{"id":15402,"date":"2024-05-16T14:15:35","date_gmt":"2024-05-16T14:15:35","guid":{"rendered":"https:\/\/wcpporguk.cf.ac.uk\/trefnu-cymunedol-cymru-arweinwyr-ifanc-taith-ein-hymgyrch\/"},"modified":"2026-01-14T14:22:12","modified_gmt":"2026-01-14T14:22:12","slug":"trefnu-cymunedol-cymru-arweinwyr-ifanc-taith-ein-hymgyrch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/blog-posts\/trefnu-cymunedol-cymru-arweinwyr-ifanc-taith-ein-hymgyrch\/","title":{"rendered":"Trefnu Cymunedol Cymru - Arweinwyr Ifanc: Taith ein hymgyrch"},"content":{"rendered":"<p><strong>Trefnu Cymunedol Cymru - Arweinwyr Ifanc: Taith ein Hymgyrch <\/strong><\/p>\n<p><em>Yn y blog gwadd hwn, mae Arweinwyr Ifanc (Trefnu Cymunedol Cymru) o Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn Wrecsam yn siarad am eu hymgyrch i gael gwared ar blant yn llwgu yn yr ysgol, a\u2019u profiadau o fynd i weithdy rhanddeiliaid Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar fynd i\u2019r afael \u00e2 stigma tlodi.<\/em><\/p>\n<p>Ychydig dros flwyddyn yn \u00f4l, fel rhan o Trefnu Cymunedol Cymru (TCC), fe wnaethom ni \u2013 gr\u0175p o blant 12-14 oed \u2013 ddechrau ymgyrch yn ein hysgol, sef Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn Wrecsam, i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem o blant yn llwgu yn yr ysgol. Gwnaethom anfon arolwg o amgylch yr ysgol a chanfod y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae 30% o bobl ifanc wedi dweud bod eu hysgol wedi gwrthod rhoi pryd o fwyd iddynt oherwydd bod dyled ar eu cyfrif<\/li>\n<li>Mae 30% o bobl ifanc wedi gorfod mynd heb bryd o fwyd yn yr ysgol oherwydd diffyg arian<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cawsom ein synnu\u2019n arbennig o glywed bod 73% o\u2019r bobl ifanc y gwrthodwyd rhoi pryd o fwyd iddynt wedi cael gwybod o flaen eu cyfoedion bod eu cyfrif mewn dyled. Mae cael gwybod nad oes ganddynt arian yn eu cyfrif, a hynny yn uchel o flaen eu cyfoedion mewn lle swnllyd a phrysur, yn ychwanegu cywilydd diangen a theimladau o ddiymadferthedd at brofiad sydd eisoes yn llawn straen. Mae gweld disgyblion yn gadael y llinell ginio ar \u00f4l cael eu gwrthod, gan wybod eu bod yn llwglyd, yn ein hysgogi i ddal ati.<\/p>\n<p>Ers yr arolwg gwreiddiol hwnnw, rydym wedi cwrdd \u00e2\u2019n Pennaeth, Mr Wilkinson, amryw o wleidyddion lleol, gan gynnwys Aelodau\u2019r Senedd dros Wrecsam a De Clwyd, Lesley Griffiths a Ken Skates, a Chomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes. Bu nifer o\u2019n cyfarfodydd yn llwyddiannus a chawsom wybodaeth hanfodol i\u2019n hachos gan y rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau. Cawsom gefnogaeth Ken Skates AS i\u2019n hymgyrch hefyd.<\/p>\n<p>Mae ein Pennaeth, Mr Wilkinson, wedi gweithio\u2019n galed i sicrhau bod yr ysgol yn gwneud iawn am y mater a godwyd gennym ynghylch staff y ffreutur yn gwrthod bwyd i ddisgyblion, a bod y disgyblion yn cael cynnig brechdan neu bryd o fwyd yn unol \u00e2 pholisi\u2019r cyngor, a hynny heb dynnu sylw atynt. Mae Mr Wilkinson yn cadw llygad ar y ffreutur gymaint ag y gall ac yn ceisio gwneud yn si\u0175r bod ei holl ddisgyblion yn gwybod y gallant ddod at y staff am gymorth.<\/p>\n<p>Lansiodd TCC a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) gyfarfod cyntaf y Gweithgor Cyfiawnder Ariannol ym mis Mehefin 2023. Roedd nifer o sefydliadau lleol fel Banc Bwyd Wrecsam yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn ystafell gymunedol Clwb P\u00eal-droed Wrecsam, sydd yn rhan o\u2019r stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd, sef Stadiwm Cae Ras.\u00a0 I ni fel aelod o gr\u0175p ieuenctid TCC, roedd hwn yn uchafbwynt arall gan ei fod yn rhoi cyfle i ni weithio gyda sefydliadau eraill ar ein mater a chlywed am y problemau ariannol ehangach sy\u2019n effeithio ar ein grwpiau amrywiol o aelodau.<\/p>\n<p>Roedd ein <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?feature=shared&amp;v=XDT9WtC6VQs\"><strong>fideo Ymgyrch<\/strong><\/a> #DimDysgwyrLlwglyd #NoHungryLearners yn agor Uwchgynhadledd Tlodi Plant Cymru yn Abertawe y llynedd. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Swyddfa\u2019r Comisiynydd Plant a Phlant yng Nghymru. Daeth cynrychiolwyr o gyrff anllywodraethol a chyrff cyhoeddus ledled Cymru i\u2019r Uwchgynhadledd a chynhaliwyd gweithdai ar bynciau amrywiol yn ymwneud \u00e2\u2019r fframwaith cyfreithiol a pholisi ar dlodi plant, a\u2019r gwahanol brofiadau o dlodi plant.<\/p>\n<p>Rydym wedi ennill cefnogaeth Cangen Gymunedol Unite the Union Cymru (Gogledd-ddwyrain Cymru) sydd wedi cytuno i ariannu taflenni sy\u2019n lledaenu ymwybyddiaeth o\u2019r ymgyrch.<\/p>\n<p>Buom hefyd yn cymryd rhan yng <a href=\"https:\/\/www.wcpp.org.uk\/cy\/prosiect\/stigma-tlodi\/\"><strong>Ngweithdy Stigma Tlodi <\/strong><\/a>Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn Nh\u0177 Pawb yn Wrecsam. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys cymysgedd o sefydliadau a phobl \u00e2 phrofiad bywyd a phrofiad dysgedig yn gweithio gyda\u2019i gilydd i drafod stigma tlodi mewn cymdeithas. Ni oedd yr unig gr\u0175p ieuenctid yno ac roeddem yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi a\u2019n cynnwys. Cawsom gyfle i gwrdd \u00e2 phobl o sefydliadau na fydden ni fel arfer yn cael y cyfle i gwrdd \u00e2 nhw, ac fe wnaeth y profiad ein helpu ni i ddeall ein cymuned yn well.<\/p>\n<p>Roeddem hefyd yn gallu rhannu ychydig o wybodaeth am sut y gall ysgolion greu neu ychwanegu at deimladau o stigma ynghylch tlodi, boed hynny\u2019n anfwriadol. Er enghraifft, y pwysau ariannol ychwanegol ar ddisgyblion a theuluoedd am bethau fel prynu gwisg ysgol wedi\u2019i brandio a dillad Addysg Gorfforol; y pwysau o gael y dillad iawn i gyd-fynd \u00e2 ffasiwn ar gyfer diwrnodau heb wisg ysgol; a gofyn am gyfrannu at achos o flaen eich cyfoedion. Mae teithiau ysgol lle dywedir wrthym 'os ydych am godi\u2019ch marc, dylech ddod ar y daith' yn gallu creu mwy o faich ariannol a rhoi straen ar les disgyblion gan eu bod yn poeni am allu eu teuluoedd i fforddio\u2019r trip a bod dan anfantais addysgol.<\/p>\n<p>Bu adegau pan oeddem ni, pobl ifanc, yn cael ein herio a\u2019n siomi am godi ein lleisiau. Yn TCC rydym yn cael ein haddysgu am ddeinameg p\u0175er a sut i osod ffiniau a diogelu ein hunain. Roeddem yn gallu rhoi ein hyfforddiant ar waith yn ystod un cyfarfod lle\u2019r oedd penderfynwr yn ceisio rheoli\u2019r agenda. Rydym wedi cael rhai cyfarfodydd mwy heriol gyda deiliaid p\u0175er. Un enghraifft yw deiliad y p\u0175er ddim yn deall yr hyn yr oeddem yn gofyn amdano ac yn awgrymu y gallem godi arian i dalu dyledion cinio ein hysgol yn hytrach nag ymgyrchu dros newid polisi.<\/p>\n<p>Mae ein hymgyrch Dim Dysgwyr Llwglyd yn dal i fynd rhagddi; fodd bynnag, rydym yn teimlo bod ennill cefnogaeth amrywiol wleidyddion a mudiadau yn Wrecsam wedi bod yn fuddugoliaeth aruthrol. Ein nod yw dileu dyled cinio ysgol yn gyfan gwbl o bob ysgol uwchradd yng Nghymru.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Os hoffech chi ein cefnogi yn ein hymgyrch i gael gwared ar blant yn llwgu yn yr ysgol, gallwch gysylltu \u00e2 Ruth Marshall drwy anfon e-bost i \u00a0<a href=\"mailto:yaco@tcc-wales.org.uk\">yaco@tcc-wales.org.uk<\/a><\/p>\n<p>Darllenwch am yr ymgyrch yma \u00a0<a href=\"https:\/\/www.tcc-wales.org.uk\/no-hungry-learners\">Ymgyrch Dim Dysgwyr Llwglyd (tcc-wales.org.uk)<\/a><\/p>\n<p>Fideos yr Ymgyrch: <a href=\"https:\/\/youtu.be\/XDT9WtC6VQs?si=NnsE6GnNQsnFNncf\">Dim Dysgwyr Llwglyd<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Trefnu Cymunedol Cymru - Arweinwyr Ifanc: Taith ein Hymgyrch Yn y blog gwadd hwn, mae Arweinwyr Ifanc (Trefnu Cymunedol Cymru) o Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn Wrecsam yn siarad am eu hymgyrch i gael gwared ar blant yn llwgu yn yr ysgol, a\u2019u profiadau o fynd i weithdy rhanddeiliaid Canolfan Polisi Cyhoeddus [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":18871,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[150],"tags":[134],"research-and-impact":[],"class_list":["post-15402","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-llesiant-cymunedol","tag-amrywiaeth-chynhwysiant"],"meta_box":{"project":"","lead_author":"","authors":[],"image":[{"width":744,"height":418,"file":"Wrexham-TCC-edited-3.png","filesize":824942,"sizes":{"medium":{"file":"Wrexham-TCC-edited-3-744x536.png","width":744,"height":536,"mime-type":"image\/png","filesize":677749,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3-744x536.png"},"large":{"file":"Wrexham-TCC-edited-3-1200x865.png","width":1200,"height":865,"mime-type":"image\/png","filesize":1730100,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3-1200x865.png"},"thumbnail":{"file":"Wrexham-TCC-edited-3-744x418.png","width":744,"height":418,"mime-type":"image\/png","filesize":559680,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3-744x418.png"},"medium_large":{"file":"Wrexham-TCC-edited-3-768x554.png","width":768,"height":554,"mime-type":"image\/png","filesize":721344,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3-768x554.png"},"1536x1536":{"file":"Wrexham-TCC-edited-3-1536x1107.png","width":1536,"height":1107,"mime-type":"image\/png","filesize":2768788,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3-1536x1107.png"},"reykjavik-intro":{"file":"Wrexham-TCC-edited-3-1713x1080.png","width":1713,"height":1080,"mime-type":"image\/png","filesize":2123317,"url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3-1713x1080.png"}},"image_meta":{"aperture":"0","credit":"","camera":"","caption":"","created_timestamp":"0","copyright":"","focal_length":"0","iso":"0","shutter_speed":"0","title":"","orientation":"0","keywords":[]},"ID":"15401","name":"Wrexham-TCC-edited-3.png","path":"\/infotree\/sites\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3.png","url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3-744x418.png","full_url":"https:\/\/wcpp.org.uk\/wp-content\/uploads\/Wrexham-TCC-edited-3.png","title":"Wrexham-TCC-edited-3.png","caption":"","description":"","alt":"","srcset":false}],"files":[],"disable_related_content":"0"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15402","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=15402"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15402\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":16545,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/15402\/revisions\/16545"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/18871"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=15402"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=15402"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=15402"},{"taxonomy":"research-and-impact","embeddable":true,"href":"https:\/\/wcpp.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/research-and-impact?post=15402"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}