{"id":15408,"date":"2024-05-28T11:36:44","date_gmt":"2024-05-28T11:36:44","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/adnabod-a-mynd-ir-afael-a-thlodi-gwledig-yng-nghymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:02","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:02","slug":"adnabod-a-mynd-ir-afael-a-thlodi-gwledig-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/adnabod-a-mynd-ir-afael-a-thlodi-gwledig-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Adnabod a mynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi gwledig yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Wrth feddwl am dlodi yng Nghymru, nid ucheldiroedd Eryri, pentrefi arfordirol yn Sir Benfro, neu dir ffermio bryniog Powys sy\u2019n dod i\u2019r meddwl gyntaf.\u00a0 Er hynny, mae tystiolaeth gynyddol sy\u2019n dangos bod tlodi yn broblem barhaus a chynyddol i lawer o bobl sy\u2019n byw yng Nghymru wledig.<\/p>\n<p>Mae ymchwilwyr wedi datgan fod Cymru wledig yn dioddef o \u2018<a href=\"https:\/\/ruralfutures.wales\/wp-content\/uploads\/sites\/7\/2020\/06\/Rural-Poverty-Report-final.pdf\">dlodi cudd<\/a>\u2019 nad yw mor amlwg \u00e2\u2019r amddifadedd dwys a welir mewn ardaloedd mwy trefol.\u00a0 Defnyddiwyd yr unedau i goladu ystadegau, er enghraifft wardiau ac ardaloedd allbwn y cyfrifiad, ac maent yn cwmpasu ardaloedd mwy, mwy cymysg mewn ardaloedd gwledig, lle mae aelwydydd \u00e2 lefelau incwm gwahanol yn gymysg.\u00a0 Mae ystrydebau diwylliannol o gredu bod ardaloedd gwledig yn fwy cefnog yn gyffredinol hefyd yn cuddio presenoldeb tlodi, neu\u2019n esbonio caledi fel dewis ffordd o fyw, gyda mannau gwyrdd a llonyddwch yn gwneud iawn am hynny.\u00a0 Mae\u2019n bosibl bod preswylwyr gwledig eu hunain yn amharod i ofyn am gymorth, neu eu bod hyd yn oed yn amharod i ystyried eu bod yn profi tlodi, oherwydd cryfder y syniad o hunan-ddibyniaeth wledig a\u2019r ofn o sefyll allan mewn cymuned fach.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/id\/eprint\/124562\/1\/An-introduction-to-Rural-Poverty.pdf\">Gall tlodi gyflwyno mewn gwahanol ffurfiau mewn ardaloedd gwledig o gymharu \u00e2 thlodi mewn ardaloedd trefol<\/a>. Nid yw diweithdra\u00a0 yn fesur da o dlodi gwledig, yn rhannol oherwydd mae pobl heb waith yn aml yn gadael cymunedau gwledig i ddod o hyd i swyddi ac yn rhannol oherwydd bod cyflogau isel a chyflogaeth ansicr yn golygu bod tlodi mewn gwaith yn fwy cyffredin.\u00a0 Ni ellir mesur tlodi trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig ar sail bod yn berchen ar gar, oherwydd mae dirywiad gwasanaethau bysys wedi golygu bod rhedeg car yn anghenraid i lawer o aelwydydd, hyd yn oed os na allant fforddio gwneud hynny bron.\u00a0 Mae gan ddibyniaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus gost amser: yn 2019, <a href=\"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2021\/10\/Adroddiad-Dystiolaeth-Cymraeg.pdf\">yr amser teithio i siop fwyd ar gyfartaledd i breswylwyr pentrefi a chefn gwlad agored oedd 9 munud mewn car, ond 1 awr a 29 munud gyda thrafnidiaeth gyhoeddus<\/a>. I ysgol gynradd roedd yn 8 munud mewn car, ond 1 awr a 21 munud ar fws.<\/p>\n<p>Mae gallu fforddio tai yn her mewn ardaloedd trefol a gwledig, ond mae <a href=\"https:\/\/cwps.aber.ac.uk\/wp-content\/uploads\/sites\/13\/2021\/10\/Adroddiad-Dystiolaeth-Cymraeg.pdf\">prisiau tai nodweddiadol yn ddrutach o gymharu ag enillion lleol canolrifol yn y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig yng Nghymru o gymharu \u00e2 Chymru gyfan<\/a>. Hyd yn oed yn Sir Gaerfyrddin, lle mae\u2019r bwlch ar ei leiaf, mae prisiau nodweddiadol y tai rhataf yn parhau i fod fwy na phum gwaith enillion blynyddol y gweithwyr ar yr incwm isaf, sy\u2019n golygu na all pobl fod yn berchen ar eiddo.\u00a0 Er hynny, mae\u2019r sector rhentu preifat yn gyfyngedig mewn cymunedau gwledig ac yn lleihau wrth i eiddo gael eu trawsnewid yn llety gwyliau proffidiol.\u00a0 Er enghraifft, <a href=\"https:\/\/www.airdna.co\/vacation-rental-data\/app\/gb\/wales\/gwynedd\/overview\">cynyddodd y nifer o lety gwyliau eiddo cyfan yng Ngwynedd sydd wedi\u2019u rhestr ar AirBnB 915% rhwng 2017 a 2019<\/a>. Mae eiddo rhent sy\u2019n parhau i fod ar gael yn dueddol o fod yn ddrutach nac eiddo mewn llawer o ardaloedd trefol ac yn aml mae o safon is.<\/p>\n<p>Mae gan broblemau <a href=\"https:\/\/www.walesruralobservatory.org.uk\/sites\/default\/files\/Rural%20Homelessness%20Report.pdf\">digartrefedd<\/a> hefyd gymeriad gwahanol mewn ardaloedd gwledig, gyda llai o <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cyfrif-cenedlaethol-o-gysgu-allan\">gysgu allan<\/a> a mwy o unigolion a theuluoedd yn aros gyda pherthnasau a ffrindiau, mewn llety dros dro neu annigonol, neu mewn trefi a phentrefi sydd yn bell o\u2019u man preswylio o ddewis.<\/p>\n<p>Dyluniwyd <u><a href=\"https:\/\/wimd.gov.wales\/?lang=cy\">Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru<\/a><\/u> i gydnabod bod gwahanol fathau o dlodi yn cael eu cynrychioli mewn ardaloedd daearyddol gwahanol.\u00a0 Mae\u2019r parthau \u2018Tai\u2019 a \u2018Mynediad at Wasanaethau\u2019 yn dangos amddifadedd uwch mewn ardaloedd gwledig, ond o gyfuno\u2019r ffigurau mewn dangosydd cyfansawdd, mae wardiau gwledig yn dueddol o gynrychioli canol y dosbarthiad.\u00a0 Mae llai na 2% o wardiau sy\u2019n cwmpasu pentrefi, trefi bychain a chefn gwlad mewn siroedd gwledig yn y degradd mwyaf difreintiedig (10%) o\u2019r wardiau ar y mynegai, o gymharu \u00e2 15% o wardiau mewn trefi a dinasoedd.<\/p>\n<p>Mae hyn yn methu\u2019r \u2018<a href=\"https:\/\/orca.cardiff.ac.uk\/id\/eprint\/124562\/1\/An-introduction-to-Rural-Poverty.pdf\">premiwm tlodi gwledig\u2019<\/a>, lle mae effaith gyd-gysylltiedig cyflogaeth, tai a thrafnidiaeth yn dwysau ei gilydd, yn ogystal \u00e2 phoblogaeth isel, yn golygu bod costau byw sylfaenol yn uwch i breswylwyr gwledig ar incwm isel o gymharu \u00e2 phreswylwyr trefol mwy cefnog.\u00a0 Adroddodd <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/views\/the-rural-cost-of-living-crisis\/\">Sefydliad Bevan<\/a> yn 2022 bod aelwydydd gwledig yn wynebu <em>gwasgfa driphlyg o gostau isel, incwm isel a chefnogaeth gyfyngedig i aelwydydd dan bwysau<\/em>.\u00a0 Cyfrifodd fod aelwydydd gwledig yng Nghymru yn gwario \u00a327 yr wythnos ar gyfartaledd ar drafnidiaeth a \u00a34 yr wythnos yn fwy ar fwyd o gymharu ag aelwydydd trefol.\u00a0 Canfu arolwg a gynhaliwyd ddegawd yn \u00f4l, yn 2013, gan <a href=\"https:\/\/www.walesruralobservatory.org.uk\/sites\/default\/files\/Rural%20Household%20Survey%202013.pdf\">Arsyllfa Wledig Cymru<\/a> bod un o bob ugain ymatebwr wedi dweud y byddai\u2019n amhosibl canfod \u00a3100 i dalu am gost annisgwyl, a dywedodd 18% eu bod yn cael anhawster i ymdopi ar eu hincwm presennol.\u00a0 Heddiw, byddai\u2019r niferoedd hyn yn uwch, oherwydd mae <a href=\"https:\/\/www.bevanfoundation.org\/views\/the-rural-cost-of-living-crisis\/\">chwyddiant tanwydd a bwyd wedi taro aelwydydd gwledig yn arbennig o galed<\/a>, gan gynnwys costau gwresogi ar gyfer eiddo sy\u2019n ddibynnol ar olew, nad ydynt wedi\u2019u cynnwys mewn capiau ar brisiau ynni.<\/p>\n<p>Gall byw mewn ardaloedd gwledig ei gwneud yn anos hefyd i aelwydydd sy\u2019n profi caledi gael mynediad at gymorth.\u00a0 Mae lledaeniad Banciau Bwyd i gymunedau gwledig yn dystiolaeth o dlodi tanwydd sy\u2019n ehangu, ond clywodd <a href=\"https:\/\/council.ceredigion.gov.uk\/documents\/g449\/Public%20reports%20pack%2019th-Oct-2023%2010.00%20Corporate%20Resources%20Overview%20and%20Scrutiny%20Committee.pdf?T=10&amp;LLL=0\">Cyngor Ceredigion<\/a> yn ddiweddar bod pedair ward, gwledig yn bennaf yn y sir heb adnoddau o\u2019r fath.\u00a0 Yn groes i\u2019r syniadau o gymunedau gwledig clos, mae rhwydweithiau cymorth wedi\u2019u darnio gan fudo a heriau trafnidiaeth, gyda thros draean y preswylwyr lleol a arolygwyd gan <a href=\"https:\/\/www.walesruralobservatory.org.uk\/sites\/default\/files\/Rural%20Household%20Survey%202013.pdf\">Arsyllfa Wledig Cymru<\/a> yn 2013 yn dweud nad oedd ganddynt unrhyw deulu yn byw o fewn 10 milltir.<\/p>\n<p>Er hynny, mae gweithredu cymunedol yn bwysig ar gyfer mynd i\u2019r afael \u00e2 thlodi gwledig. Dangosodd <u><a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/2018\/07\/6-What-works-in-tackling-rural-poverty-FINAL-WELSH.pdf\">adroddiad cynharach i WCPP<\/a><\/u> a oedd yn adolygu tystiolaeth ryngwladol, bedair egwyddor ar gyfer ymyriadau cymunedol ar dlodi gwledig, gan gynnwys adeiladu ar alluoedd ac asedau lleol; datblygu cynghreiriau cymunedol yn seiliedig ar brofiadau bywyd; cefnogi cymunedau gydag adnoddau a chyfnewid gwybodaeth; a datblygu cydweithrediadau amlsector, gyda rhanddeiliaid amrywiol. Yng Nghymru, mae gweithredu cymunedol wedi\u2019i gefnogi gan <u><a href=\"https:\/\/www.tnlcommunityfund.org.uk\/welsh\/funding\/programmes\/rural-programme\">Raglen Wledig Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol<\/a><\/u>, yn ogystal \u00e2 thrwy fentrau ffurfiol ac anffurfiol amrywiol o <u><a href=\"https:\/\/www.sirgar.llyw.cymru\/cartref\/gwasanaethaur-cyngor\/budd-daliadau\/mannau-cynnes-a-lleoedd-croeso-cynnes\/\">fannau cynnes<\/a><\/u> i <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/sylwebaeth\/sut-gall-atebion-cymunedol-gwella-cludiant-gwledig-yng-nghymru\/\">gludiant cymunedol<\/a> i <u><a href=\"https:\/\/www.southwalesargus.co.uk\/news\/23529972.abergavenny-schools-community-cabin-tackling-cost-of-living\/\">gyfnewid dillad<\/a><\/u>. Er hynny, mae dibyniaeth camau o\u2019r fath ar wirfoddolwyr a chyllid grant neu roddion wedi creu ansicrwydd i lawer yn sgil y toriadau i gyllid cyhoeddus, diwedd cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer datblygu cymunedau gwledig a chostau uwch.<\/p>\n<p>Cyflwynodd <a href=\"https:\/\/ruralfutures.wales\/wp-content\/uploads\/sites\/7\/2020\/06\/Rural-Poverty-Report-final.pdf\">Paul Milbourne a Helen Coulson<\/a>, mewn papur ar gyfer y prosiect <a href=\"https:\/\/ruralfutures.wales\/?lang=cy\">Dyfodol Gwledig<\/a>, sy\u2019n cael ei ariannu gan y Loteri, y ddadl bod angen i ymyriadau yn y gymuned gael eu hategu gan sylw i achosion strwythurol tlodi gwledig, gan gynnwys y rhai sy\u2019n ymestyn y tu hwnt i leoedd gwledig, ac i effeithiau\u2019r cyd-destun gwleidyddol-economaidd presennol, yn ogystal \u00e2 gwneud mwy o waith i archwilio ffactorau lleol a chenedlaethol yng Nghymru sy\u2019n siapio profiadau tlodi gwledig ac effeithlonrwydd ymatebion.<\/p>\n<p>Yn gryno, er bod cydnabod tlodi gwledig yng Nghymru yn gam pwysig ar gyfer gallu mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem, mae angen ymateb polisi integredig ac amlsector gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy\u2019n gweithio gyda sector gwirfoddol sydd \u00e2\u2019r adnoddau a\u2019r grym angenrheidiol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth feddwl am dlodi yng Nghymru, nid ucheldiroedd Eryri, pentrefi arfordirol yn Sir Benfro, neu dir ffermio bryniog Powys sy\u2019n dod i\u2019r meddwl gyntaf.\u00a0 Er hynny, mae tystiolaeth gynyddol sy\u2019n dangos bod tlodi yn broblem barhaus a chynyddol i lawer o bobl sy\u2019n byw yng Nghymru wledig. Mae ymchwilwyr wedi datgan fod Cymru wledig yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[18],"tags":[146],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15408","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-taclo-anghydraddoldebau","tag-tlodi-allgau-cymdeithasol"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-1222745783.jpg","filesize":882669,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-1222745783-744x559.jpg","width":744,"height":559,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":91394,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-744x559.jpg"},"large":{"file":"iStock-1222745783-1200x901.jpg","width":1200,"height":901,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":220963,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-1200x901.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-1222745783-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":69472,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-1222745783-768x577.jpg","width":768,"height":577,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":97616,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-768x577.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-1222745783-1536x1153.jpg","width":1536,"height":1153,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":340932,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-1536x1153.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-1222745783-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":375373,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15407","name":"iStock-1222745783.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783.jpg","title":"iStock-1222745783.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-1222745783-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15408","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15408"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15408\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16547,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15408\/revisions\/16547"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15408"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15408"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15408"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15408"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}