u00e2d diwylliannol.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae ansefydlogrwydd ariannol yn cyflwyno risg o ddwys\u00e1u tlodi ymhlith teuluoedd sy\u2019n ffermio, gan orfodi ffermwyr i adael y sector ac, wrth wneud hynny, erydu gwead cymdeithasol Cymru wledig.<\/p>\n<p>Yn wir, mae llawer o ffermydd yn cyfrannu at fioamrywiaeth ac amrywiaeth cyfoethog cefn gwlad Cymru, trwy warchod nodweddion tirwedd fel <a href=\"https:\/\/www.sciencedirect.com\/science\/article\/pii\/S0743016723002450\">waliau sychion<\/a>, ffermdai ac adeiladau fferm traddodiadol, a diogelu da byw brodorol fel defaid Mynydd Cymreig Torddu a Thorwen a defaid Mynydd Cymreig Banwen.\u00a0 Mae\u2019r bridiau hyn yn ffynnu ar lystyfiant naturiol sy\u2019n cael ei reoli\u2019n dda.<\/p>\n<p>Er bod systemau bwyd rhyngwladol yn cynrychioli tua <u><a href=\"https:\/\/openknowledge.fao.org\/server\/api\/core\/bitstreams\/121cc613-3d0f-431c-b083-cc2031dd8826\/content\">31% o allyriadau nwyon t\u0177 gwydr wedi\u2019u creu<\/a> gan pobl<\/u>, mae ffermio mynydd ac ucheldir yng Nghymru yn cynnig buddiannau amgylcheddol niferus.\u00a0 Mae\u2019r arferion hyn yn aml yn creu llai o allyriadau ac yn cynnwys da byw sy\u2019n porthi ar laswellt ar systemau amaethyddol helaeth yn bennaf (yn hytrach na systemau dwys dan do). Gellir dadlau bod llawer o ffermydd Cymru\u2019n alinio\u2019n dda ag agweddau ffermio o blaid yr amgylchedd. Felly, mae colli ffermwyr yn golygu colli eu cyfraniadau amgylcheddol.<\/p>\n<p>Yn ogystal, gallai rheoliadau amgylcheddol newydd osod beichiau ariannol sylweddol ar ffermwyr. Er y gall rhai gweithredoedd, fel rhai arferion amaethyddol ailwladychu gynnig manteision economaidd ac amgylcheddol, mae gweithredoedd eraill yn cynnwys cyfaddawdau economaidd a chymdeithasol.\u00a0 Dylai llunwyr polisi gwledig ddadansoddi\u2019r canlyniadau anfwriadol posibl a darparu iawndal priodol i ffermwyr am golledion economaidd.<\/p>\n<p>Ar ben hynny, mae'n debygol y bydd angen cymorth ac arweiniad wedi'i dargedu ar ffermwyr wrth drosglwyddo i gynlluniau newydd, yn enwedig os ydynt wedi bod yn ymwneud \u00e2 gweithgareddau cynhyrchu bwyd yn hanesyddol. I lawer, cynhyrchydd bwyd yw unig hunaniaeth y ffermwr. Eto i gyd, mae'r cynnydd mewn gwyrddu polisi amaethyddol yn herio'r hunaniaeth hon. Er mwyn cyflawni'r mentrau cynaliadwyedd amgylcheddol hyn mae angen buddsoddiad. Nid yn unig sicrhau cefnogaeth ffermwyr ond hefyd yn ariannol. Heb fusnes fferm proffidiol, mae ffermwyr yn annhebygol o wneud y newid gwyrdd. Ni all ffermwyr droi\u2019n wyrdd os ydynt yn y coch.<\/p>\n<p>Isod gwelwn rai o\u2019r ffyrdd y gellir cefnogi ffermwyr Cymru drwy\u2019r trawsnewidiad polisi gwyrdd hwn.<\/p>\n<p><strong>Ffyrdd Allweddol o Gefnogi Ffermwyr Cymru: Agwedd Gyfannol<\/strong><\/p>\n<ol>\n<li><strong>Cynaliadwyedd Cytbwys yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy<\/strong>: Mae'n hanfodol bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy nid yn unig yn canolbwyntio ar nodau amgylcheddol ond hefyd yn sicrhau hyfywedd economaidd a gwead cymdeithasol cymunedau ffermio. Rhaid i iawndal ariannol dalu\u2019n ddigonol am golled BPS ar \u00f4l Brexit, gan atal methiant busnes wrth i ffermwyr drosglwyddo. Ni ddylai ymdrechion amgylcheddol danseilio dynameg gymdeithasol y diwydiant.\u00a0 Er enghraifft, gallai plannu coed yn ormodol, er ei fod yn fuddiol i'r amgylchedd, beryglu diogelwch bwyd a lleihau'r gweithlu mewn rhai ardaloedd.<\/li>\n<li><strong>Iechyd Meddwl a Chymorth Cymunedol: <\/strong>Gyda\u2019r cyfraddau uchel o faterion iechyd meddwl mewn cymunedau ffermio, mae darparu cymorth yn hollbwysig, yn arbennig wrth i\u2019r pwysau economaidd sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 thlodi ymhlith ffermwyr ddwysau. Mae nifer o <a href=\"https:\/\/farmwell.cymru\/derbyn-cymorth\/\">elusennau amaethyddol yng Nghymru<\/a>, rhai wedi\u2019u cefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r her gynyddol gyffredin hon.<\/li>\n<li><strong>Annog Arferion Ffermio Amrywiol<\/strong>: Dylai cynlluniau newydd wobrwyo gweithgareddau ag arwyddoc\u00e2d cymdeithasol a diwylliannol, a chefnogi ffermwyr traddodiadol sy\u2019n awyddus i ddiogelu eu hunaniaeth a\u2019u harferion. Mae arferion fel defnyddio c\u0175n gwaith, a chynnal a chadw hen beiriannau, er nad ydynt y dulliau mwyaf effeithlon neu amgylcheddol gadarnhaol, yn cyfoethogi tirwedd ddiwylliannol amaethyddiaeth Cymru a dylid eu diogelu a\u2019u hannog.\u00a0 Gellid rhoi taliadau i rai ffermwyr i ddiogelu\u2019r gweithgareddau hyn sy\u2019n bwysig yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol.<\/li>\n<li><strong>Sefydlu Economi Wledig Ffafriol<\/strong>: Mae economi leol a rhanbarthol gadarn yn hanfodol i lwyddiant ffermio. Mae darparu cymorth i fusnesau gwledig ategol \u2014 fel lladd-dai, arbenigwyr peiriannau, a chrefftwyr traddodiadol\u2014yn hanfodol. \u00a0Mae'r endidau hyn nid yn unig yn cefnogi'r ecosystem amaethyddol maent hefyd yn cyfrannu at y gymuned a pharhad diwylliannol. \u00a0At hynny, dylid cryfhau gwasanaethau cynghori a rhwydweithiau gwledig i roi gwybodaeth leol i ffermwyr, gan eu galluogi i lywio\u2019r newidiadau ar \u00f4l Brexit yn effeithiol.<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>Safbwyntiau i gloi<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r cyfnod yn dilyn Brexit yn cyflwyno heriau a chyfleoedd unigryw i ffermio yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r ansicrwydd economaidd, diogelu arferion cymdeithasol a diwylliannol a gwella cyfraniadau amgylcheddol yn hollbwysig.\u00a0 Dylai ffermwyr chwarae r\u00f4l hanfodol wrth geisio cyflawni sero net; ni ddylai olygu Ffermwyr sero net.\u00a0 Mae polis\u00efau wedi\u2019u targedu sy\u2019n canolbwyntio ar liniaru tlodi ymhlith aelwydydd sy\u2019n ffermio, sydd hefyd yn annog arferion cynaliadwy yn hollbwysig ar gyfer cynnal cydnerthedd a ffyniant cymunedau ffermio yng Nghymru, a chymunedau yng Nghymru yn fwy cyffredinol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn dilyn Brexit a chyflwyno Polisi Amaethyddol Domestig y DU, mae\u2019r sector ffermio yn y DU yn wynebu ansicrwydd sylweddol.\u00a0 Mae\u2019r blog hwn yn trafod rhai o effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y newidiadau hyn yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar y broblem gynyddol o dlodi ymhlith aelwydydd ffermio. Mae\u2019r polisi amaethyddiaeth yn dilyn Brexit [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18,12],"tags":[140,144],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15414","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","category-yr-amgylchedd-a-sero-net","tag-economi","tag-sero-net"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Gower-farming.jpg","filesize":1053204,"sizes":{"medium":{"file":"Gower-farming-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":81672,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-744x496.jpg"},"large":{"file":"Gower-farming-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":217870,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"Gower-farming-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":70126,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"Gower-farming-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":87123,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"Gower-farming-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":352357,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"Gower-farming-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":599309,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"Gower-farming-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":448956,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15413","name":"Gower-farming.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming.jpg","title":"Gower-farming.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Gower-farming-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15414","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15414"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15414\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16549,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15414\/revisions\/16549"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15414"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15414"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15414"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15414"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}