{"id":15411,"date":"2024-05-30T16:09:20","date_gmt":"2024-05-30T16:09:20","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/ymchwil-newydd-yn-nodi-heriau-ychwanegol-a-wynebir-gan-gymunedau-ar-yr-ymylon\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:02","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:02","slug":"ymchwil-newydd-yn-nodi-heriau-ychwanegol-a-wynebir-gan-gymunedau-ar-yr-ymylon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/ymchwil-newydd-yn-nodi-heriau-ychwanegol-a-wynebir-gan-gymunedau-ar-yr-ymylon\/","title":{"rendered":"Ymchwil newydd yn nodi heriau ychwanegol a wynebir gan gymunedau ar yr ymylon."},"content":{"rendered":"<p><em>Yn dilyn cyhoeddi Indecs Asedau Cymunedol Cymru ac Indecs Cydnerthedd Cymunedol Cymru, mae Eleri Williams, Swyddog Polisi\u2019r <\/em><a href=\"https:\/\/www.bct.wales\/?locale=cy\"><em>Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau<\/em><\/a><em> (BCT), yn archwilio beth mae\u2019r mynegeion cysylltiedig ond gwahanol hyn yn ei ddweud wrthym am yr heriau a wynebir gan gymunedau \u2018Llai Cydnerth\u2019 yng Nghymru a lle maent wedi\u2019u lleoli. <\/em><\/p>\n<p>Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (yr Ymddiriedolaeth) waith ymchwil arloesol yn ddiweddar a oedd yn dangos bod anghydraddoldeb parhaus, yn seiliedig ar le yn bodoli ledled Cymru.\u00a0 Mae\u2019r ymchwil yn cynnwys dau indecs cysylltiedig ond gwahanol - <strong>Indecs Asedau Cymunedau Cymru <\/strong>(WCAI) ac <strong>Indecs Cydnerthedd Cymunedol Cymru <\/strong>(WCRI).<\/p>\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/static1.squarespace.com\/static\/62554a379dc7e96b0ee4c256\/t\/6544db641443ea6714f6e1fb\/1699011431493\/Cymunedau+cydnerth+-+wynebu%27r+her+o+fod+ar+yr+ymylon+-+CYMRAEG+v.2.pdf\">Indecs Asedau<\/a> yn pennu safle i\u2019r holl ardaloedd bach yng Nghymru ar draws parthau cysylltedd, asedau dinesig a chymunedau sy\u2019n ymgysylltu, i ddangos lefelau cyfunol o seilwaith cymunedol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddau indecs yn mesur, yn rhoi sg\u00f4r a safle i bob ardal yng Nghymru, gan ddarparu darlun cadarn o ddarpariaeth seilwaith cymunedol a chydnerthedd cymunedol cyffredinol y wlad.\u00a0 Drwy wneud hyn, mae lleoliadau \u00e2 lefelau uchel o angen ar yr indecs asedau ac ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) 2019 wedi\u2019u nodi am y tro cyntaf erioed.\u00a0 Mae\u2019r ardaloedd sydd wedi\u2019u gosod yn 25% uchaf yr indecs cydnerthedd (safle 1-102) yn cael eu categoreiddio fel ardaloedd llai cydnerth.\u00a0 Yn ei hanfod: mae\u2019r rhain yn ardaloedd \u00e2 llai o asedau cymunedol a dinesig, profir ynysigrwydd cymharol a lefelau isel o gyfranogiad, ochr yn ochr ag amddifadedd sylweddol.<\/p>\n<p>Daearyddiaeth ardaloedd Llai Cydnerth<br \/>\nElfen drawiadol o\u2019r gwaith hwn yw bod llawer o ardaloedd llai cydnerth naill ai ar gyrion canolfannau trefol mawr - yr hyn a elwir gan ddaearyddwyr yn ardaloedd lled-drefol (sydd y tu hwnt i\u2019r maestrefi) - neu ar ystadau tai a adeiladwyd ar \u00f4l yr 2il Ryfel Byd a'r hen gymunedau glofaol.\u00a0 Er bod llawer o ardaloedd llai cydnerth mewn ardaloedd lled-drefol, mae rhai mewn ardaloedd arfordirol a gwledig, gan gynnwys Aberteifi a Blaenau Ffestiniog.<\/p>\n<p>Mae\u2019r data yn awgrymu, yn gymharol, bod llawer o ardaloedd gwledig wedi llwyddo i gynnal eu hasedau dinesig, er enghraifft canolfannau cymunedol, tafarndai a siopau er eu bod yn aml yn wynebu amddifadedd economaidd a chysylltedd gwael.\u00a0 Mae\u2019r indecs yn awgrymu bod llawer o ardaloedd trefol ledled Cymru yn profi lefelau uchel o gymunedau gweithredol ac ymgysylltiedig.\u00a0 I lawer o ardaloedd lled-drefol, sydd wedi\u2019u lleoli ar gyrion canolfannau trefol mawr Cymru, mae\u2019r gwrthwyneb yn wir \u2013 mae lefelau is o asedau ac ymgysylltiad dinesig.<\/p>\n<p>Er gwaethaf yr heriau gyda chysylltedd, (sy\u2019n cynnwys dangosyddion ar gyfer cysylltedd ffisegol, digidol a chymdeithasol) nid yw bron i draean o aelwydydd mewn ardaloedd llai cydnerth yn berchen ar gar, sy\u2019n golygu bod trigolion yn fwy tebygol o brofi problemau yn mynd yn \u00f4l ac ymlaen i\u2019w gwaith a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol.\u00a0 Nid yw rhai canfyddiadau\u2019n peri syndod: mae lleoliad cymharol llawer o ardaloedd llai cydnerth ar gyrion ardaloedd trefol bron yn sicr wedi arwain at allfudiad o bobl iau, fwy medrus; ond nid yw\u2019r canfyddiadau (a drafodir isod) sy\u2019n gysylltiedig ag iechyd, gweithredu cymunedol a mynediad at gyllid yr un mor amlwg.<\/p>\n<p>Tai mewn ardaloedd llai cydnerth<\/p>\n<p>Mae cyfran uwch o bobl mewn ardaloedd llai cydnerth yn byw mewn tai a adeiladwyd ar \u00f4l y rhyfel, gyda mwy na 30% o anheddau wedi\u2019u hadeiladu rhwng 1945 a 1972.\u00a0 Mae llai o dai wedi\u2019u hadeiladu yn ystod y mileniwm hwn mewn ardaloedd llai cydnerth.\u00a0 Gallai hyn adlewyrchu cred datblygwyr a chynllunwyr (a\u2019r sefyllfa wirioneddol o bosibl) bod llai o bobl eisiau byw mewn ardaloedd llai cydnerth, ac wrth gwrs argaeledd cyfyngedig tir mewn rhai ardaloedd.<\/p>\n<p>Yr economi a chyflogaeth mewn ardaloedd llai cydnerth<\/p>\n<p>Mae incwm blynyddol cyfartalog aelwydydd mewn ardaloedd llai cydnerth fwy na \u00a33,800 yn is na chyfartaledd cenedlaethol Cymru (ar \u00f4l ystyried costau tai).\u00a0 Mae pobl mewn ardaloedd llai cydnerth yn fwy tebygol o fyw mewn aelwydydd heb waith o gymharu \u00e2 rhannau eraill o Gymru; nid yw llawer o bobl sy\u2019n ddi-waith yn derbyn budd-daliadau ac nid yw llawer o bobl yn gweithio oherwydd materion iechyd neu rolau gofalu.<\/p>\n<p>Iechyd mewn ardaloedd llai cydnerth<\/p>\n<p>Gall preswylwyr ardaloedd llai cydnerth ddisgwyl byw bywydau llai iach, a byrrach o gymharu \u00e2\u2019r cyfartaledd ledled Cymru, gyda disgwyliad oes o 76 oed a disgwyliad oes iach o 64 oed, o gymharu \u00e2 78 a 68 yn y drefn honno ledled Cymru.\u00a0 Mae gan fwy nac un o bob pedwar o bobl mewn ardaloedd llai cydnerth salwch tymor hir, ac mae materion iechyd meddwl yn arbennig o gyffredin.<\/p>\n<p>Canfyddiadau craidd<br \/>\nMae cymunedau sydd \u00e2 llai o leoedd i gyfarfod, cymuned llai ymgysylltiol a gweithgar a chysylltedd gwaeth \u00e2\u2019r economi ehangach, yn tueddu i brofi canlyniadau cymdeithasol ac economaidd sylweddol wahanol o gymharu \u00e2 chymunedau sydd \u00e2 mwy o\u2019r asedau hyn. \u00a0Nid yw\u2019n bosibl pennu o\u2019r data sydd ar gael a yw amddifadedd yn cyfrannu at asedau cymunedol is, neu i\u2019r gwrthwyneb, ond mae\u2019r data\u2019n awgrymu bod cydberthynas.<\/p>\n<p>O gymharu \u00e2 chyfartaledd Cymru ac i bobl sy\u2019n byw mewn cymunedau ag asedau cymunedol, mae preswylwyr mewn ardaloedd llai \u00a0cydnerth yn llawer mwy tebygol o fod yn ddi-waith, maent yn llai tebygol o feddu ar gymwysterau ac maent yn fwy tebygol o brofi salwch cyfyngus hirdymor.\u00a0 Mae ganddynt lefelau is o weithgarwch cymunedol hefyd ac maent yn derbyn lefelau is o gyllid gan y wladwriaeth a chyllidwyr elusennol er gwaethaf eu heriau cymdeithasol.\u00a0 Yn benodol, ceir bylchau amlwg mewn ardaloedd llai cydnerth yn nhermau\u2019r lefelau o gyllid a dderbynnir.\u00a0 Mae hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig \u00e2 diffyg gweithgarwch y trydydd sector yn yr ardaloedd hyn; gyda llawer llai o sefydliadau\u2019r trydydd sector (325 fesul 100,000 o\u2019r boblogaeth) ac ymddiriedolwyr elusennau (838 fesul 100,000) o gymharu \u00e2\u2019r cyfartaledd cenedlaethol (459 a 1,366 yn y drefn honno).\u00a0 O ganlyniad i gyllid cyfyngedig ac ansicr, mae\u2019n anodd i sefydliadau cymunedol a\u2019r trydydd sector lenwi\u2019r bylchau seilwaith mewn ardaloedd llai cydnerth.<\/p>\n<p>Beth nesaf ar gyfer yr Indecs Asedau a\u2019r Indecs Cydnerthedd?<\/p>\n<p>Mae BCT yn gobeithio y bydd <a href=\"https:\/\/www.bct.wales\/wcai\">y gwaith hwn<\/a> yn annog safbwynt newydd ar ystyried lle a thlodi yng Nghymru, gan gydnabod bod y gallu i gael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd \u00a0yn hollbwysig i ragolygon bywyd pobl.\u00a0 Mae\u2019r ddau indecs yn gwasanaethu fel ffordd o ddeall cydnerthedd a llesiant cymunedol mewn ffordd fwy cyfannol.\u00a0 Mae angen edrych y tu hwnt i\u2019r mesurau presennol o amddifadedd ac ymgorffori mesurau o seilwaith ac ymgysylltiad cymunedol a all ddwys\u00e1u heriau amddifadedd neu eu lliniaru.\u00a0 Ni ellir anwybyddu\u2019r pwynt hollbwysig hwn wrth gynllunio polis\u00efau yn y dyfodol, sydd wir yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi ac anfantais ledled y wlad.\u00a0 Wrth i galedi barhau i wasgu, rydym yn gobeithio y bydd llunwyr polisi a chyllidwyr yn defnyddio\u2019r gwaith ymchwil hwn \u2013 yn ogystal \u00e2 phobl sy\u2019n gweithio mewn cymunedau \u2013 i wneud penderfyniadau cadarn ar sail tystiolaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn dilyn cyhoeddi Indecs Asedau Cymunedol Cymru ac Indecs Cydnerthedd Cymunedol Cymru, mae Eleri Williams, Swyddog Polisi\u2019r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT), yn archwilio beth mae\u2019r mynegeion cysylltiedig ond gwahanol hyn yn ei ddweud wrthym am yr heriau a wynebir gan gymunedau \u2018Llai Cydnerth\u2019 yng Nghymru a lle maent wedi\u2019u lleoli. Cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18874,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[137,146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15411","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-cydweithio-ar-gymuned","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1466668022.jpg","filesize":1261613,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1466668022-744x558.jpg","width":744,"height":558,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":127569,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-744x558.jpg"},"large":{"file":"iStock-1466668022-1200x900.jpg","width":1200,"height":900,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":320137,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-1200x900.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1466668022-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":101976,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1466668022-768x576.jpg","width":768,"height":576,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":135253,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-768x576.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1466668022-1536x1152.jpg","width":1536,"height":1152,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":492855,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-1536x1152.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1466668022-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":566418,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15410","name":"iStock-1466668022.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022.jpg","title":"iStock-1466668022.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1466668022-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15411","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15411"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15411\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16548,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15411\/revisions\/16548"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18874"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15411"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15411"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15411"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15411"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}