{"id":15405,"date":"2024-05-24T10:47:34","date_gmt":"2024-05-24T10:47:34","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/beth-mae-datganoli-wedii-gyflawni-i-gymru\/"},"modified":"2025-04-11T13:28:01","modified_gmt":"2025-04-11T13:28:01","slug":"beth-mae-datganoli-wedii-gyflawni-i-gymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/beth-mae-datganoli-wedii-gyflawni-i-gymru\/","title":{"rendered":"Beth mae datganoli wedi'i gyflawni i Gymru?"},"content":{"rendered":"<p>Y diwrnod ar \u00f4l dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, pleidleisiodd Senedd Cymru i gynyddu ei maint o fwy na 50%.\u00a0 Yn 2026 bydd y cyhoedd yng Nghymru felly'n ethol 96 aelod yn lle'r 60 presennol.\u00a0 Roedd cefnogwyr y newid hwn yn ei groesawu fel buddsoddiad hanesyddol mewn democratiaeth a oedd yn adlewyrchu\u2019r ffaith bod pwerau deddfu a chodi trethi y Senedd wedi eu cryfhau\u2019n sylweddol ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf ym 1999. Dadl y gwrthwynebwyr oedd y gellid defnyddio'r gost flynyddol a ragwelid o \u00a318 miliwn yn well i leihau amseroedd aros, ysgogi'r economi a hybu addysg. Yn eu barn nhw, dylai'r flaenoriaeth fod ar sicrhau mwy o athrawon, meddygon, deintyddion a nyrsys, yn hytrach na 36 o wleidyddion ychwanegol.<\/p>\n<p>Mae'r dadleuon hyn o blaid ac yn erbyn ehangu'r Senedd yn crisialu rhai o'r safbwyntiau gwrthgyferbyniol am chwarter canrif gyntaf datganoli yng Nghymru.<\/p>\n<p>Gan ofni y byddai'r cyhoedd yng Nghymru yn gwrthod y syniad o 'Senedd' yn null yr Alban, cynigiodd penseiri datganoli yng Nghymru 'Gynulliad Cenedlaethol' i bobl Cymru. Heb y pwerau sydd ar gael yn yr Alban, i nifer o bobl roedd Cynulliad Cymru yn ymddangos yn debycach i awdurdod lleol na llywodraeth genedlaethol.\u00a0 Ac eto, dim ond yn sgil mwyafrif bach o 6,721 o bleidleisiau y pasiwyd y fersiwn hwn o ddatganoli sydd wedi\u2019i lastwreiddio. Gan mai dim ond 50% a benderfynodd fwrw pleidlais, fe gychwynnodd Cynulliad Cymru ei daith gyda chefnogaeth benodol 1 o bob 4 o'r boblogaeth sy'n oedolion.<\/p>\n<p>Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae'r darlun yn edrych yn wahanol iawn. Ar \u00f4l dechrau sigledig iawn, mae'r sefydliadau datganoledig yng Nghymru yn raddol wedi ennill cefnogaeth gyhoeddus, wedi cael pwerau newydd ac ysgogwyr polisi, ac wedi llywio'r wlad trwy gyfnod heriol, yn enwedig yr achosion o glefyd y Traed a'r Genau yn 2001 a phandemig Covid-19 ugain mlynedd yn ddiweddarach.\u00a0 Mae llai nag 1 o bob 5 o etholwyr Cymru bellach yn dweud y bydden nhw'n pleidleisio 'yn erbyn' cael Senedd ac mae 40% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, y genhedlaeth gyntaf i dyfu fyny gyda datganoli, yn ffafrio annibyniaeth lawn.<\/p>\n<p>Felly mae'n hawdd gweld pam fod y rhai sy'n edrych ar ddatganoli fel proses o adeiladu\u2019r wlad yn credu bod y pum mlynedd ar hugain cyntaf wedi bod yn fater o 'bopeth yn iawn, hyd yma'.\u00a0 Mae'r Cynulliad Cenedlaethol (y Senedd bellach) wedi dangos ei fod 'yn gallu cyflawni pethau'. Efallai, yr hyn sydd yr un mor bwysig, yw ei fod hefyd wedi dangos ei fod 'yn gallu gwneud pethau'n wahanol'. Fel yn yr Alban, gall gwleidyddion Cymru gyfeirio at wahaniaethau polisi amlwg o gymharu \u00e2 pholis\u00efau Llywodraeth y DU, enghreifftiau o'r hyn a alwodd ail Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn 'dd\u0175r coch clir' rhwng Caerdydd a Llundain. Mae rhai\u00a0 o\u2019r \u2018gwahaniaethau amlwg yng Nghymru' yn cynnwys cyflwyno t\u00e2l ar fagiau plastig untro a chydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Mae pobl yng Nghymru yn derbyn presgripsiynau am ddim, gall pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau'r Senedd, nid oedd Cymru yn dibynnu ar gytundebau menter cyllid preifat i adeiladu ysbytai ac ysgolion, mae ganddi Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 'sydd ar y blaen yn fyd-eang\u2019, ac yn ddiweddar cyflwynodd gyfyngiad cyflymder rhagosodedig o 20 mya mewn ardaloedd preswyl.<\/p>\n<p>Ond mae\u2019n mynd yn bellach na chynnwys polisi yn unig. Mae'r dull o lunio polisi hefyd wedi teimlo'n wahanol. Yn \u00f4l dadansoddiad fy nghyd-aelod Richard Wyn Jones, mae Llafur Cymru wedi ennill mwy o seddi a chyfran uwch o'r bleidlais na phleidiau eraill ym mhob Etholiad Cyffredinol ers 1922. Nid yw'n syndod felly ei fod wedi arwain pob Llywodraeth Cymru. Ond, yn brin o fwyafrif cyffredinol yn y Cynulliad\/Senedd, bu'n rhaid iddo ddibynnu ar gefnogaeth pleidiau eraill er mwyn llywodraethu. Bu clymbleidiau gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ac yna gyda Plaid ac amrywiaeth o gytundebau ffurfiol ac anffurfiol i basio cyllidebau a sicrhau rhannau allweddol o\u2019r rhaglen lywodraethu.<\/p>\n<p>Mae'r dull cydsyniol hwn wedi ymestyn y tu hwnt i'r Senedd i\u2019r ffordd y mae Llywodraeth Cymru\u2019n cydweithio \u00e2 llywodraeth leol a llu o 'bartneriaid cymdeithasol'.\u00a0 Bu rhywfaint o anghytuno ar adegau ond yn gyffredinol mae cysylltiadau canolog lleol wedi bod yn llawer mwy cyt\u00fbn ac adeiladol nag ar draws y ffin, ac mae gweinidogion wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr undebau a rhanddeiliaid eraill i lunio polisi.<\/p>\n<p>Mae gwahaniaeth amlwg hefyd yn ymddygiad gwleidyddiaeth Cymru. O'r cychwyn cyntaf roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn nodedig am ei gydbwysedd rhwng y rhywiau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu mwy o sefydlogrwydd gwleidyddol nag yn Llundain hefyd (yn dilyn cyfnod byrhoedlog Alun Michael yn 1999-2000, dim ond tri Phrif Weinidog sydd wedi bod rhwng hydref 2000 a Gwanwyn 2024. Yn ystod yr un cyfnod roedd gan Lywodraeth y DU chwe phrif weinidog). Ac er nad yw'r Senedd wedi bod yn ddi-sgandal, roedd y sylw a gafodd Prif Weinidog Prydain yn mynd i bart\u00efon Stryd Downing yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn wahanol iawn i rai Prif Weinidog Cymru oedd yn byw mewn fflat bach ym mhen draw ei ardd i warchod ei wraig a'i fam-yng-nghyfraith rhag y pandemig. Hefyd mae\u2019n werth nodi, yn wahanol i Boris Johnson, fod arweinydd (ar y pryd) y Ceidwadwyr Cymreig wedi ymddiswyddo bron yn syth ar \u00f4l i'w achos posibl o dorri rheoliadau Covid ddod i'r amlwg.<\/p>\n<p>Yn agos at fy nghalon, nodwedd arbennig arall o lunio polisi \u00f4l-ddatganoli yw'r ymgais benodol i ddefnyddio tystiolaeth i wella penderfyniadau polisi. Yn 1999 roedd yr 'ecosystem dystiolaeth' yng Nghymru\u2019n brin iawn. Roedd swyddogion a etifeddwyd gan y Swyddfa Gymreig yn gyfarwydd \u00e2 diwygio deddfau a basiwyd yn San Steffan yn hytrach na chreu deddfwriaeth newydd, ac ychydig iawn o ffynonellau allanol o syniadau a heriau polisi oedd gan Gymru - dim ond ychydig o felinau trafod bach oedd gan Gymru. Yn y cyfamser, roedd awdurdodau lleol, y trydydd sector, proffesiynau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu harwain gan bolis\u00efau a rhaglenni ariannu a wnaed yn Llundain a Brwsel yn hytrach na Bae Caerdydd. Fodd bynnag, mae'r sylfaen dystiolaeth bellach wedi'i thrawsnewid. Mae <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/\">Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru <\/a>\u00a0a sefydlwyd yn 2013, yn gweithio gyda gweinidogion, llywodraeth leol ac arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill ledled Cymru i ddarparu tystiolaeth hygyrch, awdurdodol ac annibynnol gan ymchwilwyr blaenllaw yn y byd. Dros y degawd diwethaf, mae nifer o fuddsoddiadau eraill gwerth miliynau o bunnoedd mewn polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth wedi ymuno \u00e2 hi gan gynnwys <a href=\"https:\/\/researchwalesevidencecentre.co.uk\/cy\">Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru<\/a> sy'n darparu tystiolaeth ymchwil i lunwyr polisi ac ymarferwyr ar heriau iechyd a gofal cymdeithasol; <a href=\"https:\/\/www.aber.ac.uk\/cy\/news\/archive\/2024\/02\/title-268729-cy.html\">Cymru Wledig<\/a>, sy'n darparu tystiolaeth i fynd i'r afael \u00e2'r heriau sy'n wynebu Cymru wledig a ariennir gan ESRC; a <a href=\"https:\/\/www.rctcbc.gov.uk\/CY\/Newsroom\/PressReleases\/2023\/December\/5MillionAwardedtoReduceHealthInequality.aspx\">Chydweithredfa Ymchwil ar Faterion Iechyd<\/a> yn Rhondda Cynon Taf, sy'n cynhyrchu tystiolaeth a data i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.<\/p>\n<p>Ond a yw polis\u00efau blaengar, dull cynhwysol ac sydd (weithiau) yn seiliedig ar dystiolaeth o lunio polis\u00efau, a gwahanol fath o wleidyddiaeth wedi gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i amseroedd aros, yr economi, y bwlch addysgol?\u00a0 Yn anffodus, yr ateb yw 'ddim eto'.<\/p>\n<p>Fel gweddill y DU, mae Cymru wedi cael trafferth codi lefel cynhyrchiant ac wedi methu \u00e2 lleihau tlodi. Prin fod GDP Cymru o'i gymharu \u00e2 Lloegr wedi newid ers 1999.\u00a0 Nid yw amseroedd aros ysbytai yn llai nag mewn rhannau eraill o'r DU, nid yw anghydraddoldebau iechyd wedi lleihau chwaith, ac mae'r bwlch cyrhaeddiad addysgol wedi cynyddu o'i gymharu \u00e2 gwledydd tebyg.<\/p>\n<p>Rhaid ystyried y diffyg cynnydd hwn o ran yr heriau economaidd a chymdeithasol o bwys wrth asesu datganoli yng Nghymru oherwydd bod yr ymgyrch 'ie' yn 1997 wedi dibynnu cymaint ar yr honiad y byddai polis\u00efau a luniwyd yng Nghymru, wedi'u teilwra i gyd-destun economaidd-gymdeithasol unigryw Cymru, yn arwain at economi gryfach a gwell gwasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, roedd hi wastad am fod yn anodd i ddeddfwrfa newydd gyda phwerau deddfu a chodi refeniw cyfyngedig a dim rheolaeth dros bolisi macro-economaidd na'r system fudd-daliadau. Ac nid yw llymder a'r pandemig wedi helpu\u2019r sefyllfa, dau ffactor sydd wedi taro Cymru'n galed oherwydd bod ei phoblogaeth yn h\u0177n, lefelau uwch o amddifadedd a salwch tymor hir na chyfartaledd y DU. Ond er bod hyn yn helpu i egluro'r diffyg cynnydd hyd yn hyn, ni fydd yn rheswm derbyniol ymhen pum mlynedd ar hugain.<\/p>\n<p>Mae Cymru wedi dangos bod sefydliadau datganoledig gwan, gydag ychydig iawn o bwerau a dim ond cefnogaeth gyhoeddus gymharol, yn gallu tyfu mewn statws a dylanwad dros amser. Ac efallai y gall Awdurdodau Cyfun a strwythurau datganoledig eraill yn Lloegr gael eu hannog gan hyn. Ond wrth symud ymlaen, y prawf go iawn yw p\u2019un ai a fydd y set fwy aeddfed hon o sefydliadau, gan gynnwys Senedd fwy, yn gallu datblygu a chyflwyno polis\u00efau i fynd i'r afael \u00e2'r heriau economaidd a chymdeithasol sylweddol. Os na all wneud hynny, mae'n debyg y bydd y cyhoedd yn cwestiynu a oedd angen mwy o wleidyddion arnom. Ond os gallant wneud gwahaniaeth o ran rhai o'r prif faterion hyn, bydd gan lunwyr polisi yng Nghymru rywbeth o gryn bwys i'w ddathlu erbyn i'r Senedd droi'n hanner cant.<\/p>\n<p>Mae'r blog hwn rhan o <a href=\"https:\/\/theippo.co.uk\/tag\/devolution\/\">gyfres IPPO<\/a>\u00a0ar sut mae cynllunio polis\u00efau wedi cael ei ddylunio can datganoli ers 1999.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y diwrnod ar \u00f4l dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, pleidleisiodd Senedd Cymru i gynyddu ei maint o fwy na 50%.\u00a0 Yn 2026 bydd y cyhoedd yng Nghymru felly'n ethol 96 aelod yn lle'r 60 presennol.\u00a0 Roedd cefnogwyr y newid hwn yn ei groesawu fel buddsoddiad hanesyddol mewn democratiaeth a oedd yn adlewyrchu\u2019r ffaith bod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18872,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[3],"tags":[152],"research-and-impact":[132],"class_list":["post-15405","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy","tag-llywodraethiad","research-and-impact-effaith"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"iStock-627759042.jpg","filesize":872382,"sizes":{"medium":{"file":"iStock-627759042-744x496.jpg","width":744,"height":496,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":68740,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-744x496.jpg"},"large":{"file":"iStock-627759042-1200x800.jpg","width":1200,"height":800,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":173706,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-1200x800.jpg"},"thumbnail":{"file":"iStock-627759042-744x418.jpg","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":62848,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-744x418.jpg"},"medium_large":{"file":"iStock-627759042-768x512.jpg","width":768,"height":512,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":72868,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-768x512.jpg"},"1536x1536":{"file":"iStock-627759042-1536x1024.jpg","width":1536,"height":1024,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":278916,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-1536x1024.jpg"},"2048x2048":{"file":"iStock-627759042-2048x1365.jpg","width":2048,"height":1365,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":474129,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-2048x1365.jpg"},"reykjavik-intro":{"file":"iStock-627759042-1920x1080.jpg","width":1920,"height":1080,"mime-type":"image\/jpeg","filesize":377892,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-1920x1080.jpg"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15404","name":"iStock-627759042.jpg","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042.jpg","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-744x418.jpg","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042.jpg","title":"iStock-627759042.jpg","caption":"","description":"","alt":"","srcset":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-744x418.jpg 744w, https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/iStock-627759042-1920x1080.jpg 1920w"}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15405","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15405"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15405\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16546,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15405\/revisions\/16546"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18872"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15405"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15405"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15405"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15405"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}